Agenda item

I gyflwyno gwybodaeth am gyfraniad yr Adran Gyllid i hybu a hyrwyddo’r iaith Gymraeg.

Penderfyniad:

Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a dderbyniwyd.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Pennaeth Cyllid Cynorthwyol (Cyfrifeg a Phensiynau) a Phennaeth Cynorthwyol Technoleg Gwybodaeth. Tynnwyd sylw’n fras at y prif bwyntiau canlynol:

 

Atgoffwyd yr aelodau o’r Cynllun Digidol a fabwysiadwyd gan y Cabinet ym mis Tachwedd 2023. Nodwyd bod yr iaith Gymraeg yn elfen ganolog i’r Cynllun ac yn cydnabod yr angen i gael darpariaeth Gymraeg ar gyfer unrhyw feddalwedd sy’n wynebu’r cyhoedd. Ymhelaethwyd bod pob ymdrech yn cael ei wneud er mwyn sicrhau darpariaeth Gymraeg ym mhob agwedd arall o waith y Cyngor hefyd. Cyfeiriwyd at yr Asesiad Addasrwydd Digidol sy’n cael ei ddefnyddio ar gyfer unrhyw gynnyrch sydd yn cael ei ddatblygu neu ei brynu gan y Cyngor, gan sicrhau bod yr iaith Gymraeg yn elfen bwysig o’r gofynion hynny.

 

Manylwyd bod yr Adran wedi canfod pecyn meddalwedd Gymraeg ar gyfer safle  hunanwasanaeth Treth y Cyngor newydd, gan nodi nad oedd darpariaeth Gymraeg i gael yn y pecyn safonol. Eglurwyd bod hyn yn galluogi’r Cyngor i ddarparu’r safle yn ddwyieithog i’r cyhoedd pan fydd yn weithredol.

 

Pwysleisiwyd bod nifer helaeth o staff yr adran yn cyrraedd dynodiadau iaith eu swyddi. Ymhelaethwyd bod 2 aelod o staff yn derbyn hyfforddiant Cymraeg ychwanegol, gan gynnwys cwrs yn Nant Gwrtheyrn yn ddiweddar. Sicrhawyd bod gan bob aelod o staff rhyw fath o sgiliau Cymraeg o fewn yr Adran ac felly pwysleisiwyd bod pob gohebiaeth fewnol  o fewn yr Adran yn cael ei rannu yn uniaith Gymraeg.

 

Cadarnhawyd bod yr Adran yn cydweithio gydag Archwilio Cymru ar hyn o bryd. Ymhelaethwyd bod yr Adran wedi cynhyrchu 6 pecyn o gyfrifon terfynol 2023/24 ar gyfer Cyngor Gwynedd, Uchelgais Gogledd Cymru, GwE ac Harbyrau Gwynedd. Eglurwyd bod Archwilio Cymru yn cynnal archwiliadau allanol manwl ar yr holl gyfrifon. Mynegwyd balchder bod Archwilio Cymru wedi penodi mwy o archwilwyr Cymraeg yn dilyn ymgyrch recriwtio diweddar, gan olygu bod cyfarfodydd yn cael eu cynnal drwy gyfrwng y Gymraeg.

 

Mynegwyd balchder bod yr Adran wedi llwyddo i ddenu hyfforddeion ar gyfer meysydd Cyllid a Thechnoleg Gwybodaeth a'u bod yn datblygu eu gyrfa drwy’r cyfrwng y Gymraeg.

 

Eglurwyd bod yr uned pensiynau wedi bod yn cydweithio gyda chwmni allanol er mwyn datblygu datganiadau fideo personol blynyddol Cymraeg. Ymhelaethwyd y golyga hyn bod person rhithiol o fewn y fideo yn tywys unigolion drwy ddatganiad blynyddol eu pensiwn, drwy gyfrwng y Gymraeg. Cydnabuwyd bod hyn wedi bod yn waith heriol i’r uned.

 

Nodwyd bod system hunanwasanaeth dwyieithog newydd i’r gronfa bensiwn wedi ei lansio ym mis Ebrill eleni. Mynegwyd balchder mai Cronfa Bensiwn Gwynedd oedd y gronfa gyntaf yng Nghymru i uwchraddio’r safle newydd gyda chymorth cwmni allanol. Cadarnhawyd bod y gwaith hwn yn lledaenu dros Gymru gan fod Cronfa Bensiwn Powys bellach yn ei ddefnyddio a bod cynlluniau pellach i gronfeydd pensiwn eraill ar draws Cymru uwchraddio i’w ddefnyddio.

 

Yn ystod y drafodaeth, cyflwynwyd y sylwadau a ganlyn:- 

 

Esboniwyd yn yr adroddiad bod pob gliniadur sy’n cael ei ddarparu gan y Cyngor yn cael ei ddarparu gyda’r llwyfan weithredu wedi ei sefydlu yn y Gymraeg. Gofynnwyd a yw’r Adran wedi derbyn ystadegau pellach er mwyn gwirio’r nifer sy’n dewis parhau gyda’r gosodiad yn y Gymraeg. Mewn ymateb, cadarnhaodd y Pennaeth Cynorthwyol Technoleg Gwybodaeth bod 63% o’r dyfeisiau yn parhau i fod yn y Gymraeg gyda 37% wedi cael eu  trosglwyddo’n ôl i osodiadau Saesneg. Sicrhawyd bod yr holl Benaethiaid Adran yn annog staff i ddefnyddio rhyngwyneb Cymraeg ar ei dyfeisiau ond cydnabuwyd nad oes modd ei wneud yn orfodol.

 

Llongyfarchwyd yr Adran gan fod 99.5% o staff yr Adran (218 aelod o staff) wedi cwblhau hunanasesiad ieithyddol. Gofynnwyd a oes gan swyddogion unrhyw arfer da y gellir ei rannu gydag Adrannau eraill y Cyngor i  fwy o aelodau staff i’w lenwi. Mewn ymateb i’r sylwadau, cadarnhaodd y Pennaeth Cyllid Cynorthwyol (Cyfrifeg a Phensiynau) bod trefniadau mewn lle i atgoffa’r Tîm Rheoli i atgoffa aelodau staff yn gyson yn hytrach na cheisio cynnal ymgyrch i gael pob aelod o staff i’w lenwi ar yr un adeg. Cydnabuwyd ei fod yn haws i swyddogion gysylltu gyda holl aelodau staff oherwydd bod gan fwy ohonynt gyfarpar technolegol, o’i gymharu â rhai o adrannau eraill y Cyngor sy’n delio gyda natur gwaith rheng flaen ble nad oes gan weithwyr liniaduron.

 

Diolchwyd am yr adroddiad.

 

PENDERFYNWYD

 

Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a dderbyniwyd.

 

Dogfennau ategol: