I gyflwyno gwybodaeth am weithrediad y Polisi Iaith a gweithgareddau
hybu’r Gymraeg.
Penderfyniad:
Derbyn yr adroddiad
gan nodi’r sylwadau a dderbyniwyd.
Cofnod:
Adroddwyd
bod natur rheng flaen i waith yr Adran a bod gweithwyr yn dod i gyswllt yn aml
gyda’r cyhoedd. Pwysleisiwyd disgwylir
i’r mwyafrif o staff allu siarad Cymraeg i lefel derbyniol er mwyn gallu
delio’n uniongyrchol gydag ymholiadau a darparu profiad gwell i gwsmeriaid o’r
herwydd.
Darparwyd
rhestr o wahanol hyfforddiant sydd wedi cael ei ddarparu er mwyn cynorthwyo
staff i ddatblygu a meithrin ei sgiliau. Mynegwyd balchder hefyd bod yr Adran
wedi llwyddo i ddenu prentisiaethau i feysydd peirianneg sifil, trydanwr a
thechnegydd fflyd. Pwysleisiwyd bod yr iaith Gymraeg yn ganolog i’w datblygiad
o fewn yr Adran.
Mynegwyd
balchder bod 96.6% o staff yr Adran yn cyrraedd dynodiadau iaith eu swyddi.
Nodwyd bod hyn yn gryn dipyn o gynnydd ers i’r Adran adrodd i’r Pwyllgor Iaith
yn flaenorol a bod gwaith cyson wedi bod o fewn yr Adran er mwyn sicrhau bod
gweithwyr yn cael y cyfle i gwblhau’r holiadur hunanwerthusiad. Ymhelaethwyd
bod gwaith yn parhau o fewn pob gwasanaeth ar draws yr Adran er mwyn annog
defnydd o’r iaith a magu hyder mewn sgiliau ieithyddol.
Nodwyd bod
tri pheiriannydd o wasanaeth YGC yn aelodau ar fwrdd Technegwyr Myfyrwyr
Graddedigion Sefydliad y Peirianwyr Sifil Gogledd Cymru. Ymhelaethwyd bod un
o’r aelodau yn cadeirio’r grŵp gan adrodd ar faterion technegol i grwpiau
eraill ar draws y Deyrnas Unedig yn gyson.
Cadarnhawyd
bod cydweithio yn digwydd gyda’r Tîm Categori Amgylchedd a Thîm Cymorth Busnes
y Cyngor er mwyn mynychu digwyddiadau ar draws y Sir. Eglurwyd mai’r nod y
digwyddiadau yw codi ymwybyddiaeth am gyfleoedd ar gyfer isgontractwyr lleol i
gofrestru ar restr Isgontractwyr y Cyngor neu i ddarparu gwasanaeth drwy
fframweithiau’r Cyngor. Ymhelaethwyd bod gwybodaeth yn cael ei rannu fel rhan o
Fwletin Cefnogi Busnes y Cyngor sydd yn cael ei rannu yn wythnosau. Gobeithiwyd
cynnal digwyddiadau pellach gydag Adra, Adrannau’r Cyngor a mwy o fusnesau yn y
dyfodol.
Adroddwyd
bod yr adran wedi derbyn adborth cadarnhaol yn ystod Sioe Môn eleni yn ogystal
â digwyddiadau gyrfaoedd. Nodwyd bod y rhain yn cynnwys sylwadau am wasanaeth
sydd yn cael ei gyflwyno i drigolion yn ogystal â gwaith yr adran i hyrwyddo’r
Gymraeg.
Yn ystod y drafodaeth, cyflwynwyd y sylwadau a ganlyn:-
Nodwyd bod
yr Adran wedi derbyn nifer o gwynion am faterion megis arwyddion uniaith
Saesneg. Gofynnwyd pa gamau mae’r Adran yn ei gymryd er mwyn lleihau niferoedd
cwynion i’r dyfodol. Mewn ymateb, cydnabuwyd bod hyn wedi bod yn her yn ystod y
flwyddyn ddiwethaf oherwydd bod yr Adran yn cydweithio gyda chontractwyr
allanol arbenigol. Pwysleisiwyd bod cytundebau, erbyn hyn, yn pwysleisio’r
angen i gyflwyno holl arwyddion ar gyfer safleoedd yn ddwyieithog a bod modd
cyflwyno sancsiynau os yw’r amodau’r polisïau yn cael eu torri. Cadarnhawyd nad
oes trafferthion wedi codi ers i’r newid hwn gael ei gyflwyno a bod yr Adran yn
awyddus i adeiladu ar y gweithdrefnau hyn i’r dyfodol, gan ei fod yn anorfod
bydd defnydd o gontractwyr allanol yn parhau oherwydd natur arbenigol agweddau
gwaith yr Adran.
Diolchwyd am yr
adroddiad
PENDERFYNWYD
Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a
dderbyniwyd.
Dogfennau ategol: