Cais llawn i godi eiddo preswyl 3 ystafell wely
deulawr (defnydd C3) ynghyd a chreu mynedfa gerbydol newydd
AEOD LLEOL: Cynghorydd Gruffydd Williams
Penderfyniad:
PENDERFYNIAD:
Gohirio er mwyn cynnal ymweliad safle
Cofnod:
Cais llawn i godi eiddo preswyl 3 ystafell wely deulawr (defnydd C3)
ynghyd a chreu mynedfa gerbydol newydd
a)
Amlygodd y Rheolwr Cynllunio mai cais llawn ydoedd
ar gyfer codi eiddo preswyl deulawr o fewn rhan o ardd tŷ presennol ym
mhentref Edern. Cyflwynwyd y cais i bwyllgor am benderfyniad ar gais yr aelod
lleol.
Eglurwyd bod y safle
wedi ei leoli oddi fewn i ffin ddatblygu Edern sydd yn bentref wedi ei adnabod
fel Pentref Gwledig yn y CDLl ac fe ystyriwyd polisi TAI1wrth asesu’r cais. Amlygywd mai lefel cyflenwad dangosol tai
Edern yw 12 uned, gyda chyfanswm o 3 uned wedi eu cwblhau a 4 uned yn y banc
tir ar hap. Ar sail y wybodaeth yma, byddai caniatáu datblygiad ar y raddfa yma
yn gwbl dderbyniol ar sail lefel twf dangosol y Pentref a gan mai 1 tŷ a
fwriedir, nid oedd y bwriad yn cyrraedd y trothwy o fod angen cyfraniad tŷ
fforddiadwy.
Adroddwyd bod
caniatâd cynllunio yn bodoli ar y safle hyd mis Ionawr eleni am yr un
datblygiad a’r penderfyniad hwnnw wedi ei ystyried o dan y CDLl - yr un
ystyriaethau polisi yn parhau. Ategwyd, gan nad oedd newid yn nhermau polisi
nac yn ddaearol, byddai gwrthod y cais yn afresymol ac yn debygol o fod yn
destun costau apêl pe byddai’r cais yn cael ei wrthod. Tynnwyd sylw fodd bynnag
at hanes cynllunio hynach ble gwrthodwyd ceisiadau ar y sail byddai’r bwriad yn
ychwanegu at y nifer o ail gartrefi, pryder am faint y safle a’r gallu i
ddarparu mynediad, parcio a lle mwynderol ac nad oedd gwybodaeth i’r cyngor i’r
gwrthwyneb. Amlygwyd, ar yr adeg yma, roedd y polisïau yn wahanol, y ceisiadau
cynllunio yn rai amlinellol heb angen dangos gosodiad dangosol.
Yng nghyd-destun
materion trafnidiaeth a mynediad, nodwyd bod modd darparu mynedfa i safon a
digon o le troi a pharcio o fewn y cwrtil. Nid oedd gwrthwynebiad gan yr uned
trafnidiaeth.
Nodwyd bod yr ymgeisydd wedi cadarnhau bod y
bwriad yn un ar gyfer tŷ parhaol dosbarth C3 sy’n golygu bod modd rheoli’r
defnydd drwy amod er mwyn sicrhau mai defnydd preswyl parhaol a wneir yma ac
nid defnydd gwyliau na defnydd fel ail gartref. O safbwynt effaith gweledol,
eglurwyd bod amrywiaeth i faint a dyluniad tai cyfagos oedd yn cynnwys tai
traddodiadol a rhai mwy modern gydag amrywiaeth a chymysgedd o glystyrau o dai
teras a thai deulawr ar wahân i’w gweld drwy’r pentref. Gyda’r bwriad wedi ei
leoli gerllaw tai eraill, ni ystyriwyd y byddai’n amlwg yn y tirlun.
O ran deunyddiau adeiladu, ystyriwyd y byddai
llechi, rendr, byrddau pren a charreg yn addas ar gyfer y lleoliad ac yn
cyd-fynd a'r deunyddiau adeiladu lleol. O ran y balconi, cydnabuwyd fod
nodweddion megis balconïau yn gyffredin ar dai eraill o fewn yr ardal ehangach
oedd yn amrywio o ran maint ac ymddangosiadau, ac felly ni ystyriwyd byddai'r
cynnig yma yn sylweddol wahanol os o gwbl i'r mathau o ddatblygiadau oedd
eisoes wedi eu cymeradwyo’n lleol. Er bod peth pryder am effaith y tŷ ar
gymdogion, ystyriwyd bod yr annedd wedi cael ei ddylunio’n ofalus er mwyn
gwarchod mwynderau cymdogion ac nad oedd unrhyw sail i wrthod y cais ar sail
effaith mwynderol, yn unol â pholisi PCYFF 2.
Roedd Swyddogion yr Awdudrod Cynllunio Lleol yn nodi nad oedd rheswm
cynllunio dilys i wrthod y cais, ac felly’n argymell y Pwyllgor i ganiatáu’r
cais a chynnwys amodau.
Yn manteisio ar yr hawl i siarad, nododd yr Aelod Lleol y sylwadau
canlynol:
·
Ei fod yn siarad ar ran trigolion lleol Edern i
wrthwynbeu’r cais ar sail gorddatblygiad – y bwriad yn rhy fawr, yn rhy amlwg a
thu hwnt i bris pobl leol
·
Bod Glascoed, ers blynyddoedd bellach yn lety
gwyliau
·
Bod mynediad i’r eiddo yn anaddas – Ffordd Lon Cae
Glas yn ffordd ddi-ddosbarth, dim palmant, cul, mwdlyd, cloddiau uchel ac
anniogel. Er bod cyfyngiad 20mya, un lôn sydd yma
·
Er bod yr Uned Drafnidiaeth wedi gwneud cais am
gynllun manwl ar gyfer y pwynt mynediad arfaethedig, ni dderbyniwyd ymateb
·
Bod Cyngor Tref Nefyn yn gwrthwynebu’r cais ar sail
gorddatblygiad
·
Byddai cael balconi yn creu effaith o or-edrych ar
dai cyfochrog
·
Ceisiadau hanesyddol wedi eu gwrthod (12/68 a
11/95). Cais 2019 wedi ei gymeradwyo, ond dim adeiladu ar y safle wedi digwydd
·
Bod 15 amod i’r cais petai yn cael ei ganiatáu. Dim
cadarnhad o ddefnydd C3 yn unig nac ymateb i addasu’r fynedfa
·
Yn
annog y Pwyllgor i wrthod y cais neu ohirio a chynnal ymweliad safle
Cynigiwyd gwrthod y
cais ar sail gorddatblygiad. Y bwriad yn cael ei wasgu i lain o dir cul ynghyd
ag effeithiau goredrych ar fwynderau preswyl cymdogion.
Atgoffwyd yr Aelodau bod cynllunio ar yr union safle wedi ei ganiatáu 5
mlynedd yn ôl ac mai amser oedd wedi rhedeg allan cyn dechrau adeiladu.
Ni chafwyd eilydd i’r cynnig
Cynigiwyd ac eiliwyd gohirio y cais er mwyn cynnal ymweliad safle.
PENDERFYNWYD:
Gohirio
er mwyn cynnal ymweliad safle
Dogfennau ategol: