Aelod Cabinet: Y Cyng. Gareth
Thomas
I ystyried adroddiad cynnydd gan Aelod Cabinet Addysg ar yr
uchod.
10.15 – 11.00 a.m.
Cofnod:
a) Cyflwynwyd
adroddiad gan yr Aelod Cabinet yn adrodd ar y cynnydd a wnaed gan yr Adran
Addysg mewn ymateb i’r Ymchwiliad Craffu Addysg Gymraeg. Atgoffwyd yr aelodau bod yr argymhellion wedi
ei llunio ar gyfer gwella cysondeb ac ansawdd y ddarpariaeth addysg Cymraeg o
fewn dalgylchedd y Sir.
Nododd yr Aelod
Cabinet bod trefniant yn ei le gan yr Adran Addysg ar gyfer cynnal astudiaeth
gan arbenigwr annibynnol i beth yn union a olygir wrth addysgu a dysgu
dwyieithog lle bo hynny ar waith a diffinio natur ieithyddol ysgolion uwchradd y
Sir (Argymhellion 1 a 2 o’r ymchwiliad).
Eglurwyd, er bod arbenigwr wedi ei benodi, nad oedd modd dechrau ar y gwaith
oherwydd amgylchiadau personol. Adroddwyd bod yr adran wedi ystyried penodi
arbenigwr arall, ond penderfynwyd gohirio'r gwaith hyd Fedi 2016. Amlygodd bod
y sefyllfa yma yn un anffodus, ond bellach wedi ei datrys.
Dosbarthwyd cylch gorchwyl o ofynion yr astudiaeth i’r aelodau, er
gwybodaeth..
b)
Wrth gyflwyno'r cynllun gweithredu, nododd y
Swyddog Gwella Ansawdd Addysg bod angen cysoni Polisi Iaith Ysgolion y Sir a
bod edrych ar y sefyllfa Uwchradd yn greiddiol i’r astudiaeth.
c)
Mynegwyd siom nad oedd ymateb i’r holl argymhellion
wedi eu cynnwys yn yr adroddiad cynnydd a gwnaed cais i’r Swyddog Gwella
Ansawdd Addysg adrodd /rhoi trosolwg sydyn ar bob un.
ch) Diolchwyd i'r Swyddog Gwella
Ansawdd Addysg am y manylion. Amlygodd yr Aelod Cabinet y byddai unrhyw
argymhellion i’r dyfodol yn plethu i mewn i Gynllun Busnes yr Adran fel ffordd
o ymateb iddynt, ynghyd ac argymhellion yr Adroddiad Blynyddol - gwnaed cais
i’r Pwyllgorau Craffu edrych ar gylch Cynllun Busnes Addysg.
d)
Mewn ymateb i’r sylwadau, nododd y Cadeirydd bod yr
ymchwiliad wedi bod o werth a da oedd gweld gweithredu eisoes ar rai o’r
argymhellion.
dd) Yn
ystod y drafodaeth, nodwyd yn sylwadau canlynol:
·
Yng nghyd-destun Ysgol Friars
bod angen sicrhau darpariaeth ieithyddol briodol ar gyfer y plant
·
Dylai unrhyw adroddiadau / dogfennau ychwanegol fod
wedi eu dosbarthu ymlaen llaw er mwyn craffu'r sefyllfa yn well
·
Amlygwyd mai Ymchwiliad Craffu Addysg Gymraeg
ydoedd ac nid Addysg Ddwyieithog - angen bod yn rhagweithiol i gadw'r Gymraeg
yn fyw.
·
Angen edrych ar
drefniadaeth ysgolion Bangor ar fyrder. Angen rhoi ystyriaeth i ysgolion
preifat Bangor – angen ceisio rheolaeth dros y defnydd o’r iaith yma.
·
Pam mai ysgolion sydd yn gosod eu hunain mewn
categorïau - angen cysondeb
·
Defnydd iaith tu hwnt i oriau ysgol yn anodd ei
reoli - angen mesur defnydd o’r iaith mewn cymdeithas a sicrhau anogaeth / hyfforddiant i wirfoddolwyr a hyfforddwyr
·
Angen adolygu’r
argymhellion fel targedau ‘campus’
·
Pryder y
gallai rhai ysgolion gael eu Seisnigeiddio a phlant yn symud i ysgol gyfagos,
sydd o ganlyniad yn rhoi pwysau ychwanegol ar yr ysgolion hynny
·
Angen cefnogaeth i rieni di-Gymraeg
e)
Mewn ymateb i’r sylw yn ymwneud â mesur defnydd o’r
iaith tu hwnt i oriau ysgol, nododd yr Aelod Cabinet bod y plant, drwy ddefnydd
o’r Siarter Iaith yn adrodd eu hunain ar y defnydd o iaith yn gymdeithasol.
Anogwyd hefyd i Benaethiaid a Llywodraethwyr ysgolion ystyried yr elfen yma.
f)
Mewn ymateb i sylw a wnaed ynglŷn ag arian
Redrow ym Mangor, adroddwyd mai cyfrifoldeb yr Adran
Cynllunio yw hyn.
ff)
Mewn ymateb i sylw am Ysgol Friars,
amlygwyd bod Cadeirydd y Llywodraethwyr ynghyd a’r Aelod Lleol, y Cynghorydd
Mair Rowlands wedi cynnal trafodaethau
gyda’r Adran Addysg a rhoi mewnbwn i’r Polisi iaith.
g)
Croesawyd yr adroddiad a diolchwyd am y gwaith oedd
wedi ei gyflawni hyd yma. Amlinellwyd yr angen i adolygu'r argymhellion yn
gyhoeddus a ffurfiol. Ategwyd siom nad oedd y dogfennau ychwanegol wedi eu
dosbarthu ymlaen llaw. Derbyniwyd y cais i’r arbenigwr annibynnol drafod
sylwadau / syniadau cychwynnol ei astudiaeth gydag aelodau'r Ymchwiliad Craffu.
PENDERFYNWYD,
a) derbyn yr adroddiad cynnydd ond ceisio adroddiad
cynnydd pellach yn ymateb i’r holl argymhellion ymhen 6 mis (Ionawr 2017)
b) bod yr arbenigwr sydd yn cynnal yr astudiaeth
annibynnol yn cyfarfod gydag aelodau’r Ymchwiliad i gael eu mewnbwn i’w waith
Dogfennau ategol: