Cyflwyno adroddiad Rheolwr
Masnachol Hafan a Harbwr Pwllheli.
Penderfyniad:
Nodi a derbyn yr adroddiad.
Cofnod:
Cyflwynwyd yr adroddiad gan Reolwr Masnachol Hafan a Harbwr Pwllheli a thynnwyd sylw at
y prif bwyntiau canlynol:
Cydymdeimlwyd â theulu a ffrindiau Ruth
James, aelod blaengar o’r Gymdeithas Angorfeydd (PMBHA) yn dilyn ei marwolaeth
annisgwyl yn gynharach eleni. Nodwyd bod yr heddlu yn dal i ymchwilio i’r
digwyddiad angheuol ac y disgwylir adroddiad terfynol gan y Crwner yn fuan.
Atgoffwyd bod swyddogion yn derbyn barn
Aelodau’r Pwyllgor Harbwr ar addasrwydd y Cod Diogelwch Morwrol Porthladdoedd.
Cadarnhawyd bod y Cod yn cael ei adolygu’n rheolaidd ac yn cael ei ddiweddaru
gan yr Uwch Swyddog Harbwr a’r Rheolwr Gwasanaethau Morwrol ar hyn o bryd.
Eglurwyd bod Tŷ’r Drindod wedi ymweld â’r harbwr
yn ddiweddar a byddent yn cyflwyno adroddiad ar y mater hwn maes o law.
Strategaeth Hir Dymor Harbwr Pwllheli
Tynnwyd sylw at Strategaeth Hir Dymor Harbwr
Pwllheli. Nodwyd bod y Strategaeth yn adnabod gweledigaeth ar gyfer ardal
harbwr Pwllheli ac yn cynnig fframwaith ddatblygu ar gyfer buddsoddiadau i’r
dyfodol. Diolchwyd i’r Aelodau a phob unigolyn sydd wedi rhoi mewnbwn i’r
strategaeth hyd yma. Ymhelaethwyd bod y Strategaeth yn nodi prif agweddau ar
gyfer llwyddiant i’r dyfodol set:
· Rhaglen
hir dymor cynaliadwy i’r prif heriau carthu
· Adnewyddu
strwythurau angenrheidiol y pontŵns a stanciau.
· Cyflawni
buddsoddiad hir dymor drwy glustnodi cyllidebau mewnol i gydnabod rhai elfennau
o welliannau, wrth baratoi achosion busnes a thargedu ffynonellau ariannol er
mwyn ddenu buddsoddiad.
· Gweithredu
penderfyniadau canlynol ar y cyd gyda chynlluniau ehangach tref Pwllheli.
Cadarnhawyd bod gwaith eisoes yn mynd
rhagddo er mwyn datblygu’r agweddau hyn drwy ffrydiau gwaith a rhaglen
fuddsoddi ar gyfer Hafan a harbwr Pwllheli. Cydnabuwyd bod y sefyllfa ariannol
bresennol yn heriol ond nodwyd bod sawl
datblygiad cadarnhaol hyd yma, megis:
· Penderfyniad
Cabinet Cyngor Gwynedd i glustnodi hyd at £5.4m i gyfrannu tuag at gostau
carthu ac adnewyddu isadeiledd o fewn yr harbwr (pontŵns
a stanciau), fel rhan o Gynllun Rheoli Asedau Cyngor Gwynedd 2024-2034.
Sicrhawyd bod yr arian hwn yn ychwanegol i gronfeydd presennol yr harbwr.
Cadarnhaodd Pennaeth Cynorthwyol Adran Economi a Chymuned bod yr arian hwn wedi
cael ei ymrwymo i’r harbwr yn dilyn adolygiad o’r asedau sydd angen
blaenoriaeth i’w buddsoddi ynddynt dros y 10 mlynedd nesaf. Rhagwelwyd yr angen
i ddatblygu achosion busnes a cheisiadau ariannol am arian ychwanegol.
· Sicrwydd
bod arian wedi ei glustnodi ar gyfer cwblhau gwelliannau i ardal Cei’r Gogledd.
· Amlygwyd
cyfle i gryfhau cysylltiadau rhwng canol tref Pwllheli a’r harbwr drwy Gynllun
Creu Lle'r dref.
· Cydweithio’n
agos gydag Adran Amgylchedd Cyngor Gwynedd a’r Cynllun Rheoli a Datblygu'r Hen
Ynys i greu ardal natur, hamdden a llesiant.
Pwysleisiwyd bod partneriaeth gyda chyrff
cyhoeddus, busnesau a chymunedau yn allweddol
sicrhau bod yr ardal yn cyrraedd ei llawn botensial.
Derbyniwyd ymholiad ar y cynnig o fewn yr
adroddiad i ddatblygu ardal berfformio agored wedi’i thirweddu ar ardal yr Hen
Ynys a’r Harbwr Mewnol, gan ystyried sut bydd yr harbwr yn cydweithio gyda’r
Cyngor Tref ar y datblygiad hwn. Ymhellach, ystyriwyd yr angen am ddatblygiad
Tacsi Dŵr i gynorthwyo’r cysylltiad gyda chanol y dref, fel gyflwynwyd yn
y Strategaeth, gan bod yr Harbwr eisoes yn eithaf canolog i’r dref ac byddai
defnyddio’r tacsi yn siwrne byr iawn, ond y byddai’n ddefnyddiol i ymwelwyr sydd
yn aros ar y maes carafannau ar gyrion yr harbwr. Mewn ymateb, cadarnhaodd
Reolwr Masnachol Hafan a Harbwr Pwllheli mai syniadau
gan yr ymgynghorwyr ar gyfer dyfodol yr harbwr yw’r datblygiadau hyn, ac nid
oes ymrwymiad iddynt ar hyn o bryd. Fodd bynnag, nodwyd bod cynllun yn ardal yr
Hen Ynys i ddatblygu’r natur a bywyd gwyll a welir yno.
Sicrhawyd bod yr hen Glwb Hwylio
wedi cael ei drosi yn lleoliad dysgu a gofal plant yn ddiweddar yn dilyn
ymgyrch cymunedol mawr. Pwysleisiwyd nad oes modd i newid hyn yn y dyfodol.
Ymhelaethwyd bydd cais cynllunio yn cael ei gyflwyno yn fuan er mwyn datblygu’r
cyfleusterau cawodydd sydd ar gael ym Mhlas Heli a chael gwared ar y cawodydd
yn yr hen Glwb Hwylio, gan nad yw’r sefyllfa bresennol yn ddigonol.
Carthu
Atgoffwyd yr Aelodau o’r
buddsoddiad diweddar gwerth £500,000 i wagio’r lagŵn distyllu. Rhoddwyd
diweddariad bod y gwaith o garthu
ardaloedd dynodedig o gwmpas y pontŵns, doc
tanwydd a’r sianel ger yr harbwr allanol wedi dechrau. Pwysleisiwyd mai dim ond
oddeutu 10,000m3 o’r llaid sydd yn cael ei glirio, sef traean yr holl laid sydd
yno. Eglurwyd bod £1.4m o’r £5.4m a ddarparwyd gan y Cynllun Rheoli Asedau a
drafodwyd yn gynharach, yn mynd i gael ei ddefnyddio at ddibenion carthu (gyda
£4m yn cael ei ddefnyddio ar faterion y pontŵns).
Esboniwyd bod dwy elfen o’r gwaith carthu yn derbyn ystyriaeth ar hyn o bryd
megis adennill tir ger yr Hen Ynys gan ddefnyddio llaid yr harbwr a phwmpio
llaid allan i’r bae (yn ddibynnol ar dderbyn trwydded forol).
Materion Ariannol
Adroddwyd bod adnoddau ariannol ychwanegol wedi ei ymrwymo o’r
cronfeydd er mwyn cwblhau gwaith o gwmpas yr harbwr. Cadarnhawyd bod hyn yn
cynnwys; gwagio’r lagŵn distyllu, carthu, buddsoddi mewn uwchraddio system
camerâu TCC a gosod gwe-gamera. Mynegwyd balchder bod dros 64,000 o ymweliadau
i’r gwe-gamera drwy wefan yr harbwr yn ystod mis Awst, gyda niferoedd uchel o
ymwelwyr i’r safle drwy gydol misoedd yr haf. Ymhelaethwyd bod cais wedi ei
dderbyn gan yr heddlu am gymorth yr harbwr i osod TCC ychwanegol ger y fynedfa
i draeth Glandon er mwyn cynorthwyo pan fydd materion
yn codi, gan nodi bod trafodaethau am eu hariannu’n parhau.
Eitemau Gweithredol
Cadarnhawyd bod holl Gymhorthion Mordwyo'r
harbwr yn gweithio ac wedi eu lleoli’n gywir. Nodwyd bod un Rhybudd i Forwyr yn weithredol ar hyn o bryd er mwyn amlygu’r gwaith
carthu sydd yn digwydd ar hyn o bryd. Eglurwyd bod Tŷ’r
Drindod wedi ymweld â’r harbwr yn ddiweddar gan nodi eu bod yn paratoi
adroddiad ar yr angen i ddiweddaru ‘Aids to Navigation’ yr harbwr i’r dyfodol.
Cydnabuwyd yr angen i adolygu rhifau cyflawn
yr angorfeydd sydd yn yr harbwr. Esboniwyd nad yw nifer o’r angorfeydd mewn
defnydd ac felly mae swyddogion yn trafod gyda Stad y Goron i gadarnhau’r
rhifau terfynol a all gael ei ddefnyddio. Nodwyd ei fod yn bwysig i gadarnhau’r
niferoedd hyn er mwyn gallu asesu llwyddiant yr harbwr wrth adrodd ar niferoedd
angorfeydd sydd mewn defnydd mewn cyfarfodydd herio perfformiad yr Adran
Economi a Chymuned.
Cyfeiriwyd at Arolwg Boddhad Cwsmer sydd yn
cael ei ddarparu gan y Gymdeithas Angorfeydd. Tynnwyd sylw bod boddhad
cwsmeriaid ar argraff weledol yr harbwr yn dechrau gostwng ers rhai blynyddoedd
ac felly mae gwaith yn mynd rhagddo i fuddsoddi mewn ffrydiau gwaith i ymateb
i’r sylwadau hyn.
Llongyfarchwyd Sarah Hattle ar ei phenodiad
diweddar fel Harbwr feistr a Dirprwy Rheolwr newydd i’r harbwr a Hafan
Pwllheli. Nodwyd y bydd hi’n cysgodi’r Harbwr feistr presennol, Wil Williams,
cyn ei ymddeoliad yn gynnar yn 2025. Cadarnhawyd y bu i’r harbwr benodi
Cymhorthydd Harbwr Tymhorol dros yr Haf. Eglurwyd hefyd bod y Bosun Cynorthwyol yn gorffen yn ei rôl barhaol ar gyfer
astudiaethau Prifysgol, ond y byddai’n parhau i weithio yn yr harbwr yn
achlysurol.
Dogfennau ategol: