Agenda item

I ystyried a derbyn yr adroddiad

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD:

 

·       Derbyn cynnwys yr adroddiad

·       Cyflwyno diweddariad ar yr argymhellion ymhen 12 mis

Cofnod:

Croesawyd Alan Hughes, Fflur Jones, Yvonne Thomas  (Archwilio Cymru), Aled Davies a Dewi Wyn Jones i’r cyfarfod.

 

Cyflwynwyd adroddiad gan Archwilio Cymru yn cyfeirio at archwiliad a gyhoeddwyd Chwefror 2024, i ganfod os oedd gan gyrff y GIG ac Awdurdodau Lleol drefniadau priodol i sicrhau bod adnoddau’n cael eu defnyddio’n effeithiol, effeithlon a darbodus wrth reoli llif cleifion allan o’r ysbyty yn Rhanbarth Gogledd Cymru.

 

Adroddwyd bod rhyddhau cleifion o ysbytai yn broblem ar hyd y wlad a hynny yn bennaf oherwydd bod y galw yn yr angen wedi cynyddu. O ganlyniad, roedd hyn yn creu problemau megis gostyngiad yn y nifer gwelyau sydd ar gael, gan roi straen ar y gwasanaeth. Ategwyd bod prinder gweithlu, diffygion yn y prosesau rhyddhau a rhannu gwybodaeth yn ychwanegu at yr heriau. Nodwyd bod ymrwymiad cryf gan y Partneriaethau i geisio gwella’r sefyllfa a bod ymateb y rhanbarth i’r argymhellion wedi bod yn gadarnhaol.

 

Cyflwynwyd ymateb y sefydliad i’r argymhellion ac i’r Pwyllgor eu hystyried, gan Aled Davies (Pennaeth Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant). Nodwyd bod gwaith a chanfyddiadau Archwilio Cymru wedi eu croesawu a bod yr ymateb yn un ar y cyd gan sefydliadau ar draws y rhanbarth, gyda Chyngor Gwynedd yn chwarae rhan allweddol yn y broses o ryddhau cleifion o’r ysbyty. Ategodd bod y rhanbarth yn cydnabod ac yn adnabod y gwelliannau sydd angen eu gweithredu i sicrhau cefnogaeth i gleifion ar ôl dod adref ac y byddai Gwynedd yn gwneud pob ymdrech i gydweithio gyda’r holl bartneriaethau i ymateb i’r heriau hyn. Nododd hefyd bod nifer o’r materion yn cyd-fynd â Blaenoriaethau Cyngor Gwynedd.

 

Materion yn codi o’r drafodaeth ddilynol:

·       Er y cydweithio gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC), nid yw’r sefyllfa yn gwella; yn sefyllfa argyfyngus. Angen gweld esiamplau o gydweithio da

·       Bod ardal BIPBC yn rhy fawr – nid yw’r prosesau yn addas i bwrpas pob ardal o fewn y rhanbarth

·       Bod angen cynnal mwy o drafodaethau rhwng BIPBC, yr Awdurdodau Lleol  a Phartneriaethau

·       Bod gan y Blaid Lafur gynlluniau uchelgeisiol i atgyweirio’r Gwasanaeth Iechyd Genedlaethol (GIG) –  sgôp yma i ymgysylltu gyda Llywodraeth Ganolog Llundain?

·       Bod rhyddhau cleifion o’r ysbyty yn hen broblem – angen canolbwyntio ar be gall Gwynedd ei wneud i wella’r sefyllfa

·       Byddai patrwm poblogaeth wedi bod yn ddefnyddiol fel rhan o’r adroddiad - yn gosod cyd-destun yr ardaloedd o fewn y rhanbarth

·       BIPBC mewn mesurau arbennig yn aml - y broblem ddim i’w datrys yn hawdd

·       Bod canran ‘aros i becyn gofal cartref newydd ddechrau’ yn uchel - gobeithio bod y Gwasanaeth yn edrych ar hyn

·       Prinder gwelyau a staff yn yr ysbytai.

 

Mewn ymateb i gwestiwn;

 

-        Ynglŷn â pha mor hyderus oedd y sefydliadau, wedi i’r argymhellion gael eu cyflawni, y bydd y sefyllfa wedi gwella ac os oedd adnoddau digonol i gynnal y gwaith, nodwyd bod pob ymdrech yn cael ei wneud i ymateb i’r materion a godwyd ac y bydd rhaid gwneud y defnydd gorau o’r hyn sydd ar gael yn barod. Awgrymwyd y gall addasiadau posib wella’r drefn, megis system technoleg gwybodaeth Cyngor Gwynedd yn rhedeg gyfochrog â system yr ysbytai fel bod modd hwyluso gwybodaeth uniongyrchol rhwng wardiau a chartrefi preswyl. Nododd mai hawdd yw dweud bod angen mwy o bobl i ddelio â hyn, ond ar hyn o bryd y strwythur staffio yn llawn (er bod problem recriwtio gofalwyr cartref a phreswyl).  Ategwyd bod rhaid canolbwyntio ar newid diwylliant, y ffordd o weithio, drwy dargedu adnoddau yn y llefydd cywir ac efallai ystyried peidio gor-ddarparu mewn rhai sefyllfaoedd; bod angen sicrhau bod y camau, yn unigol ac mewn partneriaeth yn arwain at wella’r sefyllfa.

 

-        Ynglŷn ag argymhelliad 1 - ‘Gwella Hyfforddiant a Chanllawiau’ (dyddiad cwblhau Gorffennaf 2024), ac os oedd hyn wedi ei gwblhau o fewn yr amserlen - nodwyd bod y mater ‘ar waith’ a hynny oherwydd bod gwaith addasu polisi yn cael ei gwblhau.

 

-        Ynglŷn â phwysigrwydd rhannu gwybodaeth ac mai anodd yw gweithredu heb wybodaeth gyfredol, derbyniwyd bod hyn wedi cael ei ddefnyddio fel esgus yn y gorffennol, ond gall rhannu gwybodaeth drwy ddefnyddio systemau technoleg gyfochrog, dynnu haenau oddi ar y broses - byddai yn gyfraniad positif ac yn lleihau risg o golli gwybodaeth (fyddai’n arferol yn cael ei gofnodi ar bapur)

 

-        Ynglŷn â sylw am ddiffygion yn y broses rhyddhau a’r diffyg lle wedi rhyddhau, nodwyd bod gwahaniaethau mewn darpariaeth gofal yng Ngwynedd ac yn enwedig rhwng gofal trefol a gwledig. Ategwyd bod De'r Sir yn waeth na’r gogledd gyda diffygion gwelyau nyrsio a’r angen weithiau i wneud trefniadau tu allan i’r Sir. Yng nghyd-destun gwelyau preswyl, amlygwyd nad oedd cymaint o broblem yma oherwydd bod y gwasanaeth yn canolbwyntio ar gefnogi’r claf  i aros yn e cartref.

 

Diolchwyd am yr adroddiad  gyda chais am ddiweddariad ymhen 12 mis. Roedd y pwyllgor yn rhannu eu cefnogaeth gyda’r Gwasanaeth ac yn gwerthfawrogi cymhlethdod y sefyllfa.

Adroddwyd bod yr argymhellion wedi eu trafod yn y Tîm Rheoli a bod argymhellion Archwilio Cymru yn cyd-fynd a rhaglenni gwaith y Gwasanaeth Oedolion, Iechyd a Llesiant; byddai hyn yn sicrhau bod cyfraniad Gwynedd i’r adolygiad yn un effeithiol.

 

PENDERFYNWYD:

 

Derbyn cynnwys yr adroddiad

Cyflwyno diweddariad ar yr argymhellion ymhen 12 mis

 

Dogfennau ategol: