I nodi’r wybodaeth
Cofnod:
Cyflwynwyd
adroddiad gan y Rheolwr Buddsoddi yn diweddaru’r aelodau’n ffurfiol o waith
Partneriaeth Pensiwn Cymru (PPC). Nodwyd bod yr adroddiad bellach yn un sy’n
cael ei gyflwyno yn rheolaidd i’r Bwrdd ac yn elfen bwysig iawn o Gronfa
Bensiwn Gwynedd sydd bellach gyda 85% o’r gronfa wedi’i bwlio.
Adroddwyd bod y Pennaeth Cyllid a’r Rheolwr Buddsoddi yn cynrychioli’r
Gronfa yn holl gyfarfodydd y pwl, a bod y cydweithio yn parhau i fynd yn dda ar
faterion megis ymateb ceisiadau rhyddid gwybodaeth, pleidleisio ac ymgysylltu
ac yn gyffredinol rhannu ymarfer da ar draws y cronfeydd.
Tynnwyd sylw at y
cronfeydd gan amlygu bod perfformiad y cronfeydd ar y cyfan wedi bod tu ôl
i’r meincnod ers y dechrau a hyn yn benodol gan fod y meincnod a osodwyd yn
heriol e.e. ar gyfer y Gronfa sustainable equity y meincnod yw MSCI All Country World Index, sydd yn cynnwys yr
holl gwmnïau, ond bod cwmnïau y mae’r Gronfa yn gallu buddsoddi ynddi wedi eu
cyfyngu. Eglurwyd bod Cronfa Global Growth wedi bod mewn bodolaeth ers dros 5 mlynedd ac wedi
tan berfformio'r meincnod. O ganlyniad, adroddwyd mai amserol fyddai adolygu’r
gronfa yma. Nodwyd bod Russell Investments yn edrych
ar strwythur y gronfa yma ac yn newid y rheolwyr o fewn y portffolio - bydd
swyddogion Gwynedd, ymgynghorwyr y Gronfa, Hymans
Robertson a swyddogion PPC yn monitro’r cronfeydd yn fanwl yn y dyfodol.
Yng nghyd-destun
datblygiadau yn y maes eiddo, nodwyd bod proses caffael apwyntio rheolwyr
buddsoddi eiddo wedi ei gwblhau. Tynnwyd sylw at ofynion sefydlu portffolio
buddsoddi eiddo oedd yn cynnwys gofyn am ddatblygu rhaglen fuddsoddi sy'n
defnyddio buddsoddiadau cronfeydd a buddsoddiadau uniongyrchol mewn
strategaethau sydd yn gwneud gwahaniaeth yn y Deyrnas Unedig, gydag o leiaf 50%
o asedau wedi'u lleoli yng Nghymru. Ategwyd y byddai Cronfa Bensiwn Gwynedd
maes o law yn ystyried eu portffolio eiddo gan fanteisio yn llawn ar yr
opsiynau yma.
Cyfeiriwyd at
ddatblygiad diweddar iawn o adolygiad pensiynau ‘Galw am Dystiolaeth’ gyda’r
Canghellor yn lansio adolygiad pensiynau nodedig i hybu buddsoddiad, cynyddu
enillion cynilo a mynd i’r afael a gwastraff yn y system bensiynau. Bydd camau
cychwynnol yr adolygiad yn gofyn i gronfeydd ystyried a ddylid lleihau'r nifer
pwls sydd yn weithredol gydag ymateb Cronfa Bensiwn Gwynedd wedi ei gynnwys fel
atodiad i’r adroddiad, oedd yn mynegi bod Gwynedd a Phartneriaeth Pensiwn Cymru
yn bartneriaeth sydd yn gweithio yn dda, gyda manteision o gyd weithio o fewn
Cymru e.e. yr iaith Gymraeg, Deddf Cenedlaethau’r Dyfodol, ynghyd a’r ffaith
bod y bartneriaeth wedi sefydlu nifer o is gronfeydd sy’n diwallu anghenion y
cronfeydd, a’u bod yn awyddus i wneud buddsoddiadau lleol -
byddai ymyrryd â hyn yn arall gyfeirio’r arian yma i Brydain yn lle
Cymru.
Derbyniwyd adborth
gan Sioned Parry ac Osian Richards oedd wedi mynychu cyfarfod ymgysylltu yn
ddiweddar gyda byrddau pensiwn eraill Cymru, oedd wedi ei drefnu gan Awdurdod
Cynnal PPC (Cyngor Sir Caerfyrddin). Nododd Osian Richards ei fod wedi awgrymu
y dylid penodi swyddog polisi i ddatblygu polisïau a chydweithio gyda swyddog y
grŵp gweithredol yn hytrach na phenodi ymgynghorydd allanol. Ystyriwyd y
byddai hyn yn gyfle da i Gymru ddangos llywodraethu da, yn atgyfnerthu sail i
bŵl Cymru aros yn Gymru a bod PPC wedi paratoi ymlaen llaw i brofi gwerth
cadw’r pwl yn Gymru.
Diolchwyd am yr adroddiad
Sylwadau yn codi o’r drafodaeth ddilynol:
·
Da gweld bod buddsoddiadau yn y Gronfa yn parhau i
gynyddu
·
Yn cytuno gyda sylwadau’r Cyngor a’r Bartneriaeth
i’r adolygiad ‘Galw am Dystiolaeth’, yn enwedig sylw am yr Iaith Gymraeg
·
Mai cyflogau gohiriedig yw pensiynau ac nid arian
llywodraeth - er bod cymhelliant i fuddsoddi rhaid sicrhau bod yr arian yn saff
·
Dylai Pensiwn Cymru aros yn Gymru i gael buddsoddi
yn Gymru
·
Bod y cronfeydd o fewn y bartneriaeth yn parhau i
gydweithio - pryder bod trafodaethau gwleidyddol yn codi o hyn yn hytrach na
thrafodaethau ariannol.
Mewn ymateb i
gwestiwn os oedd y Canghellor wedi ymgynghori gyda Llywodraeth Cymru nododd y
Pennaeth Cyllid bod Llywodraeth Cymru wedi bod yn rhan o’r trafodaethau ond nad
oedd yn ymwybodol o ymateb Llywodraeth Cymru i’r ymgynghoriad. Ategodd bod yr
ymgynghoriad yn agored i unrhyw un gyflwyno sylwadau - nid oedd cyfyngiad arno.
PENDERFYNWYD nodi’r wybodaeth
Dogfennau ategol: