Cyflwyno
Cofrestr Risg ddiweddaraf GwE i’r Cyd-bwyllgor.
Penderfyniad:
PENDERFYNIAD:
· Derbyn a chymeradwyo’r
gofrestr risg yn ddarostyngedig i nodi'r holl
risgiau yn risgiau UCHEL (yn hytrach na CHANOLIG).
Rheswm: gyda diffyg amserlen
a gwybodaeth, ei bod yn rhy gynnar
yn y broses i ragfynegi yn wahanol
· Sicrhau
fod gwybodaeth o ran
cynlluniau penodol a phrosesau trosglwyddo yn cael eu cyfathrebu yn gyson (misol) gyda’r
Cydbwyllgor.
Cofnod:
Cyflwynwyd y
gofrestr risg gan Rhys Williams (Pennaeth Gwasanaeth GwE - Dysgu Proffesiynol),
oedd yn nodi mai pwrpas y gofrestr risg yw ffurfioli’r broses o adnabod risgiau
a chymryd camau gweithredu dilynol i’w lliniaru. Byddai rheoli'r risgiau'n effeithiol yn
galluogi GwE i gefnogi'r amcanion strategol a'r blaenoriaethau strategol,
gwneud defnydd effeithiol o adnoddau, a chyflawni’r deilliannau yn ôl y bwriad.
Nodwyd bod y ddogfen yn ddogfen fyw sy’n cael ei hadolygu’n gyson a’r risgiau
wedi cael eu hadolygu yng nghyd-destun y newidiadau arfaethedig i haen ganol y
system addysg yng Nghymru a’r cyfnod trosiannol o wasanaeth Rhanbarthol i'r
Awdurdodau Lleol.
Tynnwyd sylw at y Goblygiadau Ariannol
gan fynegi nad yw'n glir beth fydd cost y newid sylweddol mewn polisi
Llywodraeth Cymru mewn cyfnod anodd yn gyllidebol ac hefyd y Goblygiadau
Personél lle mae morâl a chymhelliant
staff GwE yn hynod isel. Adroddwyd nad oedd eglurder eto o ran swyddi amgen i
staff gwella ysgolion wedi mis Mawrth 2025 ac y bydd llai o secondiadau a
diswyddiadau yn effeithio ar batrwm y tîm gan achosi
anghydbwysedd yn y cymorth i'r gwahanol
sectorau.
Wrth drafod y risgiau yn unigol,
nodwyd;
Cyllidol - bod Bwrdd Trosiannol bellach wedi ei
sefydlu gyda Rheolwr Prosiect wedi ei benodi ac yn arwain ar y gwaith. Bydd y
Bwrdd Trosiannol yn arwain at sicrhau bod amserlen glir yn ei le ac yn adnabod
sefyllfa’r staff.
Adnoddau Dynol –bod cyfarfodydd tîm wedi eu trefnu i
sicrhau bod gwybodaeth am y cyfnod
trosiannol yn cael ei rannu ar bob lefel yn gyson ynghyd â'r opsiynau sydd ar
gael o ran cyflogaeth yn y dyfodol.
Llywodraethiant – bod angen cylch gorchwyl sydd yn
gwahaniaethu rhwng cyfrifoldebau’r Bwrdd Trosiannol a’r Cydbwyllgor.
Gofynnwyd
i’r Cydbwyllgor adolygu a chymeradwyo cynnwys y gofrestr ynghyd â phenderfynu
os oedd unrhyw risgiau y dymuna'r Cydbwyllgor eu cyflwyno i sylw'r Cabinet
perthnasol.
Yn ystod y drafodaeth ddilynol, nodwyd
y sylwadau canlynol gan Aelodau;
·
Pryder bod y risgiau wedi symud o goch
i oren. Yn derbyn bod Bwrdd Trosiannol wedi ei ffurfio ond
mae’r amserlen yn parhau yn
anhysbys.
·
Bod angen cyflwyno diweddariadau misol fydd yn
hysbysu Cyd-bwyllgor GwE o gynlluniau / addasiadau penodol, yn arbennig
materion adnoddau dynol.
·
Bod hi’n rhy fuan
ym mhroses y cyfnod trosiannol i addasu’r risgiau
i oren – mae pethau yn
cymryd amser, yn enwedig diswyddiadau.
·
Yn cynnig cadw’r risgiau
yn goch. Er yn deall bod y sefyllfa yn anodd
a bod materion yn datblygu, nid yw’r
wybodaeth wrth law a gormod o gwestiynau heb ateb iddynt.
Cynigwyd ac eiliwyd nodi bod yr holl
risgiau yn parhau yn risgiau UCHEL / COCH.
PENDERFYNWYD:
· Derbyn a chymeradwyo’r gofrestr risg yn
ddarostyngedig i nodi'r holl risgiau
yn risgiau UCHEL (yn hytrach na
CHANOLIG / OREN).
Rheswm: gyda diffyg amserlen a gwybodaeth, ei bod yn rhy gynnar
yn y broses i ragfynegi yn wahanol.
· Sicrhau fod gwybodaeth o ran cynlluniau penodol a phrosesau trosglwyddo yn cael eu cyfathrebu
yn gyson (misol) gyda’r Cydbwyllgor.
Dogfennau ategol: