I ystyried
cais Mr A
(copi i
aelodau’r is-bwyllgor yn unig)
Penderfyniad:
Cofnod:
Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Amlygodd
y byddai'r penderfyniad yn cael ei
wneud yn unol â Pholisi Trwyddedu Cyngor
Gwynedd. Nodwyd mai pwrpas
y polisi oedd gosod canllawiau ar y meini prawf
wrth ystyried cais yr ymgeisydd gyda’r nod o ddiogelu’r
cyhoedd drwy sicrhau:
• Bod
yr unigolyn yn unigolyn addas a phriodol
• Nad yw'r unigolyn yn
fygythiad i'r cyhoedd
• Bod
y cyhoedd wedi'u diogelu rhag pobl
anonest
• Bod
plant a phobl ifanc wedi'u diogelu
• Bod pobl ddiamddiffyn wedi'u diogelu
• Bod
y cyhoedd yn gallu bod yn
hyderus wrth ddefnyddio cerbydau trwyddedig
Cyflwynodd y Rheolwr Trwyddedu adroddiad
ysgrifenedig ar gais a dderbyniwyd gan Mr A am drwydded gyrru cerbyd hacni/hurio
preifat. Gofynnwyd i’r Is-bwyllgor ystyried y cais yn unol â’r
collfarnau perthnasol
Roedd yr Awdurdod Trwyddedu yn
argymell i’r Is-bwyllgor gymeradwyo’r cais.
Yn unol â threfn y gwrandawiad, rhoddwyd cyfle i’r ymgeisydd
a/neu ei gynrychiolydd ofyn cwestiwn i gynrychiolydd y
Cyngor.
Gofynnwyd pam bod rhaid cynnal gwrandawiad
a pham nad oedd gan yr Adran Amgylchedd hawliau dirprwyedig i gymeradwyo’r cais - roedd cynrychiolydd
yr ymgeisydd yn awgrymu bod costau diangen yma o arian trethdalwyr.
Mewn ymateb, nododd y Rheolwr Trwyddedu bod Cynllun Hawliau Dirprwyedig Gwynedd gyda threfniadau mewn lle, lle bod
pob cais sydd ag unrhyw drosedd yn ymddangos
ar DBS ymgeiswyr yn cael ei
gyflwyno i Is-bwyllgor am benderfyniad. Ategodd, yn unol
â Chyfansoddiad Y Cyngor nad
oedd ganddi hithau na Phennaeth yr Adran Amgylchedd yr hawl i wneud penderfyniad
boed y drosedd yn un hanesyddol neu beidio.
Nododd bod y drefn yn y broses o gael
ei hadolygu a thrafodaethau gyda’r Adran Gyfreithiol yn cael eu cynnal
i ystyried achosion lle caeir dirprwyo
penderfyniad. Bydd unrhyw addasiad i’r Cyfansoddiad yn cael ei
gyflwyno i’r Pwyllgor Trwyddedu ac i’r Cyngor Llawn.
Mewn ymateb i gwestiwn ategol os oedd gan y Rheolwr Trwyddedu hawli i atal neu ddiddymu
trwydded, cadarnhaodd y Rheolwr Trwyddedu bod ganddi hawl i wneud
hynny.
Gwahoddwyd yr ymgeisydd i ymhelaethu
ar y cais gan roi gwybodaeth am gefndir
y collfarnau a’i amgylchiadau personol, er hynny roedd yr ymgeisydd yn awyddus
i’w gynrychiolydd drafod y cai gyda’r
Aelodau. Amlygodd ei gynrychiolydd bod y gollfarn wedi digwydd
pan roedd yn 18 mlwydd oed, 42 mlynedd yn ôl
ac nad oedd
wedi troseddu ers hynny. Ategodd ei fod wedi
bod yn yrrwr
bws plant ysgol ar swydd honno
yn un oedd yn ennyn cyfrifoldeb
ac ymddiriedaeth.
Tynnwyd sylw at baragraff 6.5 o’r Polisi Trwyddedu oedd yn nodi
byddai cais yn cael ei
wrthod hyd nes bydd yr ymgeisydd
yn rhydd o euogfarn am isafswm
o 3 blynedd - pwysleisiodd eto bod cyfnod
o 39 mlynedd wedi mynd heibio yma.
Ategodd bod yr ymgeisydd wedi bod yn ddi-waith
wrth aros am wrandawiad ac
nad oedd y broses yn addas
a phriodol. Gofynnodd i’r Panel ystyried ei gais i newid y broses.
PENDERFYNWYD bod yr ymgeisydd
yn berson addas a phriodol ar gyfer trwydded
gyrrwr cerbyd hacni/hurio preifat
12 mis gyda Chyngor
Gwynedd.
Wrth gyrraedd eu penderfyniad,
roedd yr Is-bwyllgor wedi ystyried y canlynol:
·
Gofynion ‘Polisi Trwyddedu ar gyfer Hurio Preifat
a Cherbydau Hacni Cyngor
Gwynedd’
·
Adroddiad yr Adran Drwyddedu
·
Datganiad DBS
·
Adroddiad Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr
a Cherbydau
·
Ffurflen gais yr ymgeisydd
·
Sylwadau llafar cynrychiolydd
yr ymgeisydd
Rhoddwyd ystyriaeth benodol i’r materion canlynol
Cefndir
Yn Mehefin 1982, cafwyd yr ymgeisydd yn euog o
Ymosodiad gan Achosi Gwir Niwed Corfforol (ABH) yn groes i Ddeddf Troseddau yn
Erbyn y Person 1861 (A.47) a arweiniodd at orchymyn mechnïaeth am ddwy flynedd.
Nid oedd
collfarnau eraill i’w hystyried
CYMALAU PERTHNASOL Y POLISI
Ystyriwyd paragraff 2.2 o Bolisi’r Cyngor lle
nodi’r nad oes rheidrwydd i berson sydd â chollfarn am drosedd ddifrifol gael
ei wahardd rhag cael trwydded, ond bydd disgwyl iddo fod yn rhydd rhag unrhyw
gollfarnau am gyfnod priodol fel y nodir yn y Polisi, a dangos tystiolaeth ei
fod yn unigolyn addas a phriodol i ddal trwydded. Mae cyfrifoldeb ar yr
ymgeisydd i brofi ei fod yn berson addas a phriodol. Mae paragraff 2.4 yn nodi
pan fydd ymgeisydd wedi'i gael yn euog o drosedd(au)
neu fod mater arall/materion eraill i'w (h)ystyried yng nghyswllt hynny, ni
chaiff y Cyngor adolygu rhinweddau'r gollfarn honno na'r mater arall hwnnw.
Ystyriwyd paragraff 4.5 sydd yn nodi bod Gorchymyn
Deddf Ailsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) (Diwygio) 2002 yn caniatáu’r
Is-bwyllgor ystyried pob collfarn, p’run ai ydynt wedi eu treulio o dan Ddeddf
1974 neu beidio.
Mae paragraff 6.0 o’r Polisi yn cyfarch troseddau o
drais. Ym mharagraff 6.1 nodir, gan fod gyrwyr trwyddedig yn dod i gysylltiad
agos gyda'r cyhoedd yn rheolaidd y byddai is-bwyllgor yn mabwysiadu safbwynt
cadarn at y rhai hynny sydd â throseddau yn ymwneud a thrais.
Mae paragraff 6.5 o’r Polisi yn nodi y bydd cais am
drwydded fel rheol yn cael ei wrthod os oes gan yr ymgeisydd fater i’w ystyried
am ymosodiad cyffredin a/neu ddifrod troseddol a /neu drosedd o dan Ddeddf
Trefn Gyhoeddus 1986 sydd yn llai na 3 blynedd cyn dyddiad y cais.
CASGLIADAU
Ystyriwyd darpariaethau’r Polisi, esboniad
yr ymgeisydd o’i amgylchiadau, ac argymhelliad y Rheolwr Trwyddedu I ganiatáu’r cais. Roedd yr Aelodau o’r farn bod y gollfarn, yn bodloni
meini prawf y polisi.
Fe ystyriodd
yr Is-bwyllgor y ffaith fod 42 mlynedd wedi mynd heibio
ers y drosedd ac nad oedd unrhyw
dystiolaeth o unrhyw gollfarn neu fater perthnasol arall ers hynny. Ystyriwyd
esboniad yr ymgeisydd am ddigwyddiad 1982 (pan oedd yn 18 mlwydd oed)
a’r ffaith iddo syrthio ar
ei fai a phledio yn euog.
Nodwyd hefyd ei fod wedi
bod yn gyflogedig dros y blynyddoedd, gyda'r 10 mlynedd diwethaf yn gyrru
bws ysgol ac yn ei hanfod
yn swydd o ymddiriedaeth.
Mewn ymateb i gwestiwn am drefniadau trwydded bws, nodwyd
y byddai trefniant gwirio addasrwydd gyrrwr hefyd yn
berthnasol i’r swydd gyrrwr bws
o dan broses wahanol i
broses trwydded gyrrwr tacsi
Penderfynodd yr Is-bwyllgor o blaid caniatáu y cais
a bod yr ymgeisydd yn berson addas a phriodol i ddal trwydded gyrrwr cerbyd hacni a hurio preifat.
Adroddodd y Cyfreithiwr y byddai’r
penderfyniad yn cael ei gadarnhau
yn ffurfiol drwy lythyr i’r
ymgeisydd ac y byddai sylwadau Cynrychiolydd yr Ymgeisydd am y drefn gwrandawiadau
yn cael eu hystyried.