Agenda item

Aelod Cabinet – Y Cynghorydd Beca Brown

 

Ystyried adroddiad ar yr uchod.

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD

 

  1. Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau.
  2. Nodi pryder ynglŷn â’r diffyg adnoddau sydd ar gael i symud y gwaith ymlaen.
  3. Bod y pwyllgor yn edrych ymlaen at weld cydweithredu ehangach gydag asiantaethau eraill perthnasol.
  4. Gofyn am ddiweddariad i’r Pwyllgor ymhen blwyddyn.

 

Cofnod:

Croesawyd y Rheolwr Gwasanaeth Blynyddoedd Cynnar i’r cyfarfod.

 

Cyflwynwyd – adroddiad yn gwahodd y pwyllgor i graffu:-

·       Beth yw’r camau y bwriedir eu cymryd er mwyn trawsnewid addysg ar gyfer plant yn eu blynyddoedd cynnar?

·       Beth yw’r amserlen a’r cerrig milltir allweddol ar gyfer trawsnewid y gwasanaeth?

·       Sut y bwriedir cyllido trawsnewid y gwasanaeth blynyddoedd cynnar?

 

Rhoddodd y Rheolwr Gwasanaeth Blynyddoedd Cynnar grynodeb byr o gynnwys yr adroddiad.

 

Rhoddwyd cyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau a chynnig sylwadau. 

 

Mynegwyd siomedigaeth ynglŷn â chynnydd y gwaith hyd yma.  Nodwyd y deellid y rhwystrau o ran staffio a chyllid, ond pwysleisiwyd mai’r blynyddoedd cynnar yw’r cyfnod mwyaf pwysig yn natblygiad plentyn.

 

Holwyd faint o gydweithio agos sy’n digwydd rhwng yr Adran Addysg a’r Adran Plant oherwydd, yn ôl diffiniad y Llywodraeth, roedd y blynyddoedd cynnar yn cynnwys 0-7 oed, ond nid oedd yna unrhyw gyfeiriad yn yr adroddiad at y cyfnod ar ôl i’r plant gychwyn yn yr ysgol.  Mewn ymateb, nodwyd bod rhaglen waith yr Uned Blynyddoedd Cynnar yn canolbwyntio ar y cyfnod cyn ysgol yn bennaf, sef addysg feithrin a’r cynlluniau ar gyfer plant dan 4 oed.

 

Cyfeiriwyd at y polisi newydd fydd yn dod i rym y flwyddyn nesaf ynglŷn â thoiledu, a holwyd sut y bwriedid talu am y ddarpariaeth.  Holwyd hefyd a oedd peryg’ y gallai plentyn sydd ddim yn sych gael eu hamddifadu o fynd i’r ysgol hefo’u cyfoedion.  Mewn ymateb, nodwyd:

·       Y byddai’r polisi yn rhoi’r disgwyliad ar rieni i fod yn toiledu eu plant, gyda chefnogaeth yn cael ei ddarparu ar gyfer gwneud hynny.

·       Bod y cynllun yn cael ei groesawu gan yr ysgolion gan ei fod yn ail-ddiffinio’r berthynas rhwng rhieni ac ysgol, fel bod rhieni yn rhiantu ac ysgolion yn addysgu’r plant.

·       Bod ymrwymiad yr Adran Addysg a’r Gwasanaethau Plant i’r blynyddoedd cynnar yn sylweddol o ran amser ac o ran yr hyn y ceisir ei wneud, ac yn heriol hefyd gan fod angen ceisio dadwneud ac ail-greu systemau cymhleth, gan ymgorffori’r gwasanaethau iechyd yn hyn hefyd.

·       Bod yr ysgolion eu hunain yn talu am waredu clytiau, sy’n gostus iawn iddynt.  Ni fyddai yna gost ar yr ysgolion yn sgil cyflwyno’r polisi newydd gan y byddai’n ofynnol i blant gael eu toiledu cyn dod i’r ysgol, ond byddai cost y gefnogaeth drwy’r gwasanaeth iechyd, ayb, yn dod o’r grantiau sydd ar gael.

 

Holwyd pam nad oedd yna lawer o gyfeiriad at y Mudiad Ysgolion Meithrin a’r gwasanaeth iechyd yn y cynlluniau.  Mewn ymateb, nodwyd:-

·       Bod y berthynas gyda’r Mudiad Ysgolion Meithrin yn dda.  Fodd bynnag, roedd yna ragor o waith i’w wneud i ddatblygu’r berthynas honno ymhellach, ac roedd hynny’n rhan o’r gwaith sy’n cael ei gyflawni gan yr Uned Blynyddoedd Cynnar ar hyn o bryd.

·       Y gellid dadlau bod gan Wynedd fwy o gylchoedd meithrin na siroedd eraill, a hynny oherwydd natur yr iaith ayb.

·       Bod yna Fwrdd Ansawdd ar gyfer y blynyddoedd cynnar sy’n cynnwys cynrychiolaeth o du’r cylchoedd meithrin, a bod yna dîm o athrawon yn cefnogi ansawdd y ddarpariaeth a thîm o swyddogion o’r mudiad yn cefnogi agweddau mwy rheolaethol a llywodraethol y ddarpariaeth.

·       Bod mwyafrif helaeth y materion sy’n codi yn faterion yn ymwneud ag arweinyddiaeth a llywodraethiant cylchoedd, yn hytrach nag ansawdd y ddarpariaeth.

 

Mewn ymateb i’r sylwadau hyn, nododd yr aelod a gododd y mater nad oedd hynny’n amlwg yn yr adroddiad.

 

Mynegwyd pryder ei bod yn ymddangos o ddarllen paragraff 9 o’r Rhaglen Waith Trawsffurfio’r Blynyddoedd Cynnar mai 21 yn unig o’r 83 darparwr gofal plant cofrestredig yng Ngwynedd sy’n darparu gwasanaeth Cymraeg neu ddwyieithog.  Mewn ymateb, nodwyd bod yna 81 o ddarparwyr cofrestredig, gyda 21 ohonynt yn darparu gwasanaeth ôl ofal plant 2 oed, a’i bod yn ofynnol i’r holl ddarparwyr ddarparu yn Gymraeg ac yn ddwyieithog.

 

Awgrymwyd y gallai’r ddogfen Chwarae, Dysgu a Gofal Plentyndod Cynnar yng Nghymru fod yn gynsail i lunio strategaeth i Wynedd gyda’r data lleol sydd gennym.  Cwestiynwyd yr holl ymgynghori a chomisiynu arolygon, yn lle symud ymlaen gyda’r strategaeth.  Nodwyd hefyd bod trawsnewid addysg ar gyfer y blynyddoedd cynnar yn golygu creu newid er gwell drwy Wynedd gyfan, ond ni welid cyfeiriad yn yr adroddiad at Llŷn.  Nodwyd bod yna waith da iawn yn digwydd mewn pocedi o’r sir, ond pwysleisiwyd y dylai pob plentyn 5 oed fod yn y ffrâm ar gyfer addysg a chyfleoedd chwarae.  Holwyd ble roedd y weledigaeth ac erfyniwyd ar y Gwasanaeth i ddatblygu’r Strategaeth ar frys gan fod amser yn brin.  Mewn ymateb, nodwyd:-

·       Bod llunio’r Strategaeth yn flaenoriaeth i’r Gwasanaeth.

·       Bod grantiau’r Llywodraeth dros y 10 mlynedd ddiwethaf wedi arwain at fwy o ddarpariaeth mewn rhai pocedi o’r sir, ac nid oedd yn gyfartal ar gyfer holl blant Gwynedd.  Dyma fyddai’n llywio’r Strategaeth, a byddai’n rhaid gweithio gyda’r partneriaid eraill i’w llunio.

·       Y byddai’n rhaid edrych ar atebolrwydd y gwaith hefyd a mynegwyd gwerthfawrogiad o’r ffaith bod y mater hwn yn cael ei graffu er sicrhau hynny.

 

Gan gyfeirio at baragraff 10 o’r Rhaglen Waith, holwyd pa mor amlwg fydd y Gymraeg yn y gofodau gofal plant ac addysg feithrin newydd, yn benodol felly Ysgol Ein Harglwyddes, Bangor, sydd yn y categori trosiannol.  Mewn ymateb, nodwyd:-

·       Y cafwyd cyfarfod gyda llywodraethwyr Ysgol Ein Harglwyddes i egluro’r weledigaeth o ran cael darpariaeth Cymraeg neu ddwyieithog, a’u bod yn cytuno, pan fydd y broses caffel yn digwydd, y byddwn yn chwilio am ddarpariaeth fydd yn gweithredu yn ddwyieithog.

·       Bod yna ddarpariaeth ar safle presennol yr ysgol ar hyn o bryd, ac y bu’r Adran yn cydweithio gyda’r ddarpariaeth honno dros y cyfnod diwethaf i wella eu hansawdd o ran darparu yn ddwyieithog.

 

Mewn ymateb i gwestiwn, cadarnhawyd y bydd y llywodraethwyr a swyddogion y Cyngor yn cael mewnbwn i’r gwaith o werthuso’r broses caffael, gan edrych ar gael darpariaeth ddwyieithog ar y safle.

 

Nodwyd, er bod y gofodau i’w croesawu, ei bod yn anodd weithiau cynnal y gofodau sy’n bodoli eisoes, yn arbennig felly mewn ardaloedd gwledig lle mae’r niferoedd plant yn gallu bod yn isel o dro i dro, a holwyd faint o bwys a roddid ar gynnal y gofodau hynny.  Mewn ymateb, nodwyd:-

·       Bod yna sawl ffynhonnell gyllidol yn mynd i’r lleoliadau gofal plant ac addysg feithrin ar hyn o bryd, a bod hynny wedi cynyddu’n sylweddol dros y 4 blynedd ddiwethaf.

·       Dros y cyfnod diwethaf rhoddwyd cyfraniadau eithaf teg i gylchoedd bach er mwyn eu cadw’n hyfyw, ond roedd yna fwy o gyllideb yn dod gan y Llywodraeth hefyd gan eu bod yn gobeithio ymestyn gofal plant 2 oed ymhellach.  Gan hynny, roedd rhaid ystyried hyn i gyd a gweld beth yn union yw’r fformiwla ariannu sydd angen mynd i gylchoedd er mwyn eu cadw.

·       Bod cadw rhai o’r cylchoedd meithrin lleiaf yn andros o her mewn sir wledig fel Gwynedd, ond gallai’r cynnydd yn y gofyn o ganlyniad i ymestyn gofal plant 2 oed ymhellach eu gwneud yn fwy hyfyw yn y dyfodol.

·       Bod addysg a gofal plant yn y blynyddoedd cynnar yn gostus gan fod angen cymhareb staff / plentyn diogel ac oherwydd bod y disgwyliadau ar y lleoliadau yn sylweddol, boed hynny’n arolwg Estyn, neu’n arolwg o’r canllawiau diogelu ayb sy’n cael eu gwneud yn rheolaidd. 

·       Nad oedd yna’r niferoedd plant mewn pocedi o ardaloedd yng Ngwynedd i gyfiawnhau, neu i fod yn sefydlu darpariaeth hyfyw i’r dyfodol, a hynny oherwydd dewisiadau rhieni neu’r ffaith nad oes yna blant o gwbl mewn rhai ardaloedd. 

·       O ran ariannu cylchoedd meithrin, bod y Cyngor wedi bod yn rhoi dyraniad craidd i bob lleoliad, sy’n golygu bod cylch gyda 3-4 o blant yn cael yr un dyraniad craidd â chylch gyda 30 o blant.

·       Bod y sefyllfa’n gymhleth, yn enwedig gan mai gwirfoddolwyr sydd, i bob pwrpas, yn sefydlu cylchoedd meithrin a darpariaethau gofal, a bod pwysau aruthrol arnynt fel unigolion i allu cynnal y darpariaethau hynny.

·       Y dymunid sicrhau’r craffwyr bod y Gwasanaeth yn ystyried popeth o ran sut y gellir sicrhau darpariaeth o ansawdd i blant cyn iddyn nhw gychwyn yn yr ysgol, a bod cynaladwyedd yn un ohonynt.

 

Nodwyd bod rhai rhieni mewn ardaloedd tu hwnt o wledig yn dewis peidio rhoi eu plant yn y cylch meithrin agosaf gan fod y niferoedd yn isel yn barod, ac yn eu rhoi mewn cylch arall lle mae’r niferoedd yn uwch.  Golygai hynny bod yna lai o blant yn mynd i fod yn yr ysgolion gwledig hynny yn y dyfodol, ac roedd hynny’n bryder.  Awgrymwyd bod yna amryfal ffyrdd o geisio cymell pobl i rannu plant yn eithaf teg ar draws cylchoedd meithrin, yn enwedig os nad ydi rhai o’r rhieni yn defnyddio’r cylch sydd ar eu stepen drws.

 

Holwyd a oedd lle i ystyried y gallai ysgolion gynnal eu hysgol feithrin eu hunain, fel eu bod yn dod o dan adain y Cyngor, yn hytrach na’r Mudiad Ysgolion Meithrin.  Mewn ymateb, nodwyd:-

·       Bod y cwestiwn yn un anodd ei ateb oherwydd bod y sefyllfa mewn rhai ardaloedd yn benthyg ei hun yn fwy i fodel lle byddai plant, o bosib’, yn cychwyn yn gynt yn yr ysgol, nag a fyddai mewn ardaloedd eraill.

·       Bod y sefyllfa’n gymhleth hefyd o ran y cwestiwn a fyddai’r Cyngor yn darparu’r addysg a’r gofal, a sut y gellid bod yn deg â darparwyr gofal yn y sector breifat y tu allan i addysg.

·       Gan mai un polisi mynediad sydd gan Wynedd ar gyfer yr holl ysgolion, byddai newid yr oed mynediad mewn un ysgol yn golygu ymgynghori â phob ysgol.

·       Bod llawer o’r gwirfoddolwyr yn y cylchoedd meithrin yn llywodraethwyr ysgolion hefyd.

·       Bod rhaid pwyso a mesur hyn wrth symud ymlaen, ond y dymunid pwysleisio’r berthynas waith dda sydd gan y Cyngor gyda’r Mudiad Ysgolion Meithrin a’r ffordd y ceisir meddwl am ddulliau mwy cynaliadwy o gynnal y darpariaethau.  Roedd y Cyngor yn cynnal y math yma o drafodaethau gyda’r Mudiad gan na chredid bod y drefn bresennol o bwyllgor o wirfoddolwyr a nifer fechan o staff a phlant yn gynaliadwy i’r dyfodol yng Ngwynedd.

 

Nodwyd mai dyma’r math o beth y byddai’r aelodau wedi dymuno ei weld yn yr adroddiad er mwyn cael sicrwydd o ran y cydweithio, a mynegwyd siomedigaeth ynglŷn â’r diffyg gweledigaeth i symud ymlaen a chynllunio yn yr adroddiad.

 

PENDERFYNWYD

1.     Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau.

2.     Nodi pryder ynglŷn â’r diffyg adnoddau sydd ar gael i symud y gwaith ymlaen.

3.     Bod y pwyllgor yn edrych ymlaen at weld cydweithredu ehangach gydag asiantaethau eraill perthnasol.

4.     Gofyn am ddiweddariad i’r Pwyllgor ymhen blwyddyn.

 

Dogfennau ategol: