Agenda item

Stuart Whitfield (Rheolwr y Rhaglen Ddigidol) i gyflwyno’r adroddiad.

Penderfyniad:

1.     Cymeradwywyd Achos Busnes Amlinellol ar gyfer y prosiect Di-wifr Uwch, yn amodol ar gymeradwyaeth Llywodraethau Cymru a’r DU o’r broses sicrwydd yr ymgymerwyd â hi, a bod y Swyddfa Rheoli Portffolio yn rhoi sylw i’r materion sy’n parhau a nodir yn Adran 7 yr adroddiad, ac yn gwneud cais bod Achos Busnes Llawn yn cael ei baratoi er mwyn i’r Bwrdd ei ystyried.

 

2.     Dirprwywyd hawl i’r Cyfarwyddwr Portffolio, mewn ymgynghoriad â’r Cadeirydd a’r Is-gadeirydd, roi cymeradwyaeth terfynol o’r fanyleb caffael a’r meini prawf gwerth cymdeithasol cyn i ariannwr y prosiect ddechrau caffael.

 

3.     Awdurdodwyd i’r Cyfarwyddwr Portffolio, mewn ymgynghoriad â Swyddog Adran 151 a Swyddog Monitro’r Awdurdod Lletya, i gytuno ar delerau drafft yn unol â’r adroddiad hwn i’w cymeradwyo gan y Bwrdd Uchelgais fel sail ar gyfer y trefniadau ariannu terfynol ar gyfer y prosiect a fydd yn ffurfio sail y Llythyr Cynnig Grant a gaiff ei gytuno gan y Bwrdd ar y cam Achos Busnes Llawn.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Rheolwr y Rhaglen Ddigidol.

 

PENDERFYNIAD

 

1.     Cymeradwywyd Achos Busnes Amlinellol ar gyfer y prosiect Di-wifr Uwch, yn amodol ar gymeradwyaeth Llywodraethau Cymru a’r DU o’r broses sicrwydd yr ymgymerwyd â hi, a bod y Swyddfa Rheoli Portffolio yn rhoi sylw i’r materion sy’n parhau a nodir yn Adran 7 yr adroddiad, ac yn gwneud cais bod Achos Busnes Llawn yn cael ei baratoi er mwyn i’r Bwrdd ei ystyried.

 

2.     Dirprwywyd hawl i’r Cyfarwyddwr Portffolio, mewn ymgynghoriad â’r Cadeirydd a’r Is-gadeirydd, roi cymeradwyaeth terfynol o’r fanyleb caffael a’r meini prawf gwerth cymdeithasol cyn i ariannwr y prosiect ddechrau caffael.

 

3.     Awdurdodwyd i’r Cyfarwyddwr Portffolio, mewn ymgynghoriad â Swyddog Adran 151 a Swyddog Monitro’r Awdurdod Lletya, i gytuno ar delerau drafft yn unol â’r adroddiad hwn i’w cymeradwyo gan y Bwrdd Uchelgais fel sail ar gyfer y trefniadau ariannu terfynol ar gyfer y prosiect a fydd yn ffurfio sail y Llythyr Cynnig Grant a gaiff ei gytuno gan y Bwrdd ar y cam Achos Busnes Llawn.

 

RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD

 

Ceisio cymeradwyaeth y Bwrdd i Achos Busnes Amlinellol y Prosiect Di-wifr Uwch.

 

Fel prosiect sy’n cael ei gyflawni gan Uchelgais Gogledd Cymru, mae angen cymeradwyaeth gan y Bwrdd i sefydlu’r fframweithiau fydd yn cyflawni’r prosiect.

 

TRAFODAETH

 

Eglurwyd bydd y prosiect yn cynorthwyo busnesau a chyrff cyhoeddus i fuddsoddi yn y dechnoleg di-wifr ddiweddaraf, gan gynnwys 5G ac wi-fi o’r radd flaenaf ar draws rhanbarth y Gogledd. Gobeithiwyd bydd hyn yn cynyddu effeithlonrwydd a chynhyrchiant. Nodwyd bod tystiolaeth i gefnogi bod buddsoddiad o’r math hwn yn arwain at ddatblgiad busnes, cynaliadwydd masnachol ac yn creu mwy o swyddi. Tynnwyd sylw bod nifer o gwmnïau mawr wedi manteisio ar y math hwn o dechnoleg ac mae’r prosiect yn gobeithio lleihau’r risgiau masnachol  i gwmnïau wrth iddynt ymdrin â’r datblygiad o’r newydd. Ysytriwyd bod y sectorau byddai’n elwa fwyaf o’r dechnoleg yma yn cynnwys gweithgynhyrchu, trafnidiaeth, logisteg, amaethyddiaeth a thwristiaeth. Rhannwyd enghreifftiau o fuddsoddiadau posib o fewn y meysydd hyn megis darparu offer ar gyfer llinellau cynhyrchu mewn ffatrïoedd, rhwydweithiau preifat 5G, uwchraddio rhwyweithiau i gefnogi gweithrediadau logisteg mewn canolfannau trafnidiaeth yn ogystal â cheisiadau Trefi Smart er mwyn gwella monitro a’r cyfathrebu yng nghanol ein trefi.

 

Adroddwyd bod y proesiect hon yw ail rhan y cynllun ‘Campysau Cysylltiedig’. Esboniwyd mai’r prosiect gyntaf oedd prosiect LPWAN a oedd yn ymsetyn darpariaeth Rhwydwaith Ardal Gyfan Pŵer Isel i gefnogi cywysiadau arloseol ‘Rhyngrwyd y pethau’ ar draws sectorau cyhoeddus a phreifat drwy technoleg di-wift LoRaWAN. Atgoffwyd bod y cynllun hwn wedi ei gymeradwyo gan y Bwrdd eisoes.

 

Esboniwyd mai prif amcan gwariant y prosiect yw ‘Galluogi 100-200 o fusnesau a defnyddwyr sector cyhoeddus ymhob un o siroedd y gogledd i gymryd mantais o gysylltedd di-wifr uwch erbyn 2030’. Gobeithiwyd bydd hyn yn arwai at greu rhwng 130-200 o swyddi o fewn y rhanbarth a chreu GVA net ychwanegol o rhwng £41 miliwn a £62 miliwn erbyn 2036. Amcanwyd hefyd bydd cyfanswm buddsoddiad o rhwng £13miliwn ac £20 miliwn erbyn 2036.

 

Nodwyd bod y prosiect hon wedi cael ei ddatblygu mewn cydymffurfiaeth â Strategaeth Seilwaith di-wifr y Deyrnas Unedig a gyhoeddwyd gan y Llywodraeth. Cadarnhaywd bod hyn yn cynnwys cysylltiadau wi-fi, lloeren, LPWAN a 5G. Nodwyd bod y Bwrdd yn cydweithio ac yn efelychu technoleg syd ar waith mewn awdurdodau eraill ar draws Prydain er mwyn sicrhau bod y dechnoleg o’r radd flaenaf ar gael i Ogledd Cymru. Cydnabuwyd nad oes cadarnhad gan y Llywodraeth yn dilyn yr etholiad gyffredinol ar eu safbwyntiau am strategaethau di-wifr uwch ond pwysleisiwyd bydd swyddogion wedi cadarnhau’r safbwyntiau hyn cyn cyflwyno achos busnes llawn.

 

Tynnwyd sylw at wendidau yn y trefniadau presennol ar draws rhanbarth y gogledd megis darparu cymorth ariannol gyda buddsoddiad cychwynnol gan ddefnyddwyr rhanbarthol gan gydnabod bod mabwysiadu technoleg newydd i fusnes yn creu gofid a gall fforddiadwyedd presennol cwmnïau fod yn rwystr i ddatblygiad y prosiect. Cyfeiriwyd hefyd at yr angen i fynd i’r afael â bylchau gwybodaeth a sgiliau er mwyn cynyddu’r ymwybyddiaeth cwmniau a’r gallu o fewn y rhanberth er mwyn sicrhau lefelau mabwysiadu uchel ar gyfer y prosiect.

 

Adroddwyd bydd cronfa gwerth £19 miliwn yn cael ei weithredu fel cynllun grant hyblyg i ariannu mabwysiadu datrysiadau di-wifr uwch. Nodwyd bod y cynllun yn cael ei weinyddu gan Uchelgais Gogledd Cymru dros gyfnod o dair mlynedd yn dilyn dyluniad cynllun cychwynnol, y cam cyntaf yw cynnwys dyluniad y cynllun grant a’i sefydlu cyn darparu cyllid cyfalaf i sefydliadau’r sectorau fydd yn gwnued cais am gyllid yn unol ag amodau meini prawf cymhwysedd y cynllun.

 

Cyfeiriwyd at wariant gyfalaf gan nodi ei fod yn ddibynnol ar ymgynghoriaeth ar y cynllun cychwynnol. Aethpwyd ymlaen i nodi amcangyfrifiadau gwariant refeniw gan bwysleiiso pwysigrwydd i gadarnhau cyllideb ar gyfer ‘Hybu’r Galw’ er mwyn sicrhau bod y sectorau yn gwneud defnydd o’r dechnoleg newydd di-wifr uwch. Esboniwyd bydd hyn yn hyrwyddo  cydweithio o fewn y rhanbarth.

 

Tywyswyd drwy’r adborth a dderbyniwyd wrth ddatblygu’r prosiect hyd yma a chadarnhawyd y camau a gyflawnwyd fel rhan o’r Prosiect Sicrwydd. Manylwyd y cafwyd Asesiad Ambr mewn Adolygiad Porth ym mis Mai 2024 ynghyd ag adborth defnyddiol iawn i ddatblygiad y cynllun.

 

Rhannwyd trosolwg o brif risgiau’r cynllun gan gynnwys:

·       Os bydd y galw am arian gan y sectorau y gyfyngedig, ni fydd buddion y prosiect yn cael eu gwireddu.

·       Os bydd y ffi weinyddol sy’n cael ei chymhwyso i ymgeiswyd llwyddiannus yn atal ymgeiswyr rhag cyflwyno cais, efllai bydd llai o’r gronfa cyfalaf yn cael ei cyflwyno. Gall hyn amharu ar y gallu i gyflawni amcanion gwario.

·       Os nad oes digon o alw am y grantiau ar y gwerhtoedd isaf a ragnodir yn y cynllun, gallai’r costau sy’n gysylltiedig â chyflawni a gweinyddu fynd yn anfforddiadwy.

 

Cadarnhawyd bod Uchelgais Gogledd Cymru yn ymwybodol o’r risgiau hyn ac yn gosod gweithdrefnau er mwyn sicrhau bod y risgiau yn cael eu cyfarch.

 

Eglurwyd bod Uchelgais Gogledd Cymru wedi manteisio ar eu cysylltiadau er mwyn codi ymwybyddiaeth o’r cynlluniau hyn ac egluro’r buddiannau byddai ar gael iddynt wrth fuddsoddi i dechnoleg di-wifr uwch. Nodwyd eu bod wedi cynnal cyfarfodydd gyda cwmnïau er mwyn eu hysbysu ymhellach ac yn ffyddiog bydd y prosiect yn boblogaidd ymysg y sectorau. Cydnabuwyd bod rhai sectorau yn fwy heriol i gysylltu â nhw a phwysleisiwyd bod angen cwblhau mwy o waith ymchwil a chyfathrebu cyson gyda cwmnïau er mwyn deall gwir ddiddordeb i ymuno a’r cynllun.

 

Cadarnhawyd y bwriedir cyflwyno’r achos busnes llawn i’r Bwrdd yn fuan yn 2025.

 

Dogfennau ategol: