Cyflwyno adroddiad
yr Aelod Cabinet Cefnogaeth Gorfforaethol.
Penderfyniad:
I beidio mabwysiadu sustem
pleidlais sengl drosglwyddiadwy ar gyfer etholiadau Cyngor Gwynedd o hyn ymlaen
yn unol ag Adran 8 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021.
Cofnod:
Cyflwynwyd – adroddiad yr Aelod Cabinet Gwasanaethau Corfforaethol a
Chyfreithiol yn nodi bod Adran 8 Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru)
2021 yn caniatáu i unrhyw brif gyngor ddewis rhwng Sustem Mwyafrif Syml
(“cyntaf heibio’r postyn”) neu Sustem Pleidlais Sengl
Drosglwyddadwy (“PSD”) ar gyfer prif gynghorau, ac yn gwahodd y Cyngor i
ystyried y cwestiwn statudol a ganlyn yn dilyn cynnal ymgynghoriad ar newid y
drefn bleidleisio:-
Yn
unol ag Adran 8 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 fod y
Cyngor yn penderfynu mabwysiadu sustem pleidlais sengl drosglwyddadwy ar gyfer
etholiadau Cyngor Gwynedd o hyn ymlaen.
Wrth gyflwyno’r adroddiad, nododd yr Aelod
Cabinet:-
·
Yn ôl gofynion y Ddeddf, y galwyd y cyfarfod hwn i drafod y penderfyniad
yma yn unig.
·
Y cynhaliwyd yr ymgynghoriad rhwng 15 Gorffennaf ac 15 Medi eleni.
·
Yn unol â phenderfyniad y Cyngor, yr ymgynghorwyd ag etholwyr
llywodraeth leol Gwynedd a chynghorau tref a chymuned, sef y gofyn statudol, a
bod dadansoddiad o ganlyniadau’r ymgynghoriad i’w gael yn Atodiad 1 i’r
adroddiad.
·
Y cynhaliwyd proses ymgynghori eang gan ddefnyddio gwefan y Cyngor, y
wasg a llyfrgelloedd y sir. Yn ogystal,
anfonwyd yn uniongyrchol at bob cyngor tref a chymuned yng Ngwynedd.
·
Bod yr ymgynghoriad wedi derbyn sylw eang yn y wasg ac ar y cyfryngau
cymdeithasol.
·
Y cymerwyd camau dros gyfnod yr ymgynghoriad i ail-wthio’r wybodaeth.
·
Mai amcan ymgynghoriad yw ceisio barn ar fwriad, ac nid cynnal
refferendwm ar y cwestiwn, a bod canlyniad ymgynghoriad yn cyfrannu at yr
ystyriaethau, yn hytrach na dyfarnu ar y cyfeiriad.
·
Ei bod yn ofynnol i benderfyniad y Cyngor, beth bynnag y bo, fod yn
seiliedig ar ystod o ystyriaethau, gan gynnwys cloriannu canlyniadau’r
ymgynghoriad.
·
Petai’r aelodau yn pleidleisio o blaid symud i Sustem PSD, byddai’n
gyfle hanesyddol i Gyngor Gwynedd arwain Cymru wrth ymuno â’r Alban, Gogledd
Iwerddon a Gweriniaeth Iwerddon yn eu defnydd o’r sustem, yn hytrach nag aros
gyda Lloegr ar y Sustem Cyntaf Heibio’r Postyn.
·
Bod pob pleidlais yn bwysig ac y dylai pob llais gael ei glywed.
·
Yn yr etholiad diwethaf, bod 28 o’r 69 sedd ar Gyngor
Gwynedd yn ddiwrthwynebiad, ac ers cyflwyno Sustem PSD yn yr Alban yn 2017,
roedd yna lai o seddi diwrthwynebiad yng nghyfanswm pob etholiad nag a fu mewn
un etholiad yng Ngwynedd yn unig yn 2022.
·
Bod Cyngor Gwynedd yn aml yn arwain y ffordd o ran cyflwyno polisïau
sy’n torri tir newydd, felly pam nid hwn?
·
Bod y Sustem PSD yn safon aur ar gyfer sustemau etholiadol a chredid mai
dyma’r peth iawn i’w wneud i bleidleiswyr, i’r Cyngor a dros ddemocratiaeth yng
Ngwynedd. Gan hynny, cynigid bod y
Cyngor yn pleidleisio o blaid cyflwyno Sustem PSD ar gyfer etholiadau Cyngor
Gwynedd.
·
Petai’r Cyngor yn penderfynu mabwysiadu Sustem PSD, byddai hynny’n
arwain at gyfarwyddyd gan y Gweinidog i Gomisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru
gynnal adolygiad o’r trefniadau etholiadol ar gyfer Cyngor Gwynedd.
·
Mai amcan y broses fyddai creu wardiau newydd o rhwng 3-6 aelod, sy’n
ofynnol er gweithredu’r sustem.
·
Y byddai’r Comisiwn, yn unol â’r cyfarwyddyd a dderbynnid, yn cynnal
proses sy’n ymdebygu i’r adolygiad etholiadau blaenorol yn 2017 – 2021. Yn ôl Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau
(Cymru) 2021, byddai’n rhaid i’r Comisiwn, drwy broses ymgynghorol, ddatblygu
model yn unol â’r gofynion. Ar ganlyniad
y broses, byddai’r Gweinidog yn cyhoeddi gorchymyn yn newid trefniadau
etholiadol Gwynedd.
Amlygodd y Swyddog Monitro rai pwyntiau ychwanegol o ran y drefn, sef:-
·
Bod y cyfarfod hwn wedi’i alw yn unol â’r drefn statudol
sy’n rhaid ei dilyn o ran rhoi rhybudd o’r cyfarfod, ayb.
·
Y bu’n rhaid oedi’r broses ymgynghori oherwydd
Etholiad Cyffredinol y DU ym mis Gorffennaf.
·
Yn unol â’r drefn statudol, y gofynnwyd i ymatebwyr
yr ymgynghoriad ddarparu gwybodaeth er mwyn gallu gwirio eu bod ar y gofrestr
etholiadol bresennol ar gyfer llywodraeth leol.
·
Nad oedd yr adroddiad yn cynnwys unrhyw argymhelliad
na phenderfyniad a geisir gan mai ond un cwestiwn statudol oedd yna ar gyfer y
bleidlais. Hefyd, oherwydd yr angen i
ddwy ran o dair o nifer y seddau ar y Cyngor bleidleisio o blaid, dim ond un
cwestiwn statudol oedd gerbron, a gofynnid i’r aelodau bleidleisio ar y
cwestiwn hwnnw.
·
Petai’r Cyngor yn mabwysiadu Sustem PSD, ni fyddai’n
bosib’ ail-ymweld â’r penderfyniad am ddau gylch etholiadol.
Cynigiwyd y cwestiwn statudol gan yr Aelod Cabinet ac fe’i eiliwyd.
Rhoddwyd cyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau a chynnig sylwadau.
Ar fater o drefn y cyfarfod, holwyd a oedd aelodau Grŵp Plaid Cymru
wedi derbyn cyfarwyddyd yn lleol neu’n genedlaethol ar sut i bleidleisio ar y
mater. Mewn ymateb, eglurwyd na ellid
gofyn cwestiwn i rywun arall yn ystod trafodaeth, ond bod modd i aelod o’r
grŵp gymryd y cyfle i ateb y cwestiwn wrth siarad yn nes ymlaen.
Yna codwyd y cwestiynau canlynol ynglŷn â’r adroddiad:-
·
A oedd y swyddogion yn hapus gyda’r ymateb i’r
ymgynghoriad o ystyried ei fod yn anghynrychioliadol
o boblogaeth y sir gyda 29% yn unig o’r ymatebwyr yn siarad Cymraeg a 38% yn
disgrifio’u hunain fel Cymry?
·
O ddarllen sylwadau’r cynghorau tref a chymuned yn
fanwl, a oedd yn wir i ddweud bod rhai o’r sylwadau a nodwyd fel rhai o blaid
cyflwyno Sustem PSD yn bwrw amheuaeth ynglŷn â’r drefn mewn gwirionedd
drwy fynegi pryder ynglŷn â chynyddu maint wardiau?
·
Sut bod modd cysoni’r ffaith bod yr Asesiad Effaith
Ieithyddol yn nodi nad oedd yr ymgynghoriad wedi adnabod unrhyw ardrawiadau
negyddol, ond bod sylwadau Cyngor Cymuned Llannor yn cyfeirio at effaith
andwyol bosib’ ar y Gymraeg?
Mewn ymateb, nododd y Swyddog Monitro:-
·
Nad
lle’r swyddogion oedd rhoi barn ar briodoldeb lefel yr ymateb i’r ymgynghoriad,
ond ei fod ymhlith yr uchaf a gafwyd i ymgynghoriadau’r Cyngor dros y flwyddyn
ddiwethaf ac yn adlewyrchu’r lefel ymateb a geir yn gyffredinol i
ymgynghoriadau o’r math yma.
·
Bod yr holl wybodaeth a gasglwyd wedi’i gynnwys yn y
papurau er mwyn i’r aelodau ddod i’w casgliadau eu hunain ar y canlyniadau a’r
safbwyntiau a gyflwynwyd.
·
O ran yr Asesiad Effaith Cydraddoldeb, bod rhaid
asesu yn y diwedd beth yw trwch helaeth yr ymateb a’r ardrawiad, a rhan o’r
wybodaeth yn unig oedd yr ymgynghoriad.
Canfyddiad yr asesiad oedd bod yr effaith yn niwtral ar yr iaith Gymraeg
a nodweddion eraill, ac roedd hynny’n seiliedig ar y dystiolaeth
gyfansawdd. Gan hynny, credid bod yr
asesiad yn gywir ac yn gytbwys o ran yr ymatebion.
Yn ystod y drafodaeth ddilynol, cyflwynwyd nifer o sylwadau o blaid ac yn
erbyn mabwysiadu Sustem PSD ar gyfer etholiadau Cyngor Gwynedd. Wrth gyflwyno ei sylwadau, cadarnhaodd Cadeirydd
Grŵp Plaid Cymru, er mai polisi cenedlaethol Plaid Cymru yw i gefnogi
Sustem PSD ar bob lefel, nad oedd y Grŵp wedi derbyn unrhyw chwip na
chyfarwyddyd o’r canol ar sut i bleidleisio, a bod rhai o aelodau’r Grŵp
yn bwriadu pleidleisio o blaid Sustem PSD, ac eraill yn erbyn.
Roedd y rhesymau dros gefnogi Sustem PSD yn cynnwys :-
·
Bod Sustem PSD yn cynhyrchu canlyniadau sy’n fwy
cynrychioliadol o’r ffordd mae pobl yn pleidleisio.
·
Bod y Sustem Mwyafrif Syml yn creu mwyafrifoedd
allan o leiafrifoedd a’i bod yn deg cael sustem sy’n adlewyrchu’r gyfran o’r
bleidlais.
·
Bod
yr holl bartïon gwleidyddol ar draws y DU yn cael anhawster dod o hyd i
ymgeiswyr, a bod y Sustem PSD yn un ffordd o wneud hynn. Trwy ddefnyddio’r ymgeiswyr hynny gellid
sicrhau bod mwy o bobl yn cael y cyfle i bleidleisio drostynt.
·
Bod y drefn bresennol wedi torri a bod pobl yn
cwestiynu pa fandad sydd gan gynghorwyr sydd wedi dod ar y Cyngor yn
ddiwrthwynebiad.
·
Bod
y Sustem PSD yn adlewyrchu dymuniadau’r etholwyr yn well.
·
Ei bod yn ymddangos bod sustem wardiau aml-aelod yn
gweithio’n iawn yng Nghyngor Sir Ynys Môn ac roedd y drefn yn boblogaidd hefyd
yn yr Alban a Gogledd Iwerddon gan fod modd i etholwyr gysylltu â mwy nag un
cynghorydd i gael datrysiad i broblem.
·
Nad oedd creu wardiau aml-aelod yn golygu colli’r
cyswllt lleol gan y byddai’r cynghorwyr yn dal yn adnabyddus yn yr ardal, a
golygai rhannu sedd rannu’r baich yn ogystal.
·
Nad oedd y drefn bresennol yn gyfrannol nac yn
deg. Er enghraifft, yn yr Etholiad
Cyffredinol diwethaf, enillodd Llafur 80% o’r seddi yng Nghymru gydag ychydig
dros draean o’r pleidleisiau yn unig.
·
Bod y drefn bresennol yn wastraffus gyda
phleidleisiau’r mwyafrif o bobl yn arwain at ethol neb. Er enghraifft, yn yr Etholiad Cyffredinol
diwethaf roedd 18,500 o etholwyr Meirion Dwyfor wedi mynd allan i bleidleisio
ac wedi ethol neb. I’r gwrthwyneb, roedd
pob pleidlais yn cyfri’ gyda Sustem PSD.
·
Bod y Sustem PSD yn grymuso’r etholwr ar draul
pleidiau gwleidyddol gan ei bod yn caniatáu i bobl bleidleisio dros unigolion
yn ogystal â phlaid. Gan hynny, roedd yn
iachach i drefn ddemocrataidd yn y pen draw gan nad yw’n rhoi gormod o’r grym
yn nwylo pleidiau.
·
Y byddai Sustem PSD yn arwain at wleidyddiaeth fwy
caredig gan fod pobl yn gorfod chwilio, nid yn unig am bleidleisiau cyntaf
iddyn nhw eu hunain, ond 2il, 3ydd a 4ydd pleidlais i bobl eraill. Hefyd, byddai yna lai o demtasiwn i bobl ladd
ar ei gilydd, yn enwedig felly yng nghyfnod etholiad.
·
Bod y Cyngor hwn wedi’i ddisgrifio’n ddiweddar fel
un o gynghorau mwyaf blaengar Cymru oherwydd materion fel y Premiwm Treth
Cyngor ac Erthygl 4, a dymunid gweld Gwynedd yn parhau i arwain Cymru fel
cyngor blaengar arweiniol drwy fabwysiadu Sustem PSD.
·
Mai un o nodweddion amlycaf Sustem PSD yw ei fod yn
annog cynghorwyr i weithio’n galed oherwydd eu bod yn cystadlu yn erbyn
cynghorwyr o’r un pleidiau.
·
Ei
bod yn fater o dristwch bod cyn lleied o bobl, yn enwedig pobl ifanc, yn
ymwneud yn llawn â’r broses ddemocrataidd, ac er na fyddai cyflwyno Sustem PSD
yn datrys yr holl rwystredigaethau, gallai fynd gryn dipyn o’r ffordd tuag at
fod yn fwy cynhwysol a theg gan wneud i bobl deimlo bod eu pleidlais yn cyfri.
·
Y byddai Sustem PSD yn annog gwell dewis, gwell
amrywiaeth ac yn rhoi gwell ymdeimlad o gynrychiolaeth i bobl y sir.
·
Y deellir bod yna bryderon y gallai Sustem PSD roi
troedle i bleidiau asgell dde eithafol, ond rhwystredigaeth wleidyddol sy’n
rhannol gyfrifol am yrru pobl i’r cyfeiriad hwnnw. Tybir y byddai pleidiau a grwpiau ymgyrch yr
asgell dde o bosib’ yn llai atyniadol os yw pobl yn teimlo eu bod wedi’u
cynnwys a’u clywed gan y sustem etholiadol.
Nodwyd hefyd nad oes yr un aelod asgell dde eithafol wedi’i benodi yn yr
Alban dan y drefn PSD.
·
Bod yr aelodau hynny sy’n cynrychioli Dinas Bangor
ar y Cyngor hwn eisoes yn cydweithio a rhannu arbenigeddau ar draws ffiniau
wardiau, a hefyd ym Mangor yn ehangach oherwydd natur y ddinas.
·
Nad oes angen poeni’n ormodol am y newidiadau i’r
ffiniau yn sgil mabwysiadu Sustem PSD gan y bydd cyfle i’r Cyngor drafod yr
opsiynau sy’n cael eu cynnig gyda Chomisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru.
·
O ran pwysau gwaith, na fyddai disgwyl i gynghorwyr
fod ar bob cyngor cymuned o fewn y ward dan drefn PSD.
·
Nad
oes angen poeni am gymhlethdod y Sustem PSD o ran yr etholwyr, ac er bod yna
gymhlethdodau yn y cyfri’, byddai yna bobl broffesiynol yn gwneud y gwaith.
·
Er y derbynnir bod aelodau yn adnabod eu hardal, nid
drwg o beth yw iddynt ddod i adnabod ardal fwy eang.
·
Na fyddai cynghorwyr ar eu pennau eu hunain mewn
wardiau mawr gan y byddai’n rhaid iddynt weithio gyda phobl eraill. Credir mai da o beth fyddai hynny o ran dod i
ddeall a gwerthfawrogi safbwyntiau pobl eraill.
·
Bod y drefn bresennol yn methu rhoi dewis digonol i
bobl Gwynedd ac yn methu denu pobl allan i bleidleisio.
·
Bod y Sustem PSD yn llwyddo i ddenu mwy o bobl
ifanc, mwy o ferched a mwy o bobl sy’n adlewyrchu cymdeithas yn well i mewn i
wleidyddiaeth.
Roedd y rhesymau dros wrthwynebu Sustem PSD yn cynnwys:-
·
Bod peryg’ i’r wardiau mawr fyddai’n cael eu creu
dan Sustem PSD wanhau’r berthynas rhwng cynghorwyr sir a’r cymunedau maent yn
eu cynrychioli.
·
Bod rhai cynghorwyr eisoes ar 3 cyngor cymuned
ynghyd â chyrff llywodraethol ysgolion, a byddai’r gofynion hynny yn cynyddu
petai’r wardiau yn cael eu hymestyn.
·
Bod Sustem PSD yn gweddu’n well i wleidyddiaeth
genedlaethol na gwleidyddiaeth leol.
·
Bod y Sustem Mwyafrif Syml yn drefn lle mae’r
ffiniau yn gwbl hysbys, yn drefn lle mae cynghorwyr yn byw ac wedi’u magu
ymhlith eu hetholwyr a gydag adnabyddiaeth a dealltwriaeth dda o’u hardal ac yn
drefn lle mae cynghorwyr yn cynrychioli ardal sydd â’i ffiniau nid nepell o’u
cartrefi.
·
Bod y drefn bresennol o ethol yn gwbl eglur ac mae’n
hawdd casglu pwy sydd wedi ennill. I’r
gwrthwyneb, mae’r Sustem PSD yn broses ddrud ac aneglur sy’n cymryd tua
deuddydd i gyfri’r pleidleisiau ac yn gallu costio tua £16,000.
·
Nad oedd yn wir i ddweud y bydd pob pleidlais yn
cyfri’ dan Sustem PSD gan y bydd yna bobl yn colli, a’r un nifer o gynghorwyr
fydd yn cael eu hethol yn y pen draw.
·
Bod myth bod Sustem PSD yn mynd i ennyn cydweithio
ond credir mai’r realiti fydd diffyg atebolrwydd, pobl yn cynrychioli ardaloedd
rhy fawr a neb yn ymdrin â materion neilltuol lleol.
·
Bod
sôn y byddai Sustem PSD yn fwy cynhwysol, ond yn sicr mae’n drefn sy’n mynd i
ffafrio partïon gwleidyddol a’u tactegau.
·
Y
byddai Sustem PSD yn arwain at golli’r cyswllt personol gyda’r cynghorydd
lleol, gan mai cynghorwyr rhanbarthol fydd yna bellach. Hefyd, byddai yna golli cyfrifoldeb o
faterion lleol, colli dirnadaeth ar faterion lleol ac adnabyddiaeth o’r ardal.
·
Yn
naturiol, bydd wardiau 3-6 aelod hefyd 3-6 gwaith yn fwy o ran maint, ac ni all
unrhyw un wneud cyfiawnder â ward mor enfawr ac anhylaw a chynrychioli’r holl
etholwyr o fewn y ward honno. Bydd
felly’n fater o ddewis a dethol a rhannu dyletswyddau, sy’n mynd i fod yn
anodd, yn drwsgl, yn llafurus ac yn aneffeithiol. Hefyd, po fwyaf yw maint y wardiau, anoddaf y
bydd i ganfasio ar adeg etholiad.
·
Y byddai Sustem PSD yn golygu colli sofraniaeth
ardal fechan gyda neb bellach yn cynrychioli ardal cwbl wledig. Byddai hefyd yn golygu colli ardaloedd
hanesyddol a’u ffiniau.
·
Y byddai wardiau mwy yn golygu bod mwyafrif yr
etholwyr yn drefol a byddai’n anodd i’r cynghorydd gynrychioli’r ddwy garfan yn
ei ward, sef pobl cefn gwlad a phobl y dref.
·
Gan
fod ffiniau wardiau o dan y Sustem PSD yn anhysbys ar hyn o bryd, disgwylir i’r
Cyngor bleidleisio’n ddall ar y mater.
·
Mai Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru
fyddai’n penderfynu ar ffiniau’r wardiau newydd dan Sustem PSD, sef yr union
bobl sydd wedi argymell creu etholaeth newydd ar gyfer Senedd Cymru fyddai’n
ymestyn o Aberdaron yr holl ffordd i’r ffin â Lloegr. Credir bod hynny’n gwbl anaddas ac
anghydnaws.
·
Ni chredir bod y sustem wedi torri. Yn hytrach, difaterwch sy’n rhwystro pobl
rhag mynd i bleidleisio oherwydd eu bod wedi’u siomi gymaint dros y blynyddoedd
gydag addewidion gwag gwleidyddion, ac nid oedd symud i Sustem PSD yn mynd i
newid hynny.
·
O ran y drefn rhestrau caeedig, bod peryg’ i bobl
o’r tu allan i’r gymuned gael eu hethol i seddau diogel, gan mai pleidiau, ac
nid etholwyr, sy’n cael penderfynu pwy fydd yn eu cynrychioli.
·
Mai
rôl cynghorydd lleol yw bod yn llais lleol dros ei gymuned ac nid bod yn rhan o
gonsortiwm sy’n gwasanaethu rhanbarth cyfan.
Golyga trefn o’r fath golli atebolrwydd.
·
Er
yr honnir na fyddai neb yn cael ei ethol yn ddiwrthwynebiad dan Sustem PSD, nid
oes yna unrhyw sicrwydd y bydd mwy o bobl yn sefyll etholiad mewn wardiau 3-6
aelod.
·
Ni chredir y byddai Sustem PSD yn arwain at
wleidyddiaeth fwy caredig, ond yn hytrach i’r gwrthwyneb i hynny.
·
Bod 61% o’r cynghorau tref a chymuned a ymatebodd
i’r ymgynghoriad wedi ymateb yn gryf yn erbyn unrhyw newid i’r drefn. Gan fod y cynghorau tref a chymuned hynny
wedi’u hethol drwy gyfundrefn ddemocrataidd, hwy sy’n gynrychioliadol o
boblogaeth y sir. I’r gwrthwyneb, roedd
72% o’r unigolion a ymatebodd o blaid newid y drefn, ond credir bod cynghorau
tref a chymuned yn dipyn trymach yn y glorian.
·
Y byddai newid i Sustem PSD a chynyddu maint y
wardiau yn cymylu’r berthynas rhwng poblogaeth ein hardaloedd a’r sawl sy’n
cynrychioli’r boblogaeth honno gan arwain at bellter, dieithrwch, anghynefindra
a diffyg gwybodaeth ymysg cynrychiolwyr a phoblogaeth yr ardaloedd maent yn eu
cynrychioli. Byddai’r drefn hefyd yn
siŵr o arwain at fwy o ddifrawder a llai o ddiddordeb oherwydd teneuo’r
cyswllt rhwng etholiadau lleol ac ardaloedd lleol.
·
Y
byddai Sustem PSD yn ffafrio pleidiau ariannog a threfnedig. Yn achos Gwynedd, er y byddai’n siŵr o
ffafrio Plaid Cymru, byddai hefyd yn ffafrio pleidiau eraill, gan gynnwys
pleidiau asgell dde eithafol.
Ar nodyn mwy cyffredinol:-
·
Mynegwyd cryn anfodlonrwydd bod Llywodraeth Cymru yn
gofyn i gynghorau unigol benderfynu ar eu trefn bleidleisio eu hunain, yn
hytrach na bod cyfarwyddyd ar sut i weithredu yn dod o’r canol.
·
Awgrymwyd bod yr ymateb i’r ymgynghoriad yn dangos
nad sustem bleidleisio sydd flaenaf ym meddyliau pobl y sir ar adeg o gyni
ariannol a thoriadau.
Pleidleisiwyd ar y cynnig, sef:-
Yn
unol ag Adran 8 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 fod y
Cyngor yn penderfynu mabwysiadu sustem pleidlais sengl drosglwyddadwy ar gyfer
etholiadau Cyngor Gwynedd o hyn ymlaen.
Nododd y Cadeirydd fod 45 aelod wedi pleidleisio o blaid, 1 wedi atal a
22 yn erbyn.
(Er
mwyn mabwysiadu sustem pleidlais sengl drosglwyddadwy roedd yn ofynnol i nifer
yr aelodau o blaid fod o leiaf dwy ran o dair o nifer y seddi ar y Cyngor, sef
46 allan o 69. Gan na chyrhaeddwyd y
trothwy o 46, ni fydd y drefn yn newid ar gyfer etholiadau 2027 ac ni fydd
adolygiad Trefniadau Etholiadol yn cychwyn.)
PENDERFYNWYD
peidio mabwysiadu sustem pleidlais sengl drosglwyddadwy ar gyfer etholiadau
Cyngor Gwynedd o hyn ymlaen yn unol ag Adran 8 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac
Etholiadau (Cymru) 2021.
Dogfennau ategol: