Agenda item

I nodi’r sefyllfa a’r risgiau perthnasol yng nghyswllt y Trosolwg Arbedion, ystyried penderfyniadau i’r Cabinet a sylwebu fel bo angen..

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD:

 

Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sefyllfa a’r risgiau perthnasol yng nghyswllt y Trosolwg Arbedion

 

Nodyn:

Llunio tabl i’r dyfodol sydd yn gwahaniaethu rhwng y sefyllfa hanesyddol a’r sefyllfa ddiweddaraf fel bod bodd adnabod risgiau i’r sefyllfa gyfredol

 

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad yr Aelod Cabinet Cyllid yn gofyn i’r pwyllgor nodi’r sefyllfa a’r risgiau perthnasol yng nghyswllt y Trosolwg Arbedion, ystyried penderfyniadau i’r Cabinet (15-10-2024) a sylwebu fel bo angen. Nodwyd bod yr adroddiad yn amlygu’r sefyllfa hyd ddiwedd Awst 2024.

 

Amlygwyd, er mwyn cau'r bwlch ariannol eleni, rhaid oedd gweithredu gwerth £5.6 miliwn o arbedion yn ystod 2024/25; cyfuniad o £3.6 miliwn oedd wedi eu cymeradwyo yn Chwefror 2023 ac arbedion newydd a gymeradwywyd yn Chwefror 2024 gwerth £2 filiwn.

 

Adroddwyd, dros y blynyddoedd diwethaf, ac fel sydd wedi ei adrodd i’r Pwyllgor yn gyson, gwelwyd trafferthion gwireddu arbedion mewn meysydd yn yr Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant a’r Maes Gwastraff, ac felly, bu i werth £2 filiwn o gynlluniau oedd â risgiau sylweddol i'w cyflawni, gael eu dileu yn ystod 2023/24.

 

Tynnwyd sylw at yr arbedion newydd ynghyd a’r arbedion oedd wedi eu cymeradwyo cyn hynny, megis cynlluniau arbedion hanesyddol am y cyfnod o’r flwyddyn ariannol 2015/16 hyd at y flwyddyn ariannol 2024/25.  Amlygwyd bod 98%, sef dros £33.7 miliwn o’r £34.3 miliwn o arbedion, bellach wedi eu gwireddu.

 

Yng nghyd-destun y cynlluniau arbedion newydd  gwerth £12 miliwn, adroddwyd bod 65% o’r arbedion eisoes wedi eu gwireddu gyda 8 miliwn pellach ar drac i gyflawni’n amserol. Er hynny, nodwyd bod risgiau i wireddu’r arbedion yn amlwg mewn rhai meysydd, megis yr Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant a’r Adran Amgylchedd.

 

Cyfeiriwyd at werth yr arbedion hynny sydd eisoes wedi eu cymeradwyo ar gyfer 2025/26 ymlaen ac fe nodwyd bod cynlluniau arbedion a thoriadau pellach ar gyfer 2025/26 eisoes dan ystyriaeth y Cyngor Gwynedd - bydd  y rhain yn destun adroddiad pellach.

 

Wrth grynhoi’r darlun, adroddwyd bod £41.7 miliwn o arbedion wedi eu gwireddu (90% o’r £46.6 miliwn gofynnol dros y cyfnod) ac fe ragwelir y bydd 2% pellach yn cael ei wireddu erbyn diwedd y flwyddyn ariannol (er bydd oediad a rhai risgiau i gyflawni'r cynlluniau sydd yn weddill).

 

Diolchwyd am yr adroddiad

 

            Materion yn codi o’r drafodaeth ddilynol:

·       Bod risg o beidio cyflawni’r arbedion ynghyd a risg o gyflawni

·       Bod yr adroddiad yn amlygu sefyllfa dda dros y 10 mlynedd ddiwethaf, ond bod angen canolbwyntio bellach ar y blynyddoedd mwyaf diweddar sydd wrth gwrs yn amlygu darlun o ddiffyg gwireddu arbedion oherwydd bod y sefyllfa yn mynd yn anoddach - awgrym i lunio tabl yn gwahaniaethu rhwng yr hanesyddol a’r cyfredol

·       A yw’r adrannau yn hyderus y gallent gyflawni arbedion 2024/25?

·       Pryder bod rhai arbedion yn llithro yn flynyddol

·       Bod angen edrych ar ddiwylliant a threfniadau gwasanaethau - ystyried ffyrdd gwahanol o gyllidebu yn hytrach na ‘naddu’ neu ddefnyddio arian sydd wedi'i gasglu at ddiben arall.

 

Mewn ymateb i’r sylwadau, nododd yr Aelod Cabinet bod pob ymgais yn cael ei wneud i leihau’r effaith andwyol ar drigolion Gwynedd. Ategodd bod y risg o fethu cyflawni yn cael ei ystyried ac yn sicr yn amlwg mewn rhai sefyllfaoedd.  O ran hyder adrannau i gyflawni arbedion 2024/25 nododd bod y sicrwydd yn amrywio o gynllun i gynllun a chyfeiriodd at Tabl 1 (Crynodeb o statws yr holl gynlluniau arbedion ers Ebrill 2015) yn yr adroddiadau oedd yn rhoi dadansoddiad o’r sefyllfa.

           

PENDERFYNWYD:

 

Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sefyllfa a’r risgiau perthnasol yng nghyswllt y Trosolwg Arbedion

 

Nodyn:

Llunio tabl i’r dyfodol sydd yn gwahaniaethu rhwng y sefyllfa hanesyddol a’r sefyllfa ddiweddaraf fel bod bodd adnabod risgiau i’r sefyllfa gyfredol

 

Dogfennau ategol: