Agenda item

I ystyried yr adroddiad.

 

Penderfyniad:

1.    Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a gyflwynwyd yn ystod  y drafodaeth.

2.    Datgan pryder nad yw’r ddarpariaeth yn gyson ar draws y Sir a phwysleisio pwysigrwydd rhoi egwyl i ofalwyr di-dâl.

3.    Gofynnwyd am adroddiad pellach am yr adolygiad Polisi Trafnidiaeth ac adolygiad Gofal Dydd er mwyn i’r Aelodau roi mewnbwn amserol.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad gan yr Aelod Cabinet Oedolion, Iechyd a Llesiant, Pennaeth Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant, Pennaeth Cynorthwyol Cefnogi Cymunedau, Iechyd a Llesiant a’r Pennaeth Cynorthwyol Gwasanaethau Oedolion.

Yn ystod y drafodaeth, cyflwynwyd y sylwadau a ganlyn:-

 

Adroddwyd bod yr holl weithwyr o fewn y maes hwn yn cydymffurfio â gofynion statudol Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant.

 

Atgoffwyd bod disgwyliad i weithwyr adnabod deilliannau unigolion yn ogystal a’r dull orau o ddarparu gofal  chefnogaeth iddynt. Nodwyd yr ystyrir adnoddau personol unigolion, cefnogaeth teuluol, lefel annibyniaeth, rhwydweithiau cefnogol lleol ac ystyriaethau ariannol.

 

Eglurwyd y ddarpariaeth gofal dydd mwyaf cyffredin gan fanylu bod tair darpariaeth o fewn Gwynedd. Nodwyd bod y rhain wedi eu lleoli yn Llys Cadfan (Tywyn), Plas Hedd (Bangor) a Phlas y Don (Pwllheli). Ymhelaethwyd mai Plas Hedd sy’n darparu gofal dydd i’r nifer uchaf o unigolion sy’n byw gyda dementia a gydag anghenion dydd, gyda 5 unigolyn yn mynychu ar gyfer gwasanaeth arbenigol deuddydd yr wythnos. Cadarnhawyd bod 10 unigolyn yn derbyn gwasanaeth ym Mhlas Hedd gyda dau aelod o staff yn gofalu amdanynt. Adroddwyd bod 4 unigolyn yn derbyn gwasanaeth gofal dydd ym Mhlas y Don a 3 unigolyn yn Llys Cadfan. Cydnabuwyd bod llai o unigolion yn defnyddio’r gwasanaeth yn yr ardaloedd hyn ond teimlwyd nad oedd hyn oherwydd rhesymau trafnidiaeth. Tynnwyd sylw bod gwasanaethau yn cael eu darparu mewn cartrefi preswyl eraill ym meddiant y Cyngor ond nodwyd bod y rhain yn cael eu cynnal ar sail achlysurol.

 

Cadarnhawyd mai’r teuluoedd sydd yn cludo’r unigolion hyn i’r ddarpariaeth gofal dydd oherwydd bod cyflyrau yn rhy ddwys er mwyn gallu defnyddio tacsi yn annibynnol, ond nodwyd bod rhai achosion ble mae tacsi yn cael eu defnyddio.

 

Pwysleisiwyd nad yw’r staff wedi derbyn cwyn am ddiffyg trafnidiaeth ac nid oes newidiadau amlwg mewn niferoedd mynychu oherwydd materion trafnidiaeth.

 

Nodwyd bod yr Adran yn cydweithio gyda’r gwasanaethau Iechyd yn gyson iawn. Ymhelaethwyd bod y gwasanaeth Iechyd yn cynnal gwasanaethau gofal dydd arbenigol ym Mhen Llŷn yn bennaf ac yn ne Meirionnydd ar rai prydiau. Ymhelaethwyd bod 10-15 o unigolion yn mynychu darpariaeth gofal dydd (hyd at 33 unigolion yr wythnos am wasanaeth sydd yn cael ei gynnal dau ddiwrnod yr wythnos) ac maent yn annog pob unigolyn i wneud trefniadau cludiant eu hunain. Eglurwyd eu bod yn gwneud hyn oherwydd mai’r safle mwyaf addas ar gyfer y ddarpariaeth o fewn yr ardaloedd yw Bryn Beryl ac ystyrir trafnidiaeth ysbyty i fod yn annibynadwy. Pwysleisiwyd bod y gwasanaeth Iechyd yn annog teulu i ddarparu cludiant neu ddibynnu ar gludiant cymdeithasol megis O Ddrws I Ddrws neu Cymro. Adroddwyd bod staff Hafod Hedd (Bryn Beryl) yn gweld cynnydd yn niferoedd unigolion sydd yn mynychu ac nid ydynt yn ymwybodol am unrhyw nad sydd yn mynychu oherwydd trafferthion trafnidiaeth.

 

Adroddwyd ar wasanaethau eraill sydd ar gael i unigolion sydd yn byw â dementia, sydd hefyd yn cynnig seibiant i ofalwyr di-dâl. Nodwyd bod gwasanaeth Dementia Actif yn gefnogaeth ataliol sy’n cefnogi nifer o unigolion a’u teuluoedd. Esboniwyd bod y gwasanaeth yn cael ei gynnal ar gyfer unigolion gydag ystâd eang o anghenion ac yn cynnal dosbarthiadau ymarfer corff hwyliog a chymdeithasol. Eglurwyd bod y gwasanaeth yn cydweithio gyda nifer o hybiau cymunedol ac yn derbyn mynychwyr newydd yn gyson. Nodwyd bod y gwasanaeth yn cynnig trafnidiaeth i’r gweithgareddau am gost rhesymol.

 

Mynegwyd balchder o dderbyn grant cyllideb ICF gan Lywodraeth Cymru sydd wedi arwain at benodi 5 o Weithwyr Cefnogol Dementia. Esboniwyd bod y gweithwyr hyn yn darparu gofal arbenigol un i un yng nghartrefi’r unigolion gan amlaf gyda dementia dwys pan nad yw darpariaeth gofal dydd mewn canolfan neu gartref preswyl yn addas ar eu cyfer. Adroddwyd eu bod yn cefnogi rhwng 5 a 10 o unigolion yr un ar wasanaeth 9-5 o Ddydd Llun i Ddydd Gwener. Ychwanegwyd hefyd eu bod yn cludo unigolion i weithgareddau dydd yn y gymuned pan yn addas os nad oes cefnogaeth arall ar gael. Tynnwyd sylw hefyd at Eryri Cydweithredol, sy’n wasanaeth cyffelyb a gaiff ei gomisiynu gan y Cyngor ar gyfer unigolion ble nad ydi’n addas i unigolion fynychu gweithgareddau dydd.

 

Amlygwyd rhai o’r rhwystrau wrth ystyried cludiant i wasanaethau megis yr angen i’r cerbydau fod yn addas ac diogel i ddefnyddwyr. Cadarnhawyd bod swyddogion yn ymwybodol o ddiffyg trafnidiaeth ers blynyddoedd gan nad yw bws mini neu dacsi yn opsiwn addas mewn nifer o achosion yn ogystal ag unigolion gyda ymddygiad heriol ar adegau yn deillio o’r cyflwr. Pwysleisiwyd bod timoedd yn nodi ei fod yn anodd canfod cwmni sydd yn fodlon gwneud y gwaith cludo hwn ar ran y Cyngor ac mae’r gwasanaethau a ddarperir gan gwmnïau preifat os ydynt yn cytuno, yn gallu bod yn ddrud iawn. Ychwanegwyd bod angen i gerbydau cludiant bod wedi eu addasu mewn rhai achosion er mwyn sicrhau bod unigolion yn trafeilio yn ddiogel ac felly credir mai’r teulu yw’r dull mwyaf addas o ddarparu trafnidiaeth mewn nifer fawr o achosion.

 

Rhoddwyd ystyriaeth i faterion ariannol gan nodi bod ffi o £4 ar gyfer darpariaeth gofal dydd, sy’n cael ei ddefnyddio er mwyn cyfrannu at gostau arlwyo. Esboniwyd nad oes cais am gyfraniad er mwyn ariannu’r gofal. Ymhelaethwyd bod cefnogaeth lles ariannol yn cael ei ddarparu i unrhyw un sydd yn nodi pryderon drwy’r gwasanaeth Incwm a Lles.

 

Annogwyd yr Aelodau i ddod i gyswllt gyda’r Adran os ydynt yn ymwybodol am unrhyw un sydd yn dymuno mynychu gwasanaethau gofal dydd ond yn wynebu heriau trafnidiaeth er mwyn sicrhau datrysiad a mynediad at wasanaethau.

 

Yn ystod y drafodaeth, cyflwynwyd y sylwadau a ganlyn:- 

 

Ystyriwyd bod y niferoedd o unigolion sy’n byw gyda dementia ac sydd yn mynychu gwasanaeth gofal dydd yn isel. Mewn ymateb i’r sylwad, ychwanegodd Pennaeth Cynorthwyol Gwasanaethau Oedolion nad yw teithio i ganolfan ar gyfer gwasanaeth yn ddeniadol i unigolion erbyn hyn a bod llawer mwy o unigolion yn dymuno derbyn gofal sydd wedi ei deilwra iddynt yn eu cartref eu hunain.

 

Mewn ymateb i ymholiad am restrau aros ar gyfer y gwasanaethau gofal dydd, cadarnhaodd Pennaeth Cynorthwyol Gwasanaethau Oedolion bod pawb sydd yn gofyn am y gwasanaeth yn ei dderbyn ar hyn o bryd ac nid oes unrhyw un yn aros am ofal.

 

Nodwyd nad yw gofalwyr di-dal yn cael gymaint o ysbaid gan ei bod yn danfon eu hanwyliaid i’r gweithgareddau yn hytrach na derbyn cludiant. Ychwnegodd yr Aelod Cabinet bod croeso i anwyliaid y defnyddwyr gwasanaeth i fynychu’r gweithgareddau hefyd, gan rannu enghreifftiau o achosion ble mae hyn wedi bod yn llwyddiannus iawn.

 

Ategwyd byddai anwyliaid yn fodlon talu mwy na £4 am ofal safonol i unigolion sydd â dementia a dylid edrych i mewn i gynyddu’r ffioedd hynny. Ymhellach, gwnaed sylw bod angen sicrhau bod unigolion yn derbyn y budd-daliadau cywir a phriodol er mwyn sicrhau bod ganddynt yr arian i dalu am eu gofal pan mae ffi yn ddyledus.

 

Mewn ymateb i ddatblygu Polisi Trafnidiaeth, cadarnhaodd Pennaeth Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant bod y polisi hwn ar y gweill yn fuan. Ymhelaethwyd mai’r bwriad yw ceisio ei ddatblygu er mwyn i’r polisi fod yn weithredol o Ebrill 2025 ymlaen ac mae gwaith yn mynd rhagddo er mwyn cyflawni’r targedau hwnnw.

 

Cyfeiriwyd at heriau i ddarparu gwasanaethau ar hyd a lled y sir gan nodi bod pellter o’r gwasanaethau yn gallu ysgogi unigolion a’u hanwyliaid i beidio mynychu gwasanaethau.

 

Mewn ymateb i ymholiad, cadarnhaodd Pennaeth Cynorthwyol Gwasanaethau Oedolion y blaenoriaethir cynnal ymgynghoriad ar y gwasanaethau dydd ond nodwyd nad oes amserlen penodol i gynnal yr ymgynghoriad hwn ar hyn o bryd.

 

PENDERFYNWYD

 

1.    Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a gyflwynwyd yn ystod  y drafodaeth.

2.    Datgan pryder nad yw’r ddarpariaeth yn gyson ar draws y Sir a phwysleisio pwysigrwydd rhoi egwyl i ofalwyr di-dâl.

3.    Gofynnwyd am adroddiad pellach am yr adolygiad Polisi Trafnidiaeth ac adolygiad Gofal Dydd er mwyn i’r Aelodau roi mewnbwn amserol.

 

Dogfennau ategol: