Ystyried unrhyw gwestiynau y rhoddwyd rhybudd priodol
ohonynt o dan Adran 4.18 o’r Cyfansoddiad.
Cofnod:
(Cyhoeddwyd atebion
ysgrifenedig yr Aelodau Cabinet i’r cwestiynau ymlaen llaw.)
(1) Cwestiwn Y Cynghorydd
Gruffydd Williams
A yw’r Adran Addysg yn
gwneud popeth o fewn eu gallu i sicrhau fod yr holl ysgolion yn cydymffurfio ag
argymhellion Adolygiad Cass?
Ateb – Aelod Cabinet
Cysgodol dros Addysg, Y Cynghorydd Paul Rowlinson
Mae darparu canllawiau cenedlaethol priodol i ysgolion yng Nghymru i
gefnogi plant a phobl ifanc traws, anneuaidd a rhywedd-gwestiynol mewn addysg
yn un o ymrwymiadau Llywodraeth Cymru. Ers yr ymgynghoriad yn Ebrill 2024 nid
oes canllawiau wedi eu cyhoeddi. Pan
fyddant yn cael eu cyhoeddi fe wnaiff yr Adran Addysg bopeth sydd yn
ddisgwyliedig ohonom i’w hyrwyddo ymysg ein hysgolion yn unol â’r canllawiau
cenedlaethol.
Cwestiwn Atodol y
Cynghorydd Gruffydd Williams
O ystyried bod Adolygiad Cass allan ers
misoedd lawer, pa ganllawiau mae’r Cyngor wedi bod yn ddefnyddio er mwyn
diogelu plant rhag pontio cymdeithasol (social transitioning) os nad ydym yn
defnyddio argymhellion Adolygiad Cass?
Ateb – Aelod Cabinet
Cysgodol dros Addysg, Y Cynghorydd Paul Rowlinson
Mae argymhellion Adroddiad Cass yn cyfeirio at argymhellion ar gyfer y
Gwasanaeth Iechyd yn Lloegr. Nid ydynt
yn cyfeirio at ysgolion o gwbl, ond mae Llywodraeth Cymru yn addo canllawiau i
ysgolion yng Nghymru sydd yn cymryd i ystyriaeth Adroddiad Cass a barn y
rhanddeiliaid. Pan fydd y canllawiau yn
cael eu cyhoeddi gallaf eich sicrhau y bydd Gwynedd yn sicrhau bod y canllawiau
yn cael eu dilyn.
(2)
Cwestiwn Y Cynghorydd Eryl Jones-Williams
A fydd
Cyngor Gwynedd yn cyflwyno sylwadau cryf i Drafnidiaeth Cymru a Llywodraeth
Cymru ynghylch colli'r trên hwyr olaf tua'r Gogledd a thua'r De ar reilffordd
Arfordir y Cambrian? Does dim bysiau o
gwbl yn hwyr yn y nos rhwng Machynlleth a Fairbourne na rhwng Abermaw a
Phorthmadog felly mae trafnidiaeth gyhoeddus amgen allan o'r cwestiwn. Bydd y penderfyniad hwn yn effeithio ar
weithwyr yn y diwydiant lletygarwch a staff archfarchnadoedd lleol ac yn mynd
yn groes i bolisi Llywodraeth Cymru o annog llai o deithiau car, er nad oes gan
lawer o bobl yn yr ardal hon geir.
Ateb – Aelod Cabinet
Cysgodol dros Amgylchedd, Y Cynghorydd Craig ab Iago
Diolch am y cwestiwn. Nid oes gen i lawer i’w ychwanegu i’r ateb
ysgrifenedig heblaw i ddweud fy mod yn rhannu eich pryder chi am sefyllfa
trafnidiaeth gyhoeddus Gwynedd ac rwy’n croesawu unrhyw gyfle i godi ymwybyddiaeth
am hyn. Yn wir rydym ni wedi lleisio
barn y Cyngor i’r Llywodraeth yn barod.
Cwestiwn Atodol y
Cynghorydd Eryl Jones Williams
Roeddwn mewn cyfarfod dydd Gwener diwethaf o
Bwyllgor Rheilffordd Arfordirol y Cambrian lle gwnaed sylw bod Llywodraeth
Cymru wedi cyflwyno newidiadau ar y trenau heb gynnal ymgynghoriad
anabledd. A fydd Cyngor Gwynedd yn mynd
ymlaen i herio Trafnidiaeth Cymru a’r Llywodraeth i wneud yn siŵr y bydd y
trên olaf yma yn parhau achos byddai ei cholli yn cael effaith ofnadwy ar bobl
sy’n defnyddio’r trên yn yr ardal yma o Wynedd?
Ateb – Aelod Cabinet
Cysgodol dros Amgylchedd, Y Cynghorydd Craig ab Iago
Bydd.
Mi wnaf basio eich sylwadau ymlaen i’r Adran.
Dogfennau ategol: