I ystyried adroddiad yr Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol: Oedolion a Iechyd ar yr uchod.
Cofnod:
(a) Cyflwynwyd gan yr Aelod
Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol:
Oedolion ac Iechyd adroddiad drafft ar adolygiad Dechrau
i’r Diwedd ar wasanaethau pobl hŷn
(b) Derbyniwyd cyflwyniad gan y Pennaeth Adran Gwasanaethau Oedolion Iechyd a Llesiant ar ffurf sleidiau
ac fe nododd nad oedd y cyfeiriad
a osodir i’r adolygiad yn newydd
gyda llawer ohono yn seiliedig
ar drefniadau presennol a phenderfyniadau’r
Cyngor dros y blynyddoedd diwethaf. Tynnwyd sylw at y weledigaeth, natur y weledigaeth a chyfres o egwyddorion gan y Gwasanaeth. Nodwyd ymhellach bod gofynion penodol wedi eu gosod
gan y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (2014) a rhaid tynnu sylw bod canran y boblogaeth hŷn yn cynyddu. Byddai’r gyllideb yn y dyfodol
yn sylweddol llai na’r gorffennol
ac y byddai angen cadw golwg ar
ddylanwad hynny.
(c) Cyfeiriodd at fethodoleg yr adolygiad gan
nodi’r camau sylfaenol isod:
1.
Ymarfer Da - I ddysgu gwersi gan eraill
am ddulliau blaengar o weithredu gan dderbyn
nad oes un dull gorau ymhob achos
neu faes. Mae sawl dull allai weithio a bydd angen bod yn ddoeth
i ddewis beth fyddai yn briodol
ac orau ar gyfer Gwynedd.
2.
Cymharu - yn bennaf
gyda'r ‘teulu’ o awdurdodau cymharol er mesur cynnydd/perfformiad Gwynedd
3.
Edrych ar y cynnydd
nid yn unig
o ddata caled ond hefyd o ran casglu gwybodaeth ac ymateb ar lefel
lleol
O safbwynt llesiant a rheoli’r galw, nodwyd:
1.
Bod llesiant yn gyfrifoldeb
ar draws y Cyngor, nid yn fater Gwasanaethau
Gofal/Cymdeithasol yn unig a bod angen
ystyried llesiant cyn i broblemau dwys godi
2.
Yr angen i ddefnyddio ymyrraeth ac atal fel camau buan
eu hunain ond hefyd yn
medru gwneud cyfraniad pwysig at reoli'r galw am wasanaethau gofal ffurfiol
3.
Nid oes un ateb
delfrydol cyffredin ar gyfer siapio
gwasanaethau llinell flaen. Hefyd yn
medru cynnwys dulliau integredig megis gwaith Ffordd
Gwynedd yn Alltwen a chyfraniad y 3ydd sector.
4.
Bod perthynas gyda chymunedau yn cael
sylw penodol yng Nghynllun Strategol
y Cyngor. Bydd
angen cyfeirio adnoddau i gyflawni hyn a rhaid derbyn
nad yw Gwynedd nac unrhyw awdurdod
lleol arall yn mynd i lwyddo
heb gryfhau'r elfen yma o’r
Gwasanaeth.
5.
Y byddai ail strwythuro'r Adran yn allweddol
i ddarparu gwasanaethau mewn ffordd newydd
a chyfarfod a disgwyliadau’r
ddeddf a defnyddwyr gwasanaeth.
Yng nghyd-destun datblygiad ymarfer gwaith cymdeithasol, esboniwyd
1.
ei bod yn anorfod i ymarfer gwaith cymdeithasol newid er mwyn
ymateb i ofynion y ddeddf a’r angen
i drawsnewid gwasanaethau.
2.
Bod tystiolaeth yn dangos bod diwylliant
a safon ymarfer gwaith yn allweddol
i ganfod dulliau priodol a gwell i gyfarfod anghenion unigolion.
3.
Bod angen ceisio cefnogi unigolion i fyw gartref gyda chefnogaeth
briodol a dros amser fel bo’r
ddibyniaeth ar ofal preswyl yn
lleihau.
4.
Bod cynnig a hyrwyddo taliadau uniongyrchol a rhoi'r ffocws ar ddeilliannau
i’r unigolyn yn ddwy agwedd
bwysig wrth ddatblygu ymarfer gwaith cymdeithasol.
5.
Bod Tim Datblygu Gweithlu Gofal a rôl allweddol i ddatblygu gallu'r Cyngor i gyflawni'r newidiadau.
Er mwyn cyflawni amcanion
a gofynion y Ddeddf, nodwyd bod angen cryfhau’r gefnogaeth i fyw gartref a chanolbwyntio ar yr agweddau
penodol isod:
1.
Dementia a bregusrwydd
2.
Gofal Dydd yng
Ngwynedd
3.
Rôl y trydydd sector yn enwedig o ran darparu cefnogaeth yn y cartref ac yn y gymuned
4.
Gofal Cartref - cydnabuwyd bod angen edrych ar y balans
priodol o ran darpariaeth mewnol/allanol yng Ngwynedd gan
ei fod oddeutu
50%/50% ar hyn o bryd gyda darpariaeth
fewnol ac allanol yn destun pryder
o ran recriwtio ym
Meirionnydd
O safbwynt darpariaeth llety, nodwyd bod yn rhaid
sicrhau dewis amgen ar gyfer
pobl hŷn megis tai gofal ychwanegol. Nodwyd bod eglurder ynglŷn â rôl ysbytai
lleol yn bwysig o ran cynllunio ar gyfer gofal
nyrsio a preswyl yn y dyfodol ac fel cyd-destun i flaenoriaethu opsiynau dros y blynyddoedd nesaf. Bydd rhaid i’r
blaenoriaethau adlewyrchu y
gofynion fydd yn cael eu
hamlygu o ganlyniadau asesiadau anghenion.
Gall integreiddio gyda GIG gyflawni canlyniadau positif ond fe all amrywio
o ardal i ardal. Nodwyd bod y rhaglen Cronfa Gofal Canolradd yn ein harwain
at well comisiynu a hwyluso
symudiad i’r cyfeiriad cywir.
I gloi, nodwyd bod y fethodoleg yn ddeinamig
gyda phenderfyniadau i’w cymryd dros
y 18 mis nesaf, rhai ohonynt yn
benderfyniadau gweithredol
a strategol a fydd yn siapio’r dyfodol ac yn golygu newidiadau enfawr ac anorfod.
(ch) Rhoddwyd cyfle i Aelodau fynegi sylwadau ac fe amlygwyd y pwyntiau canlynol ganddynt:
(i)
Rhaid sicrhau bod y trydydd sector yn gweithredu dros Wynedd gyfan
(ii)
Bod canmoliaeth yn ardal Bangor i’r ddarpariaeth tai gofal ychwanegol
(iii)
Pwysigrwydd i gynnwys darpariaeth gofal ysbaid o fewn y strategaeth i gefnogi’r gofalwyr
(iv)
Pwysigrwydd i fagu perthynas gyda phartneriaethau eraill e.e. Môn/Menai yng Ngogledd y Sir a Ceredigion/Powys o safbwynt
De’r Sir.
(v)
Crybwyllwyd am ymarferion da a weithredir yn Ysbyty Dolgellau
(vi)
Pwysigrwydd bod aelodau etholedig yn cefnogi’r Adran
Gwasanaethau Cymdeithasol a
bod ymyrraeth gynnar a gwaith ataliol yn hynod bwysig.
(vii)
A fyddai trefniadau o weithredu cronfa gyllidol (“pool budget”) yn addas ac yn
gweithio ar gyfer y newidiadau yn y maes hwn?
(viii)
Pam na all y Cyngor weithredu “cofrestriad deublyg” (dual registration) fel bo modd i’r
nyrsys cymunedol roi gwasanaeth iddynt mewn cartrefi
gofal preswyl?
(ix)
Bod gofal yn y cartref yn
gweithio’n llwyddiannus os yw’r cyfleusterau
ar gael ond
mai’n wybyddus bod unigolion yn gorfod
symud o’u cynefin i gael darpariaeth gofal preswyl sydd yn
creu anhawsterau i deuluoedd i ymweld a hwy o ran teithio , a.y.b.
(x)
Pryder ynglyn a diffyg recriwtio gofalwyr mewn cystadleuaeth
a chyflog gwell a gynigir gan archfarchnadoedd
(xi)
A ellir dysgu gwersi oddi
wrth awdurdodau eraill o’r teulu
sy’n perfformio’n well ac a
oes modd gwneud mwy o ddefnydd
o gartrefi preswyl preifat?
(d) Bu
i’r swyddogion ymateb i’r sylwadau
uchod fel a ganlyn:
·
Efallai y gellir rhoi ystyriaeth i arbrofi gweithredu cronfa gyllidol mewn rhai pocedi
o’r Sir ond yn sicr byddai’n
ofynnol ystyried y mater
gam wrth gam
·
O safbwynt cymhariaeth perfformiad gydag awdurdodau eraill sicrhawyd bod hyn wedi ei ystyried
ac wedi eu hymgorffori yn argymhellion yr adroddiad.
·
Bod y darlun ynglyn â chyflogau byw o bosib yn
mynd i gau'r bwlch i’r dyfodol
o safbwynt costau gofal preswyl a gofal preifat
·
Er nad oedd gofal ysbaid
wedi derbyn sylw penodol o fewn yr adroddiad,
cydnabyddir bod lle i wneud defnydd o ofal ysbaid drwy
ystyried dulliau eraill er mwyn
lleihau’r ddibyniaeth ar ofal ysbaid
Penderfynwyd: Derbyn cynnwys yr adroddiad
drafft gan ofyn i’r Aelod
Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol:
Oedolion a Iechyd a’r Pennaeth Adran Gwasanaethau roi ystyriaeth i’r sylwadau perthnasol amlinellwyd gan yr aelodau yn
(i) – (x) uchod fel rhan o’r adroddiad
terfynol.
Dogfennau ategol: