I gyflwyno
gwybodaeth am gyfraniad yr Adran Amgylchedd i’r Strategaeth Iaith.
Penderfyniad:
Cofnod:
Cyflwynwyd yr adroddiad
gan Bennaeth
Cynorthwyol yr Adran Amgylchedd a thynnwyd sylw’n fras at y prif bwyntiau
canlynol:
Nodwyd bod natur rheng
flaen yr Adran yn arwain at gyswllt dyddiol gyda’r cyhoedd a Chynghorwyr ac
felly mae pob ymdrech yn cael ei wneud i hyrwyddo’r iaith o ddydd i ddydd, drwy
waith a gweithredoedd y staff.
Cadarnhawyd bod
polisïau’r Adran yn hyrwyddo a chefnogi’r Gymraeg gan fod ystyriaeth o’r iaith
Gymraeg yn ganolog i ddatblygiad Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd. Ymhelaethwyd
bod Polisi Cynllunio penodol mewn lle ar gyfer delio gyda materion ieithyddol
gan nodi bod y Canllaw Cynllunio Atodol yn darparu arweiniad manwl pellach ar
sut ddylai’r Gymraeg gael ei hystyried drwy gydol datblygiadau o bob math.
Tynnwyd sylw bod y broses o ddatblygu Cynllun Datblygu Lleol newydd yn mynd
rhagddo ar hyn o bryd fel un o flaenoriaethau Cynllun y Cyngor. Pwysleisiwyd
bod y Gymraeg yn ganolog i ddatblygu’r Cynllun hwn.
Atgoffwyd yr Aelodau bod
y Cabinet wedi cyflwyno Cyfarwyddyd Erthygl 4 ar draws ardal Awdurdod Cynllunio
Gwynedd (gan nodi nad yw hyn yn cynnwys ardaloedd sydd o fewn ffiniau Parc
Cenedlaethol Eryri). Adroddwyd bod angen caniatâd cynllunio i newid prif fan
preswyl yn ail gartref neu lety gwyliau tymor byr ers i’r Cyfarwyddyd ddod yn
weithredol ar 1 Medi 2024. Esboniwyd mai’r amcan yw cael gwell rheolaeth o’r
stoc dai o fewn y Sir, gan gwrdd a diwallu anghenion tai trigolion Gwynedd.
Ymhelaethwyd bod y Cyfarwyddyd yn fodd i gynorthwyo'r nod o gefnogi a
hyrwyddo’r iaith Gymraeg.
Adroddwyd bod cryn dipyn
o gynnydd wedi bod mewn ystadegau sgiliau iaith yr Adran yn y flwyddyn
ddiwethaf, drwy’r holiadur hunanasesu. Nodwyd bod nifer uchel o staff yn
weithwyr rheng flaen, megis y gwasanaethau Gwastraff ac Ailgylchu, ble nad oes
ganddynt fynediad rhwydd i safle mewnrwyd y staff. O ganlyniad i hyn cwblhawyd
yr holiaduron hunanasesu gydag arweinwyr tîm er mwyn deall anghenion ieithyddol
y gweithlu. Tynnwyd sylw bod 81.4% o staff yr Adran wedi cwblhau’r holiadur a
bod 83.6% o’r gweithwyr hynny yn cyrraedd dynodiadau iaith eu swyddi.
Cydnabuwyd bod yr Adran angen parhau i ddatblygu’r maes hwn ond hyderwyd y
gwelir cynnydd i’r dyfodol wrth i’r gwaith barhau.
Clodforwyd ymdrechion
staff i ddysgu’r iaith a gwella eu sgiliau ieithyddol.
Yn ystod y drafodaeth, cyflwynwyd y sylwadau a ganlyn:-
Tynnwyd
sylw at ystadegyn o fewn yr adroddiad sy’n nodi bod 3 cais cynllunio wedi eu
gwrthod yn rhannol oherwydd materion ieithyddol amrywiol a bod 13 cais
cynllunio wedi derbyn caniatâd gydag amod ar gyfer mesurau lliniaru ieithyddol.
Gofynnwyd am fwy o wybodaeth am ba resymau ieithyddol gall ceisiadau cynlluniau
gael eu gwrthod a pha fesurau lliniaru ieithyddol all yr Adran ei osod ar
geisiadau llwyddiannus. Mewn ymateb, cadarnhaodd Pennaeth Cynorthwyol yr Adran
nad oedd modd rhannu manylion penodol am achosion. Er hyn, ystyriwyd byddai
ceisiadau cynlluniau yn cael eu gwrthod oherwydd diffyg tystiolaeth am effaith
y datblygiad ar yr iaith Gymraeg. Ymhelaethwyd y gall yr adran osod amodau
lliniaru ieithyddol sy’n ymwneud â’r defnydd o enwau ac arwyddion Cymraeg.
Pwysleisiwyd bod amod wedi ei osod ar 35 o geisiadau cynllunio llwyddiannus er
mwyn sicrhau enwau Cymraeg ar fusnesau a dros 120 o dai newydd.
Atgoffwyd
yr Aelodau nad yw’r Cyngor yn cynorthwyo unrhyw gais cynllunio gyda datganiadau
ieithyddol nac unrhyw asesiadau eraill ar gyfer ceisiadau cynllunio, gan bod
angen i’r Cyngor fodd yn ddiduedd. Cydnabuwyd bod datganiadau ieithyddol yn
cael eu datblygu gan unigolion gyda thuedd i gefnogi’r ceisiadau cynllunio. Er
hyn, pwysleisiwyd bod pob cais yn cael ei asesu a’i herio ar sail y dystiolaeth
a gyflwynir. Cyfeiriwyd at yr angen am arweiniad cliriach a phendant gan
Lywodraeth Cymru ar gyfer diwygio’r sefyllfa hon i’r dyfodol.
Gofynnwyd
beth sydd ar waith gan yr Adran er mwyn asesu’r effaith y caiff Cyfarwyddyd
Erthygl 4 ar y stoc dai yng Ngwynedd. Mewn ymateb i’r ymholiad, cadarnhaodd y
Pennaeth Cynorthwyol bod fframwaith fonitro mewn lle a bod y gwasanaeth
Cynllunio yn derbyn adroddiadau rheolaidd gan y gwasanaeth Trethiant er mwyn
nodi newidiadau yn y farchnad wrth i amser fynd yn ei flaen. Ymhelaethwyd bydd
modd cadarnhau os oes mwy o dai yn talu’r raddfa treth cyngor sylfaenol ac os
yw defnydd tai yn newid wrth i’r broses hon barhau i’r dyfodol.
Ymholwyd
a oedd y Pennaeth Cynorthwyol yn ymwybodol o unrhyw drafodaethau gan Awdurdodau
Cynllunio eraill i gyflwyno Cyfarwyddyd Erthygl 4 yn y dyfodol. Mewn ymateb,
cadarnhaodd y Pennaeth Cynorthwyol bod Parc Cenedlaethol Eryri wedi penderfynu
eu bod yn ymchwilio i gyflwyno Cyfarwyddyd Erthygl 4. Adroddwyd bod y
dystiolaeth a gwybodaeth sydd wedi ei gasglu gan Gyngor Gwynedd yn gymorth mawr
iddynt wrth iddynt baratoi i gyflwyno’r Cyfarwyddyd a bod cydweithio clos rhwng
y ddau Awdurdod. Nodwyd eu bod wedi cynnal ymgynghoriad ffurfiol a bydd
penderfyniad terfynol yn cael ei wneud gan yr Awdurdod yn fuan.
Ystyriwyd
nad yw staff rheng flaen gwasanaethau’r Adran, megis gwasanaethau Gwastraff ac
Ailgylchu, yn adlewyrchu iaith y cymunedau maent yn ei wasanaethu mewn rhai
ardaloedd o’r Sir. Nodwyd yr ystyrir heriau recriwtio i fod yn ffactor sy’n
arwain at y broblem hon. Mewn ymateb i’r sylwadau, cytunodd y Pennaeth
Cynorthwyol bod recriwtio yn heriol i’r Adran yn gyffredinol. Pwysleisiwyd bod
yr Adran yn ymdrechu i ddelio gyda’r sefyllfa hon a gobeithiwyd bydd derbyn
gwybodaeth o holiaduron hunanasesu sgiliau ieithyddol yn galluogi’r Adran i
fynd i’r afael a’r sefyllfa i’r dyfodol. Ychwanegodd yr Uwch Swyddog Gweithredol bod diffyg hyder
aelodau staff i ddefnyddio’r sgiliau ieithyddol sydd ganddynt hefyd yn cyfrannu
i’r her hwn. Adroddwyd bod gwaith yn mynd rhagddo er mwyn annog pob gweithwyr i
wneud defnydd o sgiliau’r Gymraeg sydd ganddynt eisoes.
Gofynnwyd a
yw’r Adran yn defnyddio asiantaethau er mwyn hysbysebu ceisiadau am waith ynteu
yw’r ceisiadau hyn yn cael eu gwneud yn fewnol o fewn y Cyngor. Mewn ymateb,
cadarnhaodd y Pennaeth Cynorthwyol bod ceisiadau am waith yn cael eu gwneud yn
ddwyieithog ac yn fewnol o fewn y Cyngor. Ymhelaethwyd bod yr Uwch Swyddog
Gweithredol wedi bod yn datblygu pecynnau recriwtio er mwyn i fuddiannau’r
Cyngor fod yn fwy deniadol i gwmnïau.
Ymholwyd am
ddiweddariad ar ddatblygiad pecyn Tir a Môr ers cyflwyniad yr Adran i’r
Pwyllgor Iaith yn 2023. Mewn ymateb, nododd y Pennaeth Cynorthwyol bod cryn
dipyn o gynnydd wedi ei wneud ar y cynllun hwn gan fod yr Adran wedi derbyn
adborth ei fod yn becyn gwerthfawr iawn. Ymhelaethwyd bydd defnydd o’r pecyn yn
cael ei ledaenu gan fod Cyngor Sir Ynys Môn wedi datgan diddordeb i’w
ddefnyddio. Sicrhawyd bydd data ar y pecyn hwn yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor
Iaith wrth gyflwyno diweddariad yr Adran yn 2025.
Diolchwyd am yr adroddiad.
Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a dderbyniwyd.
Dogfennau ategol: