Agenda item

Aelod Cabinet – Y Cynghorydd Beca Brown

 

Ystyried adroddiad ar yr uchod.

 

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD

 

  1. Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau.
  2. Gofyn am ddiweddariad i’r Pwyllgor ar gynnydd yn y dyfodol.

 

Cofnod:

Croesawyd y Pennaeth Addysg a’r swyddogion i’r cyfarfod.

 

Cyflwynwyd – adroddiad yn manylu ar gynnydd yr Adran Addysg mewn ymateb i argymhellion Adroddiad Estyn ar wasanaethau addysg yng Nghyngor Gwynedd (Mehefin 2023) mewn perthynas â phresenoldeb ac ymddygiad disgyblion yn ysgolion y sir.

 

Rhoddodd y Pennaeth Addysg grynodeb byr o gynnwys yr adroddiad gan nodi y bwriedid adrodd i’r pwyllgor ymhellach ymlaen ar gynnydd mewn ymateb i drydydd argymhelliad Estyn mewn perthynas â symud ymlaen ar flaenoriaethau strategol yr Adran.

 

Rhoddwyd cyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau a chynnig sylwadau. 

 

Gan gyfeirio at baragraff 4.3 o’r adroddiad, holwyd a oedd Grant Presenoldeb Llywodraeth Cymru i dargedu gwella presenoldeb unigolion penodol o fewn ysgolion yn debygol o barhau.  Mewn ymateb, nodwyd:-

·       O safbwynt grantiau Llywodraeth Cymru, na roddid sicrwydd ymhellach na blwyddyn ar y tro.  Fodd bynnag, gan fod y trafodaethau’n genedlaethol gyda’r Llywodraeth yn amlygu bod hon yn broblem genedlaethol a’i bod yn flaenoriaeth genedlaethol i gael plant i’r ysgol, roedd yn annhebygol iawn y byddai’r grant yma’n dirwyn i ben ymhen blwyddyn.

·       Er hynny, roedd yn ofynnol i’r Adran baratoi ar gyfer y posibilrwydd y gallai’r grant ddod i ben, ac roedd y prif drafodaethau ynghylch hynny yn canolbwyntio ar gapasiti’r tîm a sut mae ysgolion yn ymateb i ddiffyg presenoldeb.

·       Nad oedd modd cyfarch diffyg presenoldeb ar y raddfa bresennol gyda thîm o 10 o swyddogion lles, a byddai’n rhaid i bawb weithio fel un i egluro wrth yr ysgolion beth yw eu dyletswyddau fel bod modd wedyn i’r Tîm Llesiant weithio gyda charfan benodol o blant sydd â’u presenoldeb islaw hicyn penodol.

 

Holwyd beth oedd y prif reswm dros y lefelau presenoldeb isel yn yr ysgolion.  Mewn ymateb, nodwyd:-

·       Mai salwch oedd yn cael ei adrodd yn bennaf gan ysgolion.  Yn dilyn y cyfnod clo, roedd tueddiad gan rieni i gadw plant adref o’r ysgol gyda mân anhwylderau megis annwyd neu gur pen, ac roedd yn anodd iawn i’r Awdurdod a’r ysgolion herio hynny.

·       Yr adolygwyd y polisi fel bod modd amlygu’r camau y gall ysgolion eu cymryd i ymateb i salwch, yn enwedig yng nghyswllt absenoldebau parhaus, estynedig neu reolaidd, a thrwy’r drefn monitro, gellid adnabod patrymau a gyrru swyddog lles i mewn i drafod gyda’r rhieni petai angen.

 

Awgrymwyd y byddai’n fuddiol petai yna ganllawiau ar gael i gynorthwyo rhieni i ddod i benderfyniad ynglŷn â phryd i gadw plant adref a phryd i’w gyrru i’r ysgol.  Mewn ymateb, nodwyd:-

·       Bod meddylfryd rhieni o ran pryd i gadw plant adref o’r ysgol wedi newid ers Cofid, a bod yna fwy o ymwybyddiaeth bellach o’r posibilrwydd o ledaenu heintiau.

·       Bod mwy o bobl yn gweithio o gartref ers Cofid a’i bod yn haws felly i rai rhieni gadw eu plant adref o’r ysgol.

·       Ar ddiwedd y dydd, bod hyn yn benderfyniad i’r rhieni ei wneud, ond gallai’r Awdurdod gefnogi’r ysgolion o ran y negeseuon a roddir i rieni i fynd ar ôl hynny.

 

Nodwyd bod nifer y gwaharddiadau yn Arfon yn sylweddol uwch nag yn y rhannau eraill o’r sir a holwyd a oedd hynny’n batrwm cyffredinol, neu a oedd yna nifer fechan o ysgolion yn Arfon yn gwthio’r ffigwr i fyny?  Nodwyd y byddai’n fuddiol gweld y data fesul ysgol er mwyn gweld beth sydd y tu cefn i hyn.  Mewn ymateb, nodwyd:-

·       Bod poblogaeth Arfon yn llawer uwch na Meirionnydd a Dwyfor gyda’i gilydd ac edrychid ar y canran fesul mil o ddisgyblion.

·       Bod yr Awdurdod yn tracio 5 ysgol, 4 yn Arfon ac un ym Meirionnydd.

 

Gan gyfeirio at sylw yn gynharach yn y drafodaeth bod meddylfryd rhieni tuag at yrru plant i’r ysgol wedi newid ers Cofid, holwyd a oedd hynny’n wir o fewn yr ysgol hefyd.  Mewn ymateb, nodwyd:-

·       Yn sicr bod yna nerfusrwydd ymysg staff yr ysgolion, nad oedd o bosib’ yn bodoli cynt, o ran yr effaith y gall plentyn sâl ei gael arnyn nhw ac ar weddill cymuned yr ysgol.

·       Er hynny, bod presenoldeb yn ôl ar frig rhestr blaenoriaethau ysgolion unigol erbyn hyn, gyda’r ysgolion hynny yn dathlu presenoldeb uchel ac yn annog rhieni i yrru eu plant i’r ysgol.

·       Y cyrhaeddwyd sefyllfa dipyn gwell erbyn hyn gyda chanran presenoldeb yn cynyddu, er nad mor gyflym ag y dymunid.

 

Holwyd a oedd lefelau presenoldeb yn codi’n gyflymach yn y sector cynradd neu’r sector uwchradd.  Mewn ymateb, nodwyd:-

·       Bod lefelau presenoldeb yn y sector cynradd yn sylweddol uwch na’r uwchradd ac yn eithaf sefydlog hefyd.

·       Y gwelwyd cynnydd bychan yn y sector uwchradd o gymharu â llynedd ond cydnabyddid bod yna lawer mwy o waith i’w wneud ar hyn.  Roedd yr Adran yn gweithio’n agos iawn gyda’r ysgolion i flaenoriaethu codi presenoldeb i’r lefel cyn Cofid, ac yn uwch na hynny.

·       I allu cynyddu canran presenoldeb y sir, bod rhaid i’r sylw fod ar y trwch o boblogaeth yr ysgolion sydd â chanran presenoldeb o dan 90%, yn hytrach na’r achosion unigol sydd ar efallai 30% neu 40%, gan fod y niferoedd hynny yn fychan a’r unigolion dan sylw yn derbyn cefnogaeth gan y timau lles ayb.

·       Bod y Pennaeth Addysg wedi anfon llythyr at holl rieni’r sir yn pwysleisio bod rhaid i bresenoldeb fod yn flaenoriaeth.  Roedd yr ymatebion a gafwyd gan rieni yn gymysglyd iawn, ond efallai’n amlygu’r dryswch ymysg rhai rhieni ynglŷn â phwysigrwydd anfon eu plant i’r ysgol.  Er hynny, drwyddi draw, roedd pobl yn deall bod rhaid newid gêr o ran presenoldeb, neu fel arall nid yw’r plant am ffynnu yn academaidd.

 

Croesawyd y ffaith bod ysgolion yn casglu data eithaf trylwyr o ran tracio absenoldeb ac yn ei ddefnyddio i fireinio’r gweithredu sydd ei angen wedyn i godi’r ffigwr presenoldeb.  Mewn ymateb, nodwyd bod y defnydd o ddata yn dda mewn ysgolion.  Credid, fodd bynnag, bod angen herio mwy ar rieni sy’n cysylltu â’r ysgol i ddweud bod eu plant yn sâl, gan nad oes modd erlyn rhiant ar sail diffyg presenoldeb os yw’r absenoldeb hwnnw wedi’i awdurdodi gan yr ysgol, a dyma’r math o negeseuon sy’n cael eu rhoi drosodd i’r ysgolion bellach.

 

Nodwyd bod canfyddiad Mrs Caroline Rees, a gomisiynwyd i gynnal arolwg manwl o’r Gwasanaeth Cynhwysiad, yn adleisio argymhelliad Estyn bod angen lleoliadau addas ar gyfer darpariaeth y tu allan i’r ysgol, a holwyd a oedd yna ddiweddariad ar hynny.  Mewn ymateb, nodwyd:-

·       Bod adroddiad Mrs Caroline Rees wedi helpu’r gwasanaeth i greu sylfaen o ran cyfeiriad yn y maes cynhwysiad a’r maes cefnogi ymddygiad, yn enwedig i’r nifer cynyddol o blant sy’n methu ymdopi, neu na ellir eu cynhwyso mewn ysgolion prif lif.

·       Mai’r egwyddor sylfaenol yng Ngwynedd yw y dylai plant gael eu cynhwyso o fewn yr ysgolion prif lif, ond ei bod yn her i wneud hynny bob amser, yn enwedig gan fod ymddygiad plant yn dwysau wrth i’r blynyddoedd fynd rhagddynt.

·       Bod sefydlu Bwrdd Prosiect yn gam pwysig ymlaen i gael barn penaethiaid ysgolion ar gyfeiriad y Gwasanaeth Cynhwysiad dros y blynyddoedd nesaf, gan mai’r penaethiaid sy’n dod i benderfyniad ynghylch gwahardd unigolion.  Gan hynny, roedd yn allweddol bwysig bod y penaethiaid yn rhan o’r datrysiad er mwyn sicrhau bod y ddarpariaeth y tu allan i’r ysgol yn addas i bwrpas.

·       Y cyflawnwyd gwaith manwl yn edrych ar arferion da mewn siroedd eraill, ayb, ond gan fod sefyllfa gyllidol yr Adran yn anodd, edrychwyd ar sut y gellid gwneud gwell defnydd o’r cyllid sydd ar gael eisoes i greu model sy’n darparu gwell cefnogaeth am yr un gost.  Roedd hynny’n her gan fod gofalu am blant sydd ag anghenion ymddygiadol dwys yn gostus, gyda’r gymhareb staff i blentyn, er enghraifft, yn costio llawer iawn mwy na phetai’r plant hynny mewn ysgol prif lif.

·       Mai dymuniad yr Adran oedd gweld cyn lleied â phosib’ o ddisgyblion allan o addysg a bod y ddarpariaeth ar eu cyfer yn rhagorol ac yn rhoi gwerth da am arian.  Ni ellid darparu ar gyfer cannoedd o blant yn cael eu heithrio o addysg yng Ngwynedd gan fod daearyddiaeth y sir yn golygu na ellid darparu un ganolfan yn y canol ar gyfer pawb.

 

Croesawyd gonestrwydd yr adroddiad, er enghraifft, y cyfeiriad at yr angen i newid gêr o ran presenoldeb.  Gan gyfeirio at y tabl ym mharagraff 4.4 o’r adroddiad, sylwyd y bu cynnydd ym mhresenoldeb 56% o’r grwpiau a dargedwyd, a diolchwyd i’r Swyddogion Lles am eu gwaith.  Holwyd, fodd bynnag, a oedd y cynnydd yn y lefelau presenoldeb ers ymweliad Estyn ym Mehefin 2023 yn ddigonol.  Gan gyfeirio at bresenoldeb fesul awdurdod lleol, croesawyd y ffaith bod ffigurau Gwynedd wedi cynyddu o 88.7% yn 2022/23 i 89.1% yn 2023/24, ond nodwyd bod ffigurau rhai siroedd eraill un uwch, megis Wrecsam (90.1%) a Sir Fynwy (90%), a holwyd a oedd yna unrhyw wersi i’w dysgu gan y cynghorau hynny.  Mewn ymateb, nodwyd:-

·       Nad oedd y cynnydd mewn lefelau presenoldeb yng Ngwynedd yn ddigonol, ond roedd yn amlwg bod y mwyafrif helaeth o gynghorau yn ei gweld yn anodd cael y maen i’r wal hefyd.  Bwriadai’r Adran barhau i fynd ar ôl y mater hwn yn ddidrugaredd hyd oni fyddai’r ffigurau presenoldeb yn ôl lle dylent fod.

·       Bod swyddogion yr Adran yn trafod yn helaeth gyda’u cydweithwyr ar draws y rhanbarth, ac yn cynnal trafodaethau cenedlaethol hefyd, a chredid bod Gwynedd yn gweithio ar y pethau cywir.

·       Yn ogystal â’r ymgyrch genedlaethol sydd ar y ffordd gan y Llywodraeth, bod bwriad hefyd i gynnal ymgyrch yn lleol i hyrwyddo presenoldeb ar gyfryngau cymdeithasol y Cyngor.  Gofynnwyd hefyd i Gareth yr Orangutang wneud gwaith ar hyrwyddo presenoldeb gyda phlant ysgol.

·       Bod yr Adran yn edrych oes gwersi i’w dysgu gan siroedd eraill, ond mewn rhai sefyllfaoedd, roedd siroedd eraill yn edrych ar Wynedd fel enghraifft o arfer da ac yn ystyried beth allent hwy ei ddysgu gennym ni.

·       Mai’r gwendid mwyaf ar hyn o bryd oedd y ffaith bod y data ar lefel awdurdod yn cyrraedd yn hwyr a heb ei ddadansoddi i’r lefel y byddem yn dymuno.  Roedd hynny yn rhoi’r Cyngor ar y droed ôl o ran targedu grwpiau penodol o ddysgwyr ayb.  Fodd bynnag, roedd yr Adran yn gweithio ar fyrder i fynd i’r afael â hyn.

 

Nodwyd bod Mrs Caroline Rees yn cytuno gydag argymhelliad Estyn bod angen i’r Awdurdod weithio gydag arweinwyr ysgolion i gyd-lunio strategaeth cynhwysiad effeithiol ledled y sir.  Holwyd faint o drafodaethau oedd wedi bod gyda’r ysgolion ynglŷn â hynny ac a oedd unrhyw beth wedi’i gyflawni.  Mewn ymateb, nodwyd:-

·       Bod y penaethiaid yn gweithio gyda’r Adran o’r cychwyn i ddod â chynllun at ei gilydd a’u bod hefyd yn rhan o’r ymweliadau i weld arfer da.

·       O ran yr heriau cynhwysiad, bod y gwaith gydag asiantaethau eraill ac adrannau eraill o fewn y Cyngor yn rhan o hynny.

·       Yr edrychid ar ddatrysiadau megis cynnal gweithdy i edrych pa wasanaethau sy’n gweithio gyda phobl ifanc y tu allan i’r ysgol hefyd.  Nid oedd hyn yn ddatrysiad ysgolion yn unig, ond yn rhywbeth sydd angen ei wneud yn ehangach o ran y gymuned hefyd.

 

Holwyd a oedd yr Adran yn annog penaethiaid i atgoffa’r staff i lenwi’r gofrestr er osgoi bylchau yn y data.  Mewn ymateb, nodwyd bod y neges yma wedi mynd allan i’r ysgolion sawl gwaith ac y byddai’n cael ei hanfon eto i atgoffa’r ysgolion o bwysigrwydd cofrestru plant ddwywaith y dydd yn amserol, yn unol â’r gofyn cyfreithiol.

 

Holwyd a oedd yr Adran yn monitro os yw ysgol wedi llwyddo i gofnodi pob un disgybl yn amserol.  Mewn ymateb, nodwyd:-

·       Y gallai’r Adran fonitro os ydi ysgol wedi cofrestru plant ddwywaith y dydd, ond na ellid monitro bod hynny wedi’i wneud yn amserol.

·       Mai cyfrifoldeb yr ysgol yw sicrhau bod plant wedi’u cofrestru yn amserol a disgwylir i Dîm Rheoli unrhyw ysgol, yn enwedig ysgol uwchradd, fod yn ymwybodol petai staff heb gofrestru plant ar amser a mynd i’r afael â hynny.

 

Holwyd a oedd yna ysgolion uwchradd sydd heb wahardd o gwbl ers dwy flynedd.  Nodwyd hefyd y byddai wedi bod yn fuddiol gweld ffigurau cymharol siroedd eraill.  Mewn ymateb, nodwyd:-

·       Bod cymhariaeth gydag awdurdodau eraill yn gymhleth gyda nifer o ffactorau gwahanol yn bwydo i mewn i hyn, a bod yna eithriadau o fewn awdurdodau unigol hyd yn oed.

·       Yng Ngwynedd, gyda 12 ysgol uwchradd a 2 ysgol gydol oes, roedd 14 o benaethiaid yn gwneud penderfyniadau o ran gwahardd plant, ac nid oedd yr Awdurdod yn ymyrryd yn y penderfyniad hwnnw os nad oedd wirioneddol raid. 

·       Bod gan awdurdodau eraill nifer llai o ysgolion, a bosib’ bod eu darpariaethau cynhwysiad yn wahanol hefyd.

·       Y gallai sir fechan yn ddaearyddol, lle mae popeth yn agos at ei gilydd, fod â darpariaeth yn y canol fyddai’n cynhwyso nifer o’r plant cyn iddyn nhw gyrraedd y pwynt o wynebu gwaharddiad.

·       Gallai Gwynedd fod â nifer uchel o waharddiadau, ond nifer isel o ddisgyblion y tu allan i addysg, a gallai siroedd eraill fod â nifer isel o waharddiadau, ond nifer sylweddol uwch na Gwynedd o blant blwyddyn 11 ddim mewn addysg o fewn ysgolion prif lif.

·       Er hyn i gyd, bod nifer y gwaharddiadau yng Ngwynedd yn rhy uchel.  Gellid casglu bod ymddygiad plant yng Ngwynedd yn debyg i ymddygiad plant mewn siroedd eraill, ond roedd yn ymddangos o’r ffigurau nad oedd y siroedd eraill hynny yn gwahardd gymaint â ni, a dyna’r neges a gyflëwyd i’r ysgolion yn ddiweddar iawn.

 

Gan gyfeirio at y sylw yn gynharach yn y drafodaeth ynglŷn â thracio ysgolion, gofynnwyd pa fath o gymorth a her sy’n cael ei roi i’r ysgolion hynny.  Mewn ymateb, nodwyd:-

·       Bod y gefnogaeth a roddir i ysgolion â nifer uchel o waharddiadau yn cynnwys edrych ar y rhwystrau a thracio unigolion sy’n derbyn nifer o gyfnodau gwaharddiad er mwyn gallu eu cefnogi.

·       Er bod nifer y gwaharddiadau parhaol yn hynod uchel ac angen sylw, 10% yn unig o’r holl waharddiadau oedd wedi arwain at waharddiadau parhaol yn ystod y cyfnod dan sylw.

·       Bod gan yr Awdurdod gytundeb gyda’r ysgolion i geisio gwneud popeth i osgoi gwaharddiadau parhaol.

·       Bod gan yr Awdurdod ddarpariaeth y tu allan i’r ysgol petai’n rhaid symud ar fyrder yn achos unigolyn a gafodd ei wahardd yn barhaol o un ysgol yn wynebu gwaharddiad parhaol o ysgol arall.

·       Bod yr Adran yn ffyddiog eu bod yn llwyr ymwybodol pa ysgolion sy’n gwahardd fwyaf, pwy yw’r disgyblion a lle mae angen rhoi adnoddau i gefnogi, er yr heriau cyllidol ynghlwm â hynny.

 

Awgrymwyd y byddai’n fuddiol cael diweddariad ymhen blwyddyn ar gynnydd o ran y 5 ysgol yng Ngwynedd sy’n cael eu tracio.

 

Mynegwyd pryder bod plant yn delio â chyffuriau y tu allan i ysgol uwchradd.  Holwyd a oedd hyn yn broblem o fewn yr ysgolion hefyd, a beth oedd yn cael ei wneud ynglŷn â hynny.  Mewn ymateb, nodwyd:-

·       Ei bod yn drist adrodd bod yna unigolion yn mynd â chyffuriau i mewn i’r ysgol, a bod yna waharddiadau ynghlwm â hynny. 

·       Y llwyddwyd i ddenu arian ychwanegol ar gyfer penodi 2 swyddog wedi’i lleoli o fewn y Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid, ond yn gweithio mewn partneriaeth gyda’r Adran Addysg, i fynd o amgylch yr ysgolion ac i weithio gydag unigolion sydd wedi’u gwahardd am ddod â chyffuriau i mewn i’r ysgol.

 

Nodwyd ei bod yn gysur gweld bod yr Adran yn rhoi ystyriaeth i’r broblem gyffuriau sy’n dwysau o fewn ein cymdeithas.

 

PENDERFYNWYD

1.     Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau.

2.     Gofyn am ddiweddariad i’r Pwyllgor ar gynnydd yn y dyfodol.

 

Dogfennau ategol: