Cyflwyno
Datganiad o’r Cyfrifon, ar ffurf ‘statudol’, wedi’i ardystio, ond yn amodol ar
archwiliad.
Penderfyniad:
PENDERFYNIAD:
Derbyn a nodi Datganiad o Gyfrifon GwE (yn amodol ar archwiliad) am 2023/24.
Cofnod:
Cyflwynwyd y
Datganiad o’r Cyfrifon gan Pennaeth Cyllid Cynorthwyol Cyngor Gwynedd. Eglurwyd
bod Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) 2014 (fel y diwygiwyd) yn mynnu
bod rhaid i bob cydbwyllgor baratoi cyfrifon blynyddol, a gan fod GwE gyda
throsiant o dros £2.5 miliwn, ei bod yn ofynnol paratoi datganiad o’r cyfrifon
yn unol â chôd CIPFA ar gyfer y Cydbwyllgor.
Cadarnhawyd bod y
cyfrifon wedi eu cwblhau a’u rhyddhau ddiwedd Mehefin i’w harchwilio gan
Archwilio Cymru gyda’r fersiwn ‘dilyn archwiliad’ i’w gyflwyno yng nghyfarfod
mis Tachwedd o’r Cydbwyllgor.
Tynnwyd sylw at yr
Adroddiad Naratif oedd yn rhoi gwybodaeth am y Cyfrifon, y Strategaeth Ariannol
a’r Perfformiad Ariannol. Cyfeiriwyd at £77k o orwariant ac atgoffwyd y
Pwyllgor, wrth adrodd ar y sefyllfa ariannol diwedd blwyddyn ar gyfer 2023/24
yng nghyfarfod mis Mai 2024, bod y £77k yn deillio yn bennaf o orwariant ar y
gyllideb staffio, ond yn cael ei gyllido o’r gronfa wrth gefn.
Adroddwyd bod y
prif ddatganiadau ariannol yn cynnwys Datganiad Incwm a Gwariant, Mantolen,
Llif arian ayyb, tra bod y Datganiad
Symudiad mewn Reserfau yn crynhoi sefyllfa ariannol
GwE sydd yn priodi sefyllfa incwm a gwariant efo sefyllfa’r fantolen, sydd yn
cynnwys gwybodaeth am y reserfau defnyddiadwy
a’r reserfau na ellid eu defnyddio. Nodwyd bod reserfau defnyddiadwy, sef
cronfeydd wrth gefn GwE wedi lleihau o £477k erbyn diwedd Mawrth 2024 gan adael
balans o £677 mil.
Tynnwyd sylw at;
Nodyn 10 - Trosglwyddiad
i/o Reserfau Defnyddiadwy -
dadansoddiad pellach o gronfa gyffredinol GwE a’r Gronfa Athrawon sydd newydd
gymhwyso. Nodwyd bod £77k wedi ei ddefnyddio i gyllido gorwariant y flwyddyn
tra bod £400k wedi ei ddefnyddio o’r gronfa Athrawon newydd gymhwyso.
Nodyn 15 - Reserfau na Ellir eu Defnyddio - bod y reserf pensiynau yn £0 ar gyfer 2023/24, gyda hyn yn
cydymffurfio gyda gofynion cyfrifo ac yn ddigynsail cyn hyn, ond yn fater mwy
cyffredin yn ddiweddar, ac yn bodoli oherwydd amodau presennol y farchnad a
chwyddiant sydd wedi bod yn uchel. Ategwyd bod yr un peth yn wir yng Nghyfrifon
Gwynedd a chyfrifon cynghorau eraill.
Nodyn 17 – Taliadau i Swyddogion - chwyddiant yn
golygu bod mwy yn y bandiau cyflog yn 2023/24 i gymharu gyda 2022/23. Adroddwyd
bod 64 o Uwch Swyddogion, wedi eu dynodi i dderbyn cyflog rhwng £60,000 a
£150,000 yn 2023/24 o gymharu â 38 yn y flwyddyn flaenorol.
Nodyn 19 – Incwm Grant sydd wedi ei
dderbyn ar gymhariaeth dros y ddwy flynedd gan nodi bod lleihad o dri chwarter
miliwn yn y grantiau erbyn 2023/24 o’i gymharu a’r flwyddyn flaenorol.
Nodyn 22 – Costau Pensiwn - symudiad yn
ffigyrau Pensiynau oherwydd amodau presennol y farchnad.
Gofynnwyd i’r
Cyd-bwyllgor dderbyn a nodi’r Datganiad o Gyfrifon GwE (yn amodol ar
archwiliad).
Mewn ymateb i
gwestiwn ynglŷn a naid sylweddol yn
y nifer o weithwyr eraill a dderbyniodd mwy na £60,000 (17 yn 2022/23 i 43 yn
2023/24), nodwyd bod hyn oherwydd chwyddiant uchel a dyfarniad cyflog a bod hyn
yn unol â’r gofynion diffiniedig.
Yn ystod y
drafodaeth ddilynol, nodwyd y sylwadau canlynol gan Aelodau;
· Bod gostyngiad
sylweddol i reserfau GwE o ystyried bydd dibyniaeth a
galw uchel ar y reserfau yn y cyfnod trosiannol
· Lleihad mewn grantiau
yn arwain at ddefnydd reserfau
Mewn ymateb i
gwestiwn pam bod y reserf pensiynau yn £0 ar gyfer
2023/24 ac os oedd hyn yn gofnod cyfrifeg neu wirioneddol, nodwyd bod y
datganiad yn cydymffurfio gyda gofynion cyfrifo ac er yn ddatganiad digynsail
yn y gorffennol, ei fod bellach yn fater mwy cyffredin, ac felly’n bodoli
oherwydd amodau presennol y farchnad a chwyddiant uchel.
Diolchwyd i’r
Swyddogion am gwblhau’r cyfrifon
PENDERFYNWYD:
Derbyn a nodi
Datganiad o Gyfrifon GwE (yn amodol ar archwiliad) am 2023/24.
Dogfennau ategol: