Agenda item

Cais llawn i godi 18 tŷ fforddiadwy gyda datblygiadau cysylltiol

AELOD LLEOL: Cynghorydd Gareth Williams

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

 

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD: Gwrthod yn groes i’r argymhelliad.

 

RHESWM: Cais yn groes i PS1 – niwed arwyddocaol i’r Iaith Gymraeg

 

Cofnod:

Cais llawn i godi 18 tŷ fforddiadwy gyda datblygiadau cysylltiol

 

Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr oedd yn cynnwys crynodeb o sylwadau a dderbyniwyd gan Cyngor Cymuned Bownnog ac ar ran Prosiect Perthyn; penderfyniad apêl diweddar yn Ynys Môn (sydd a’r un polisïau cynllunio â Gwynedd), lle caniatawyd yr apêl, gyda chostau yn  erbyn y Cyngor am ymddygiad afresymol; gwybodaeth a thystiolaeth gan Adra yn dangos bod canran prif denantiaid mewn datblygiadau tai newydd sy’n siarad Cymraeg ar gyfartaledd yn uwch na’r canran siaradwyr Cymraeg yng Ngwynedd a bod datblygiadau tebyg, ar y cyfan yn cael effaith bositif ar yr iaith Gymraeg.

 

a)    Amlygodd Pennaeth Cynorthwyol Cynllunio ac Amgylchedd mai bwriad y Pwyllgor ar y 9fed o Fai oedd gwrthod y cais yn groes i’r argymhelliad am resymau yn ymwneud ag effaith negyddol ar yr iaith Gymraeg a diffyg angen o fewn ward Botwnnog am dai fforddiadwy. Gyda risg sylweddol i’r Cyngor dros wrthod y cais, cyfeiriwyd y cais i gyfnod cnoi cil. Adroddwyd ar gyd-destun y polisi cynllunio, y risgiau posib i’r Cyngor ac opsiynau i’r Pwyllgor cyn dod i benderfyniad terfynol ar y cais.

 

Eglurwyd mai cais ydoedd ar gyfer codi 18 o dai fforddiadwy ar safle wedi ei ddynodi yn benodol ar gyfer tai, o fewn ffin datblygu Pentref Gwasanaeth Botwnnog, fel y diffinnir yn y Cynllun Datblygu Lleol (CDLl).  Ategwyd, ers adrodd i’r Pwyllgor tro diwethaf, bod gwybodaeth ychwanegol wedi ei gyflwyno gan yr ymgeisydd yn ymateb i’r ddau reswm gwrthod. Roedd y wybodaeth yn datgan, bod:

-        statws Botwnnog fel anheddle yn y CDLl yn golygu nad oedd gofyn profi bod yr angen lleol wedi ei gyfyngu i ward Botwnnog, ond yn hytrach fod disgwyl i’r anheddle gyfarch angen ehangach yr ardal; bod graddfa’r datblygiad yn briodol ac yn cyd-fynd gyda statws Botwnnog fel Pentref Gwasanaeth; bod ystadegau diweddar gan Uned Strategol Tai'r Cyngor yn profi’r angen am dai fforddiadwy yn y Sir a’r cymysgedd tai sy’n cael eu cynnig yn adlewyrchu’r angen hwnnw; bod cynlluniau fel hyn yn allweddol i gefnogi’r iaith Gymraeg ac yn ymateb i’r argyfwng tai yng Ngwynedd. Ystyriwyd bod diffyg tystiolaeth wedi ei gynnig i amddiffyn y rheswm gwrthod yma.

 

-        Yng nhyd-destun polisi cynllunio, nodwyd mai’r gofyn statudol yw bod rhaid i geisiadau cynllunio gael eu penderfynu yn unol â’r cynllun a fabwysiadwyd (CDLl) onibai bod ystyriaeth cynllunio perthnasol yn nodi fel arall. Tynnwyd sylw at restr llawn o’r polisïau cynllunio perthnasol ac yn arbennig i’r polisïau cynllunio oedd yn ymwneud a’r ddau reswm gwrthod a roddwyd gan y Pwyllgor. Ategwyd bod ystyriaeth i’r iaith Gymraeg yn ganolog i Strategaeth y CDLl, fel modd o gyfrannu at gynnal a chreu cymunedau Cymraeg, a bod hyn wedi bod yn ystyriaeth wrth ddynodi safleoedd ar gyfer datblygiadau tai yn ardal y Cynllun. Pwysleisiwyd bod y strategaeth yn adnabod rôl a statws pob anheddle yn ardal y Cynllun gyda Botwnnog yn cael ei gydnabod fel Pentref Gwasanaeth. Botwnnog fyddai’r unig Bentref Gwasanaeth ym Mhen Llyn i wasanaethu ardal wledig eang gyda statws a rôl bwysig yn yr ardal. Yn unol a gofynion y Polisi Cynllunio, byddai’r tai newydd yn cyfarch anghenion tai trigolion Gwynedd gyfan ac nid angenhion tai Ward Botwnnog yn unig.

 

Nodwyd bod Polisi PS17 yn ymwneud a’r strategaeth aneddleoedd ac yn amlinellu sut y dylid gwasgaru datblygiadau tai mewn lleoliadau priodol ar  draws  ardal y Cynllun. Y disgwyliad yw bod Pentrefi Gwasanaeth fel Botwnnog, yn cael lefel uwch o dai newydd, os ydynt am barhau yn gynaliadwy, gan gydnabod bod Pentrefi Gwasanaeth gyda lefel uwch o gyfleusterau a gwasanaethau na’r pentrefi mwy anghysbell; Bod Polisi PS1 yn ymwneud yn uniongyrchol gyda’r iaith Gymraeg, a’r ymgeisydd wedi cyflwyno Datganiad Iaith Gymraeg (oedd tu hwnt i’r gofyn gyda datblygiadau tai ar safleoedd sydd wedi eu dynodi). Cyfeiriwyd at dystiolaeth a gyflwynwyd i’r Pwyllgor ar y 9 o Fedi yn cadarnhau nad oedd tystiolaeth wedi ei gyflwyno  i ddangos y byddai’r bwriad yn cael effaith o sylwedd ar yr iaith Gymraeg.

 

Cyfeiriwyd at benderfyniad apêl ddiweddar yn Ynys Môn ar gyfer 33 o dai fforddiadwy, ar safle ar hap tu allan i’r ffin datblygu, gyda’r prif faterion yn ymwneud a’r iaith Gymraeg a materion angen. Penderfynwyd ar sail yr un polisïau cynllunio a Gwynedd ac felly’n berthnasol i’w ystyried. Wrth gyrraedd ei benderfyniad, cyfeiriodd yr Arolygydd at y Canllaw Cynllunio Atodol oedd yn ymwneud a’r iaith Gymraeg gan nodi, “na all y system gynllunio defnydd tir ragweld na rheoli nodweddion personol perchnogion tai newydd” ... “Er hynny,  mae darparu digon o dai yn lleol ar raddfa ac o faint priodol, ac ar gyfer cymysgedd o aelwydydd, yn ffactor bwysig o ran hyfywedd yr iaith, er enghraifft wrth gadw unigolion sydd yn defnyddio’r iaith”.

 

Wrth ystyried yr angen am dai, pwysleisiwyd bod y safle wedi ei ddynodi ar gyfer tai yn y CDLl, ac felly’r egwyddor o dai ar y safle eisoes wedi ei sefydlu. Nodwyd bod y cais yn

cydymffurfio gyda pholisïau tai megis polisïau TAI 3, TAI 8, TAI 15 a Pholisi Strategol 18 a hynny oherwydd; bod yna gapasiti o fewn y cyflenwad tai dangosol ym Motwnnog; bod y dwysedd yn briodol a’r dyluniad o safon uchel; tystiolaeth wedi ei dderbyn yn dangos yn glir fod cymysgedd y tai a gynigir yn cyfarch yr angen. Yn ychwanegol, nodwyd bod yr angen am dai yng Ngwynedd wedi ei brofi yn y dystiolaeth gyfredol oedd wedi ei ddarparu gan Uned Strategol Tai'r Cyngor yn cadarnhau, ar gyfer Gwynedd, bod 2374 ar y gofrestr Opsiynau Tai yn aros am eiddo cymdeithasol ac 882 wedi eu cofrestru gyda Tai Teg am eiddo canolradd; bod 34 teulu ar y gofrestr tai cymdeithasol ac 14 ar gofrestr Tai Teg yn ardal Cyngor Cymuned Botwnnog (cofrestrau tai'r Cyngor a Tai Teg yn cael eu cydnabod fel tystiolaeth ddibynadwy i brofi angen ac yn cael ei gadarnhau gan yr Arolygydd ym menderfyniad apêl cynllun tai fforddiadwy Ynys Mon).

 

Eglurwyd bod yr argymhelliad i ganiatáu y cais yn seiliedig ar dystiolaeth gadarn oedd yn dangos bod y cais yn cydymffurfio gyda’r CDLl - nid oedd tystiolaeth wedi ei gyflwyno i gyfiawnhau gwrthod y cais ac felly pe byddai apêl yn erbyn y penderfyniad i wrthod, a’r apêl yn cael ei ganiatáu, bydd costau yn erbyn y Cyngor (Cyngor Ynys Môn wedi gorfod talu dros £16 mil o gostau). Byddai’r penderfyniad i wrthod y cais yn tanseilio polisïau cynllunio’r Cyngor.

 

Eglurwyd hefyd os mai’r penderfyniad fydd gwrthod y cais, yna bydd disgwyl i’r cynigydd a’r eilydd arwain ar amddiffyn unrhyw apêl yn erbyn penderfyniad y Pwyllgor.

 

Amlygodd y Pennaeth Cynorthwyol bod gan y Pwyllgor ddau opsiwn:

 

1.   Caniatáu’r cais gan ystyried y wybodaeth oedd yn yr adroddiadau oedd yn cynnwys tystiolaeth gadarn fod y cais yn cydymffurfio gyda’r CDLl

2.   Gwrthod y cais am resymau yn ymwneud a’r iaith Gymraeg a’r diffyg angen o fewn ward Botwnnog am dai fforddiadwy. Atgoffwyd yr Aelodau bod y  risgiau ynghlwm a’r penderfyniad yma wedi eu hamlygu eisoes. Pe byddai’r penderfyniad yn un i wrthod y cais, bydd gofyn i’r cynigydd a’r eilydd fod yn arwain ar amddiffyn unrhyw apêl.

 

Roedd y Pennaeth Cynorthwyol yn argymell y Pwyllgor i ganiatáu’r cais yn ddarostyngedig i osod yr  amodau cynllunio oedd wedi eu rhestru yn yr adroddiad. Cyfeiriwyd hefyd at yr amod oedd yn ymwneud a thai fforddiadwy a’r wybodaeth fydd angen ei gyflwyno cyn y gellid cychwyn unrhyw ddatblygiad.

 

b)    Yn manteisio ar yr hawl i siarad, nododd yr Aelod Lleol y sylwadau canlynol:

·       Ei fod yn siomedig nad oedd addasiad i’r cais yn sgil pryderon pobl leol

·       Bod y cae yn gae bach ar gyfer 18 tŷ ynghanol Botwnnog

·       Byddai caniatáu 18 o dai yn golygu cynnydd o 25% ym maint y pentref er nad oedd Swyddogion yr Awdurdod Cynllunio Lleol yn ystyried hyn fel gorddatblygiad

·       Nad oedd yr adroddiad yn gosod darlun cyfrefol o’r angen – 4 teulu yn unig sydd ar y rhestr aros am dŷ yn Botwnnog

·       Wrth gyfeirio at ‘ddiffyg tai yn lleol’ – Gwynedd gyfan sydd yma ac nid Botwnnog

·       Bod y CDLl yn ddiffygiol – angen ei waredu.

·       Bod angen codi tai ble mae’r angen

·       Yng nghyd-destun PS1 bod hi’n hanfodol edrych ar bob cais yn ei rinwedd ei hun

·       Bod y Comisiynydd Iaith wedi amlygu’r angen am asesiad effaith cynhwysfawr o’r CDLl gan fod methiant i gydymffurfio a pholisïau cynllunio

·       Bod dyletswydd ar yr Aelodau i warchod y Gymraeg. Pentref Botwnnog yn bentref Cymraeg gyda 70% o’r boblogaeth yn siarad Cymraeg yno - y pentref o fewn ffiniau Ardal o Arwyddocâd Ieithyddol (Dwysedd uwch) Penllyn

·       Grŵp Barcud (Rhanbarth Canolbarth a Gorllewin Cymru) - polisi ganddynt yn gosod blaenoriaeth i bobl leol sydd â chysylltiad 10 mlynedd â’r ardal ac yn cael eu hasesu os ydynt yn gallu siarad Cymraeg. Pam nad oes polisi tebyg gan Wynedd?

·       Bod gan yr Aelodau hawl i wrthod y cais ac nad oes angen arweiniad gan Swyddogion; Bod ganddynt ddyletswydd statudol i wrthod – rhesymau teilwng a theg wedi eu cyflwyno. Y cais yn groes i bolisi PS1 – yn creu effaith negyddol ar yr iaith Gymraeg.

 

c)     Cynigiwyd ac eiliwyd gwrthod y cais

Rheswm: ei fod yn groes i bolisi PS1 – niwed arwyddocaol i’r Iaith Gymraeg.

 

Nododd y cynigydd, ar sail tystiolaeth newydd a dderbyniwyd, bod argymhelliad y swyddogion yn groes i PS1. Tynnwyd sylw at ystadegau gan fapiau cyfrifiad ‘Output AREA’ oedd yn amlygu bod canran y bobl sydd yn siarad Cymraeg ym Motwnnog yn 84.7%, o gymharu â Rhiw (89%), Abersoch (69%) a Llanbedrog (44%) - a oes bwriad drafftio pobl i Fotwnnog? Ategodd ei fod yn siomedig o gynnwys enghraifft apêl Sir Fôn gan fod ‘niwed i’r iaith’ yn drydydd rheswm gwrthod ar y cais hwnnw ac nad oedd costau uniongyrchol i’r rheswm gwrthod yma. Amlygodd bod Cyngor Cymuned Botwnnog wedi amlygu diffyg hyder yn Adran Cynllunio Cyngor Gwynedd yn sgil eu hanfodlonrwydd nad oedd penderfyniad gwreiddiol y Pwyllgor ar y 9fed o Fai yn cael sefyll, a bod Cyngor Cymuned Botwnnog yn derbyn cefnogaeth am eu safiad gan gynghorau cymuned eraill yr ardal. Rhaid yw cefnogi’r strategaeth ’Cymraeg 2025’: Miliwn o Siaradwyr Cymraeg (Llywodraeth Cymru) - nid oedd sicrwydd gan Adra mai teuluoedd Cymraeg fydd yn cael byw yma a pham nad oes gan Cyngor Gwynedd bolisi tebyg i Grŵp Barcud?

 

       ch)   Yn ystod y drafodaeth ddilynol, nodwyd y sylwadau canlynol gan yr aelodau:

·       Bod rhaid gwarchod yr iaith Gymraeg – ethos y Cyngor yw gwarchod yr iaith. Rhaid cael ein gweld yn gweithredu ar hyn ac nid dweud yn unig

·       Yn dilyn ymweliad safle, y cae i weld yn rhy fach i 18 o dai. Pam gwasgu tai yma yn hytrach na gwasgaru ar draws yr ardal?

·       Byddai’r datblygiad yn newid cymeriad y pentref

·       Bod gan y Pwyllgor hawl i wrthod; bod ganddynt hawl annibynnol i farn

·       Bod diddordeb cyhoeddus a chenedlaethol i’r cais – neb o blaid y cynllun yn lleol

·       Bod sail i bryderon Cyngor Cymuned Botwnnog - rhaid talu sylw i’w sylwadau

·       Erthygl ‘Golwg’ yn mynegi bod ‘tai cymdeithasol yn niweidio cadarnleoedd Cymraeg’ ... rhaid diogelu cymuned Botwnnog, un o bentrefi Cymreicaf Gwynedd. Rhaid diogelu cynefinoedd Cymraeg - nid tai haf yn unig sydd yn fygythiad i’r iaith

·       Bod rhaid gwrnado ar lais y bobl leol – nid ydynt eisiau datblygiad mor fawr

·       Bod y cais yn groes i PS1. Er bod yr ymgeisydd wedi cyflwyno tystiolaeth na fydd niwed sylweddol i’r iaith Gymraeg, nid oedd y dystiolaeth yn dystiolaeth gref wedi ei gyflwyno gan arbenigwyr maes cynllunio nac ieithyddol.

 

·       Rhaid cadw at bolisiau’r Cyngor

·       Y tir wedi ei ddynodi ar gyfer adeiladu 21 o dai – yn rhan o strategaeth tai  Cyngor Gwynedd. A fu i Cyngor Cymuned Botwnnog wrthwynebu’r dynodiad yn wreiddiol?

·       Bod y cymysgedd tai a gynigir yma yn dda – yn 100% dai fforddiadwy

·       Nad oedd tystiolaeth yn dangos na fyddai Cymry yn symud i’r ardal

·       Bod tystiolaeth o’r angen lleol – y byddai yn cadw pobl yn lleol ‘iddynt gael byw lle maent eisiau byw’

·       Nad oedd sail cynllunio i’w wrthod - bydd yr Arolygydd yn sicr o’i ganiatáu os aiff i apêl

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â phwy gomisiynwyd yr arolwg o anghenion tai lleol gan yr Hwylusydd Tai Gwledig, beth oedd cost y gwaith ac os oedd y wybodaeth / gwaith ymchwil yn cael ei anwybyddu o ystyried bod gwahaniaeth sylweddol o fewn blwyddyn yn y data, nododd y Pennaeth Cynorthwyol, bod y wybodaeth yn gyfredol ac wedi ei ddarparu gan Uned Strategol Tai Cyngor Gwynedd. Y wybodaeth yn amlygu’n glir, heb amheuaeth, bod angen tai fforddiadwy ym Motwnnog, ac o fewn y Sir.

 

Ategodd y Rheolwr Cynllunio mai nid tai cymdeithasol yn unigol oedd yn cael eu cynnig yma. Bod 12 Uned Rhent Cymdeithasol, gyda 4 ohonynt ar gyfer pobl dros 55 mlwydd oed yn unig; 3 Uned Rhent Canolradd a 3 Uned Rhent Canolradd (gydag opsiwn yn y dyfodol i brynu drwy Rent yn Gyntaf. Byddai amod tai fforddiadwy wrth wraidd y datblygiad ac y bydd angen cytuno ar bolisi gosod cyn dechrau’r gwaith.

 

Mewn ymateb i’r sylwadau, nododd y Swyddog Monitro bod gan Aelodau’r Pwyllgor ddyletswydd statudol i ddyfarnu a gwneud penderfyniadau yn unol a’r CDLl, onibai bod tystiolaeth gefnogol yn nodi i’r gwrthwyneb. Ategwyd mai nid rhoi cyfarwyddyd y mae’r Swyddogion Cynllunio, ond cyngor i’r Aelodau sydd yn cydfynd â pholisi gosod tai Gwynedd. Nid datganiad o farn yw’r disgwyliad, ond bod tystiolaeth yn cael ei gyflwyno gyda rheswm gwrthod priodol – rhaid hefyd sicrhau cysondeb gydag ymgeiswyr.

 

Cynigiwyd ac eiliwyd cynnal pleidlais gofrestredig.

 

          PENDERFYNWYD:

 

          Gwrthod y cais yn groes i’r argymhelliad.

 

          RHESWM: Cais yn groes i PS1 – niwed arwyddocaol i’r Iaith Gymraeg

 

Yn unol a’r arweiniad blaenorol bydd disgwyl i’r Cynghorydd Gruffydd Williams (Cynigydd) a’r Cynghorydd Louise Hughes (Eilydd) yn arwain ar amddiffyn unrhyw apêl yn erbyn y penderfyniad.

 

          CANLYNIAD Y BLEIDLAIS  GOFRESTREDIG:

 

O blaid:(7)        Cynghorwyr Huw Rowlands, Gareth Jones, Delyth Lloyd Griffiths, Louise Hughes, John Pughe Roberts, Gareth Roberts a Gruffydd Williams

Atal: (0)

 

Yn erbyn:(6)     Cynghorwyr Edgar Owen, Gareth Coj Parry, Huw Wyn Jones, Elwyn Edwards, John Pughe ac Anne Lloyd Jones

 

Dogfennau ategol: