Cyflwyno adroddiad yr Uwch Swyddog Harbyrau.
Penderfyniad:
Nodi a derbyn yr adroddiad.
Cofnod:
Cyflwynwyd yr adroddiadau isod a
gwahoddwyd adborth gan yr aelodau ar faterion diogelwch a materion gweithredol
yr Harbwr.
(1)
Adroddiad
yr Uwch Swyddog Harbyrau yn rhoi diweddariad bras i’r pwyllgor ar faterion yr
Harbwr am y cyfnod rhwng mis Mawrth 2024 a Hydref 2024.
Ymhellach i gynnwys yr adroddiad
ysgrifenedig, nododd yr Uwch Swyddog Harbyrau y byddai’n ymddeol yn llawn ar 31
Mawrth, 2025, yn dilyn cyfnod o ymddeoliad hyblyg. Nododd fod ei swydd wedi ei hysbysebu gyda'r
gobaith o’i llenwi cyn cyfnod y Nadolig fel bod modd i ddeilydd newydd y swydd
ei gysgodi yn y rôl dros y misoedd nesaf.
Mewn ymateb i gwestiynau gan aelod,
nododd y Rheolwr Gwasanaeth Morwrol fod yr hysbysiad swydd allan ers tua
wythnos a bod dau gais i law hyd yma.
Bwriadai fonitro’r sefyllfa dros y dyddiau nesaf, a phe na fyddai yna
lawer mwy o geisiadau yn cyrraedd, byddai angen ystyried lledaenu’r hysbyseb yn
y wasg, ayb.
Diolchodd yr Uwch Swyddog Harbyrau i’r
Pwyllgor am eu cefnogaeth dros y blynyddoedd.
Ar ran y Pwyllgor, diolchodd y Cadeirydd
i’r Uwch Swyddog Harbyrau am ei holl waith ar hyd y blynyddoedd, gan ddymuno
iddo ymddeoliad hapus. Diolchodd y
Rheolwr Gwasanaeth Morwrol a’r Harbwrfeistr iddo am ei wasanaeth hefyd, gan
nodi y byddai colled fawr ar ei ôl.
Materion
Ariannol
Rhoddodd y Rheolwr Gwasanaeth Morwrol
grynodeb byr o gyllidebau’r Harbwr 01/4/24 - 31/3/25 (Adolygiad Awst 2024), a
gynhwyswyd fel atodiad i’r adroddiad. Nodwyd yn benodol:-
·
Bod
yna orwariant o dan y pennawd Gweithwyr oherwydd costau goramser. Nodwyd bod
staff yr Harbwr wedi bod yn cynorthwyo mewn harbyrau eraill a hefyd ar draeth
Morfa Bychan oherwydd trafferthion recriwtio staff eleni. Nodwyd hefyd bod y swyddogion wedi gorfod
ymateb i rai digwyddiadau y tu allan i oriau gwaith arferol.
·
Bod
yna danwariant sylweddol o dan y pennawd Eiddo a gellid defnyddio’r arian yma i
gwrdd â gorwariant dan benawdau eraill o’r gyllideb.
·
Bod
y ffigwr £39 yn y golofn ‘Gwariant a Ragwelir’ dan y pennawd ‘Trafnidiaeth’ yn
wallus, ac er na ellid cadarnhau’r gwir ffigwr ar hyn o bryd, ni ragwelid y
byddai’n uwch na’r swm o £800 a glustnodwyd ar ei gyfer yn y gyllideb.
·
Bod
yna orwariant o dan y pennawd Gwasanaethau a Chyflenwadau am sawl rheswm, yn
benodol: oherwydd costau uchel cynnal a chadw cychod a’r angen i uwchraddio system CCTV yr Harbwr a buddsoddi
mewn offer diogelwch newydd.
·
Y
clustnodwyd £30,000 yn y Gronfa Forwrol ar gyfer gwella'r tir a’r compownd yn
Harbwr Porthmadog gyda’r gwaith yn digwydd dros fisoedd yr hydref a’r
gaeaf. Gellid diweddaru’r Pwyllgor ar
ddatblygiad y cynllun yn y cyfarfod nesaf.
·
Y
rhagwelid diffyg incwm o £5,210, a hynny’n bennaf oherwydd y tywydd anffafriol
dros fisoedd yr haf a'r lleihad yn nifer y cychod pŵer sydd wedi’u
cofrestru.
·
O
ran y Cyfanswm Net, rhagwelid diffyg o ychydig dros £6,000, sy’n eithaf da o
ystyried y tywydd. Canmolwyd y staff ar
lwyddo i ddenu £80,900 o incwm yn yr hinsawdd anodd sydd ohoni.
Holwyd a oedd sefyllfa fregus yr economi wedi effeithio ar yr incwm.
Mewn ymateb, nododd y Rheolwr Gwasanaeth Morwrol fod hyn yn debygol o fod yn
ganlyniad cyfuniad o bethau, yn cynnwys yr economi a’r tywydd, ayyb.
Ffioedd a Thaliadau 2025/26
Nododd y Rheolwr Gwasanaeth Morwrol ei bod yn gynamserol ar hyn o bryd i
wneud unrhyw benderfyniad ynghylch lefel y ffioedd ar gyfer y tymor nesaf a
gobeithid bod mewn sefyllfa i gynnig y ffioedd arfaethedig ar ddiwedd y
flwyddyn. Pwysleisiwyd yr angen i fod yn wyliadwrus rhag codi’r ffioedd yn rhy
uchel yn yr hinsawdd ariannol sydd ohoni.
Dashfwrdd Rheoli Perfformiad Economi a Chymuned
Nododd y
Rheolwr Gwasanaeth Morwrol fod nifer y cwsmeriaid gyda chytundeb angori yn ein
harbyrau wedi codi o 250 i 266. Amlygwyd bod y wasgfa ariannol yn golygu bod
nifer o gwsmeriaid wedi eu denu i Wynedd gan, yn gyffredinol, bod y gost yn is.
Eglurwyd bod rhai cwsmeriaid hefyd wedi dychwelyd yn dilyn diwedd i gyfyngiadau
Cofid. Adroddwyd bod y Gwasanaeth wedi llwyddo i ddenu nifer o gwsmeriaid
newydd.
Boddhad Cwsmer Harbyrau
Eglurwyd bod
yr holiadur boddhad cwsmer ar wefan y Cyngor ers mis Gorffennaf 2023, a bod yna
‘QR codes’ wedi eu gosod dros yr Harbwr i annog cwsmeriaid i gwblhau’r
holiadur. Adroddwyd bod 86% o'r ymatebwyr o'r farn bod eu profiad o'r harbyrau
yn 'Dda lawn' (81%) neu'n 'Dda' (5%), a bod neb wedi nodi bod eu profiad yn wael. Derbyniwyd sylwadau
cadarnhaol am broffesiynoldeb ac agwedd ein swyddogion, gyda rhai yn datgan bod
y swyddogion yn "wybodus" ac "wedi mynd allan o'u ffordd i
helpu”. Nodwyd bod yna hefyd sylwadau adeiladol. Nodwyd ymhellach bod y
Gwasanaeth yn monitro'r ymatebion i’r holiaduron, ac yn gobeithio gweithredu ar
unrhyw sylwadau i wella'r Gwasanaeth.
Archwiliad Tŷ’r Drindod
Nodwyd bod y
Gwasanaeth yn cydymffurfio cant y cant â gofynion statudol Tŷ’r Drindod.
Cadarnhawyd y bydd yr archwilwyr yn dod draw eto’n fuan, a rhagwelid y byddai’r
Gwasanaeth yn cydymffurfio yn llawn unwaith eto â’r gofynion.
Boddhad Cwsmer Traethau
Nodwyd bod 76% o ymatebwyr yr holiadur o'r farn bod eu profiad o
draethau Gwynedd yn 'Dda lawn' (58%) neu'n Dda (18%). Mynegwyd, yn gyffredinol,
bod yr adborth yn eithaf cadarnhaol.
(2)
Adroddiad
yr Harbwrfeistr yn crynhoi’r materion Mordwyo a Gweithredol a wnaed ac a
brofwyd yn y cyfnod rhwng mis Chwefror 2024 a Hydref 2024, gan gynnwys materion
cynnal a chadw.
Cyn cychwyn cyflwyno ei adroddiad, diolchodd yr
Harbwrfeistr i Arthur Francis Jones (Uwch Swyddog Harbyrau), am ei waith caled
dros yr un flynedd ar ddeg ddiwethaf.
Diolchodd hefyd i Robert Owen
(Cynrychiolydd Buddiannau Masnachol) am roi benthyg y beic dŵr i’r
Gwasanaeth am y trydydd tymor.
Yn ystod y drafodaeth, codwyd y materion a ganlyn:-
Holwyd a
fwriedid gosod plinth llechen Gymreig o dan y strwythur metel ar ffurf draig.
Mewn ymateb nodwyd bod y llechen yn dod o Llechwedd, Blaenau Ffestiniog a’i bod
yn cyd-fynd â’r cerrig yn yr Harbwr.
Holwyd a oedd bwriad addasu’r peiriant talu ac arddangos yn yr
Harbwr i alluogi talu trwy Ap. Mewn
ymateb, nodwyd bod archwiliad mewnol wedi cynghori symud oddi wrth arian parod,
gan fod yna lawer o waith ynghlwm â gwagio'r peiriant a chyfri'r pres, ac
ati. Cadarnhawyd y bydd y peiriant ym
Mhorthmadog yn galluogi talu drwy’r Ap neu gerdyn credyd o fis Ebrill y
flwyddyn nesaf ymlaen, ac o bosib’ y bydd angen batri pŵer yr haul i’w
wefru.
Nododd y Rheolwr Gwasanaeth Morwrol fod llecyn wedi’i adnabod ar y gwair
ger y compownd ar gyfer lleoli cerflun arall sy’n dod i Borthmadog. Credid y byddai hyn yn ased i Harbwr
Porthmadog ac yn addas iawn ar gyfer y safle. Eglurwyd na fyddai’n cael ei
ariannu o’r gyllideb forwrol.
Holwyd a fwriedid cynnwys gwybodaeth ar y peiriannu talu am barcio yn
esbonio bod yr arian yn mynd yn benodol i’r Adran Forwrol tuag at reolaeth y
safle. Awgrymwyd y gallai gwybodaeth o’r
fath annog pobl i barcio yn y maes parcio yma yn benodol os ydynt yn deall lle
mae'r arian yn mynd. Mewn ymateb nodwyd
bod yna gyfeiriad penodol ar rai safleoedd at y ffaith bod yr arian yn mynd
tuag at gynhaliaeth y safle. Nodwyd bod y pwynt yn un dilys, ac yn rhywbeth i’w
drafod fel rhan o’r gwaith rhagbaratoi ar gyfer y peiriannau newydd.
Dogfennau ategol: