I dderbyn
diweddariad ar gyllid Anghenion Dysgu Ychwanegol a Chynhwysiad.
Cofnod:
Cyflwynwyd yr adroddiad
gan y Pennaeth Cynorthwyol: Anghenion Dysgu Ychwanegol a Chynhwysiad.
Eglurwyd bod yr adroddiad
yn ymdrin ag ariannu ceisiadau sy’n cyrraedd y Panel Cymedroli ar gyfer
cefnogaeth i ddisgyblion unigol.
Nodwyd yr angen i
ddyrannu’r cyllid ar sail anghenion a fformiwla yn hytrach na’r Panel
Cymedroli, gan ddilyn arweiniad nifer o Awdurdodau Lleol sydd eisoes wedi
cymryd y cam hwn. Esboniwyd byddai hyn yn arwain at system fwy teg oherwydd bod
yr un fformiwla yn cael ei ddefnyddio ar gyfer pob ysgol. Ymhelaethwyd ei fod
yn seiliedig ar ddefnyddio data sydd ar gael yn barod. Teimlwyd bydd y newid
hwn yn rhoi mwy o sicrwydd i ysgolion gan arwain at swyddi sefydlog i gymorthyddion.
Cadarnhawyd bod y gwaith o
weithio tuag at y newid hwn wedi cychwyn yn 2019 yn dilyn adroddiad allanol a
oedd yn awgrymu’r ffordd orau ymlaen. Cydnabuwyd bod peth oediad wedi bod yn y
gwaith hwn dros gyfnod y pandemig ond bod gwaith yn mynd rhagddo i gyflawni’r
newid hwn fel blaenoriaeth erbyn hyn.
Adroddwyd bod y newid hwn
yn seiliedig ar ddata ADY PLASC. Atgoffwyd yr aelodau bod saith model amrywiol
wedi cael eu cyflwyno i’r Fforwm hwn yn 2022 ac mai dyma’r un a ffafriwyd yn
dilyn yr adroddiad hwnnw. Nodwyd bod gwaith wedi mynd rhagddo i’w ddatblygu a
chadarnhawyd mai dyma yw’r model sy’n cael ei weithredu ar hyn o bryd wrth
arwain y newid ymlaen.
Mewn ymateb i ymholiad,
cydnabuwyd nad oes ystyriaeth wedi cael ei roi i oedran y plant sydd gydag ADY.
Nodwyd bod hyn oherwydd ei fod yn galluogi ysgolion i sicrhau eu bod yn gwneud
y defnydd orau o’r gyllideb er lles y plant tra hefyd yn sicrhau nad yw’r
fformiwla i ddyrannu arian yn mynd yn or-gymleth.
Pwysleisiwyd bod cyllideb
ADY wedi ei rewi ar gyfer 2024/25 oherwydd terfynau amser tynn a’r angen i
ryddhau cyllidebau ysgolion. Pwysleisiwyd mai’r eithriadau i hyn yw darparu
cefnogaeth unigol i unrhyw ddisgybl sydd wedi dod i mewn i’r Sir o fewn y
flwyddyn hon. Cadarnhawyd bod hyn wedi rhoi cyfle i swyddogion edrych ar y
gyllideb a’r ffordd orau ymlaen wrth ystyried y newid i system ganolog ar gyfer
pob ysgol. Ymhelaethwyd bod niferoedd a lefelau dwyster ADY yn cael ei asesu
drwy ddefnyddio data sy’n cael ei fewnbynnu i’r Cynllun Datblygu Unigol.
Manylwyd ar y cynllun o
fewn ADY PLASC gan nodi ei fod wedi cael ei ddatblygu i edrych ar angen y
plentyn ac nad oedd yn ystyried cefnogaeth allanol. Ymhelaethwyd hefyd bod
cyllideb gwerth 5% o gyllideb ADY wedi cael ei glustnodi ar gyfer eithriadau o
fewn y flwyddyn ysgol. Eglurwyd bod eithriadau yn cynnwys nifer o bethau megis
dirywiad sydyn mewn amgylchiadau, neu blentyn gydag anghenion ADY yn symud i
mewn i ardal addysg Gwynedd. Pwysleisiwyd hefyd bod y gyllideb ar gyfer cefnogi
disgyblion sydd ag anghenion meddygol megis Diabetes math 1 neu epilepsi yn
cael ei dynnu o’r gyllideb cyn ei ddyrannu. Cadarnhawyd y bydd unrhyw eithriad
yn cael ei gyflwyno i’r Panel Cymedroli.
Ystyriwyd clustnodi
isafswm cyllideb ar gyfer pob ysgol er mwyn sicrhau bod y gefnogaeth ar gael er
bod rhai ysgolion ddim efo disgyblion gyda CDU Awdurdod ar ddechrau’r flwyddyn
ariannol. Nodwyd bod hyn yn galluogi’r Cyngor i roi darpariaeth i bob ysgol yn
unol â niferoedd disgyblion a’r niferoedd sydd gydag anghenion ADY.
Gobeithiwyd cynnwys
rhagolygon cyllideb ADY ym mis Rhagfyr 2024 er mwyn paratoi ar gyfer symud i’r
model newydd erbyn Mawrth 2025.
PENDERFYNWYD derbyn
yr adroddiad.
Dogfennau ategol: