Cais llawn i drosi stablau presennol
i eiddo preswyl ynghyd a chodi estyniad unllawr
Aelod Lleol: Cynghorydd Jina Gwyrfai
Dolen
i'r dogfennau cefndir perthnasol
Penderfyniad:
PENDERFYNIAD: I ganiatáu’r cais yn ddarostyngedig i:
Amodau
1.
Amser
2.
Cydymffurfio
gyda cynlluniau
3.
Deunyddiau/gorffeniadau
allanol
4.
Cyfyngu
meddiannaeth i menter gwledig
5.
Tynnu
hawliau datblygiadau a ganiateir
6.
Cynllun
draenio tir
7.
Tirlunio
8.
Materion
Bioamrywiaeth
9.
Enw
Cymraeg i’r eiddo
Nodiadau:
Materion draenio Dŵr
Cymru/CNC.
Trwydded rhywogaethau
gwarchodedig
Cofnod:
Cais llawn i drosi stablau presennol i eiddo
preswyl ynghyd a chodi estyniad unllawr
a) Amlygodd y Rheolwr Cynllunio mai cais ydoedd ar
gyfer trosi adeilad allanol presennol ynghyd a’i ymestyn er mwyn creu tŷ
annedd unllawr newydd gyda thair llofft ar gyfer gweithiwr amaethyddol/busnes
twristiaeth. Ategwyd bod y bwriad hefyd yn cynnwys addasu adeilad arall er mwyn
darparu clwydfan ystlumod parhaol.
Eglurwyd
bod y cais yn cael ei gyflwyno i bwyllgor gan fod gan yr ymgeisydd berthynas
teuluol agos gyda Aelod Etholedig o’r Cyngor.
Yng
nghyd-destun egwyddor y bwriad, amlygwyd bod polisi PCYFF 1 yn gofyn am
gyfiawnhad dros ddatblygiadau newydd yng nghefn gwlad ynghyd a pholisi PS17
sy’n esbonio bod angen i geisiadau am dai menter wledig gydymffurfio a Pholisi
Cynllunio Cymru a Nodyn Cyngor Technegol (NCT) 6: Cynllunio ar gyfer Cymunedau
Gwledig Cynaliadwy gyda rhan 4.5 o NCT 6 yn ymwneud gydag ail anheddau ar
ffermydd sefydledig. Nodwyd bod y polisi yn annog pobl iau i reoli busnesau
fferm a hybu arallgyfeirio ar ffermydd sefydledig ac i gefnogi’r amcan polisi
hwn gall fod yn briodol caniatáu ail annedd ar ffermydd sefydledig.
Adroddwyd,
er mwyn gallu asesu’r bwriad yn erbyn gofynion y canllaw, derbyniwyd asesiad
tŷ menter gwledig, cynllun busnes a chopi o gyfrifon y busnes. Mynegwyd
bod yr ymgeisydd yn byw gyda'i wraig a dau o blant mewn tŷ teras oddeutu
milltir a hanner o safle'r cais. Derbyniwyd tystiolaeth yn dangos fod angen
1.95 o weithwyr amaethyddol ar y daliad a bod y mab eisoes gyda phrif
gyfrifoldebau o redeg y ffarm. Ystyriwyd y byddai’r bwriad yn dderbyniol yng
nghyd-destun egwyddor y bwriad a bod trefniadau eisoes mewn lle i’r person
ifancach fod yn rhedeg y busnes.
Cyfeiriwyd
at y’r asesiad a’r manylion a gyflwynwyd gyda’r cais oedd yn datgan bod y
busnes fferm bresennol yn hyfyw; wedi ei sefydlu’n gadarn, yn ariannol gadarn a
bod tebygolrwydd o aros felly. Amlygwyd nad oedd gan y busnes dai neillog ar
gael ac nad oes llety addas yn yr ardal leol ar gyfer yr ymgeisydd o ystyried
ei rôl fel prif weithiwr amaethyddol y daliad. Ystyriwyd hefyd fod maint yr
annedd yn rhesymol o ystyried angen yr ymgeisydd a maint y daliad. O ganlyniad,
roedd yr Awdurdo Cynllunio Lleol yn mynegi’r farn bod egwyddor y datblygiad yn
dderbyniol ac yn unol â pholisi PCYFF 1, PS 17 a’r Nodyn Cyngor Technegol 6.
Yng
nghyd-destun mwynderau gweledol, cyffredinol a phreswyl ynghyd a dyluniad ac
effaith weledol y bwriad, ystyriwyd bod yr addasiadau i’r adeilad yn
sympathetig ac yn addas ar gyfer cyn adeilad ffarm ac na fyddai’n cael effaith
niweidiol ar yr adeilad rhestredig gerllaw. O ystyried lleoliad y ffarm ymysg
adeiladau arall, ni ystyriwyd y bydd yn cael effaith negyddol ar fwynderau
gweledol yr ardal na’r AHNE.
Amlygwyd
bod ystyriaeth lawn wedi ei roi i faterion archeolegol, trafnidiaeth,
ieithyddol a bioamrywiaeth ac ni ddarganfuwyd unrhyw faterion o bwys. Wedi
ystyried yr holl faterion cynllunio perthnasol yn llawn gan gynnwys polisïau a
chanllawiau lleol a chenedlaethol, ystyriwyd fod y bwriad yn dderbyniol ac
argymhellwyd caniatáu gydag amodau.
b) Yn manteisio ar yr hawl i siarad, nododd yr
ymgeisydd y sylwadau canlynol:
· Eu bod eisoes wedi dechrau gweithredu ar y mesurau
lliniaru yn dilyn cwblhau arolwg ystlumod trylwyr
· Nad oedd gwrthwynebiadau wedi ei derbyn
· Nad oedd Swyddogion AHNE yn gwrthwynebu’r bwriad
· Na fydd effaith ar y tirwdd nac i drigolion cyfagos
· Ni fydd yn creu mwy o draffig
· Bod yr addasiad yn rhan o’r busnes teuluol - yn
fuddsoddiad cynaliadwy
· Er rhai pryderom, bod septig tanc eisoes ar yr eiddo
a bod bwriad cysylltu iddo
· Bod cefnogaeth leol i’r cais
c) Yn manteisio ar yr hawl i siarad, nododd yr Aelod
Lleol y sylwadau canlynol:
· Yn diolch am y gwaith paratoi a sylwadau’r
ymgynghoriad
· Yn gefnogol i’r cais – cais gan deulu ifanc lleol i
ddatblygu busnes
· Gofynion y busnes yn gofyn am bresenoldeb 24/7 – yn
golygu bod angen rhywun ar y safle. Gofynion y polisi yn nodi caniatáu mewn
amgylchiadau arbennig – y cais yma yn cwrdd â’r gofyn
· Nad oedd gan yr AHNE achos i wrthod – y cynlluniau
yn addas ac yn parchu a gweddu’r tirlun
· Yn dŷ addas
i deulu o bump – dim yn rhy uchelgeisiol ei faint
· Yn cwrdd â gofynion Deddf Llesiant Cenedlaethau’r
Dyfodol - yn ddatblygiad cynaliadwy yng nghefn gwlad
· Yn ymateb i ofynion Strategaeth Aneddleoedd - yn
fusnes lleol
· Bod hanes cynllunio i’r safle - hyn yn arwydd da bod
y teulu o ddifrif am y busnes ac yn arall gyfeirio
· Bod y gefnogaeth leol yn unfrydol
· Materion bioamrywiaeth – cludfan bwrpasol wedi ei ei
glustnodi ar gyfer ystlumod
· Yn gais syml ar gyfer teulu Cymraeg lleol sydd
eisiau creu bywoliaeth yn eu cynefin
· Yn cyd-fynd â pholisïau lleol a chenedlaethol
· Yn annog y Pwyllgor ganiatáu’r cais
ch) Cynigiwyd
ac eiliwyd caniatáu y cais yn unol â’r argymhelliad. Roedd nifer o’r Aelodau yn
gyfarwydd â’r safle ac ystyriwyd bod y cynllun yn un da
PENDERFYNWYD: Caniatáu’r
cais yn ddarostyngedig i’r amodau canlynol:
1.
Amser
2.
Cydymffurfio
gyda chynlluniau
3.
Deunyddiau/gorffeniadau
allanol
4.
Cyfyngu
meddiannaeth i fenter wledig
5.
Tynnu
hawliau datblygiadau a ganiateir
6.
Cynllun
draenio tir
7.
Tirlunio
8.
Materion
Bioamrywiaeth
9.
Enw
Cymraeg i’r eiddo
Nodiadau:
Materion draenio Dŵr Cymru / CNC.
Trwydded rhywogaethau gwarchodedig
Dogfennau ategol: