Cyflwyno
adroddiad yr Uwch Swyddog Harbyrau.
Penderfyniad:
Nodi a derbyn yr adroddiad.
Cofnod:
Cyflwynwyd yr adroddiadau gan y
Rheolwr Gwasanaeth Morwrol a’r Uwch Swyddog Harbyrau. Tynnwyd sylw at y prif
bwyntiau canlynol:
Cadarnhawyd bod 81 o gychod
wedi bod ar angorfeydd blynyddol yn harbwr Aberdyfi eleni. Nodwyd bod hyn yn
gynnydd bychan o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol, ble roedd 72 o angorfeydd
blynyddol. Gobeithiwyd bydd y ffigwr hwn yn parhau i gynyddu i’r dyfodol.
Eglurwyd bod unrhyw un sydd yn dymuno cofrestru eu
bad pŵer yn gwneud hynny drwy wefan y Cyngor. Adroddwyd bod 1013 o gychod pŵer a 1044 o fadau dŵr personol wedi eu
cofrestru'r tymor hwn. Nodwyd hefyd bod 84 cwch gydag injan o dan 10hp wedi eu
cofrestru, sef cyfanswm o 2141 fadau ar
gyfer y tymor. .y. Cydnabuwyd bod hyn 368 yn is na’r tymor blaenorol, ble roedd 2509 o
gofrestriadau. Ystyriwyd mai’r prif ffactorau am y lleihad hwn yw tywydd
ansefydlog a’r hinsawdd ariannol bresennol.
Sicrhawyd bod yr harbwr yn cydymffurfio â Chod
Diogelwch Morol Porthladdoedd, sy’n amlinellu safon genedlaethol ar gyfer pob
agwedd o ddiogelwch morol.. Eglurwyd bod y Gwasanaeth yn adolygu’r cod ar hyn o
bryd er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth
gyda newidiadau statudol diweddar. Anogwyd yr aelodau i ddod i gyswllt
gyda swyddogion os oes ganddynt unrhyw sylwadau ar beth ddylai gael ystyriaeth
wrth ei addasu.
Croesawyd Mr Thomas Walton sydd wedi cael ei benodi
yn Harbwrfeistr Cynorthwyol ers mis Ebrill eleni.
Diolchwyd hefyd i’r wardeniaid traeth tymhorol a fu’n gweithio yn Aberdyfi a
Thywyn dros y tymor.. Tynnwyd sylw penodol at ddau swyddog a oedd wedi cysylltu
gyda Gwylwyr y Glannau ynglŷn â digwyddiad difrifol a oedd yn datblygu ar
ochr arall i’r afon. . Diolchwyd iddynt am ymateb yn brydlon a nodwyd bod cais
am ganmoliaeth (commendation) y Bad Achub yn dilyn y
digwyddiad. Cyhoeddwyd bod yr Uwch Swyddog Harbyrau wedi cychwyn proses ymddeol
a byddai’n gorffen gyda’r gwasanaeth yn fuan ym mis Mawrth 2025. Diolchwyd iddo
am ei holl waith dros nifer o flynyddoedd a rhannwyd dymuniadau gorau iddo i’r
dyfodol.
Tywyswyd yr aelodau drwy berfformiad ariannol yr
harbwr ar gyfer 1 Ebrill 2024 hyd at 31 Mawrth 2025. Manylwyd ar y prif
bwyntiau canlynol gan bwysleisio mai rhagdybiaeth o’r gwariant cyflawn y
cyllidebau ar ddiwedd y flwyddyn ariannol a rannwyd, yn seiliedig ar wariant
hyd at 31 Awst 2024, a gall y sefyllfa newid os bydd argyfwng yn codi:
·
Gweithwyr - Rhagdybiwyd tanwariant o £1,894 yng
nghyllidebau cyflogau a chostau swyddogaethau oherwydd bod yr Harbwrfeistr Cynorthwyol wedi cychwyn yn ei rôl ar ddyddiad
hwyrach na 1 Ebrill 2024.
·
Eiddo - Proffwydwyd tanwariant o £10,333 yn
y gyllideb hon, sy’n gyfrifol am gynnal tiroedd, casglu sbwriel ac ati.
Eglurwyd bod tanwariant yn y gyllideb gan nad oes costau sylweddol hyd yma wedi
codi. .
·
Trafnidiaeth - Ystyriwyd bydd tanwariant o £218 yn
y gyllideb hon erbyn diwedd y flwyddyn ariannol gyfredol. Eglurwyd nad yw’r
gyllideb hon yn cynnwys costau rhedeg a
chynnal a chadw cerbyd y gwasanaeth, ond ei fod yn cael ei ddefnyddio ar gyfer
tanwydd y cwch patrôl a chostau teithio staff. Nodwyd bod tanwariant yn y
gyllideb hon eleni gan fod tywydd ansefydlog wedi rhwystro staff rhag gwneud
defnydd llawn o’r cwch patrôl, gan arwain at arbediad yng nghostau’r tanwydd.
·
Gwasanaethau
a Chyflenwadau -
Rhagdybiwyd gorwariant o oddeutu £14,242 o fewn y gyllideb hon. Esboniwyd fod y
gyllideb yn cael ei ddefnyddio ar gyfer llu o nwyddau megis offer, arwyddion,
goleuadau, cymhorthion mordwyo a thrydan. Cadarnhawyd bod trafodaethau yn cael
ei gynnal oherwydd credir bod y gyllideb hon wedi ei osod yn rhy isel ar gyfer
eleni (£6,630). Gobeithiwyd bydd y gyllideb hon yn cael ei nodi yn uwch i’r
dyfodol gan achosi llai o orwariant.
·
Gwariant Un Tro – Ariannu o
Gronfeydd yr Adran – Cadarnhawyd nad oedd cyllideb wedi cael ei
osod ar gyfer y defnydd o gronfeydd ar gyfer y flwyddyn ariannol hon. Fodd
bynnag, cadarnhawyd bod gwariant o
£7,294 wedi bod ar y caban ‘dros dro’ i
staff yr harbwr.. Cydnabuwyd bod y gwariant hwn wedi ei nodi fel gorwariant
oherwydd nad oedd cyllideb wedi cael ei osod ar ei gyfer eleni. Pwysleisiwyd
nad yw’r gwariant yn cael effaith ar berfformiad cyllidol yr harbwr ar gyfer y
flwyddyn ariannol hon gan ei fod yn wariant un tro o’r gronfa.
Eglurwyd y rhagdybiwyd bydd yr harbwr yn gorwario
oddeutu £9,292 dros y gyllideb a osodwyd ar gyfer y flwyddyn ariannol bresennol
(£108,900). Fodd bynnag, mynegwyd balchder bod yr harbwr wedi llwyddo i dderbyn
£11,167 yn fwy o incwm na’r targed a osodwyd am y flwyddyn, sef £43,510.
Datganwyd bod hyn y newyddion positif iawn i ddyfodol yr harbwr a'i fod yn
amlygu bod cryn dipyn o ddefnydd ar wasanaethau’r harbwr. Tynnwyd sylw hefyd
bod codi ffi am barciotrelars
ar dir yr harbwr wedi creu mwy o incwm
eleni a bydd hyn yn parhau i’r dyfodol.
Adroddwyd y rhagdybir tanwariant o £9,170 yng
nghyllideb gyflawn yr harbwr erbyn diwedd Mawrth 2025 wrth ystyried y gwariant
uchod a’r incwm sydd wedi dod i mewn hyd yma.
Cydnabuwyd bydd cyfraddau ffioedd a thaliadau’r harbwr yn cael eu haddasu
yn y dyfodol agos yn unol â lefel chwyddiant. Nodwyd bydd swyddogion yn
ymdrechu i sicrhau bod y ffioedd yn cael eu codi digon i gyfarch costau ond i
beidio a’u cynyddu’n ormodol. Nodwyd
bydd ystyriaeth yn cael ei roi i ffioedd yr Awdurdodau Lleol cyfagos wrth ddod
i benderfyniad. Eglurwyd bydd penderfyniadau terfynol yn cael eu gwneud ar
ffioedd y tymor nesaf erbyn Mawrth 2025.
Eglurwyd bod cynnydd bychan i’w weld yn nifer
cwsmeriaid gyda chytundebau blynyddol ar angorfeydd yr harbwr, a bod cynnydd
i’w weld ers rhai blynyddoedd. Ymfalchïwyd bod nifer o ymholiadau wedi cael eu
derbyn gan gwsmeriaid newydd yn ogystal â chwsmeriaid sydd yn dod yn ôl yn
flynyddol. Cydnabuwyd nad yw rhai cwsmeriaid wedi dod yn ôl yn dilyn y pandemig
ac eraill ddim wedi dychwelyd oherwydd y wasgfa ariannol.
Tynnwyd sylw at holiadur boddhad cwsmer sydd yn
weithredol ers 2023. Eglurwyd y gall cwsmeriaid gael mynediad at yr holiadur
hwn drwy ddefnyddio cod QR sydd wedi ei leoli mewn gwahanol ardaloedd yn yr
harbwr, yn ogystal â holiadur sydd ar lein.. Adroddwyd bod 86% o’r ymatebion a
dderbyniwyd yn nodi bod eu profiad o’r harbwr yn dda iawn a bod sylwadau
cadarnhaol wedi eu derbyn am broffesiynoldeb ac agwedd y swyddogion.
Cadarnhawyd nad oedd un ymatebydd wedi nodi bod y gwasanaethau yn ‘wael’.
Cydnabuwyd bod swyddogion yn awyddus i fwy o gwsmeriaid gymryd mantais o’r
holiadur boddhad er mwyn sicrhau bod yr
holl agweddau o’r gwasanaethau a ddarperir yn cael adborth cyson. Cyfeiriwyd
hefyd at holiaduron boddhad cwsmer ar gyfer y traethau gan nodi bod sylwadau da
iawn wedi eu derbyn.
Cadarnhawyd bod archwiliad blynyddol diweddar gan Tŷ’r
Drindod yn cadarnhau bod pob cymhorthydd mordwyo ar eu safle priodol..
Ymhelaethwyd bod y Gwasanaeth yn cydweithio gydag Ymgynghoriaeth
Gwynedd er mwyn sicrhau bod 2 farc mordwyo yn cael eu pintio
yn ardal Tywyn.
Mynegwyd balchder nad oes yna unrhyw Rybudd i Forwyr
yn weithredol yn yr harbwr ar hyn o bryd, Diolchwyd i gontractwyr lleol sydd yn
cynorthwyo swyddogion i symud cymhorthion
yn ôl yr angen. Cadarnhawyd bod swyddogion hefyd yn gwneud defnydd o
ddrôn er mwyn ymdrechu i weld newidiadau yn y sianel.
Eglurwyd bod cynnydd i’w weld o’r tywod sy’n parhau
i gasglu ar y llithrfa ger Gorsaf y Bad Achub a Chlwb Hwylio Dyfi. Nodwyd ei
fod yn heriol i dynnu’r tywod oddi arno ar hyn o bryd gan fod lefel y tywod yn
uchel yn gyffredinol ar y prif draeth.
Atgoffwyd bod staff yr harbwr bellach wedi symud i
weithio o’r caban ‘dros dro’ tra mae gwaith adnewyddu angenrheidiol yn cael ei
gwblhau ar y brif swyddfa. Ymestynnwyd croeso i unrhyw un sydd angen cymorth
staff yr harbwr i ddod draw i’r caban am sgwrs. Ychwanegodd Pennaeth
Cynorthwyol yr Adran Economi a Chymuned bod Cynllun Rheoli Asedau 2024 - 2034
Cyngor Gwynedd wedi ymrwymo £500,000 ar gyfer datblygu’r swyddfa. Nodwyd bod
cais wedi cael ei gyflwyno i’r adran Eiddo er mwyn penodi penseiri i ddylunio’r
adeilad sy’n gweddu’r dirwedd ac atgyfnerthu’r sylfaeni. Sicrhawyd bydd y
dyluniadau cychwynnol yn cael ei rannu gyda’r cyrff ac asiantaethau lleol.
Rhagdybiwyd bydd yr adeilad newydd wedi ei gwblhau erbyn diwedd 2025.
Nodwyd bod yna nifer o ymholiadau am anifeiliaid a
gwastraff sydd wedi ei golchi fyny ar y traeth yn ystod y tymor. Pwysleisiwyd y
pwysigrwydd i ddarparu cyfeirnod i’r lleoliad drwy What
3 Words neu gyfeirnod grid. . Cadarnhawyd bod achos
trist wedi bod ar ddechrau’r flwyddyn ble roedd defaid wedi cael eu cario yn
nŵr yr afon ac wedi golchi fyny ar y traeth. Nodwyd bod modd cysylltu
gyda’r perchnogion os oes tag ar yr anifeiliaid a'u bod nhw yn eu gwaredu.
Cyfeiriwyd hefyd at nifer o achosion ble mae morloi wedi golchi fyny ar y
traeth. Eglurwyd mai claddu’r anifeiliaid mae’r swyddogion yn ei wneud bryd
hynny. Eglurwyd bod swyddogion wedi prynu beic cwad er mwyn gallu gwaredu carcasau anifeiliaid sydd wedi golchi fyny mewn lleoliadau
nad oes modd i’r cwch patrôl ei gyrraedd. Ymhelaethwyd bod staff yn ymchwilio i
brynu trelar pwrpasol ar gyfer y defnydd hwn hefyd.
Mynegwyd pryder am dywod sydd yn casglu ger maes
parcio'r traeth. Nodwyd bod posibilrwydd i’r tywod gael ei chwythu i ddraeniau
cyfagos yn dilyn gwynt mawr gan achosi trafferthion wrth waredu dŵr.
Cadarnhawyd bod trafodaethau wedi cael eu cynnal er mwyn codi wal yn y maes
parcio er mwyn lleihau rhai o’r risgiau hyn ond nodwyd nad oes datblygiad i
drefniadau hyd yma.
Diolchwyd i dîm ‘Plastic Free Aberdyfi’ am eu gwaith gwirfoddol yn casglu sbwriel ar
y traeth. Cadarnhawyd fod hon yn berthynas gwerthfawr iawn i ardal yr harbwr ac
yn lleihau baich gwaith y swyddogion. Atgoffwyd holl ymwelwyr y traeth i
gysylltu gyda staff yr harbwr os ydynt yn gweld gwastraff mawr na allent ei
gasglu, gan sicrhau bydd aelod o staff yn mynd i gasglu’r sbwriel gyda threlar a’i waredu.
Nodwyd bod cynnydd mewn niferoedd o ganŵs sydd yn cael eu gadael ar ôl ar y traeth.
Eglurodd yr Harbwrfeistr bod rhybudd yn cael ei osod ar bob canŵ sydd yn
cael eu gadael am amser hir. Ymhelaethwyd bod y rhain yn cael
eu symud i’r storfa ac mae modd i bobl eu casglu. Cyfeiriwyd hefyd at drefniant
tebyg sydd mewn lle ar gyfer cychod mwy, gan gadarnhau bod modd rhoi rhybudd
gwaredu arnynt os nad ydynt yn cael defnydd ac yn creu trafferthion.
Darparwyd diweddariad ar ddigwyddiad
difrifol a ddigwyddodd yn nyfroedd yr harbwr ym mis Mai 2023. Cadarnhawyd bod
ymchwiliad Heddlu Gogledd Cymru yn parhau ac mae’r achos wedi cael ei gyfeirio
at Wasanaeth Erlyn y Goron.
Rhannwyd gwybodaeth a manylion am nifer o
ddigwyddiadau sydd wedi cael eu cynnal yn ddiweddar gan gynnwys Pencampwriaeth
Badau Rasio Arfordir Cymru, Regata Flynyddol Rhwyfo Môr Cymru, WeSwimRun ac Aquathon Dyfi.
PENDERFYNWYD
Nodi a derbyn yr adroddiadau.
Dogfennau ategol: