Rhannu
gwybodaeth gyda aelodau’r Cyd-bwyllgor am drefniadau arweinyddiaeth GwE hyd at
ddiwed y cyfnod trosiannol.
Penderfyniad:
PENDERFYNIAD:
· Derbyn a
chymeradwyo cynnwys yr adroddiad.
· Bod angen cynnal cyfarfod brys
rhwng y Bwrdd Trosiannol, y Cydbwyllgor a’r Rheolwr Prosiect i drafod sefyllfa
bresennol GwE
· Diolch i’r cyn Rheolwr Gyfarwyddwr,
y Cyfarwyddwr Cynorthwyol a’r Uwch Arweinydd Uwchradd GwE am eu gwaith a’u
cefnogaeth i’r Cydbwyllgor
· Diolch i’r staff hynny sydd eisoes
wedi ymadael â GwE am eu hymroddiad i’r Gwasanaeth.
· Diolch
i Swyddogion Cyngor Gwynedd am gefnogi’r cyfnod trosiannol heriol
Cofnod:
Croesawyd Rhys
Williams (Pennaeth Gwasanaeth GwE – Dysgu Proffesiynol) ac Euros Davies (Pennaeth Gwasanaeth GwE –
Gwella Ysgolion).
Cyflwynwyd
adroddiad yn amlinellu trefniadau ac amserlen gweithredu cyfnod trosiannol GwE
mewn ymateb i ddatganiad y cyn Weinidog dros Addysg a’r Gymraeg ar 31 Ionawr
2024, i wneud newidiadau sylfaenol i haen ganol y system addysg yng Nghymru. Ar
y 1af o Awst 2024 cymeradwyodd y Cyd-Bwyllgor y cynnig i leihau Uwch Dîm Rheoli
GwE o bump i ddau hyd ddiwedd Mawrth 2025, ac o ganlyniad, roedd rolau
presennol y Rheolwr Gyfarwyddwr, y Cyfarwyddwr Cynorthwyol a’r Uwch Arweinydd
Uwchradd wedi eu tynnu oddi ar y strwythur ers 1 Medi, 2024. Adroddwyd bod Rhys
Williams (Pennaeth Gwasanaeth GwE – Dysgu Proffesiynol) ac Euros Davies (Pennaeth Gwasanaeth GwE –
Gwella Ysgolion) – y ddau uwch arweinydd sy’n weddill, wedi cytuno i arwain,
rheoli a sicrhau ansawdd y swyddogaeth graidd gwella ysgolion a’r dysgu
proffesiynol a chymorth i ysgolion hyd at ddiwedd y cyfnod trosiannol.
Tynnwyd sylw at y
prif faterion i’w hystyried megis ffrydiau gwaith y gwasanaeth hyd at ddiwedd y
cyfnod trosiannol oedd yn cynnwys, rheoli risgiau a sicrhau ansawdd o ran
swyddogaeth graidd GwE o, gefnogi ysgolion ac awdurdodau i gyflawni eu rolau
statudol; cefnogi’r Bwrdd Trosiannol i sefydlu prosesau a strwythurau pwrpasol
er mwyn ymateb yn llwyddiannus i ofynion adolygiad yr haen ganol; cydweithio’n
agos gyda’r Bwrdd Trosiannol, y Rheolwr Prosiect ac Adnoddau Dynol i ddarparu a
rhannu’r wybodaeth berthnasol.
Nodwyd, er mwyn
sicrhau gweithredu cyfnod trosiannol llwyddiannus, byddai’n hanfodol bod yr
holl randdeiliaid yn cyfathrebu yn gyson ac agored, a
lle bydd diffyg capasiti wedi amlygu, bydd angen
trafod datrysiadau posib gyda’r Awdurdod perthnasol. Ategwyd y byddai hyn yn
gymorth i hybu morâl, llesiant a chymhelliant staff drwy’r cyfnod ansicr yma.
Diolchwyd am yr
adroddiad.
Cymerodd y
Cadeirydd y cyfle i ddiolch i’r staff hynny oedd eisoes wedi gadael GwE, i’r Cyn Rheolwr Gyfarwyddwr, y Cyfarwyddwr
Cynorthwyol a’r Uwch Arweinydd Uwchradd GwE am eu gwaith a’u cefnogaeth i’r
Cydbwyllgor ac i Rhys Williams ac Euros Davies am gamu i mewn i’r bwlch o dan
amgylchiadau heriol ac anodd.
Yn ystod y
drafodaeth ddilynol nodwyd;
·
Pryder na fydd cyllid digonol
i wireddu’r gwaith a bydd gofyn defnyddio reserfau.
·
Angen i Fwrdd Trosiannol amlygu sefyllfa bresennol GwE a’r diffyg cyllideb i Weinidog Addysg
Llywodraeth Cymru gan fod y sefyllfa yn deillio o benderfyniad
Llywodraeth Cymru i wneud newidiadau sylfaenol i haen
ganol y system addysg yng Nghymru.
·
Nad oedd gwybodaeth ddigonol am y sefyllfa – bod y Cydbwyllgor angen gwell dealltwriaeth
o’r goblygiadau staffio a chyfrifoldebau cytundebol.
·
Bod
angen trefnu cyfarfod brys rhwng
y Bwrdd Trosiannol, y Cydbwyllgor a’r Rheolwr Prosiect i drafod y sefyllfa.
PENDERFYNWYD:
·
Derbyn a chymeradwyo
cynnwys yr adroddiad.
·
Bod angen cynnal cyfarfod
brys rhwng y Bwrdd Trosiannol, y Cydbwyllgor a’r Rheolwr Prosiect i drafod sefyllfa
bresennol GwE.
·
Diolch i’r Cyn Rheolwr Gyfarwyddwr,
y Cyfarwyddwr Cynorthwyol a’r Uwch Arweinydd
Uwchradd GwE am eu gwaith a’u cefnogaeth i’r Cydbwyllgor
·
Diolch i’r staff hynny sydd eisoes
wedi ymadael â GwE am eu hymroddiad i’r
Gwasanaeth.
·
Diolch i Swyddogion Cyngor Gwynedd am gefnogi’r
cyfnod trosiannol heriol.
Dogfennau ategol: