Alwen Williams (Cyfarwyddwr
Portffolio a Phrif Weithredwr Dros Dro y CBC) a Geraint Owen (Cyfarwyddwr
Corfforaethol, Cyngor Gwynedd) i gyflwyno’r adroddiad.
Penderfyniad:
Derbyn y diweddariad cynnydd ar y gwaith i
sefydlu CBC y Gogledd, gan gynnwys trosglwyddo'r Cynllun Twf a symud ymlaen ar
dasgau sy'n ofynnol i gyflawni swyddogaethau statudol y CBC.
Cytuno i dderbyn adroddiad gan y Cyfarwyddwr
Portffolio yng nghyfarfod nesaf y Cyd-bwyllgor Corfforedig yn rhoi diweddariad
pellach ar gynnydd y trosglwyddo gan gyfeirio at y Cynllun Datblygu Strategol.
Awdurdodi'r Cyfarwyddwr Portffolio i gytuno
ar raglen a dyddiad trosglwyddo ddiwygiedig gyda'r Awdurdodau Lleol a
phartneriaid Addysg Uwch ac Addysg Bellach o fewn y dyddiad targed o 1 Ebrill,
2025.
Cymeradwyo estyniad o’r trefniant dros dro i
Gyfarwyddwr Portffolio'r Bwrdd Uchelgais Economaidd ymgymryd â rôl Prif
Weithredwr y Cyd-bwyllgor Corfforedig ar sail dros dro am ddau ddiwrnod yr
wythnos hyd at 31 Mawrth, 2025 neu'r dyddiad trosglwyddo, yn dibynnu p'un fydd
gyntaf.
Cofnod:
Cyflwynwyd
yr adroddiad gan Alwen Williams, Prif Weithredwr Dros Dro'r CBC a Dafydd
Gibbard, Prif Weithredwr, Cyngor Gwynedd.
PENDERFYNWYD:
Derbyn y
diweddariad cynnydd ar y gwaith i sefydlu CBC y Gogledd, gan gynnwys
trosglwyddo'r Cynllun Twf a symud ymlaen ar dasgau sy'n ofynnol i gyflawni
swyddogaethau statudol y CBC.
Cytuno i dderbyn
adroddiad gan y Cyfarwyddwr Portffolio yng nghyfarfod nesaf y Cyd-bwyllgor
Corfforedig yn rhoi diweddariad pellach ar gynnydd y trosglwyddo gan gyfeirio
at y Cynllun Datblygu Strategol.
Awdurdodi'r
Cyfarwyddwr Portffolio i gytuno ar raglen a dyddiad trosglwyddo ddiwygiedig
gyda'r Awdurdodau Lleol a phartneriaid Addysg Uwch ac Addysg Bellach o fewn y
dyddiad targed o 1 Ebrill, 2025.
Cymeradwyo
estyniad o’r trefniant dros dro i Gyfarwyddwr Portffolio'r Bwrdd Uchelgais
Economaidd ymgymryd â rôl Prif Weithredwr y Cyd-bwyllgor Corfforedig ar sail
dros dro am ddau ddiwrnod yr wythnos hyd at 31 Mawrth, 2025 neu'r dyddiad
trosglwyddo, yn dibynnu p'un fydd gyntaf.
TRAFODAETH
Darparwyd
crynodeb o’r adroddiad oedd yn cyflwyno diweddariad pellach ar y cynnydd i
sefydlu’r Cyd-bwyllgor Corfforedig ac yn ceisio cymeradwyaeth i ymestyn y
trefniant i’r Cyfarwyddwr Portffolio ymgymryd â rôl y Prif weithredwr Dros Dro
am ddau ddiwrnod yr wythnos tan 31 Mawrth 2025 neu’r dyddiad trosglwyddo.
Atgoffwyd
y Cyd-bwyllgor o’r trefniadau presennol gan amlygu fod swyddogaethau a
threfniadau’r Bwrdd Uchelgais wedi eu nodi yn GA2 sy’n cynnwys trefniadau
llywodraethu a chefnogaeth ariannol i’r Cynllun Twf. Eglurwyd y bydd y Cynllun
Twf a’r trefniadau ariannol yn trosglwyddo i’r Cyd-bywllgor Corfforedig a
phwysleisiwyd y pwysigrwydd o gydweithio rhanbarthol er mwyn i bartneriaid
gytuno ar drefniadau ar gyfer gweithredu swyddogaethau rhanbarthol fel rhan o
sefydlu’r CBC. Cadarnhawyd y bydd model trosglwyddo benodol yn cael ei gytuno
fel rhan o’r camau nesaf gyda phartneriaid.
Manylwyd
ar y materion cyfreithiol allweddol sy’n cael eu datblygu er mwyn gweithredu’r
trosglwyddiad fel y nodwyd yn rhan 3.3 o’r adroddiad a cyfeiriwyd at y meysydd
ffocws allweddol.
Esboniwyd
pam nad oedd y dyddiad targed dros dro o’r 1af o Dachwedd a osodwyd
ar gyfer trosglwyddo swyddogaethau o’r Bwrdd Uchelgais i Gyd-bwyllgor
Corfforedig y Gogledd yn gyraeddadwy gan amlygu’r penderfyniadau allweddol sydd
angen eu gwneud cyn trosglwyddo. Ymhelaethwyd ar y camau nesaf o ymdrin â
threfniadau cyfreithiol, ariannol a llywodraethant i allu trosglwyddo yn
llwyddiannus yn y dyfodol.
Cyfeiriwyd
at ran 4.6 i 4.8 o’r adroddiad oedd yn crynhoi’r amserlen ddiwygiedig sydd yn
cynnig trosglwyddo’r Cynllun Twf erbyn y 1af o Ebrill, 2025 fan
bellaf.
Diolchodd y
Cadeirydd i Brif Weithredwr dros dro’r CBC am yr adroddiad cynhwysfawr a
gofynnwyd a oes digon o adnoddau ar gael i gyflawni’r gofynion fel sydd wedi eu
nodi yn yr adroddiad erbyn yr amserlen ddiwygiedig. Mewn ymateb nodwyd nad oedd
yr holl adnoddau ar gael a bod bylchau yn bodoli, yn benodol yn ymwneud â rhai
o’r dyletswyddau strategol; nodwyd nad oedd adnodd wedi ei adnabod ar gyfer
symud y gwaith yn ei flaen. Cyfeiriwyd at yr adnoddau sydd wedi eu hadnabod hyd
yma oedd yn cynnwys Rheolwr Rhaglen dros dro a Chyfreithiwr i roi cymorth
cyfreithiol ychwanegol.
Ychwanegwyd bod y
CBC wedi cymeradwyo model adnoddau yn flaenorol ond ni ellir recriwtio na chael
yr adnoddau mewn lle nes bod y Cynllun Twf a’i bobl wedi trosglwyddo i’r CBC.
Nodwyd bod cynllun pontio manwl a chlir wedi ei ddatblygu ar gyfer trosglwyddo’r
Cynllun Twf ond bod pa mor gyflym y gall y cynllun hwnnw gael ei roi ar waith
yn ddibynnol ar dderbyn y cymeradwyaethau a nodwyd yn yr adroddiad. Credwyd bod
y dyddiad diwygiedig o’r 1af o Ebrill 2025 yn fwy cyraeddadwy a bod
amser digonol cyn hynny i gael popeth mewn lle i drosglwyddo.
Mynegwyd barn na
ellir parhau i roi estyniad ar estyniad a gofynnwyd a oes angen ystyried prynu adnoddau
ychwanegol er mwyn symud y cynlluniau yn eu blaen a chefnog Prif Weithredwr
dros dro'r CBC i gwrdd â’r terfynau amser.
Mewn ymateb,
mynegwyd o ran y Cynllun Trafnidiaeth bod hynny eisoes wedi digwydd a bod
cefnogaeth ymgynghorwyr ARUP wedi ei sicrhau ar gyfer datblygu’r Cynllun
Trafnidiaeth rhanbarthol a bellach bod yr amserlen yn cael ei chwrdd. Nodwyd
bod y cymorth sy’n cael ei dderbyn gan ARUP yn help i yrru’r momentwm yn ei
flaen. Credwyd bod cyfle i wneud yr un peth ar gyfer y Cynllun Datblygu
Strategol a bod hynny’n rhywbeth y bydd y CBC yn mynd allan i dendro arno.
Ychwanegwyd ei bod yn angenrheidiol gweithio gyda rhywun sydd â chefndir
cynllunio fydd yn gallu gyrru’r rhaglen yn ei blaen. Nodwyd y bydd asiantaethau
neu ymgynghorwyr yn cael eu cysidro ond teimlwyd y byddai’n fuddiol gweithio
efo cleientiaid mewnol yn y rhanbarth, er enghraifft pe bai capasiti o fewn Cynghorau’r
Gogledd. Cadarnhawyd bod secondiadau yn cael eu hystyried a’u croesawu.
Cynigiodd Prif Weithredwr dros dro’r CBC gyflwyno adroddiad yn y cyfarfod nesaf
yn amlinellu’r uchod.
Pwysleisiwyd
pwysigrwydd cwrdd â’r dyddiad trosglwyddo diwygiedig o Ebrill y 1af
gan gydnabod bod materion cymhleth sydd rhaid ymdrin â hwy. Cytunwyd i ofyn am
adroddiad gan y Cyfarwyddwr Portffolio yng nghyfarfod nesaf y Cyd-bwyllgor
Corfforedig yn rhoi diweddariad pellach ar gynnydd y trosglwyddo gan gyfeirio
at y Cynllun Datblygu Strategol.
Gadawodd Brif
Weithredwr Dros Dro'r CBC y cyfarfod a thrafodwyd y penderfyniad a geisir yn
rhan 2.3 o’r adroddiad. Credwyd bod y cynnig yma yn un teg ac yn adnabod y
ffordd ymlaen fwyaf pragmatig. Gwnaethpwyd sylw bod pryderon am yr oedi sydd
wedi bod a phwysleisiwyd pwysigrwydd ymdrechu i gwrdd â’r terfynau amser sy’n
bodoli. Gofynnwyd i bawb ymdrechu i gwrdd â’r terfyn amser newydd.
Awgrymwyd derbyn
adroddiad cynnydd yn fisol er mwyn derbyn diweddariad o’r cynnydd ac i sicrhau
fod y gwaith ar y trywydd iawn. Cytunwyd i ddirprwyo hynny i’r Cadeirydd.
Nododd y Cadeirydd y bydd yn trafod efo Prif Weithredwr dros dro’r CBC er mwyn
iddo dderbyn yr adroddiad cynnydd yna bydd yn ei rannu gyda gweddill y
Cyd-bwyllgor.
Dogfennau ategol: