Agenda item

Alwen Williams (Cyfarwydd Portffolio a Phrif Weithredwr Dros Dro y CBC) ac Dylan J. Williams (Prif Weithredwr Arweiniol Cynghorau Gogledd Cymru ar gyfer y Bwrdd Uchelgais) i gyflwyno’r adroddiad.

Penderfyniad:

1.     Derbyniwyd diweddariad ar y gwaith i sefydlu CBC y Gogledd, gan gynnwys trosglwyddo’r Cynllun Twf a symud ymlaen ar dasgau sy’n ofynnol i gyflawni swyddogaethau statudol y CBC.

2.     Awdurdodi’r Cyfarwyddwr Portffolio i gytuno ar raglen a dyddiad trosglwyddo ddiwygiedig gyda’r Awdurdodau Lleol a phartneriaid Addysg Uwch ac Addysg Bellach o fewn y dyddiad targed o 31 Mawrth 2025.

3.     Cymeradwyo bod y trefniadau dros dro i ryddhau amser y Cyfarwyddwr Portffolio am ddau ddiwrnod yr wythnos i ymgymryd â rôl y Prif Weithredwr Dros Dro yn cael eu hymestyn tan 31 Mawrth, 2025 neu’r dyddiad trosglwyddo, yn dibynnu p’un fydd gyntaf.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cyfarwyddwr Portffolio a Phrif Swyddog Cyngor Sir Ynys Môn.

 

PENDERFYNIAD

 

1.     Derbyniwyd diweddariad ar y gwaith i sefydlu CBC y Gogledd, gan gynnwys trosglwyddo’r Cynllun Twf a symud ymlaen ar dasgau sy’n ofynnol i gyflawni swyddogaethau statudol y CBC.

2.     Awdurdodi’r Cyfarwyddwr Portffolio i gytuno ar raglen a dyddiad trosglwyddo ddiwygiedig gyda’r Awdurdodau Lleol a phartneriaid Addysg Uwch ac Addysg Bellach o fewn y dyddiad targed o 31 Mawrth 2025.

3.     Cymeradwyo bod y trefniadau dros dro i ryddhau amser y Cyfarwyddwr Portffolio am ddau ddiwrnod yr wythnos i ymgymryd â rôl y Prif Weithredwr Dros Dro yn cael eu hymestyn tan 31 Mawrth, 2025 neu’r dyddiad trosglwyddo, yn dibynnu p’un fydd gyntaf.

 

RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD

 

Ym mis Rhagfyr 2021/mis Ionawr 2022, cytunodd Cabinet a Phwyllgorau Gweithredol pob un o'r chwe Awdurdod Lleol a phartneriaeth ehangach y Bwrdd Uchelgais, mewn egwyddor, y dylid trosglwyddo swyddogaethau Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru (y Bwrdd Uchelgais) trwy gytundeb dirprwyo i'r CBC. Mae'r fframwaith statudol a sefydlu'r CBC yn gofyn am y ffocws a'r adnoddau sydd eu hangen i ddatblygu'r gwaith trosglwyddo. Mae angen cymeradwyaeth gan yr holl sefydliadau partner a Llywodraethau cyn y gellir cwblhau'r trosglwyddo.

 

Mae swyddogaethau a threfniant partneriaeth y Bwrdd Uchelgais wedi'u nodi yn GA2 ar hyn o bryd. Mae hyn hefyd yn cynnwys y trefniadau llywodraethu a'r trefniadau hirdymor ar gyfer cefnogi'r Cynllun Twf a'r Swyddfa Rheoli Portffolio yn ariannol i gyflawni'r cynllun. Dan y cytundeb dirprwyo arfaethedig, byddai'r Cynllun Twf a'r trefniadau ariannol cysylltiedig yn trosglwyddo i'r CBC a byddai'n ymateb yn rhannol i'r pŵer a roddir i'r CBC i hyrwyddo lles economaidd rhanbarthol. Mae'r swyddogaeth Llesiant Economaidd hon yn cyd-fodoli â phwerau datblygu economaidd pob un o Gynghorau'r Gogledd. Bydd angen i bartneriaid rhanbarthol gytuno a chyd-ddatblygu sut bydd y swyddogaethau hyn yn gweithio'n rhanbarthol, fel rhan o sefydlu'r CBC. Mae angen cydnabod hefyd bod y penderfyniadau gwreiddiol mewn egwyddor i drosglwyddo'r Cynllun Twf wedi'u gwneud pan oedd cysyniad y CBC yn dal i gael ei ddatblygu. Felly, bydd yr union fodel ar gyfer y trefniadau trosglwyddo yn cael ei gytuno gyda phartneriaid fel rhan o'r camau nesaf.

 

Er mwyn gweithredu'r trosglwyddiad, mae yna faterion cyfreithiol allweddol sy'n cael eu Datblygu

1.     Cytundeb gyda'r Llywodraethau ar drosglwyddo (novation) y Cynllun Twf drosodd i'r CBC a'r model ar gyfer cyflawni hyn. Mae'r egwyddor i drosglwyddo wedi derbyn cefnogaeth y llywodraeth.

2.     Penderfyniadau ffurfiol gan y partïon i Gytundeb Llywodraethu 2 (GA2) a'r CBC i gytuno i drosglwyddo swyddogaethau'r Cynllun Twf a swyddogaeth y Corff Atebol i'r CBC.

3.     Creu Cytundeb Cydweithio rhwng partïon GA2 a'r Cyd-bwyllgor Corfforedig. Bydd y cytundeb yn olynydd i GA2 ac mewn sawl ffordd bydd yn adlewyrchu'r trefniadau presennol. Fodd bynnag, bydd statws corfforaethol gwahanol y CBC yn golygu y bydd angen mynd i'r afael ag agweddau ar y cytundeb mewn ffyrdd gwahanol. Mae'r rhain yn adlewyrchu'r ffaith bod GA2 wedi creu Cyd-bwyllgor o'r Cynghorau Cyfansoddol gyda phwerau dirprwyedig tra bod y CBC (er gwaethaf ei enw) yn gorfforaeth statudol. Y nod, fodd bynnag, yw adlewyrchu a cheisio ailadrodd y trefniadau partneriaeth o fewn y model trosglwyddo a darparu fframwaith cytundebol i sicrhau bod y Cynllun Twf yn cael ei gyflawni a pharhau ag ymrwymiadau ariannol y partneriaid i'r prosiect.

 

Gosodwyd 1af Tachwedd fel dyddiad targed dros dro ar gyfer trosglwyddo swyddogaethau o'r Bwrdd Uchelgais i Gyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd. Roedd y dyddiad hwn yn dibynnu ar dderbyn y cymeradwyaethau gofynnol ar gyfer trosglwyddo ac mae nifer o gamau a phenderfyniadau allweddol yn parhau heb eu gwneud. Mae’r rhain yn cynnwys:

 

·       cytundeb ar y model llywodraethu ar gyfer gwneud penderfyniadau.

·       cylchredeg a chytuno ar y GA3 drafft (olynydd GA2) i wneud trefniadau codio.

·       dod i gytundeb novation ar gyfer y Cynllun Twf gyda Llywodraeth Cymru.

·       cwblhau cytundeb partneriaeth GA3.

 

Felly mae dyddiad trosglwyddo o 1af Tachwedd, 2024 yn anghyraeddadwy.

 

TRAFODAETH

 

Eglurwyd bod y drafodaeth yn cyflwyno diweddariad pellach ar y broses o sefydlu Cyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd (CBC), gan fanylu ar drosglwyddo rhai o swyddogaethau’r Bwrdd Uchelgais i’r CBC.

 

Atgoffwyd bod Aelodau Cabinet a Prif Swyddogion yr Awdurdodau Lleol wedi cytuno i’r trosglwyddiad hwn mewn egwyddor gyda phartneriaid y Bwrdd. Nodwyd bod 1af Tachwedd 2024 wedi cael ei ystyried fel dyddiad targed ar gyfer y trosglwyddiad, yn ddibynnol ar dderbyn cymeradwyaeth ohono gan holl bartneriaid y Bwrdd, llunio cytundebau cyfreithiol a’r angen i gwblhau camau angenrheidiol. Cydnabuwyd nad oedd modd trosglwyddo ar y dyddiad drafft hwn.

 

Adroddwyd ar amserlen trosglwyddo ddiwygiedig ar gyfer trosglwyddo’r Cynllun Twf. Cadarnhawyd bod opsiynau yn cael eu hystyried ac anelir at sicrhau cyflawni’r holl gamau priodol er mwyn galluogi’r trosglwyddiad erbyn 31 Mawrth 2025, fan bellaf.

 

Bu i’r Cyfarwyddwr Portffolio adael y cyfarfod er mwyn i’r Aelodau drafod trefniadau dros dro i ryddhau amser y Cyfarwyddwr Portffolio i ymgymryd â rôl Prif Weithredwr Dros Dro'r CBC hyd nes 31 Mawrth 2025, neu’r dyddiad trosglwyddo (os yw’r trosglwyddiad yn digwydd cyn y dyddiad hwn).

 

Cadarnhawyd nad oedd unrhyw ddatblygiadau cyfreithiol yn codi gan mai estyniad o drefniadau presennol byddai cymeradwyo’r trefniant hwn.

 

Mynegwyd pryder bod y dyddiad trosglwyddo drafft yn cael ei dynnu’n ôl oherwydd cymhlethdod y camau priodol a bod hyn yn cael effaith ar ddatblygiadau. Gofynnwyd am sicrwydd i’r trosglwyddiad gael ei weithredu mor fuan a bo modd er mwyn gallu cyflogi Prif Weithredwr llawn amser i roi arweiniad i’r CBC.

Dogfennau ategol: