Aelod Cabinet: Y Cyng. W. Gareth Roberts
I ystyried adroddiad gan Aelod
Cabinet Oedolion, Iechyd a Llesiant ar yr
uchod.
(Copi i
ddilyn)
11.00 – 11.45 a.m.
Cofnod:
(Gadawodd y
Cynghorydd Linda Ann Wyn Jones yr ystafell ac ni fu yn rhan o’r drafodaeth)
a)
Cyflwynwyd adroddiad gan yr Aelod Cabinet yn
amlygu'r angen i Gyngor Gwynedd osod polisi a threfniadau cludiant newydd i’r
Adran Oedolion a Llesiant mewn ymateb i Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a
Llesiant (Cymru) 2014. Amlygwyd bod y Ddeddf yn gosod dyletswydd ar y Cyngor i
hybu llesiant ein dinasyddion er mwyn hybu a chefnogi annibyniaeth.
Yn sgil newidiadau
yn y ddeddfwriaeth a’r hinsawdd ariannol, nododd yr Aelod Cabinet bod angen
mabwysiadu polisi cludiant teg a chynaliadwy. Amlygodd y gall newidiadau gael
effaith ar ddefnyddwyr gwasanaeth ac felly bydd ymgysylltu effeithiol gyda
rhan-ddeiliaid, gan gynnwys defnyddwyr a’u teuluoedd, yn allweddol i’r broses.
Adroddwyd, wrth i
bob unigolyn gael ei asesu, bydd cludiant yn cael ei gyfarch yn y pecyn gofal -
bydd yno fel rhan o’r pecyn yn hytrach nag fel ychwanegiad. I gyfarch hyn, bydd
rhaid i bob unigolyn gael ei asesu yn ei gyfanrwydd.
Cymhelliant yr ymarfer yw ymateb i’r ddeddf ac amlygwyd bod tri opsiwn
posib i’w hystyried.
·
Penderfynu peidio â
newid trefniadau. Byddai oblygiadau ariannol a diwylliannol o
ran peidio newid ein hymarfer yn y maes yma.
·
Mabwysiadu’r polisi
newydd ac ail adolygu pecynnau gofal yn benodol ar sail y polisi cludiant
newydd.
·
Mabwysiadu’r polisi
newydd ar sail pecynnau newydd, ailasesiadau ac adolygiadau blynyddol o
becynnau yn hytrach na chynnal adolygiad penodol ar faterion cludiant.
Awgrymwyd nad oedd opsiwn 1 yn realistig nag yn gynaliadwy yng
nghyd-destun y sefyllfa ariannol mae’r Awdurdod yn wynebu.
b)
Mewn ymateb i gwestiwn, pam bod cyfanswm cost
Iechyd Meddwl yn isel ar gyfer cyllideb 2016/2017 (£550.00), nodwyd nad oedd
neb gyda chyflyrau iechyd meddwl yn derbyn gwasanaeth ar hyn o bryd ac felly
adroddwyd mai ‘awgrym’ yn unig ydoedd.
Mewn ymateb i sylw mai cynllun ydoedd i arbed arian ac nid i hybu
annibyniaeth, derbyniwyd gan yr Aelod Cabinet bod arbediad o ddeutu £38k
ynghlwm â’r broses, ond amlinellwyd mai'r bwriad oedd
cynnwys cludiant fel rhan o’r pecyn gofal. Adroddwyd bod sgôp yma i gydweithio
gyda chludiant integredig, e.e., gwell defnydd o fflyd cartrefi preswyl i symud
pobl o fewn y Sir, i hybu llesiant a chefnogi annibyniaeth
c) Yn ystod y drafodaeth, nodwyd y sylwadau canlynol:
·
Angen hybu annibyniaeth
i bobl hŷn gan sicrhau bod ganddynt ryddid i adael y tŷ.
·
Angen sicrhau bod y gwasanaeth ar gyfer Gwynedd
gyfan ac
nid yn y prif ardaloedd yn unig.
·
Angen cydlynu gwell gyda gwasanaeth tacsi o’r
ysbyty.
·
O blaid gweithio yn fwy effeithiol - trefniadau
mewnol yn ymddangos yn flêr ar hyn o bryd ac felly angen ail strwythuro i
sicrhau gwell trefn a threfniadau cludiant hyblyg.
·
Angen rhoi ystyriaeth i adnoddau cludiant mewn
ysgolion.
·
Angen sicrhau bod yr
asesu yn gywir a bod y rhai hynny sydd fwyaf angen y gwasanaeth yn derbyn y
gwasanaeth.
·
Beth yw’r gwahaniaeth rhwng ‘asesu’ a ‘gwir angen’?
Rhaid cael dealltwriaeth o wir angen yr unigolyn drwy adnabod cyfleoedd i gwrdd
â’r angen hynny yn hytrach na rhoi label ‘gofal dydd’
amhersonol iddynt
·
Awgrym i aelod o’r teulu neu ofalwr fod gyda’r
unigolyn pan fydd yn cael ei asesu er mwyn sicrhau barn annibynnol.
·
Yng nghyd-destun y broses apêl - pwy fydd ar y
panel? Rhaid ystyried bod pobl yn fregus ac nad oedd angen gosod rheolau
sefydlog yma. Awgrymwyd i’r broses apêl fod yn hygyrch a hyblyg.
·
Croesawyd egwyddorion y
cynllun, ond mynegwyd pryder o ran ymarferoldeb. Bydd rhaid sicrhau mynediad at
wasanaeth a bod anogaeth a datblygu sgiliau yn cael eu cynnig i’r defnyddwyr er
mwyn iddynt fagu hyder i ddefnyddio cludiant cyhoeddus.
·
Pellter, abl i deithio
eu hunain a gosod mewn siroedd eraill, yn gosod cynsail beryg
ch) Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â
phellter yn gosod cynsail, nodwyd nad yw pellter o reidrwydd yn gosod ‘angen
cludiant’, ond nodwyd byddai’n rhaid adnabod cyfleodd i gwrdd ag anghenion pob
unigolyn.
Nid oedd ymateb
i’r cwestiwn, pwy fydd ar y panel yng ngyd-destun y
broses apêl, ond sicrhawyd y byddai ymateb yn cael ei anfon i’r ymholydd.
d)
Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â pha siroedd
eraill oedd wedi mabwysiadau trefniadau
tebyg, amlygwyd bod Sir y Fflint wedi llwyddo i gynnal gwasanaeth o’r fath.
Nodwyd bod Swyddogion Sir y Fflint yn cydweithio yn dda gyda Swyddogion Cyngor
Gwynedd ac yn rhannu ymarfer da
Mewn ymateb
i’r sylw, gwnaed cais i’r gwasanaeth ystyried sir sydd yn debycach i broffil
Gwynedd.
dd) Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â’r asesiadau, nodwyd y byddai’r asesiadau yn cael eu
gwneud ar sail mwy positif. Ategwyd mai'r un bobl broffesiynol fydd yn gwneud
yr asesu; bydd yr asesiad yn drylwyr. O’r asesiad, daw deilliannau fydd angen
datrysiadau.
Pwysleisiwyd
gan yr Aelod Cabinet mai cynllun i gyfarch anghenion yr unigolyn oedd yma, yn
gynllun creadigol, cyffrous a heriol i’r gwasanaeth fyddai yn cynnig llesiant i
bob unigolyn. Bydd dyletswydd ar y gwasanaeth i gynnig y gorau i’r dinesydd a
bydd pob ymgais yn cael ei wneud i geisio cyflwani hyn - bydd rhaid rhesymoli, ond ni fydd neb yn
cael ei ddiystyru.
Cynigiwyd
ac eiliwyd i gefnogi opsiwn 3.
PENDERFYNWYD
Gwneud yr argymhellion canlynol i’r Cabinet:
-
Gweithredu Opsiwn 3, sydd yn cyd-fynd gydag egwyddorion y Ddeddf
Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 , drwy adeiladu ar gryfderau
unigolyn ac edrych ar adeiladu ar gryfderau cymunedol.
-
Sicrhau defnydd
priodol a chydlynu trefniadau cludiant mewnol
-
Nodi mwy o fanylion yn yr Adroddiad i’r Cabinet am y broses apêl
-
Ystyried yn ofalus
yr effaith ar unigolion o safbwynt y gost ac a ellir lliniaru’r effaith
-
Gwneud cais i Sir y
Fflint amlygu’r gwersi a ddysgwyd / rhwystrau a wynebwyd, fel bod modd eu
cynnwys yn yr adroddiad i’r Cabinet
-
Ystyried trefniadau
mewn siroedd eraill sydd â phroffil tebyg i Wynedd
-
Rhoi ystyriaeth
hafal i bob rhan o Wynedd wledig a threfol o ran
hwyluso a chydlynu trefniadau cludiant.
Dogfennau ategol: