I dderbyn gwybodaeth ar falansau ysgolion dros y 5 mlynedd ddiwethaf.
Cofnod:
Cyflwynwyd yr adroddiad
gan y Cyfrifydd Grŵp Ysgolion.
Adroddwyd bod lefelau balansau ysgolion unigol wedi cael eu dadansoddi ar gyfer
yr Adroddiad hwn. Ymhelaethwyd bod balansau’r
Awdurdod ar gyfer ysgolion wedi cael ei nodi hyd at 2017 er mwyn cymharu’r
sefyllfa bresennol gyda’r sefyllfa cyn Covid-19. Esboniwyd bod balansau ysgolion wedi cynyddu yn ystod cyfnod y pandemig a
bod hynny i’w weld yn genedlaethol. Fodd bynnag, pwysleisiwyd y gwelir yr arian
hynny a gynilwyd yn ystod y pandemig yn cael ei ddefnyddio’n gyflym iawn ar hyn
o bryd. Cadarnhawyd mai cipolwg o’r balansau a welir
yn yr adroddiad gan eu bod yn newid yn gyson. O’r herwydd, dylai unrhyw un sy’n
eu hasesu bod yn ymwybodol iawn o’u natur newidiol cyn gwneud penderfyniadau.
Cadarnhawyd bod tair ysgol
gynradd a thair ysgol uwchradd mewn diffyg ariannol erbyn diwedd y flwyddyn
ariannol 2023/24. Esboniwyd bod hyn yn gyfran fechan o ysgolion mewn diffyg o’i
gymharu ag Awdurdodau eraill. Pwysleisiwyd bod gwasanaethau Cyllid ac Addysg yn
cydweithio gyda’r ysgolion hynny er mwyn datrys dyledion a chynllunio er mwyn
i’r ysgolion fod mewn sefyllfa ariannol well i’r dyfodol. Nodwyd gall hyn fod
yn waith datblygol dros ychydig flynyddoedd i’w wireddu.
Ystyriwyd faint o’r balansau sydd wedi cyfrannu tuag at ddatblygu cyllideb ar
gyfer 2024/25. Rhannwyd enghraifft bod y mwyafrif o’r balansau
yn cael eu clustnodi fel rhan helaeth o gyllideb y flwyddyn ddilynol gan arwain
at wir balans isel ar ddiwedd y flwyddyn ariannol. Mewn ymateb, pwysleisiodd y
Cyfrifydd Grŵp Ysgolion mai diweddariad ar ddiwedd y flwyddyn ariannol
yw’r ffigyrau a ddangoswyd yn yr adroddiad gan gydnabod bod cyfran helaeth o’r
arian yn cael ei ddefnyddio ar gyfer sefydlu cyllidebau o’r newydd ar 1af
Ebrill yn flynyddol.
Tynnwyd sylw at falansau ysgolion uwchradd ac ystyriwyd bod gwahanol
batrymau i’w weld o fewn yr ysgolion. Nodwyd bod rhai ysgolion gyda’u balansau yn tyfu’n flynyddol ac eraill yn defnyddio mwy ar
eu balansau gan arwain at ffigyrau gymharol gyson yn
flynyddol. Mewn ymateb i’r sylwadau, cadarnhaodd Cyfrifydd Grŵp Ysgolion
bod hyn yn deillio o gynlluniau unigol ysgolion a’r anghenion sydd yn
flaenoriaethau iddynt. Esboniwyd hefyd bod cynnydd mewn niferoedd staff drwy
gytundebau dros dro yn ystod cyfnod y pandemig wedi arwain ar gynnydd mewn
staff ysgolion ar draws y sir. Ymhelaethwyd bod nifer fawr o’r cytundebau hynny
bellach wedi dod i ben a bod llai o staff o fewn ysgolion yn gyffredinol.
Ystyriwyd bod hyn yn cael effaith ar ysgolion gan fod llai o bobl yn gyflogedig
yno ond mae’n eu cynorthwyo i aros o fewn eu cyllideb.
Adroddwyd ar falansau Ysgol y Moelwyn gan nodi bod eu balansau hwy wedi cynyddu’n sylweddol dros y blynyddoedd
diwethaf. Pwysleisiwyd nad oes unrhyw wahaniaeth rhwng yr ysgol hon ac ysgolion
eraill y sir ac nid yw’n cael ei ffafrio mewn unrhyw ffordd, oni bai am
drefniadau lleol ble mae’r ysgol yn gyfrifol am y pwll nofio cyhoeddus. Nodwyd
bydd swyddogion yn cynnal trafodaethau gyda’r ysgol yn fuan er mwyn trafod eu
llwyddiant gyda’r balansau er mwyn rhannu arferion da
a strategaethau, os yn bosib, gydag ysgolion eraill y Sir.
Nodwyd bod gofyniad i’r
ysgolion sydd gyda balansau uwch yn y gorffennol i’w
gwario. Er hyn, credir ei bod yn ddoeth i beidio gwneud hynny ar gyfer ysgolion
sydd gyda balansau uchel ar hyn o bryd gan fod y
wybodaeth yn tystiolaethu pa mor sydyn gall sefyllfaoedd yr ysgolion ddirywio.
Yn hytrach, dylai’r pwyslais fod ar benaethiaid i sicrhau bod yr ysgolion yn
cael eu gwarchod yn ofalus drwy gyfnod yr ansicrwydd ariannol presennol.
Eglurwyd yr angen i edrych
ar y balansau hyn a’u cymharu gyda niferoedd
disgyblion yr ysgolion, er mwyn asesu os yw’r ysgolion mwyaf yn gorfod gwneud
mwy o ddefnydd o falansau wrth gefn er mwyn osgoi
dyled, tra bod yr ysgolion llai yn gallu cael eu rhedeg heb ddefnyddio’r balansau.
Rhagdybiwyd bod cyfanswm balansau ysgolion yn mynd i leihau erbyn diwedd y flwyddyn
ariannol gyfredol i fod yn agosáu at oddeutu £4miliwn, gan ddychwelyd i’r
sefyllfa a welwyd cyn y pandemig.
PENDERFYNWYD:
·
Derbyn yr adroddiad gan nodi’r
sylwadau a gyflwynwyd yn ystod y drafodaeth
·
Derbyn diweddariad pellach yn y
cyfarfod nesaf sy’n cymharu balansau’r ysgolion gyda
niferoedd disgyblion. Cytunwyd i dderbyn cyfanswm y balansau
fel canran o gyllideb lawn yr ysgolion fel rhan o’r adroddiad hon.
Dogfennau ategol: