Agenda item

I nodi’r sefyllfa a’r risgiau perthnasol yng nghyswllt cyllidebau’r Cyngor a’i adrannau, ystyried penderfyniadau i’r Cabinet a sylwebu fel bo angen.

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD:

 

·       Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sefyllfa a’r risgiau yng nghyswllt cyllidebau’r Cyngor a’i adrannau

·       Cytuno gyda’r argymhelliad i’r Cabinet:

·        Trosglwyddo £1,868k o danwariant ar gyllidebau corfforaethol i Gronfa Cefnogi Strategaeth Ariannol y Cyngor

 

 

Nodyn:

Gwaith sydd wedi ei gomisiynu gan y Prif Weithredwr i gael gwell dealltwriaeth o orwariant eithriadol gan yr Adran Oedolion Iechyd a Llesiant: cais i’r Cabinet herio beth yw amserlen y gwaith yma – angen sicrwydd bod y gwaith yma yn ei le i osod cyllideb



Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad gan Aelod Cabinet Cyllid yn manylu ar yr adolygiad diweddaraf o gyllideb refeniw’r Cyngor am 2024/25, a’r rhagolygon tuag at ddiwedd y flwyddyn ariannol.  Gofynnwyd i’r Pwyllgor graffu’r wybodaeth a chynnig sylwadau cyn cyflwyno am gymeradwyaeth y Cabinet 15 Hydref 2024.

 

Gosododd yr Aelod Cabinet y cyd-destun i’r adroddiad drwy nodi:-

·       Nad oedd y darlun yn unigryw i Wynedd

·       Er bod cronfeydd wrth gefn Gwynedd yn hanesyddol yn gryf, maent yn gwagio yn sydyn

·       Tangyllido sydd yma ac nid diffyg rheolaeth gyllidol

·       Bod pob ymgais yn cael ei wneud i leihau’r effaith ar drigolion Gwynedd

 

Ategodd mai adrodd ar y sefyllfa oedd y Swyddogion Cyllid ac mai’r Adrannau eu hunain oedd yn gyfrifol am eu cyllidebau.

 

Cyfeiriwyd ar dalfyriad o sefyllfa derfynol yr holl adrannau gan adrodd, yn dilyn adolygiad diwedd Awst mae’r rhagolygon yn awgrymu y bydd gorwariant o £7.6 miliwn ac y bydd chwech o’r adrannau yn gorwario erbyn diwedd y flwyddyn. Rhagwelwyd gorwariant sylweddol ar gyfer yr Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant, Adran Plant a Theuluoedd, Adran Priffyrdd, Peirianneg ac YGC a’r Adran Amgylchedd.

 

 Y prif faterion:

-        Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant - derbyniodd yr Adran ddyraniad cyllideb ychwanegol barhaol o dros £3.2 miliwn eleni i gwrdd â phwysau mewn gwahanol feysydd; mae’r rhagolygon diweddaraf yn awgrymu bydd £2.7 miliwn o orwariant erbyn diwedd y flwyddyn (i’w gymharu â £3.9 miliwn yn 2023/24). Y gorwariant yn ganlyniad o gyfuniad o nifer o ffactorau sy’n cynnwys cynnydd yn y pwysau ar y ddarpariaeth gofal cartref, Y prif faterion eraill yn cynnwys taliadau uniongyrchol sydd yn gorwario £1.3 miliwn yn y gwasanaeth pobl hŷn, a llety cefnogol yn y gwasanaeth anabledd dysgu. Gwaith wedi ei gomisiynu gan y Prif Weithredwr y llynedd  i edrych ar sefyllfa ariannol yr adran

-        Adran Plant a Theuluoedd - sefyllfa ariannol yr adran wedi gwaethygu’n sylweddol ers sefyllfa 2023/24 pryd adroddwyd ar orwariant o £2.6 miliwn; bellach wedi cynyddu i £3.2 miliwn; yn bennaf o ganlyniad i gynnydd yng nghostau lleoliadau all-sirol. Gwelwyd cynnydd yng nghymhlethdodau pecynnau a defnydd cynyddol ddiweddar o leoliadau heb eu cofrestru. O ganlyniad i'r gorwariant eithriadol gan yr Adran Plant a Theuluoedd, mae'r Prif Weithredwr wedi comisiynu gwaith i egluro manylder y darlun yng ngofal Plant, er mwyn cael gwell dealltwriaeth o’r materion a rhaglen glir i ymateb. Bydd y gwaith yn cael ei arwain gan Gyfarwyddwr Statudol Gwasanaethau Cymdeithasol.

-        Adran Addysg - Yn dilyn gorwariant o £1.5 miliwn yn ystod y flwyddyn ariannol 2023/24 ar gludiant ysgolion, bu i'r maes dderbyn dyraniad cyllideb ychwanegol eleni o £896k ar sail barhaol ac £896k pellach am flwyddyn yn unig, i gyfarch y pwysau ar y maes bysus a thacsis ysgolion yn dilyn ail-dendro cytundebau, ac felly adroddir ar sefyllfa ariannol gytbwys.

-        Byw’n Iach –dros y blynyddoedd diwethaf, gan fod lefelau incwm Cwmni Byw’n Iach wedi cael ei amharu, mae'r cwmni wedi derbyn cefnogaeth ariannol flynyddol gan y Cyngor uwchlaw'r taliad cytundebol y cytundeb darparu, i'w galluogi i gynnal eu gwasanaethau. Mae'r gefnogaeth ariannol yn parhau eleni a'r swm gofynnol yn £101k.

-        Adran Priffyrdd, Peirianneg ac YGC - rhagwelir gorwariant o £649k; gwelwyd lleihad yn y gwaith sydd yn cael ei gomisiynu gan asiantaethau allanol sydd yn cael effaith negyddol ar incwm gwasanaethau priffyrdd. Ym mwrdeistrefol, mae cyfuniad o ffactorau, gan gynnwys pwysau ychwanegol ar gyllidebau staff glanhau strydoedd a glanhau toiledau cyhoeddus, tra bod colledion incwm yn faterion yn cynnal tiroedd a thoiledau cyhoeddus.

-        Adran Amgylchedd - gorwariant o £1,083k yn cael ei ragweld, gyda’r tueddiad blynyddol o orwariant yn y maes casglu gwastraff ac ailgylchu yn parhau ac yn gyfrifol am £664k o’r gorwariant. Costau cyflogaeth a lefelau salwch a goramser yn broblemus yn y maes, ond y mater yn derbyn sylw ac felly i weld yn lleihau. Diffyg incwm parcio hefyd yn amlwg eleni yn ogystal â nifer o gynlluniau arbedion yn llithro.

-        Tai ac Eiddo -  pwysau sylweddol ar y gwasanaeth llety argyfwng yn parhau, gyda rhagolygon fod gwariant yn y maes oddeutu £6.4 miliwn eleni (o gymharu â 6.8 miliwn y llynedd). Bod gorwariant o £227k yn dilyn ystyried cyllideb ychwanegol o £3m sydd wedi ei ddyrannu o bremiwm treth Cyngor a hefyd £1.2 miliwn o gyllideb un-tro ychwanegol a ddyrannwyd fel rhan o'r drefn bidiau ar gyfer 2024/25 i gynorthwyo gyda'r pwysau ychwanegol.

-        Corfforaethol - rhagdybiaethau darbodus wrth osod cyllideb 2024/25 gyda chynnyrch treth ychwanegol a lleihad yn y niferoedd sydd wedi hawlio gostyngiad treth cyngor o’i gymharu â blynyddoedd blaenorol.

 

Adroddwyd bod adroddiad Cynllun Ariannol Tymor Canolig wedi ei gyflwyno i’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio a’r Cabinet ym mis Mai 2024, oedd yn amlinellu cyfundrefn arbedion a thoriadau er mwyn ymateb i’r sefyllfa ariannol. Roedd yr adroddiad yn cynnwys argymell rhewi gwariant yn ystod y flwyddyn pe byddai’n dod i’r amlwg fod gorwariant sylweddol yn debygol. O ystyried y rhagolygon gorwariant diweddaraf, ystyriwyd fod mesur o’r fath yn briodol ac felly, bydd rhaid cael cyfuniad o drefniadau rhewi gwariant ynghyd â gwneud defnydd o gronfeydd wrth gefn y Cyngor i gyllido’r blwch ariannol a ragwelir am 2024/25.

 

Diolchwyd am yr adroddiad

 

Sylwadau yn codi o’r drafodaeth ddilynol:

·       Bod y gorwariant yn bryder

·       Gwaith a gomisiynwyd gan y Prif Weithredwr - er yn adrodd bod gwaith yn cael ei gomisiynu, nid oes gwybodaeth wedi ei dderbyn - hanfodol bod canfyddiadau’r gwaith yn cael ei gyflwyno i’r pwyllgor

·       Defnydd o gronfeydd wrth gefn yn achosi pryder. Os defnyddio’r arian yma, rhaid sicrhau bod yr arian yn cael ei ddefnyddio yn y llefydd priodol - yn ymateb i’r angen

·       Yn derbyn yr argymhellion, a’r datganiad nad yw Gwynedd yn unigryw

·       Adolygiad o sefyllfa ariannol Oedolion - y wybodaeth o ddefnydd i osod cyllideb - beth yw amserlen y gwaith yma? Angen i’r Cabinet herio pryd fydd y gwaith ar gael - angen sicrwydd bod y gwaith mewn lle

·       Elfen o obaith bod incwm yn dod i mewn - realiti ydy paratoi ar gyfer sefyllfa lle bydd lleihad mewn incwm - rhaid i’r gorwario stopio

 

Mewn ymateb i’r sylwadau, nododd yr Aelod Cabinet ei fod yn rhannu’r pryder o ddefnyddio arian wrth gefn gan amlygu pwysigrwydd mewn gwneud newidiadau sylweddol. Nododd bod y Cyngor wedi comisiynu CIPFA i wneud astudiaeth o sut mae  Gwynedd yn cymharu gydag Awdurdodau eraill gan edrych ar brosesau ac ystyried gwneud pethau’n wahanol.

 

Mewn ymateb i sylw ynglŷn â chostau defnydd lleoliadau allsirol gan yr Adran Plant a Theuluoedd ac er yn croesawu datblygiad Grwpiau Bychain o sicrhau darpariaeth o fewn y Sir, mai araf yw’r broses ac y byddai’n annhebygol o wneud gwahaniaeth mawr i’r gorwariant, nodwyd mai’r gobaith yw canolbwyntio ar yr achosion mwyaf eithriadol yn gyntaf i leihau’r gost. Er yn derbyn bod y broses yn cymryd amser, ac y bydd angen penodi staff ar gyfer y lleoliadau hyn, bydd y datblygiad yn un buddiol yn y pendraw.

 

PENDERFYNWYD:

 

·       Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sefyllfa a’r risgiau yng nghyswllt cyllidebau’r Cyngor a’i adrannau

·       Cytuno gyda’r argymhelliad i’r Cabinet:

-        Trosglwyddo £1,868k o danwariant ar gyllidebau corfforaethol i Gronfa  Cefnogi Strategaeth Ariannol y Cyngor

 

Nodyn:

Gwaith sydd wedi ei gomisiynu gan y Prif Weithredwr i gael gwell dealltwriaeth o orwariant eithriadol gan yr Adran Oedolion Iechyd a Llesiant: cais i’r Cabinet herio beth yw amserlen y gwaith yma – angen sicrwydd bod y gwaith yma yn ei le i osod cyllideb

 

Dogfennau ategol: