Agenda item

Dewi Morgan (Pennaeth Cyllid yr Awdurdod Lletya a Swyddog Cyllid Statudol) a Sian Pugh (Pennaeth Cyllid Cynorthwyol yr Awdurdod Lletya) i gyflwyno’r adroddiad.

Penderfyniad:

1.     Nodi a derbyn adolygiad refeniw diwedd Awst 2024 y Bwrdd Uchelgais.

2.     Nodi a derbyn diweddariad cronfeydd wrth gefn y Bwrdd Uchelgais.

3.     Cytuno ar broffil gwariant cyfalaf diwygiedig y Bwrdd Uchelgais.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Bennaeth Cyllid Cynorthwyol yr Awdurdod Lletya.

 

PENDERFYNWYD

 

1.     Nodi a derbyn adolygiad refeniw diwedd Awst 2024 y Bwrdd Uchelgais.

2.     Nodi a derbyn diweddariad cronfeydd wrth gefn y Bwrdd Uchelgais.

3.     Cytuno ar broffil gwariant cyfalaf diwygiedig y Bwrdd Uchelgais.

 

RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD

 

·       Nodi tanwariant a ragwelir o £5,966 yn erbyn y gyllideb refeniw yn 2024/25.

·       Nodi llithriad pellach ar y rhaglen gyfalaf, gydag amcangyfrif o wariant o £14.28m yn 2024/25 o’i gymharu â chyllideb gymeradwy  £24.67m ar gyfer y flwyddyn.

 

TRAFODAETH

 

Eglurwyd bod yr adroddiad yn nodi gwir sefyllfa refeniw gyd at ddiwedd Awst 2024 ac hefyd yn amcanu’r sefyllfa hyd at y flwyddyn ariannol gyredol. Amcaniwyd tanwariant o £6,000 ebryn diwydd y flwyddyn ariannol 2024/25 ac manyliwyd ar wahanol elfennau o’r gyllideb fel a ganlyn:

 

·       Rhagwelwyd gorwariant net o £9,368 ar gyfer y ‘Swyddfa Rheoli Portffolio’ yn sgil gowariant ar gyflenwadau a gwasanaethau. Nodwyd bod y gorwariant hwn yn deillio o gostau systemau ac esboniwyd bydd angen adolygu’r pennawd cyllideb hwn ar gyfer y dyfodol.

·       Eglurwyd bydd yr £20,000 o danwariant ‘Cefnogaeth Gwasanaethau Cefnogol Cyllid Cyngor Gwynedd’ yn cael ei ddefnyddio er mwyn ariannu’r gwariant ar gefnogaeth gyllidol allanol sy’n rhan o’r pennawd ‘Prosiectau’.

·       Cadarnhawyd y disgwylir i’r gwariant o dan y pennawd ‘Cyd-bwyllgor’ fod o fewn y gyllideb ar gyfer 2024/25.

·       Nodwyd bod y pennawd ‘Prosiectau’ yn dangos gowrariant net o £70,000. Eglurwyd bod hyn yn bennaf oherwydd cefnogaeth gyfreithiol allanol sydd ei angen ar nifer o brosiectau’r rhaglen gyfalaf.

·       Esboniwyd bod y pennawdGrantiauyn cynnwys gwariant ar brosiectau Ynni Ardal Leol a Chronfa Ffyniant Gyffredin. Cadarnhawyd bod estyniad nes Mawrth 2025 wedi ei dderbyn yn ddiweddar ar grant Ynni Ardal Leol felly bydd y gorwariant hwn yn cael ei ariannu gan y grant.

           

            Cyfeiriwyd at brif ffrydiau incwm ar gyfer blwyddyn ariannol 2024/25. Nodwyd bod rhain yn cynnwys cyfraniadau partneriaid, dyraniad refeniw ‘Grant Cynllun Twf Gogledd Cymru’ grant Ynni Llywodraeth Cymru, Cyd-Bwyllgor Corfforedig Gogledd Cymru, y Gronfa Ffyniant Gyffredin a’r gronfa wrth gefn.

 

            Adroddwyd ar sefyllfa cronfeydd y Bwrdd gan nodi yr amcanwyd balans o bron i £211,000 yn y gronfa wrth gefn gyffredinol. Amcanwyd balans o £152,000 yn y gronfa prosiectau a £7.2miliwn yn y gronfa llog. Esboniwyd bod y gronfa llog wedi ei neilltuo i ariannu costau benthyca yn y dyfodol. Nodwyd bod llogau uchel ar hyn o bryd yn golygu bod y Bwrdd yn derbyn swm sylweddol o log ar y balansau gydag amcan llog o £2.5miliwn ar gyfer 2024/25.

 

            Rhannwyd sefyllfa ddiweddaraf y rhaglen gyfalaf gan nodi gostyngiad net o £10.39miliwn yng ngwariant disgwyliedig ar gyfer 2024.25. Esboiwyd bod hyn oherwydd oediad ar bedwar prosiect sef ‘Ynni Lleol Blaengar’, ‘Gwastraff i Danwydd Glannau Dyfrdwy’, ‘Porth Caergybi’ a ‘Safle Cyn Ysbyty Gogledd Cymru’. Fodd bynnag, nodwyd bod gwariant tebygol ar brosiectau ‘Canolfan Biotechnoleg Amgylcheddol’ ac ‘Rhwydwaith Talent Twristiaeth’ o fewn y flwyddyn ariannol gyfredol. Ymhelaethwyd bod oediad tebygol o ddwy flynedd ar brosiectau ‘Stiwdio Kinmel’ac ‘Hwb Economi Wledig Glynllifon’.

 

            Cadarnhawyd bod grant y Cynllun Twf o £56.9miliwn sydd eisoes wedi ei dderbyn yn ddigonol er mwyn ariannu gwariant hyd at diwedd flwyddyn ariannol 2025/26 yn seiliedig ar y proffil gwariant diwygiedig hwn.

 

            Mewn ymateb i ymholiad ar or-wariant ar Gefnogaeth Cyfreithiol a Chyllidol Allanol o dan y pennawd ‘Prosiectau’, cadarnhaodd y Pennaeth Cyllid Cynorthwyol bod cefnogaeth ariannol allanol wedi cael ei ddefnyddio er mwyn derbyn mewnbwn ar geisiadau busnes. Cydnabuwyd bod hyn wedi arwain at orwariat o fewn y teitl ‘Proiectau’ ond pwysleisiwyd bod tanwariant o fewn ’Gwasanaethau Cefnogaeth Cyllid’ yn diwallu’r gorwariant hwn. Ymhelaeth bod y cynnydd mewn gwariant cyfreithiol yn deillio o gynnydd mewn materion cytundebau wrth i brosiectau’r Bwrdd gael eu datblygu’n gynt ac trafodaethau arbenigol i gefnogi cytundebau. Nodwyd yr angen i ail-ystyried y gyllideb ar gyfer cefnogaeth gyfreithiol i’r dyfodol.

 

Dogfennau ategol: