Agenda item

Cyflwyno adroddiad yr Uwch Swyddog Harbyrau.

Penderfyniad:

Nodi a derbyn yr adroddiad.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiadau isod a gwahoddwyd adborth gan yr aelodau ar faterion diogelwch a materion gweithredol yr Harbwr.

 

(1)    Adroddiad yr Uwch Swyddog Harbyrau yn rhoi diweddariad bras i’r pwyllgor ar faterion yr Harbwr am y cyfnod rhwng mis Mawrth 2024 a Hydref 2024.

 

Ymhellach i gynnwys yr adroddiad ysgrifenedig, nododd yr Uwch Swyddog Harbyrau y byddai’n ymddeol yn llawn ar 31 Mawrth, 2025, yn dilyn cyfnod o ymddeoliad hyblyg.  Nododd fod ei swydd wedi ei hysbysebu gyda'r gobaith o’i llenwi cyn cyfnod y Nadolig fel bod modd i ddeilydd newydd y swydd ei gysgodi yn y rôl dros y misoedd nesaf. 

 

Mewn ymateb i gwestiynau gan aelod, nododd y Rheolwr Gwasanaeth Morwrol fod yr hysbysiad swydd allan ers tua wythnos a bod dau gais i law hyd yma.  Bwriadai fonitro’r sefyllfa dros y dyddiau nesaf, a phe na fyddai yna lawer mwy o geisiadau yn cyrraedd, byddai angen ystyried lledaenu’r hysbyseb yn y wasg, ayb. 

 

Diolchodd yr Uwch Swyddog Harbyrau i’r Pwyllgor am eu cefnogaeth dros y blynyddoedd.

 

Ar ran y Pwyllgor, diolchodd y Cadeirydd i’r Uwch Swyddog Harbyrau am ei holl waith ar hyd y blynyddoedd, gan ddymuno iddo ymddeoliad hapus.  Diolchodd y Rheolwr Gwasanaeth Morwrol a’r Harbwrfeistr iddo am ei wasanaeth hefyd, gan nodi y byddai colled fawr ar ei ôl.

 

Materion Ariannol

Rhoddodd y Rheolwr Gwasanaeth Morwrol grynodeb byr o gyllidebau’r Harbwr 01/4/24 - 31/3/25 (Adolygiad Awst 2024), a gynhwyswyd fel atodiad i’r adroddiad. Nodwyd yn benodol:-

·       Bod yna orwariant o dan y pennawd Gweithwyr oherwydd costau goramser. Nodwyd bod staff yr Harbwr wedi bod yn cynorthwyo mewn harbyrau eraill a hefyd ar draeth Morfa Bychan oherwydd trafferthion recriwtio staff eleni.  Nodwyd hefyd bod y swyddogion wedi gorfod ymateb i rai digwyddiadau y tu allan i oriau gwaith arferol.

·       Bod yna danwariant sylweddol o dan y pennawd Eiddo a gellid defnyddio’r arian yma i gwrdd â gorwariant dan benawdau eraill o’r gyllideb.

·       Bod y ffigwr £39 yn y golofn ‘Gwariant a Ragwelir’ dan y pennawd ‘Trafnidiaeth’ yn wallus, ac er na ellid cadarnhau’r gwir ffigwr ar hyn o bryd, ni ragwelid y byddai’n uwch na’r swm o £800 a glustnodwyd ar ei gyfer yn y gyllideb.

·       Bod yna orwariant o dan y pennawd Gwasanaethau a Chyflenwadau am sawl rheswm, yn benodol: oherwydd costau uchel cynnal a chadw cychod a’r angen i  uwchraddio system CCTV yr Harbwr a buddsoddi mewn offer diogelwch newydd.

·       Y clustnodwyd £30,000 yn y Gronfa Forwrol ar gyfer gwella'r tir a’r compownd yn Harbwr Porthmadog gyda’r gwaith yn digwydd dros fisoedd yr hydref a’r gaeaf.  Gellid diweddaru’r Pwyllgor ar ddatblygiad y cynllun yn y cyfarfod nesaf.

·       Y rhagwelid diffyg incwm o £5,210, a hynny’n bennaf oherwydd y tywydd anffafriol dros fisoedd yr haf a'r lleihad yn nifer y cychod pŵer sydd wedi’u cofrestru.

·       O ran y Cyfanswm Net, rhagwelid diffyg o ychydig dros £6,000, sy’n eithaf da o ystyried y tywydd.  Canmolwyd y staff ar lwyddo i ddenu £80,900 o incwm yn yr hinsawdd anodd sydd ohoni.

 

Holwyd a oedd sefyllfa fregus yr economi wedi effeithio ar yr incwm. Mewn ymateb, nododd y Rheolwr Gwasanaeth Morwrol fod hyn yn debygol o fod yn ganlyniad cyfuniad o bethau, yn cynnwys yr economi a’r tywydd, ayyb.

 

Ffioedd a Thaliadau 2025/26

Nododd y Rheolwr Gwasanaeth Morwrol ei bod yn gynamserol ar hyn o bryd i wneud unrhyw benderfyniad ynghylch lefel y ffioedd ar gyfer y tymor nesaf a gobeithid bod mewn sefyllfa i gynnig y ffioedd arfaethedig ar ddiwedd y flwyddyn. Pwysleisiwyd yr angen i fod yn wyliadwrus rhag codi’r ffioedd yn rhy uchel yn yr hinsawdd ariannol sydd ohoni.

 

Dashfwrdd Rheoli Perfformiad Economi a Chymuned

Nododd y Rheolwr Gwasanaeth Morwrol fod nifer y cwsmeriaid gyda chytundeb angori yn ein harbyrau wedi codi o 250 i 266. Amlygwyd bod y wasgfa ariannol yn golygu bod nifer o gwsmeriaid wedi eu denu i Wynedd gan, yn gyffredinol, bod y gost yn is. Eglurwyd bod rhai cwsmeriaid hefyd wedi dychwelyd yn dilyn diwedd i gyfyngiadau Cofid. Adroddwyd bod y Gwasanaeth wedi llwyddo i ddenu nifer o gwsmeriaid newydd.

 

Boddhad Cwsmer Harbyrau

Eglurwyd bod yr holiadur boddhad cwsmer ar wefan y Cyngor ers mis Gorffennaf 2023, a bod yna ‘QR codes’ wedi eu gosod dros yr Harbwr i annog cwsmeriaid i gwblhau’r holiadur. Adroddwyd bod 86% o'r ymatebwyr o'r farn bod eu profiad o'r harbyrau yn 'Dda lawn' (81%) neu'n 'Dda' (5%), a bod neb wedi nodi bod eu  profiad yn wael. Derbyniwyd sylwadau cadarnhaol am broffesiynoldeb ac agwedd ein swyddogion, gyda rhai yn datgan bod y swyddogion yn "wybodus" ac "wedi mynd allan o'u ffordd i helpu”. Nodwyd bod yna hefyd sylwadau adeiladol. Nodwyd ymhellach bod y Gwasanaeth yn monitro'r ymatebion i’r holiaduron, ac yn gobeithio gweithredu ar unrhyw sylwadau i wella'r Gwasanaeth. 

 

Archwiliad Tŷ’r Drindod

Nodwyd bod y Gwasanaeth yn cydymffurfio cant y cant â gofynion statudol Tŷ’r Drindod. Cadarnhawyd y bydd yr archwilwyr yn dod draw eto’n fuan, a rhagwelid y byddai’r Gwasanaeth yn cydymffurfio yn llawn unwaith eto â’r gofynion.

 

Boddhad Cwsmer Traethau

Nodwyd bod 76% o ymatebwyr yr holiadur o'r farn bod eu profiad o draethau Gwynedd yn 'Dda lawn' (58%) neu'n Dda (18%). Mynegwyd, yn gyffredinol, bod yr adborth yn eithaf cadarnhaol.

 

(2)      Adroddiad yr Harbwrfeistr yn crynhoi’r materion Mordwyo a Gweithredol a wnaed ac a brofwyd yn y cyfnod rhwng mis Chwefror 2024 a Hydref 2024, gan gynnwys materion cynnal a chadw.

 

Cyn cychwyn cyflwyno ei adroddiad, diolchodd yr Harbwrfeistr i Arthur Francis Jones (Uwch Swyddog Harbyrau), am ei waith caled dros yr un flynedd ar ddeg ddiwethaf.  Diolchodd hefyd i  Robert Owen (Cynrychiolydd Buddiannau Masnachol) am roi benthyg y beic dŵr i’r Gwasanaeth am y trydydd tymor.

 

Yn ystod y drafodaeth, codwyd y materion a ganlyn:-

 

Holwyd a fwriedid gosod plinth llechen Gymreig o dan y strwythur metel ar ffurf draig. Mewn ymateb nodwyd bod y llechen yn dod o Llechwedd, Blaenau Ffestiniog a’i bod yn cyd-fynd â’r cerrig yn yr Harbwr.

 

Holwyd a oedd bwriad addasu’r peiriant talu ac arddangos yn yr Harbwr  i alluogi talu trwy Ap. Mewn ymateb, nodwyd bod archwiliad mewnol wedi cynghori symud oddi wrth arian parod, gan fod yna lawer o waith ynghlwm â gwagio'r peiriant a chyfri'r pres, ac ati.  Cadarnhawyd y bydd y peiriant ym Mhorthmadog yn galluogi talu drwy’r Ap neu gerdyn credyd o fis Ebrill y flwyddyn nesaf ymlaen, ac o bosib’ y bydd angen batri pŵer yr haul i’w wefru.

 

Nododd y Rheolwr Gwasanaeth Morwrol fod llecyn wedi’i adnabod ar y gwair ger y compownd ar gyfer lleoli cerflun arall sy’n dod i Borthmadog.  Credid y byddai hyn yn ased i Harbwr Porthmadog ac yn addas iawn ar gyfer y safle. Eglurwyd na fyddai’n cael ei ariannu o’r gyllideb forwrol.

 

Holwyd a fwriedid cynnwys gwybodaeth ar y peiriannu talu am barcio yn esbonio bod yr arian yn mynd yn benodol i’r Adran Forwrol tuag at reolaeth y safle.  Awgrymwyd y gallai gwybodaeth o’r fath annog pobl i barcio yn y maes parcio yma yn benodol os ydynt yn deall lle mae'r arian yn mynd.  Mewn ymateb nodwyd bod yna gyfeiriad penodol ar rai safleoedd at y ffaith bod yr arian yn mynd tuag at gynhaliaeth y safle. Nodwyd bod y pwynt yn un dilys, ac yn rhywbeth i’w drafod fel rhan o’r gwaith rhagbaratoi ar gyfer y peiriannau newydd.

 

Dogfennau ategol: