Agenda item

Cyflwyno adroddiad Arweinydd y Cyngor  (ynghlwm).

Cofnod:

Ymneilltuodd y Pennaeth Gwasanaeth Cyfreithiol / Swyddog Monitro o’r cyfarfod oherwydd ei swyddogaeth statudol fel Swyddog Monitro.

 

Cyflwynodd yr Arweinydd adroddiad yn:-

(a)     Ceisio safbwynt y Cyngor ar fater y refferendwm ar aelodaeth o’r Undeb Ewropeaidd, ac yn benodol y cwestiwn a fyddai mwy o fudd yn deillio i drigolion Gwynedd o fod yn parhau i fod yn aelod o’r Undeb Ewropeaidd ai peidio.

(b)     Argymell bod y Cyngor yn datgan ei fod o’r farn y byddai yna fwy o fudd yn deillio i drigolion Gwynedd o fod yn parhau i fod yn aelod o’r Undeb Ewropeaidd.

 

Ymhellach i gynnwys yr adroddiad, nododd yr Arweinydd:-

 

·         Bod Gwynedd wedi elwa o £158m o gronfeydd Ewropeaidd ers 2000 a bod hynny wedi creu buddsoddiad o £300m i’r sir yn ystod y cyfnod yma.

·         Na chredai y byddai modd i Wynedd ddenu’r fath symiau o arian o unrhyw ffynhonnell arall.

·         Bod rhai o’r prosiectau yng Ngwynedd sydd wedi elwa o arian Ewropeaidd yn cynnwys Pont Briwet (gwerth bron i £20m); Plas Heli, Pwllheli (bron i £9m), Cynllun Adfywio Blaenau Ffestiniog (£4.5m), Canolfan Ragoriaeth Eryri (£4.5m) a Llwyddo’n Lleol (cyfwerth â £3.2m o fuddsoddiad i Wynedd).

 

Yn ystod y drafodaeth, nodwyd:-

 

·         Mai hwn oedd yr un mater pwysicaf i wynebu’r DU mewn cenhedlaeth.

·         Bod gan fusnesau yng Nghymru fynediad at 500,000 o gwsmeriaid yn yr Undeb Ewropeaidd.  Hyd yma, bu hynny’n rhydd o dariff, ond petai’r DU yn gadael yr UE, byddai tariff yn cael ei godi ar yr holl fasnach sy’n mynd i Ewrop fel allforion a mewnforion, fyddai’n golygu mwy o gost i’r defnyddiwr, costau uwch i fusnesau a difrod i’r economi.

·         Bod 71% o fusnesau sy’n aelodau o’r CBI yn dweud bod aelodaeth o’r Undeb Ewropeaidd wedi cael effaith bositif ar fusnesau a bod 67% o’r holl aelodau sy’n fusnesau bach a chanolig hefyd yn rhannu’r un farn.

·         Y gellid dadlau ein bod yn derbyn £10 am bob £1 ‘rydym yn ei dalu i’r Undeb Ewropeaidd, nid o reidrwydd yn uniongyrchol fel arian, ond ar ffurf y manteision sy’n deillio o fasnachu gyda’r UE, e.e. prisiau isel, twf swyddi a masnach.

·         Y gallai aros yn yr UE greu 790,000 o swyddi ychwanegol yn yr UE dros y 15 mlynedd nesaf.

·         Bod asesiad annibynnol yn cyfrifo bod 190,000 o swyddi yng Nghymru gyda chysylltiadau masnach â’r UE, sef un swydd ymhob wyth.

·         Bod mwy na 50,000 yn cael eu cyflogi mewn amaethyddiaeth yng Nghymru ac amaethyddiaeth yw un o’r enillwyr mwyaf drwy’r polisi amaethyddol cyffredin.

·         Y byddai gadael yr UE yn arwain at golli’r holl gymorthdaliadau ac yn golygu mewnforion ac allforion mwy costus.  Hefyd, o bosib’ y byddai yna dariff o 40% ar ffermio.

·         Bod y swm a delir i’r Undeb Ewropeaidd yn hynod fach o gymharu â’r hyn a delir am wasanaethau hanfodol eraill, ond bod yr enillion yn nhermau masnach a chyfleoedd am swyddi yn llawer mwy na’r hyn mae’n gostio.

·         Bod angen cryfhau pwerau Pwyllgor y Rhanbarthau a galwyd ar yr Arweinydd a’r Aelod Cynulliad newydd dros Arfon i gyflwyno’r neges i Lywodraeth Cymru fod angen i bwysau ddod o Senedd Cymru i gryfhau pwerau a grym Pwyllgor y Rhanbarthau.

·         Bod Cymru’n rhan o’r bloc economaidd Ewropeaidd a’i bod yn bwysig cynnal y bloc a’i gryfhau.

·         Bod grantiau Ewropeaidd yn sbardun i gymunedau gymryd cyfrifoldeb drostynt eu hunain.

·         Bod Cymru wedi cael ei dynodi fel Ardal Entrepreneuraidd Ewrop ar gyfer 2017, a chan fod 2 o bob 3 swydd yn y sector breifat yn Ewrop mewn busnesau micro neu ganolig, tebyg i Wynedd, byddai rhoi sylw ar blatfform Ewropeaidd i’r math o fusnesau sydd yng Ngwynedd yn cael effaith bositif.

 

Eiliwyd argymhelliad yr adroddiad.

 

Galwyd am bleidlais gofrestredig ar y cynnig. 

 

Yn unol â’r Rheolau Gweithdrefn, cofnodwyd y bleidlais ganlynol:-

 

O blaid: (48) Y Cynghorwyr – Stephen Churchman, Annwen Daniels, Anwen Davies, Dyfed Edwards, Elwyn Edwards, Thomas Ellis, Aled Evans, Gweno Glyn, Simon Glyn, Gwen Griffith, Selwyn Griffiths, Alwyn Gruffydd, Annwen Hughes, Sian Wyn Hughes, Peredur Jenkins, Aled Wyn Jones, Anne Lloyd Jones, Brian Jones, Charles W.Jones, Elin Walker Jones, Eric Merfyn Jones, John Wynn Jones, Sion Wyn Jones, Beth Lawton, Dilwyn Lloyd, June E.Marshall, Dafydd Meurig, Dilwyn Morgan, Linda Morgan, Dewi Owen, Michael Sol Owen, William Tudor Owen, Caerwyn Roberts, Gareth A.Roberts, John Pughe Roberts, W.Gareth Roberts, Mair Rowlands, Dyfrig Siencyn, Gareth Thomas, Ioan Thomas, Hefin Underwood, Ann Williams, Gruffydd Williams, John Wyn Williams, Owain Williams, R.H.Wyn Williams, Mandy Williams-Davies ac Eurig Wyn.

 

Yn erbyn: (3) Y Cynghorwyr – John Brynmor Hughes, Peter Read a Mike Stevens.

 

Yn atal: (5) Y Cynghorwyr – Lesley Day, Aeron M.Jones, Eryl Jones-Williams, Nigel Pickavance, Angela Russell ac Elfed Williams.

 

PENDERFYNWYD datgan bod y Cyngor hwn o’r farn y byddai mwy o fudd yn deillio i drigolion Gwynedd o fod yn parhau i fod yn aelod o’r Undeb Ewropeaidd.

 

Dogfennau ategol: