Newid defnydd y llawr gwaelod o Dafarn i Lety Gwyliau ar Osod
AELOD LLEOL: Cynghorydd Dafydd Meurig
Dolen
i'r dogfennau cefndir perthnasol
Penderfyniad:
PENDERFNWYD: Gwrthod
Nid yw’r Awdurdod Cynllunio Lleol wedi ei argyhoeddi bod y
dystiolaeth a gyflwynwyd gyda’r cais yn ddigonol i gadarnhau nad oes posibl parhau
gyda defnydd cymunedol o’r adeilad hwn. Mae’r cais felly’n groes i Bolisi ISA 2
Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn 2011-2026 fel y mae’n ymwneud ag
amddiffyn cyfleusterau cymunedol
Cofnod:
Newid defnydd y llawr gwaelod o Dafarn i Lety
Gwyliau ar osod
a) Amlygodd y Rheolwr Cynllunio mai cais ydoedd ar
gyfer trosi llawr gwaelod tŷ tafarn wag yn ddwy uned wyliau
hunangynhaliol. Cyflwynwyd y cais i bwyllgor am benderfyniad ar gais yr aelod
lleol a hefyd oherwydd diddordeb cyhoeddus yn y cais. Eglurwyd bod hwn yn
drydydd cyflwyniad o gynllun cyffelyb ac fe wrthodwyd y ceisiadau eraill
oherwydd diffyg gwybodaeth yn cyfiawnhau colled o adnodd gymunedol. Amlygwyd,
mai’r prif wahaniaeth gyda’r cais yma oedd bod Adroddiad Hyfywedd wedi ei
gynnwys gyda’r cais.
Wrth ystyried egwyddor y
datblygiad, tynnwyd sylw at Polisi ISA 2 a’r meini prawf perthnasol. Amlygwyd
yn yr adroddiad nad oedd cyfleuster tebyg o fewn pellter cyfleus i’r pentref
heb ddefnyddio cerbyd modur i’w gyrraedd.
Nodwyd bod yr Adroddiad
Hyfywedd yn trafod cynigion gan grŵp cymunedol i gynnal busnes yn y dafarn
gan ddod i’r casgliad na fyddai menter o’r fath yn hyfyw yn yr achos hwn. Er
hynny, ni ymddengys i’r casgliadau hynny gael eu selio ar unrhyw ddadansoddiad
manwl o gynnig busnes penodol ac roedd y grŵp cymunedol yn parhau o’r farn
bod eu cynigion i redeg busnes o’r safle yn hyfyw ac ymarferol. Ategwyd bod yr
Adroddiad Hyfywedd yn ddibynnol yn bennaf ar farn yr arbenigwr ac nad oedd
tystiolaeth ariannol gadarn ar y ffurf briodol wedi ei gyflwyno i gefnogi’r
cais.
Ymddengys bod y polisi hefyd
yn gofyn bod tystiolaeth o ymdrechion gwirioneddol i farchnata’r cyfleuster.
Cyfeiriwyd at e-bost oedd wedi ei gyflwyno yn datgan ymdrech i farchnata'r
eiddo am dros 12 mis ond nad oedd tystiolaeth fanwl wedi ei gyflwyno i gefnogi’r
datganiad yma. Yn ogystal, ymddengys mai ymdrech i farchnata'r eiddo ar gyfer
rhentu oedd wedi digwydd yn hytrach nag ymdrech i werthu'r eiddo yn ei
gyfanrwydd fel busnes. Derbyniwyd copi o hysbyseb marchnata, ond nid oedd
gwybodaeth i ddangos pryd cafodd yr eiddo ei hysbysebu, hyd y cyfnod hysbysebu
a beth oedd yr ymateb a fu i’r hysbyseb hwnnw – nid oes hysbyseb ar gyfer yr
eiddo ar wefan y cwmni mwyach. Wrth asesu'r wybodaeth a gyflwynwyd gyda'r cais,
ni ystyriwyd bod tystiolaeth ddigonol wedi ei gyflwyno ynghylch sefyllfa
ariannol y busnes nac i ddangos bod y dafarn wedi cael ei hysbysebu mewn modd
priodol am gyfnod parhaus o 12 mis o leiaf yn unol â gofynion y CCA a pholisi
ISA 2
Yng nghyd-destun darparu
llety gwyliau hunanwasanaeth eglurwyd nad oedd tystiolaeth o ormodedd yn yr
ardal ac felly’r bwriad yn cwrdd gyda’r maen prawf perthnasol o fewn polisi TWR
2. Er hynny, amlygwyd bod polisi TWR 2 yn anelu at amddiffyn cymeriad preswyl
ardal ac wrth ystyried y buasai’r datblygiad hwn yn golygu colli adnodd
cymunedol pwysig a chreu cyfleuster preifat cwbl wahanol ei naws yn ei le,
byddai’n anorfod y bydd niwed i gymeriad preswyl yr ardal yn deillio o’r
datblygiad hwn.
Adroddwyd
bod y cynllun busnes a gyflwynwyd gyda’r cais yn cyfeirio at fusnes yn cynnwys
tair uned wyliau, gyda llawr cyntaf yr adeilad yn cael ei drosi’n uned gwyliau
ar osod ar gyfer hyd at 12 o bobl. Nodwyd nad oedd hyn yn rhan o’r cais dan
sylw ac felly nid oedd modd rhoi ystyriaeth i’r ddogfen honno fel rhan o’r cais
gan ei fod yn ddatblygiad gwahanol i’r un dan sylw. Petai bwriad i ddefnyddio'r
llawr i fyny'r grisiau fel llety preswyl parhaol yn ei rinwedd ei hun, yna
byddai angen caniatâd cynllunio.
Er bod yr asiant wedi
cadarnhau bod bwriad diwygio’r cais ym mis Mai eleni, ni dderbyniwyd unrhyw
wybodaeth bellach wedi hynny. O ganlyniad, amlygwyd bod y cais wedi cael ei
asesu ar sail y wybodaeth oedd ger bron ac felly roedd y Swyddogion yn argymell
i’r Pwyllgor wrthod y cais gan nad oeddynt wedi eu hargyhoeddi bod y
dystiolaeth a gyflwynwyd yn ddigonol i gadarnhau nad oedd posib parhau gyda
defnydd cymunedol yr adeilad.
b) Yn manteisio ar yr hawl i siarad, nododd
gwrthwynebydd i’r cais y sylwadau canlynol:
· Bod y dafarn, yn y gorffennol ymysg y gorau yn yr
ardal
· Drysau’r dafarn wedi cau yn 2019 - ni chafodd y
gymuned gyfle i ‘achub y dafarn’
· Yn dilyn cyfnod covid a rheolau yn llacio gwelwyd
colled mewn cyfleuster cymunedol
· Bod Pwyllgor Parchu Pentir yn cynnal nifer o
weithgareddau – yn bwyllgor prysur
· Yr Eglwys ar hyn o bryd yw’r unig adeilad
cyhoeddus yn y pentref
· Bod Pentir yn safle canolog, yn safle da fel hwb
i’r gymdeithas ehangach
· Bod cau drysau’r dafarn wedi bod yn dolc i’r
gymuned – byddai AirB&B yn ergyd farwol
· Bod y gymuned yn
ffynnu - byddai modd i’r gymuned wneud
i’r dafarn weithio
· Bod pwysigrwydd mewn cynnal cymunedau
c) Yn manteisio ar yr hawl i siarad, nododd yr Aelod
Lleol y sylwadau canlynol:
· Bod teimladau cryf yn lleol am newid defnydd i’r
dafarn
· Nad oedd diweddariad o’r bwriad wedi ei dderbyn
ers mis Mai
· Nad oedd ystyriaeth ddigonol wedi ei roi i golli
cyfleuster cymunedol
· Bod yr Adroddiad Hyfywedd yn amlygu barn un
person o Wakefield
· Dim manylion wedi ei cyflwyno ynglŷn a pham
nad oedd y dafarn yn hyfyw – dim manylion ariannol wedi eu cyflwyno nac
enghreifftiau o dafarndai yn cael eu rhedeg gan gymunedau
· Dim ystyriaeth i
ddyfodol adeiladau sydd yn cael eu rhedeg gan y Gymuned - enghreifftiau da yng
Ngwynedd o lwyddiannau
· Dim tystiolaeth wedi ei gyflwyno yn dangos yn
eglur sut a phryd bu i’r cyfleuster gael ei farchnata na beth oedd yr ymateb
i’r ymdrechion hynny
· Yn gofyn i’r Pwyllgor wrthod y cais yn unol a’r
argymhelliad
ch) Cynigiwyd ac eiliwyd gwrthod y cais yn unol
â’r argymhelliad. Angen gweld y dafarn yn ail agor ei drysau.
PENDERFYNWYD
Gwrthod
Rheswm: Nid yw’r Awdurdod Cynllunio
Lleol wedi ei argyhoeddi bod y dystiolaeth a gyflwynwyd gyda’r cais yn ddigonol
i gadarnhau nad oes posibl parhau gyda defnydd cymunedol o’r adeilad hwn. Mae’r
cais felly’n groes i Bolisi ISA 2 Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn
2011-2026 fel y mae’n ymwneud ag amddiffyn cyfleusterau cymunedol
Dogfennau ategol: