Agenda item

I dderbyn sylwadau’r pwyllgor ar y newidiadau arfaethedig cyn mynd allan i ymgynghori a chyflwyno i'r Cabinet.

Penderfyniad:

1.    Cytuno i’r egwyddor o ymchwil pellach i addasu’r polisi codi tâl am ofal.

2.    Gofynnwyd am adroddiad manylach yn cynnwys union ffioedd i’w codi a’r fframwaith codi tâl

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan yr Aelod Cabinet Oedolion, Iechyd a Llesiant, Pennaeth Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant a Rheolwr Prosiect, Tîm Arweinyddiaeth Corfforaethol.

 

Nodwyd mai bwriad yr adroddiad oedd rhoi cyfle i’r Aelodau blaen graffu addasiad i’r polisi cyn cynnal ymgynghoriad cyhoeddus a chyflwyno Adroddiad pellach i’r Cabinet am benderfyniad ffurfiol. Atgoffwyd bod yr Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant yn gorwario ar hyn o bryd ac yn bwriadu gwneud addasiadau i’r polisi hyn er mwyn cychwyn mynd i’r afael a’r heriau ariannol presennol.

 

Eglurwyd y gobeithir cael sylwadau’r Pwyllgor ar dair elfen o’r Polisi Codi Tâl am Ofal. Manylwyd bod y rhain yn cynnwys:

·       Addasu’r polisi i ychwanegu gwasanaethau penodol sydd wedi bod am ddim yn hanesyddol megis Gofal Dydd, Gwasanaeth Cymorth Iechyd Meddwl a Gwasanaethau Cefnogol Dementia.

·       Addasu’r geiriad  sy’n diffinio gofalwyr di-dâl a gwneud y cymal ar ofalwyr di-dâl yn fwy eglur. Pwysleisiwyd nad yw’r Cyngor wedi bod yn codi ffi am ofal uniongyrchol i ofalwyr di-dâl ac argymhellwyd bod y polisi yn parhau i adlewyrchu hynny. Nodwyd yr angen i barhau i gefnogi gofalwyr di-dâl oherwydd ei bod yn lleihau’r baich ar wasanaethau cymdeithasol. Cydnabuwyd bod angen amlygu beth sydd ar gael am ddim i ofalwyr di-dâl ac argymhellwyd i beidio codi tal am unrhyw gefnogaeth sydd yn enw’r gofalydd. Ystyriwyd y dylid codi tâl am unrhyw wasanaeth ble mae elfen o ofal uniongyrchol neu anuniongyrchol i’r unigolyn sy’n derbyn cymorth, yn ddibynnol ar asesiad ariannol.

·       Gweithredu ar ffioedd sydd eisoes o fewn y polisi ond lle nad ydi’r Cyngor wedi bod yn eu codi’n hanesyddol. Rhannwyd enghraifft o daliadau gohiriedig a ddefnyddir ble mae unigolyn yn mynd i gartref preswyl neu nyrsio ond nad ydynt yn gwerthu eu cartref. Eglurwyd bod costau gofal y person yn mynd yn erbyn eu heiddo ac y bydd y Cyngor yn ad-ennill y ffioedd gofal sydd wedi cronni pan fydd eu cartref yn cael ei werthu. Pwysleisiwyd bod y polisi yn caniatáu’r Cyngor i  weithredu’r ffioedd hyn yn ogystal â ffioedd am weinyddu’r taliad a gwaith cyfreithiol.  Cadarnhawyd nad yw’r cyngor yn codi llog ar y ffioedd disgwyliedig.

 

Nodwyd bod gan bob unigolyn yr hawl i gael asesiad am ofal. Manylwyd os yw’r asesiadau yn dangos nad oes ganddynt y modd i dalu, bydd y ffioedd yn cael eu heithrio. Eglurwyd bod uchafswm o £100 yr wythnos am ffioedd gofal wedi cael ei osod am ffioedd gofal i unigolion a phwysleisiwyd na fydd angen i neb dalu mwy na hynny am eu gofal.

 

Yn ystod y drafodaeth, cyflwynwyd y sylwadau a ganlyn:- 

 

Nodwyd ei fod yn anodd gwneud penderfyniadau pendant ar y mater hwn heb dderbyn data manwl am y newidiadau y bwriedir ei wneud i’r polisi.

 

Ystyriwyd a yw’r uchafswm o £100 yn debygol o gynyddu i ddefnyddwyr. Mewn ymateb i’r sylwadau cadarnhaodd yr Aelod Cabinet Oedolion, Iechyd a Llesiant bod ffioedd yn ofynnol am wasanaethau gofal er mwyn sicrhau bod gwasanaethau yn parhau i gael eu darparu i’r dyfodol. Adroddwyd bod Llywodraeth Cymru wedi cynnal ymgynghoriad yn ddiweddar i gynyddu’r uchafswm o £100 i £125. Cadarnhawyd bod Llywodraeth Cymru yn cymeradwyo’r uchafswm newydd a nodwyd bydd Cyngor Gwynedd yn addasu uchafswm bydd unigolion yn talu am ofal i £125 er mwyn bod yn gyfartal â siroedd eraill. Tynnwyd sylw pellach mai dim ond ar gyfer gofal cartref mae’r uchafswm hwn yn weithredol gan fod y broses taliadau gohiriedig yn cael ei ddefnyddio ar gyfer gofal preswyl.

 

Gofynnwyd i’r Adran roi ystyriaeth benodol i godi tal ar unigolion sydd yn derbyn gwasanaethau gofal ar gyfer cyflyrau iechyd meddwl. Pwysleisiwyd pwysigrwydd cynnal y gwasanaethau hyn fel dull ataliol rhag anghenion dwysedd uwch i’r dyfodol a fyddai’n fwy costus. Ystyriwyd byddai ymchwil i sicrhau bod pob unigolyn yn derbyn y budd-daliadau maent yn ei haeddu er mwyn cynorthwyo i dalu am wasanaethau gofal yn werthfawr iawn. Fodd bynnag, derbyniwyd byddai’r unigolion yn parhau i dderbyn y gwasanaethau os nad oes ganddynt fodd i’w ariannu oherwydd hawl pob unigolyn i dderbyn gofal.

 

Diolchwyd am y cyfle i gael rhoi ystyried i’r newidiadau hyn cyn i benderfyniadau ffurfiol cael eu cadarnhau. Gofynnwyd i’r Adran ddychwelyd gydag adroddiad pellach pan yn amserol er mwyn craffu’r polisi ymhellach.

 

PENDERFYNWYD

 

1.    Cytuno i’r egwyddor o ymchwil pellach i addasu’r polisi codi tâl am ofal.

2.    Gofynnwyd am adroddiad mwy manwl yn cynnwys union ffioedd i’w codi a’r fframwaith codi tâl arfaethedig.

 

Dogfennau ategol: