Agenda item

I ddarparu sicrwydd bod y drefn cynllunio yn ystyried effaith datblygiadau ar gymunedau Cymraeg bregus.

Penderfyniad:

1.    Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a gyflwynwyd yn ystod y drafodaeth.

2.    Bod y Pwyllgor yn gofyn i Lywodraeth Cymru i adolygu ‘Polisi Cynllunio Cymru’ a  ‘Nodyn Cyngor Technegol (TAN) 20: Cynllunio a’r Gymraeg’ er mwyn sicrhau bod yr iaith Gymraeg yn cael ystyriaeth briodol.

3.    Gofyn i’r Cymdeithasau Tai ddarparu data i’r Cyngor er mwyn asesu gwybodaeth am yr iaith Gymraeg ym maes cynllunio.

4.    Cydnadbod nad oes cymhwyster penodol wedi ei ddatblygu ar gyfer asesu effaith ieithyddol datblygiadau cynllunio. Argymell i’r Adran Amgylchedd a’r Uned Iaith y dylid cysylltu gyda’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol a Phrifysgol Bangor i’w hannog i ddatblygu hyfforddiant addas. .

5.    Dylid atgoffa Cynghorau Cymuned a Thref o’u rhyddid i gyflwyno sylwadau am effaith ieithyddol posib gall datblygiadau cynllunio lleol ei gael ar yr ardal.

6.    Dylid ystyried cynnal hyfforddiant cynllunio ieithyddol i Gynghorwyr er mwyn eu galluogi i gynorthwyo Cynghorau Cymuned a Thref i gyflwyno sylwadau ar effaith ieithyddol datblygiadau cynllunio.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Bennaeth a Phennaeth Cynorthwyol yr Adran Amgylchedd ac Arweinydd y Tîm Polisi Cynllunio. Roedd yr Uwch Ymgynghorydd Iaith a Chraffu hefyd yn bresennol i roi arweiniad ar faterion yr iaith Gymraeg.

 

Cymerodd y Pennaeth Amgylchedd y cyfle i ddiolch i’r Cynghorydd Dafydd Meurig am ei gefnogaeth i’r Adran a’i angerdd am yr iaith Gymraeg a materion cynllunio drwy gydol ei gyfnod fel Aelod Cabinet Amgylchedd. Ategodd y Cadeirydd y diolchiadau i’r cyn Aelod Cabinet ar ran y Pwyllgor.

 

Adroddwyd bod gwarchod yr iaith Gymraeg yn bwysig iawn i’r Adran a'i fod wedi cydweithio gyda’r Uned Iaith er mwyn paratoi’r adroddiad hwn.

 

Cadarnhawyd bod Canllaw Cynllunio Atodol - Cynnal a Chreu Cymunedau Nodedig a Chynaliadwy yn weithredol er mwyn sicrhau bod effaith datblygiadau ar yr iaith Gymraeg yn cael sylw teilwng o fewn y maes cynllunio. Manylwyd bod dau brif faen prawf i weld o fewn y Canllaw hwn er mwyn sicrhau bod datblygwyr yn deall pwysigrwydd cyflwyno datganiad / asesiad effaith  iaith wrth gyflwyno cais am ganiatâd cynllunio. Eglurwyd mai cyfrifoldeb y datblygwr yw darparu asesiad iaith ar gyfer unrhyw ddatblygiad gan nodi nad yw’r Cyngor yn eu cynorthwyo i wneud hyn y tu hwnt i’r arweiniad a geir o fewn y Canllaw Cynllunio Atodol.

 

Eglurwyd bod y Canllaw Cynllunio Atodol yn rhoi arweiniad manwl i ddatblygwyr a darpar ymgeiswyr ynglŷn ag ystyriaethau’r iaith Gymraeg. Ymhelaethwyd ei fod hefyd yn darparu methodoleg ar sut i ddatblygu datganiadau ac asesiadau effaith iaith Gymraeg. Cadarnhawyd bod yr Adran wedi cychwyn y broses o ddatblygu Cynllun Datblygu Lleol newydd ar gyfer ardal awdurdod cynllunio Gwynedd (gan eithrio ardaloedd y Sir sydd o fewn ffiniau’r Parc Cenedlaethol). Nodwyd bod y broses hon yn rhoi’r cyfle i ystyried a diwygio gweithdrefnau, pholisïau a’r Canllaw Cynllunio Atodol. Tynnwyd sylw y bydd cyfle i Aelodau Etholedig ac i’r Pwyllgor Craffu Cymunedau yn benodol i roi mewnbwn fel rhan o’r broses o ddatblygu Cynllun newydd.

 

Nodwyd bod enghreifftiau wedi bod yn y gorffennol o geisiadau cynllunio sydd wedi cael eu gwrthod oherwydd nad oedd tystiolaeth ddigonol am yr iaith Gymraeg. Eglurwyd  bod rhai o’r achosion hyn wedi cael eu gwrthod ar apêl cynllunio i Lywodraeth Cymru hefyd.

 

Pwysleisiwyd bod y maes cynllunio yn gweithredu o fewn fframwaith statudol a fframwaith polisi cenedlaethol. Eglurwyd bod y rhain yn gosod y sail a chyd-destun i Bolisi Cynllunio Gwynedd ac effeithio a chyfyngu ar beth ellir ei gynnwys o fewn Cynllun Datblygu Lleol. Eglurwyd bod gwybodaeth bellach ar faterion polisi cenedlaethol, rhanbarthol a lleol wedi ei gynnwys o fewn yr Adroddiad.

 

Cyfeiriwyd at Bolisi PS 1 'Yr Iaith Gymraeg a’r Diwylliant Cymreig’ o’r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd. Eglurwyd bod y polisi yn gosod allan y gofynion o ran ystyriaeth o’r iaith Gymraeg. Tynnwyd sylw at y trothwyon a oedd wedi eu cynnwys yn Atodiad 1 o’r adroddiad.

 

Tynnwyd sylw bod y drefn cynllunio yn gallu hyrwyddo’r iaith Gymraeg drwy annog datblygwyr i ddefnyddio enwau Cymraeg neu ddwyieithog yn ogystal â defnyddio enwau Cymraeg mewn busnesau.

 

Adroddwyd bod pryder am y defnydd o stoc dai yng Ngwynedd gan fod nifer o dai lleol wedi cael eu trosi yn ail gartrefi a llety gwyliau byr dymor dros y blynyddoedd diwethaf. Atgoffwyd yr Aelodau bod Cyfarwyddyd Erthygl 4 yn weithredol ers 1 Medi 2024 er mwyn mynd i’r afael a’r her hon. Gobeithiwyd bydd hyn yn sicrhau mwy o reolaeth ar y stoc dai bresennol, gan fod angen caniatâd cynllunio er mwyn trosi prif fan preswyl yn ail gartref neu lety gwyliau tymor byr. Ystyriwyd bydd hyn yn diwallu anghenion tai’r cymunedau lleol gan annog yr iaith Gymraeg i ffynnu yng Ngwynedd.

 

Cadarnhawyd fod y maes cynllunio a’r iaith Gymraeg yn un cymhleth iawn ac yn cael ei effeithio gan ffactorau y tu hwnt i Wynedd megis rheoliadau cenedlaethol a chanlyniadau’r cyfrifiad. Ychwanegwyd bod rheolau mewn grym er mwyn sicrhau nad yw Awdurdodau Lleol yn rheoli iaith meddianwyr tai newydd. Er hyn, pwysleisiwyd bod polisïau a chanllawiau Gwynedd yn sicrhau bod datblygiadau yn cael eu caniatáu yn yr ardaloedd iawn gan arwain a chyfrannu at ddatblygiad cymunedau cynaliadwy.

 

 

 

Yn ystod y drafodaeth, cyflwynwyd y sylwadau a ganlyn:- 

Gofynnwyd ar ba sail ieithyddol mae ceisiadau cynllunio wedi eu gwrthod, a oedd y ceisiadau hyn yn rai sydd heb gyflwyno datganiad / asesiad effaith iaith yn rhan o’r cais. Mewn ymateb i’r ymholiad, cadarnhaodd y Pennaeth Cynorthwyol bod ceisiadau yn cael eu gwrthod ar sail ieithyddol os nad yw’r wybodaeth sydd yn cael ei gyflwyno mewn datganiadau iaith yn ddigonol, neu os nad oes digon o wybodaeth ieithyddol wedi cael ei gynnwys fel rhan o’r cais yn ei gyfanrwydd. Cadarnhawyd bod achosion wedi bod yn y gorffennol ble mae ceisiadau cynllunio wedi cael eu gwrthod oherwydd yr herio sy’n cael ei wneud ar geisiadau.

 

Pryderwyd mai’r datblygwyr yn unig sydd yn asesu effaith ieithyddol datblygiadau cynllunio, gyda’r Uned Iaith yn rhoi barn arbenigol ar yr hyn a gyflwynwyd. Mynegwyd pryder bod hyn yn caniatáu datblygwyr i ffocysu ar bwyntiau cadarnhaol y datblygiad er mwyn derbyn caniatâd cynllunio, yn hytrach na chwblhau ymchwil cytbwys. Ychwanegwyd ei fod yn anodd i aelodau’r Pwyllgor Cynllunio i herio’r datganiadau ieithyddol hyn oherwydd diffyg tystiolaeth. Cynigiwyd gwahodd Cynghorau Cymuned a Thref i gyflwyno sylwadau ieithyddol i’r Cyngor wrth ymateb i geisiadau cynllunio lleol. Mewn ymateb i’r sylwadau, cadarnhaodd y Pennaeth Cynorthwyol nad yw’r holl wybodaeth sydd yn cael ei gyflwyno gan ddatblygwyr yn cael ei dderbyn yn ddiamod. Pwysleisiwyd bod swyddogion y Gwasanaeth Cynllunio a’r Uned Iaith yn herio’r wybodaeth sydd yn dod i law er mwyn sicrhau cywirdeb.

 

Cyfeiriwyd at restr wirio datganiadau ieithyddol yr Uned Iaith gan nodi bod rhai o’r ystyriaethau yn mynd tu hwnt i elfennau ieithyddol. Nodwyd y dylai pob cwestiwn ac ystyriaeth ar y rhestr wirio fod yn ganolog i’r iaith Gymraeg. Tynnwyd sylw nad oes cyfeiriad at enedigaethau i’w weld o fewn y rhestr wirio. Nodwyd y dylai’r pwnc hwn gael ystyriaeth deg gan ddatblygwyr wrth lunio datganiad / asesiad effaith ieithyddol. Mewn ymateb i’r sylwadau, cadarnhaodd yr Uwch Ymgynghorydd Iaith a Chraffu nad yw’r rhestr wirio yn gynhwysfawr o’r holl ystyriaethau mae’r Uned Iaith yn eu cwblhau wrth ymateb i ddatganiadau iaith, ond ei fod yn cynnwys y prif bwyntiau i’w hystyried. Sicrhawyd bod genedigaethau yn cael ystyriaeth swyddogion yr Uned Iaith os oes pryder am niferoedd siaradwyr Cymraeg mewn ardaloedd o ystyried ffigyrau’r Cyfrifiad. Ychwanegwyd ei fod yn gyfle i ystyried ychwanegu cynnwys ffeithiau o’r math hwn fel gwybodaeth angenrheidiol i ddatblygwyr wrth iddynt fynd ati i lunio datganiad / asesiad effaith ieithyddol.

 

Gofynnwyd pa waith ymchwil a thystiolaeth sydd ar gael i brofi nad oes niwed arwyddocaol wedi cael ei wneud i’r iaith Gymraeg wrth ganiatáu datblygiadau cynllunio. Mewn ymateb, cadarnhaodd y Pennaeth Cynorthwyol bod ymchwil corfforaethol wedi cael ei gwblhau gan y Cyngor rhai blynyddoedd yn ôl a oedd yn manylu ar ddatblygiadau tai’r Sir. Eglurwyd bod yr ymchwil yn ceisio asesu iaith meddianwyr tai yn yr ardal a gwybodaeth bellach am bwy oedd yn byw yn y tai yn flaenorol. Nodwyd bod canran siaradwyr Cymraeg meddianwyr datblygiadau tai newydd yng Ngwynedd yn gyson gyda chanran siaradwyr Cymraeg yng Ngwynedd yn ei gyfanrwydd. Ystyriwyd hyn i fod yn ganlyniadau cadarnhaol iawn ond nodwyd bod hyn wedi cael ei gwblhau yn ystod y Cynllun Datblygu Lleol blaenorol.

 

Nodwyd bod yr iaith Gymraeg yn ganolog i Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol a Chymunedau Ffyniannus Gymraeg. Cytunodd y Pennaeth Cynorthwyol gan ymfalchïo fod yr iaith Gymraeg yn bwysig mewn nifer o ystyriaethau.

 

Mynegwyd ystyriaethau a phryderon am effaith Polisi Gosod Tai ar gymunedau Gwynedd. Mewn ymateb, pwysleisiodd y Pennaeth Cynorthwyol bod y polisi hwn yn berthnasol ar gyfer yr Adran Tai ac Eiddo ac nid yw’n disgyn o fewn cyfrifoldebau’r Gwasanaeth Cynllunio. Cydnabuwyd pwysigrwydd Cymdeithasau Tai a’u gallu i ddarparu cartrefi i unigolion a theuluoedd sydd mewn angen. Diolchwyd iddynt am gydweithio gyda’r Cyngor. Nodwyd hefyd bod tystiolaeth eang am yr angen am dai fforddiadwy yng Ngwynedd ond nad oes modd o ddylanwadu ar iaith meddianwyr y tai hynny. Tynnwyd sylw at ddatblygiadau preifat gan nodi nad oes gan y Cyngor ddylanwad ar eu meddiannaeth ychwaith.

 

Gofynnwyd a oes angen monitro gweithdrefnau’r Cyngor yn amlach na pob 5 mlynedd fel nodwyd yn yr Adroddiad. Cadarnhaodd y Pennaeth Cynorthwyol bod y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd yn cael ei fonitro’n flynyddol, gydag Adroddiad blynyddol yn cael ei baratoi. Cadarnhawyd bod fframwaith fonitro a dangosyddion penodol mewn lle. Cydnabuwyd nad yw’r angen i gyflawni ymchwil penodol wedi cael ei adnabod fel dangosydd ond nodwyd y gall hyn fod yn ystyriaeth wrth i’r Cynllun gael ei adolygu.

 

Mewn ymateb i  ymholiad, cadarnhaodd y Pennaeth Cynorthwyol bod yr iaith Gymraeg yn ganolog i waith yr Adran ar gyfer holl ardaloedd yr awdurdod cynllunio. Pwysleisiwyd nad oes unrhyw ardal yn cael ystyriaeth fanylach nag eraill o ran anghenion ieithyddol.

 

Gofynnwyd a yw maint cymunedau yn cael ei ystyried wrth asesu ceisiadau cynllunio. Manylwyd nad oes angen cyflwyno datganiad / asesiad effaith ieithyddol ar unrhyw ddatblygiad sydd yn llai na 5 tŷ, gan ystyried gall hyn gael effaith niweidiol ar gymunedau gyda phoblogaeth isel. Mewn ymateb i’r sylwadau, cadarnhaodd y Pennaeth Cynorthwyol bod yr ystyriaeth a roddir yn gymesur â graddfa a lleoliad y datblygiad. Tynnwyd sylw bod hyn yn gallu arwain at yr angen i gyflwyno datganiad / asesiad effaith ar yr iaith Gymraeg ar gyfer datblygiadau llai na 5 tŷ. Pwysleisiwyd bod enghreifftiau wedi bod yn y gorffennol ble mae gofyn am asesiad ieithyddol ar gyfer datblygu 1 tŷ os yw’r lefel Twf Dangosol yn yr ardal honno wedi cyrraedd ei uchafswm. Cadarnhawyd gall Aelodau Lleol ofyn i ddatblygwyr gyflwyno asesiad iaith ar gyfer datblygiad, yn ogystal â chyflwyno sylwadau fel yr Aelod Lleol. Er hyn, nid oes modd gwarantu bod y datblygiadau yn cyrraedd lefelau trothwyon gwahanol asesiadau gan nodi na fydd datganiad / asesiad effaith iaith yn cael ei gyflwyno gyda phob cais cynllunio o’r herwydd.

 

Diolchwyd i’r Uned Iaith am eu gwaith o ddarparu’r rhestru gwirio ar gyfer asesiadau ieithyddol. Gofynnwyd a yw swyddogion yn dehongli data er mwyn sicrhau ei fod yn gyfredol ac yn gywir. Mewn ymateb i’r sylwadau, cadarnhaodd y Pennaeth Cynorthwyol bod arbenigedd swyddogion yr Uned Iaith yn bwydo i mewn i’r broses cynllunio. Cydnabuwyd nad oes cymhwyster penodol mae cynllunwyr ieithyddol neu gynllunio yn gorfod ei wneud er mwyn cyflwyno asesiadau iaith. Cadarnhawyd eu bod yn defnyddio'r holl wybodaeth sydd ar gael iddynt o ystyried yr ymyraethau sydd yn cyfyngu’r drefn gynllunio yn genedlaethol a rhanbarthol. Atgoffwyd yr Aelodau bod gweithdrefnau’r Cyngor yn mynd tu hwnt i ofynion Llywodraeth Cymru, gan nodi ei fod yn amserol i’r Llywodraeth adolygu eu rheoliadau er mwyn sicrhau mwy o gefnogaeth i’r Gymraeg yn y maes hwn ar draws Cymru. Ymhellach, cadarnhawyd  bod y Cynllun Datblygu Lleol yn gadarn gan ei fod wedi ei herio a’i gymeradwyo gan Lywodraeth Cymru.

 

Cyfeiriwyd at Nodyn Cyngor Technegol (TAN) 20: Cynllunio a’r Gymraeg gan ystyried pryd fyddai’n cael ei adolygu gan Lywodraeth Cymru. Mewn ymateb, cadarnhaodd y Pennaeth Cynorthwyol gallai adroddiad diweddar ac argymhellion y Comisiwn Cymunedau Cymraeg annog Llywodraeth Cymru i newid polisïau ar lefel genedlaethol.

 

Tynnwyd sylw bod yr adroddiad yn nodi ‘dylid’ ymgynghori gyda Chomisiynydd y Gymraeg wrth baratoi Cynllun Datblygu Lleol. Holwyd os oedd hyn yn safonol oherwydd teimlwyd bod rhaid cysylltu gyda’r Comisiynydd wrth baratoi’r Cynllun diwygiedig. Mewn ymateb, cytunodd y Pennaeth Cynorthwyol na ddylai cysylltu gyda  Chomisiynydd y Gymraeg fod yn gam dewisol wrth baratoi’r cynllun a sicrhawyd bod yr adran wedi cysylltu gyda’r Comisiynydd wrth ddarparu’r Cynllun Datblygu Lleol cyfredol. Ymhellach, pwysleisiodd yr Arweinydd Tîm Polisi Cynllunio y bydd yr Adran yn ymgynghori gyda’r Comisiynydd wrth baratoi’r Cynllun Datblygu Lleol Newydd.

 

Nodwyd bod yr Adroddiad yn egluro y gall yr awdurdod annog pobl i gadw enwau traddodiadol Cymraeg ar gyfer datblygiadau a strydoedd newydd yn unol â TAN 20, gan ystyried os oes modd i’r Awdurdod orfodi enwau Cymraeg ar ddatblygiadau o’r fath er mwyn adlewyrchu iaith a diwylliant yr ardal. Mewn ymateb i’r ymholiad, cadarnhaodd yr Arweinydd Tîm Polisi Cynllunio bod y cyfeiriad hwn yn ddyfyniad uniongyrchol o’r polisi TAN 20 gan nodi gall y newid hwn fod yn sylw penodol i Lywodraeth Cymru ei ystyried yn ystod eu hadolygiad nesaf o’r polisi. Ychwanegodd y Pennaeth Cynorthwyol bod polisïau Cyngor Gwynedd yn manylu ar arwyddion. Manylwyd bod polisi PS 1 o’r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd yn gosod amod cynllunio ar unrhyw ddatblygiadau tai a datblygiadau masnachol newydd i sicrhau enw Cymraeg ar eu harwyddion. Ymhelaethwyd bod y Gwasanaeth Cynllunio yn rhan o Fwrdd Prosiect Gwarchod Enwau Lleoedd Cynhenid Gwynedd er mwyn cydweithio i ymdrechu a hyrwyddo darpar ymgeiswyr i roi ystyriaeth i’r iaith ac amlygu ei bwysigrwydd o fewn diwylliant yr ardal.

 

Mewn ymateb i ymholiad ar fonitro effaith ieithyddol ar werthiant a phryniant tai o fewn ardaloedd wrth ystyried ceisiadau cynllunio, eglurodd y Pennaeth Cynorthwyol bod hon yn broses cymhleth iawn. Eglurwyd ei fod yn anodd iawn derbyn tystiolaeth ar effaith uniongyrchol Cyfarwyddyd Erthygl 4 ac ymyraethau eraill. Nodwyd bod y Cyngor yn gwneud gwaith ymchwil i mewn i effaith Premiwm Treth Cyngor ar hyn o bryd gan ychwanegu bod y Gwasanaeth Cynllunio yn defnyddio fframwaith fonitro er mwyn ystyried beth yw effaith Cyfarwyddyd Erthygl 4 ar yr ardal. Adroddwyd bod yr Adran hefyd yn datblygu Canllaw Cynllunio Atodol sydd yn cyfarch materion polisi dosbarth defnydd newydd sy’n bodoli ers i’r Cyfarwyddyd ddod i rym, nes bydd y Cynllun Datblygu Lleol wedi cael ei fabwysiadu, gan nodi bod hon yn broses heriol. Cydnabuwyd yr angen i gasglu data am oddeutu 2 flynedd er mwyn gallu asesu gwir effaith yr ymyraethau hyn. Cadarnhawyd bydd y data a gesglir yn cael ei gynnwys wrth ddatblygu Cynllun Datblygu Lleol newydd ac yn derbyn sylw o ogwydd effaith ieithyddol.

 

Gofynnwyd sut mae’r Adran yn rhoi sylw i effaith gronnol datblygiadau wrth ystyried pob cais cynllunio unigol. Mewn ymateb, cadarnhaodd yr Arweinydd Tîm Polisi Cynllunio bod yr Adran yn defnyddio system monitro tai. Eglurwyd bod y system hon yn cael ei ddefnyddio ers i’r Cynllun Datblygu Lleol presennol gael ei ddatblygu yn 2011. Cadarnhawyd bod y system yn gallu darparu gwybodaeth am ddatblygiadau eraill sydd wedi bod mewn ardaloedd penodol yn effeithiol. Esboniwyd nad yw hyn yn cynnwys data ar newidiadau mewn tenantiaeth y cymdeithasau tai ond nodwyd bod y wybodaeth yn cael ei gadw gan y cymdeithasau tai eu hunain.

 

Ymfalchïwyd bod yr Adran yn cyd-weld bod yr iaith Gymraeg yn bwysig i bob ardal o fewn yr awdurdod cynllunio a thu hwnt. Ystyriwyd a fyddai’n ddefnyddiol i ychwanegu mesurydd er mwyn gallu asesu os yw’r cyfraddau’r iaith Gymraeg yn ‘lleihau’, ‘sefydlog’ neu’n ‘cynyddu’ er mwyn derbyn ystyriaeth wrth asesu ceisiadau cynllunio. Mewn ymateb i’r sylwadau, nododd y Pennaeth Cynorthwyol bod hwn yn un elfen posib y dylid ei ystyried wrth ddatblygu Cynllun Datblygu Lleol newydd. Pwysleisiwyd yr angen i asesu syniadau o’r fath er mwyn sicrhau na fyddent yn arwain at effaith ieithyddol negyddol mewn rhai ardaloedd. Ychwanegodd yr Uwch Ymgynghorydd Iaith a Chraffu bod y Comisiwn Cymunedau Cymraeg wedi argymell cyflwyno Ardaloedd o Arwyddocâd Ieithyddol o fewn eu hargymhellion i’r Llywodraeth ac edrychwyd ymlaen at dderbyn sylwadau’r Llywodraeth ar y cynnig hwnnw.

 

Gofynnwyd am farn y swyddogion am beth fyddai’n gwella effeithlonrwydd datganiadau / asesiadau effaith ieithyddol a sut mae datblygu’r arfer orau o fewn y maes hwn. Mewn ymateb i’r ymholiad, cadarnhaodd y Pennaeth Cynorthwyol bod y cydweithio clos rhwng y gwasanaeth cynllunio a’r Uned Iaith yn gymorth i sicrhau bod datganiadau / asesiadau effaith ieithyddol yn cael eu hasesu’n effeithiol.

 

Ystyriwyd os oes modd ail-ymweld ag datganiadau / asesiadau effaith iaith er mwyn asesu os yw’r hyn a rhagdybiwyd wedi cael eu gwireddu, gan herio ymhellach os oes angen. Nododd y Pennaeth Cynorthwyol bod profiad swyddogion yr Uned Iaith a’r Gwasanaeth Cynllunio o asesu’r datganiadau / asesiadau effaith iaith yn fanteisiol er mwyn gallu cymharu effaith ieithyddol gwirioneddol datblygiad o’r hyn a ddwedwyd o fewn yr asesiad gwreiddiol.

 

Rhoddwyd ystyriaeth i asesiadau ieithyddol mewn cyd-destun apeliadau cynllunio. Holwyd os oedd penderfyniad i wrthod cais cynllunio wedi cael ei gadarnhau ar apêl oherwydd materion ieithyddol. Cadarnhaodd y Pennaeth Cynorthwyol bod achosion o geisiadau cynllunio sydd wedi eu gwrthod am faterion ieithyddol wedi cael eu gwrthod ar apêl hefyd. Mynegwyd balchder bod polisïau’r Cyngor am yr iaith Gymraeg wedi cael eu profi o fewn y system ac wedi dangos i fod yn gadarn.

 

Holwyd sut mae ‘cymuned’ yn cael ei ddiffinio o fewn y cyd-destun cynllunio. Mewn ymateb, cadarnhaodd y Pennaeth Cynorthwyol bod diffiniadau o ‘gymuned’, ‘aneddleoedd’, ‘tref’, ‘pentrefi’ ac eraill yn derbyn sylw parhaus wrth ddatblygu Cynllun Datblygu Lleol newydd.

 

Diolchwyd am yr adroddiad ac am y gwaith mae’r Adran a’r Cyngor yn ei wneud er mwyn gwarchod yr iaith Gymraeg.

 

PENDERFYNWYD

1.     Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a gyflwynwyd yn ystod y drafodaeth.

2.     Bod y Pwyllgor yn gofyn i Lywodraeth Cymru i adolygu ‘Polisi Cynllunio Cymru’ a  ‘Nodyn Cyngor Technegol (TAN) 20: Cynllunio a’r Gymraeg’ er mwyn sicrhau bod yr iaith Gymraeg yn cael ystyriaeth briodol.

3.     Gofyn i’r Cymdeithasau Tai ddarparu data i’r Cyngor er mwyn asesu gwybodaeth am yr iaith Gymraeg ym maes cynllunio.

4.     Cydnabod nad oes cymhwyster penodol wedi ei ddatblygu ar gyfer asesu effaith ieithyddol datblygiadau cynllunio. Argymell i’r Adran Amgylchedd a’r Uned Iaith y dylid cysylltu gyda’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol a Phrifysgol Bangor i’w hannog i ddatblygu hyfforddiant addas. .

5.     Dylid atgoffa Cynghorau Cymuned a Thref o’u rhyddid i gyflwyno sylwadau am effaith ieithyddol posib gall datblygiadau cynllunio lleol ei gael ar yr ardal.

6.     Dylid ystyried cynnal hyfforddiant cynllunio ieithyddol i Gynghorwyr er mwyn eu galluogi i gynorthwyo Cynghorau Cymuned a Thref i gyflwyno sylwadau ar effaith ieithyddol datblygiadau cynllunio.

 

Dogfennau ategol: