Yn unol â’r Rhybudd
o Gynnig a dderbyniwyd oddi wrthi yn unol
ag Adran 4.19 y Cyfansoddiad,
bydd y Cynghorydd Meryl Roberts yn cynnig fel a ganlyn:-
Mae Cyngor Gwynedd yn gwrthwynebu’n llwyr
toriadau haerllug a chreulon y Llywodraeth yn San Steffan i ddiddymu taliadau
gwresogi cartrefi pensiynwyr Gwynedd y gaeaf hwn. Bydd y toriadau yma yn golygu
bod o leiaf 85%, sef dros 20,000 o bensiynwyr Gwynedd yn colli allan ar y
taliadau tanwydd. I’r perwyl hwn, rydym yn anfon gohebiaeth gre at Keir Starmer, fel prif weinidog y
Deyrnas Gyfunol, yn beirniadu ei bolisi creulon ac yn holi iddo ei wyrdroi.
Penderfyniad:
Mae Cyngor Gwynedd yn gwrthwynebu’n llwyr
doriadau haerllug a chreulon y Llywodraeth yn San Steffan i ddiddymu taliadau gwresogi
cartrefi pensiynwyr Gwynedd y gaeaf hwn. Bydd y toriadau yma yn golygu bod o
leiaf 85%, sef dros 20,000 o bensiynwyr Gwynedd yn colli allan ar y taliadau
tanwydd. I’r perwyl hwn, rydym yn anfon gohebiaeth gre at Keir
Starmer, fel prif weinidog y Deyrnas Gyfunol, yn
beirniadu ei bolisi creulon ac yn holi iddo ei wyrdroi.
Cofnod:
Cyflwynwyd y rhybudd o gynnig a ganlyn gan y
Cynghorydd Meryl Roberts o dan Adran 4.19 y Cyfansoddiad, ac fe’i eiliwyd:-
Mae Cyngor Gwynedd yn gwrthwynebu’n llwyr doriadau haerllug a chreulon y
Llywodraeth yn San Steffan i ddiddymu taliadau gwresogi cartrefi pensiynwyr
Gwynedd y gaeaf hwn. Bydd y toriadau yma
yn golygu bod o leiaf 85%, sef dros 20,000 o bensiynwyr Gwynedd yn colli allan
ar y taliadau tanwydd. I’r perwyl hwn, rydym yn anfon gohebiaeth gre at Keir Starmer, fel prif
weinidog y Deyrnas Gyfunol, yn beirniadu ei bolisi creulon ac yn holi iddo ei
wyrdroi.
Mynegodd sawl
aelod gefnogaeth frwd i’r cynnig. Yn
ystod y drafodaeth, codwyd y materion canlynol:-
Cyfeiriodd Pencampwr Oed Gyfeillgar y Cyngor, y
Cynghorydd Dilwyn Morgan, at y gwaith sy’n mynd rhagddo o fewn y Cyngor i
gefnogi pobl, megis:-
·
Annog pobl sy’n gymwys i dderbyn Credyd
Pensiwn i’w hawlio, a thrwy hynny dderbyn y taliad gwresogi yn awtomatig.
·
Cynorthwyo pobl sydd ar y ffin o gymhwyso
am Gredyd Pensiwn drwy hyrwyddo’r cymhorthdal ychwanegol sydd ar gael iddynt.
·
Bwriedid sefydlu Tasglu Taliadau Gaeaf i
Bensiynwyr trawsadrannol yn fuan iawn gyda’r nod o ddatblygu ymgyrch i sicrhau
bod trigolion y sir yn ymwybodol o, ac yn derbyn yr hyn sy’n haeddiannol
iddynt.
·
Cynnal cyfres o
ddigwyddiadau Byw’n Iach Byw’n Dda.
Cynhelid y cyntaf o’r digwyddiadau hyn yng Nghanolfan Glaslyn,
Porthmadog ar y 7fed o Hydref, lle byddai dros 20 o wahanol asiantaethau yn
bresennol i roi gwybodaeth a chynorthwyo pobl i lenwi ffurflenni cais ayb. Trefnwyd digwyddiad yng Nghaernarfon ar 1
Tachwedd, gyda digwyddiadau pellach i ddilyn yn Ne’r Sir ac ardal Bangor.
·
Gweithio gyda
gwasanaethau’r Llywodraeth a’r Adran Gwaith a Phensiynau i benderfynu ar sut
orau i gyfathrebu ag unigolion.
·
Cynhaliwyd
cyfarfod gyda Rhian Bowen-Davies, Y Comisiynydd Pobl Hŷn, oedd hefyd yn
ategu ei phryder ynglŷn â’r bwriad i ddiddymu’r taliadau gwresogi.
·
Cynhaliwyd sesiwn
ym Mhorthmadog ar gyfer aelodau’r Cyngor i’w cynghori ynglŷn â ble i
gyfeirio pobl sy’n dod atynt am wybodaeth.
Nodwyd mai siomedig oedd y nifer a ddaeth i’r sesiwn, ond bod bwriad i
drefnu sesiwn arall yn fuan.
Nodwyd, yn ôl
ffigurau diweddar, nad oedd 1,977 o bobl Gwynedd yn derbyn y Credyd Pensiwn
sy’n ddyledus iddynt, sef colled i Wynedd o £456,000. Fodd bynnag, ers i’r Llywodraeth wneud eu
datganiad, roedd 20% o’r bobl hynny sy’n gymwys i dderbyn y Credyd Pensiwn
bellach yn ei dderbyn oherwydd bod mudiadau fel Cyngor Gwynedd ac eraill wedi
bod yn annog pobl i’w hawlio. Golygai
hynny y byddai’r arbediad yn sgil diddymu’r taliadau gwresogi yn llai nag oedd
Llywodraeth San Steffan wedi disgwyl.
PENDERFYNWYD
mabwysiadu’r cynnig, sef:-
Mae Cyngor Gwynedd
yn gwrthwynebu’n llwyr doriadau haerllug a chreulon y Llywodraeth yn San
Steffan i ddiddymu taliadau gwresogi cartrefi pensiynwyr Gwynedd y gaeaf
hwn. Bydd y toriadau yma yn golygu bod o
leiaf 85%, sef dros 20,000 o bensiynwyr Gwynedd yn colli allan ar y taliadau
tanwydd. I’r perwyl hwn, rydym yn anfon
gohebiaeth gre at Keir Starmer,
fel prif weinidog y Deyrnas Gyfunol, yn beirniadu ei bolisi creulon ac yn holi
iddo ei wyrdroi.