Cyflwyno
adroddiad yr Aelod Cabinet Cyllid.
Penderfyniad:
Bod y Cyngor yn gwneud dim newid i’r Premiwm Treth Cyngor ar gyfer
2025/26. Hynny yw, ar gyfer blwyddyn
ariannol 2025/26:-
Cofnod:
Cyflwynodd yr
Aelod Cabinet Cyllid, y Cynghorydd Paul Rowlinson, adroddiad yn gofyn i’r
Cyngor ddod i benderfyniad ar lefel y Premiwm i’w osod ar ail-gartrefi ac eiddo
gwag hirdymor ar gyfer 2025/26.
Yna cyfeiriodd y
Pennaeth Cyllid at y gwaith ymchwil manwl a gyflawnwyd gan y Tîm Ymchwil a
Gwybodaeth er mwyn dadansoddi effaith y Premiwm ar gymunedau Gwynedd yng
nghyd-destun nifer o newidiadau eraill, megis y trothwyon ar lety hunan-arlwyo
ac effaith posib’ Erthygl 4.
Rhoddwyd cyfle i’r aelodau gyflwyno sylwadau a gofyn cwestiynau.
Cyfeiriodd yr Aelod Cabinet Tai at brosiectau’r Cynllun Gweithredu Tai er
mwyn amlygu sut mae arian y Premiwm yn cynorthwyo pobl lleol i aros yn eu
cymunedau:-
·
£68m wedi’i wario yn creu 757 o unedau newydd, gyda
£10m o’r swm wedi dod o’r Premiwm.
·
Tŷ Gwynedd (tai fforddiadwy sy’n cael eu
hadeiladu gan y Cyngor) – 3 ar y ffordd i Lanberis,
10 yn Coed Mawr, Bangor, 9 yn Morfa Nefyn a 5 yn Llanystumdwy, gyda safleoedd
eraill yn Nhywyn, Y Bala a Llanfachreth dan ystyriaeth hefyd.
·
Safle newydd ar gyfer 5 unigolyn lleol digartref yn
Nolgellau (a lwyddodd i gyrraedd y rhestr fer ar gyfer gwobr ‘Best Supported Housing’ Inside Housing).
·
Pryniant cyn-adeilad y Llywodraeth ym Mhenrallt, Caernarfon gyda’r gobaith o gartrefu dros 37 o
bobl.
·
Datblygiadau amrywiol ym Mangor, gydag o leiaf 15 o
bobl wedi’u cartrefu.
·
Cynllun
Lesu Tai - 27 o dai preifat wedi’u lesu i’r Cyngor ar gyfer cartrefu pobl leol,
ac 17 arall ar y ffordd.
·
Cynllun Prynu Tai – 37 o dai ar draws y sir wedi’u
prynu gan y Cyngor i’w rhentu’n raddol i bobl leol – 3 yn Aberdyfi, 2 yn
Abersoch, 2 yn Abermaw, 6 yng Nghaernarfon, 1 yn Eden, 1 yn Y Felinheli, 1 ym Mhenrhyndeudraeth, 3 ym Mhorthmadog, 3 ym Mhwllheli a 3 yn Nhywyn, gyda rhagor ar y ffordd.
·
Tai cymdeithasol – 346 o dai wedi’u codi a mwy na
100 arall ar y ffordd (gyda Chyngor Gwynedd yn derbyn cydnabyddiaeth
genedlaethol gan Lywodraeth Cymru am y cydweithio da gyda’r cymdeithasau tai).
·
Grantiau Tai Gwag – 85 o geisiadau wedi’u caniatáu
ac 20 arall ar y ffordd.
·
Cynllun Prynu Cartref Gwynedd - Tai Teg – 42 o
aelwydydd wedi gallu prynu tai drwy gymorth y cynllun gyda 35 arall ar y
ffordd, sef mwy na’r hyn a ganiatawyd yn y 5 mlynedd cynt.
Mynegwyd y farn bod gosod Premiwm Treth Cyngor
o 150% ynghyd â chyflwyno Erthygl 4 wedi cael effaith negyddol ar dwristiaeth
gan arwain at ragor o dai gweigion ar werth yn ein cymunedau. Nodwyd hefyd y deellid bod £17.2m yn sefyll
yng nghronfa’r Premiwm ar hyn o bryd, gyda rhagor o arian yn dod i mewn erbyn
mis Mawrth y flwyddyn nesaf, a holwyd a oedd yr arian yn cael ei wario’n
ddigonol gan y Cyngor. Mewn ymateb,
nodwyd:-
·
Bod
y gronfa wedi cynyddu dros y blynyddoedd gan fod y Cynllun Gweithredu Tai yn
gynllun hirdymor.
·
Gan bod tai ar werth
wedi’u heithrio o dalu’r Premiwm am 12 mis, gallai hynny gymell perchnogion
ail-gartrefi i osod eu tai ar y farchnad i weld beth sy’n digwydd.
·
Y byddai’r ymchwil yn
parhau gan edrych ar y tueddiadau i weld os ydyn nhw’n rhai parhaol, a byddai
nifer y tai sy’n dod ar y farchnad a beth sy’n digwydd iddynt yn rhan o’r
ymchwil hefyd.
Nodwyd bod yna bryder yn lleol bod y polisi o
godi Premiwm ar ail-gartrefi yn gwthio’r brodorion Cymraeg eu hiaith i ollwng
gafael ar eu hetifeddiaeth, a hefyd yn troi cartrefi gwyliau, sy’n cael nemor
ddim effaith ieithyddol uniongyrchol, yn aelwydydd Saesneg, sy’n cael effaith
uniongyrchol ar broffil ieithyddol ardaloedd.
Awgrymwyd y dylid gostwng lefel y Premiwm i 50%, fyddai’n marcio tŷ
fel ail-dŷ, ond ddim yn gosod baich anghymesur ar y boblogaeth frodorol
sy’n dal ail-dŷ am ba bynnag reswm.
Mewn ymateb, nodwyd:-
·
Pan osodwyd Premiwm o 50%
ar ail-gartrefi, bod tuedd ar y cychwyn i fwy o dai ddychwelyd i fod yn brif
gartref nag i’r gwrthwyneb, ond roedd yr ymchwil yn dangos yn glir bod yr
effaith hynny wedi bod yn hynod fyr-dymor.
·
Wrth godi lefel y Premiwm
i 100%, ac yna i 150%, bod yr ymchwil yn dangos bod y duedd i fwy o dai
ddychwelyd i fod yn brif gartref yn parhau, a chredid bod hynny’n cyfiawnhau
cadw’r lefel ar 150%.
·
Bod y gwaith ymchwil yn edrych
ar pwy sy’n symud i mewn i’r tai a’u hiaith, ond roedd pobl yn symud am lawer o
resymau, ac o bosib’ bod yna fwy o symud ymhlith rhai carfanau nag eraill. Roedd y patrwm yn gymhleth ac roedd yr
ymchwil yn mynd i’r afael â chwestiynau fel hyn.
Nodwyd bod yna ymdeimlad bellach nad oes
croeso i ymwelwyr yng Ngwynedd a bod adeiladwyr, ac ati, sy’n ddibynnol ar
fusnes gan berchnogion ail gartrefi, yn bryderus am orfod diswyddo staff. Ar sail hynny, cynigiwyd y gwelliant a ganlyn
i ail gymal y penderfyniad a geisir yn yr adroddiad:-
·
Bod Cyngor Gwynedd yn caniatáu DIM disgownt ac yn
CODI PREMIWM O 100% ar ail gartrefi dosbarth B, yn unol ag Adran 12B o Ddeddf
Cyllid Llywodraeth Leol 1992.
Eiliwyd y gwelliant.
Nodwyd na anghytunid â’r gwelliant, ond y
credid y dylid cyfeirio’r mater i’r drefn graffu yn dilyn y cyfarfod hwn er
mwyn ystyried:-
·
Taflwybr cronfa’r
Premiwm, hy, a oes peryg’ i’r gronfa dyfu uwchlaw’r
hyn y gellir ei wario?
·
Oes modd lleihau’r
gronfa?
·
Oes yna ddulliau eraill o
wario’r arian fyddai’n dod â budd i’n cymunedau?
·
A yw ein cymunedau yn
gallu ymdopi gyda chyflymder y newidiadau?
Mewn ymateb, nodwyd:-
·
O ran cyflymder y
newidiadau, mai’r cynnig gerbron oedd i beidio newid unrhyw beth eleni ac i
gadw’r Premiwm ar yr un lefel â llynedd a’r flwyddyn cynt.
·
Nad oedd y cyfan o arian
y Premiwm yn mynd i mewn i’r gronfa gan i’r Cyngor benderfynu’n flaenorol i roi
£3m ohono yn y gyllideb refeniw bob blwyddyn i ddelio â’r pwysau yn y maes
digartrefedd.
·
Pe byddai’r Cyngor yn
penderfynu ar ryw bwynt i ostwng y Premiwm i 100%, byddai’n rhaid darganfod y
£3m yna yn rhywle arall, boed hynny drwy doriadau neu gynyddu’r Dreth Gyngor
neu leihau’r Cynllun Gweithredu Tai.
·
Bod yr awgrym i
gyfeirio’r mater i’r drefn graffu yn dilyn y penderfyniad yn un synhwyrol, a
diau y byddai’r Aelod Cabinet yn dymuno cymryd hynny i fyny yn y man.
Nodwyd y cefnogid cadw lefel y Premiwm ar 150%
hyd nes y bydd gan bob person ifanc yng Ngwynedd gartref.
Holwyd pa mor sydyn y gellir ymateb i sefyllfa
mentrau cydweithredol sy’n haeddu cael eu heithrio o dalu’r Premiwm, megis
Menter y Plu, sy’n defnyddio hen gapel fel llety gwyliau. Mewn ymateb, nodwyd nad oedd yn bosib’ rhoi
amcangyfrif o’r amserlen gan y byddai’n rhaid i’r Adran Gyllid lunio polisi,
mewn ymgynghoriad â’r Adran Gyfreithiol.
Ychwanegodd y Prif Weithredwr y dymunai wybod mwy am yr achos penodol
dan sylw, ac awgrymodd ei fod yn cael sgwrs gyda’r aelod y tu allan i’r
cyfarfod.
Pleidleisiwyd ar y gwelliant i ganiatáu DIM
disgownt a CHODI PREMIWM O 100% ar ail gartrefi dosbarth B, yn unol ag Adran
12B o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992.
Disgynnodd y gwelliant.
Yn ei sylwadau
cloi, atgoffodd yr Aelod Cabinet yr aelodau fod pleidleisio yn erbyn y cynnig
gwreiddiol yn golygu:-
·
Peidio
codi dim Premiwm o gwbl sy’n golygu na fyddai yna unrhyw arian ar gael ar gyfer
y Cynllun Gweithredu Tai na digartrefedd.
·
Rhoi
disgownt i bobl sydd ag ail-gartref a thai gwag a thrwy hynny greu twll enfawr
yng nghyllid y Cyngor.
Pleidleisiwyd ar y cynnig gwreiddiol, sef bod
y Cyngor yn gwneud dim newid i’r Premiwm Treth Cyngor ar gyfer 2025/26, ac fe
gariodd.
PENDERFYNWYD bod y Cyngor yn gwneud
dim newid i’r Premiwm Treth Cyngor ar gyfer 2025/26. Hynny yw, ar gyfer blwyddyn ariannol
2025/26:-
·
Bod Cyngor Gwynedd yn caniatáu DIM disgownt ar ail
gartrefi dosbarth A, yn unol ag Adran 12 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992;
·
Bod Cyngor Gwynedd yn caniatáu DIM disgownt ac yn
CODI PREMIWM O 150% ar ail gartrefi dosbarth B, yn unol ag Adran 12B o Ddeddf
Cyllid Llywodraeth Leol 1992.
·
Bod Cyngor Gwynedd yn caniatáu DIM disgownt i
gartrefi sydd wedi bod yn wag am 6 mis neu fwy ac yn CODI PREMIWM O 100% ar
gartrefi sydd wedi bod yn wag am 12 mis neu fwy, yn unol ag Adran 12A o Ddeddf
Cyllid Llywodraeth Leol 1992.
Dogfennau ategol: