Agenda item

CLWB RYGBI Y BALA, MAES GWYNIAD, HEOL TEGID, BALA LL23 7DZ

 

I ystyried y cais

Penderfyniad:

 

PENDERFYNIAD: Caniatáu

 

Oriau agor

Dydd Sul: 09:00 - 23:30

Dydd Llun: 09:00 – 23:30

Dydd Mawrth: 09:00 – 23:30

Dydd Mercher: 09:00 – 23:30

Dydd Iau: 09:00 – 23:30

Dydd Gwener: 09:00 – 23:30

Dydd Sadwrn: 09:00 – 23:30

 

Cyflenwi Alcohol Ar yr Eiddo

Dydd Sul: 09:00 - 23:00

Dydd Llun: 09:00 – 23:00

Dydd Mawrth: 09:00 – 23:00

Dydd Mercher: 09:00 – 23:00

Dydd Iau: 09:00 – 23:00

Dydd Gwener: 09:00 – 23:00

Dydd Sadwrn: 09:00 – 23:00

 

Cynnwys y mesurau ychwanegol a gyflwynwyd yn rhan M o’r cais, fel amodau i’r drwydded.

 

Nodyn:

Derbyn cyngor ar fesurau lliniaru sŵn

 

Cofnod:

Eraill a wahoddwyd:

 

Huw Dylan (Cadeirydd Clwb Rygbi Y Bala)

John Williams (Is-gadeirydd Clwb Rygbi Y Bala)

Harry Guttridge – Clwb Rygbi Y Bala

Mike a Manon Dodd – preswylwyr lleol

 

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan Eluned Jones (preswylydd lleol), Eifion a Christine Roberts (preswylwyr lleol), Huw Antur (Clerc Cyngor Tref Y Bala), Elisabeth Williams (Swyddog Trwyddedu Heddlu Gogledd Cymru) a’r Cynghorydd Dilwyn Morgan (Aelod Lleol)

 

Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod.

 

a)                      Adroddiad yr Adran Trwyddedu

 

Cyflwynwyd adroddiad y Rheolwr Trwyddedu yn manylu ar gais am drwydded eiddo ar gyfer Clwb Rygbi Y Bala, Maes Gwyniad, Heol Tegid, Y Bala. Bwriad y cais yw cael gwerthu alcohol yn ystod gemau drwy’r tymor rygbi rhwng Medi a Mai gyda’r mwyafrif o ddefnydd dros y penwythnos.

 

Nodwyd bod gan Swyddogion yr Awdurdod Trwyddedu tystiolaeth ddigonol bod y cais wedi ei gyflwyno yn unol â gofynion Deddf Trwyddedu 2003 a’r rheoliadau perthnasol. Cyfeiriwyd at y mesurau yr oedd yr ymgeisydd yn ei argymell i hyrwyddo’r amcanion trwyddedu ac amlygwyd y byddai’r mesurau hyn yn cael eu cynnwys ar y drwydded.

 

Tynnwyd sylw at ymatebion a dderbyniwyd yn ystod y cyfnod ymgynghori oedd yn cynnwys nifer o wrthwynebiadau gan y cyhoedd yn pryderu y bydd caniatáu i’r clwb werthu alcohol yn creu ymddygiadau gwrthgymdeithasol, aflonyddwch, cynnydd mewn fandaleiddio a phryderon am ddiogelwch y cyhoedd os ydynt yn cerdded adref yn feddw ger y Llyn a’r Rheilffordd.

 

Derbyniwyd sylw gan Heddlu Gogledd Cymru oedd yn adrodd na dderbyniwyd unrhyw ddigwyddiad o drosedd ac anrhefn yn gysylltiedig â’r Clwb Rygbi yn ystod cyfnodau defnyddio rhybuddion digwyddiadau dros dro, ac felly nid oedd gwrthwynebiad ganddynt. Ategwyd bod Cyngor Tref y Bala yn gefnogol i’r cais, ond yn argymell i’r oriau gael eu cyfyngu I 13:00 - 21:00.

 

Adroddwyd bod sylwadau ychwanegol oedd yn gefnogol i’r cais wedi eu derbyn a hynny tu allan i’r cyfnod ymgynghori. Nodwyd y byddai angen Cyngor cyfreithiol os dylid ystyried y llythyrau ai peidio.

 

Roedd y Swyddog yn argymell bod yr Is-bwyllgor yn ystyried sylwadau / pryderon yr ymatebwyr a dderbyniwyd ynghyd ag ymateb yr ymgeisydd i’r sylwadau / pryderon hynny. Amlygwyd na dderbyniwyd cwynion gan yr Awdurdod Trwyddedu nac Uned Gwarchod y Cyhoedd yn dilyn sawl digwyddiad a ganiatawyd drwy ddefnydd Hysbysiad Digwyddiadau Dros Dro. O ganlyniad roedd y Swyddog yn argymell caniatáu’r cais gydag amodau.

 

b)                      Wrth ystyried y cais dilynwyd y drefn ganlynol-:

·       Cyfle i Aelodau’r Is-bwyllgor ofyn cwestiynau i gynrychiolydd y Cyngor.

·       Ar ddisgresiwn y Cadeirydd, yr ymgeisydd neu ei gynrychiolydd i ofyn cwestiynau i gynrychiolydd y Cyngor.

·       Rhoi cyfle i’r ymgeisydd a/neu ei gynrychiolydd ymhelaethu ar y cais a galw tystion

·       Rhoi cyfle i Aelodau’r Is-bwyllgor ofyn cwestiynau i’r ymgeisydd a/neu ei gynrychiolydd

·       Ar ddisgresiwn y Cadeirydd gall cynrychiolydd y Cyngor ofyn cwestiynau i’r ymgeisydd neu ei gynrychiolydd

·       Rhoi gwahoddiad i bob Ymgynghorai gefnogi unrhyw sylwadau ysgrifenedig

·       Rhoi cyfle i gynrychiolydd y Cyngor a’r ymgeisydd neu ei gynrychiolydd grynhoi eu

hachos.

 

c)                   Wrth ymhelaethu ar y cais, nododd Cadeirydd y Clwb Rygbi y sylwadau canlynol;

·       Bod rygbi yn gêm gymdeithasol a bod trafod, herio, tynnu coes a hel atgofion yn rhan allweddol o’r diwylliant yn ystod ac wedi gêm - dyma brif reswm dros gyflwyno cais

·       Bod y Clwb eisiau gwella a datblygu awyrgylch gan estyn croeso i gefnogwyr a thimau ymweld

·       Bod yr ystafell gymdeithasol, ‘Ystafell Yogi’ wedi ei huwchraddio ac o dan reolaeth Is-bwyllgor fydd hefyd yn gyfrifol am reoli’r bar. Yr Is-bwyllgor yn gweithio’n galed i sicrhau safon hylendid ac yn cydweithio gydag awdurdodau i gyrraedd safon 5. Y cam naturiol nesaf oedd ceisio trwydded safle.

·       Bod y digwyddiadau Rhybudd Digwyddiad dros dro wedi bod yn llwyddiannus - wedi creu awyrgylch braf, ymdeimlad o berthyn, gan sicrhau defnydd cymedrol a chyfrifol o alcohol. Ar hyn o bryd y timau a chefnogwyr yn defnyddio Plas Coch fel lleoliad cymdeithasol sydd ynghanol y Dref

·       Llwyddiant y Clwb yn dod a chostau ychwanegol sydd angen eu cyfarch - oddeutu 230-300 o unigolion yn chwarae yn wythnosol. Byddai elw o’r bar yn cael ei fuddsoddi mewn adnoddau i’r Clwb i wasanaethu’r gymuned a’r ardal ehangach

·       Clwb Rygbi Y Bala yw’r unig glwb rygbi yng Ngogledd Cymru sydd heb drwydded

·       Dim bwriad gwrthdaro gyda chymdogion - nid yw hwn yn ddatblygiad newydd - trwyddedau achlysurol wedi cael eu defnyddio dros y tair blynedd ddiwethaf. Bydd pob ymgais yn cael ei i’w wneud i geisio lleddfu eu pryderon:

  -         ymddygiad gwrthgymdeithasol. Is-bwyllgor cadarn a chyfrifol yn sicrhau na fydd goddef ymddygiad sarhaus na dirmygus. Bydd deilydd y drwydded yn gosod safonau a chadw trosolwg ar y sefyllfa

  -         bod gan y Clwb Bolisi Ymddygiad Gwrthgymdeithasol sydd yn cynnwys cod ymddygiad (wedi ei lunio gyda chanllawiau Rygbi Gogledd Cymru) ond angen ei ddiwygio

  -         bod gwaharddiadau yn cael eu gosod os bydd ymddygiad gwael – posteri o gwmpas yr eiddo yn hysbysu hyn

  -         Polisi Her 25 yn cael ei weithredu

  -         Nid yw’r Clwb yn goddef defnydd cyffuriau – bydd unrhyw ddigwyddiad yn cael ei gyflwyno i’r Heddlu

  -         Y polisïau mewn lle pe bai achos yn codi

  -         Nad yw’r problemau traffig i gyd yn berthnasol i’r Clwb Rygbi - rhai cerddwyr yn defnyddio’r maes parcio. Y Clwb yn y broses o brynu'r maes parcio gan y Parc Cenedlaethol gyda bwriad o ddefnyddio cae cysylltiedig fel maes parcio estynedig. Wedi sicrhau perchnogaeth, bydd Swyddog Rheoli Parcio yn sicrhau mai at ddefnydd y Clwb Rygbi yn unig fydd y maes parcio.

  -         Diogelwch Plant – Y Clwb yn dilyn polisi llym Undeb Rygbi Cymru - mesurau yn eu lle ynghyd â mesurau diogelwch y cyhoedd

  -         Bod bwriad llunio cynllun rheoli sŵn i leddfu pryderon – ffenestri dwbl yn yr adeilad a bydd bwriad cadw at uchafswm capasiti rhag tarfu ar gymdogion

  -         Nad yw cael bar yn dirmygu cof am Yogi – sefyllfa wedi newid dros y blynyddoedd diwethaf - trwydded bellach yn rhan o’r cynllun busnes.

 

ch)       Mewn ymateb i gwestiynau i’r ymgeisydd gan yr Is-bwyllgor a chynrychiolydd y Cyngor;

-        O ran cadarnhau oriau agor – nid oedd bwriad agor pob dydd. Y drwydded yn rhoi hyblygrwydd defnydd, ond bwriad y Clwb yw cyfyngu defnydd i benwythnosau yn unig.

-        Byddai’r Ddeddf yn caniatáu cerddoriaeth fyw / cynnal adloniant rheoledig.  A oes bwriad gwneud defnydd achlysurol / rheolaidd o hyn? Mewn ymateb, nodwyd nad oedd bwriad penodol ar hyn o bryd i chwarae cerddoriaeth fyw, ond efallai yn opsiwn i’r dyfodol er nad oedd yr ystafell yn ddigon mawr i gynnal grŵp. Nododd y Rheolwr Trwyddedu y byddai angen nodi hyn yn y cynllun rheoli sŵn.

 

d)             Manteisiodd yr ymgynghorai oedd yn bresennol ar y cyfle i ymhelaethu ar sylwadau a gyflwynwyd yn ysgrifenedig ganddynt.

 

Mike a Manon Dodd

·       Yn diolch am y cyfle i gael mynegi eu pryderon yn sgil cais trwydded y Clwb Rygbi

·       Er bod yr Heddlu yn nodi nad oedd cwynion wedi eu derbyn yn ymwneud ag ymddygiad gwrthgymdeithasol, bod cyfnodau lle y gallent fod wedi cwyno

·       Pryderu y gall pethau fynd allan o reolaeth pan fydd alcohol ar gael - eisiau osgoi hyn

·       Eu bod yn byw o fewn 20m i fynediad y Clwb gyda gwrychoedd yr ardd yn ffinio gyda’r Clwb ac felly sŵn y cario o ddau gyfeiriad

·       Derbyn bod y Clwb yn gwneud gwaith da gydag oedolion a phlant yr ardal, ond pam bod angen cynnwys alcohol mewn digwyddiadau iechyd a ffitrwydd?

·       Derbyn yr elfen gymdeithasol a chael diod i gymdeithasu ar ddiwedd gêm, ond pam gofyn hyd at 11pm? Byddai hyn yn sicr o greu sŵn diangen ac ymddygiad gwrthgymdeithasol

 

            Mewn ymateb i gwestiynau i’r ymatebwyr gan yr Is-bwyllgor, nodwyd;

 

-        O ran esiamplau o gwynion, bod ceir yn parcio o flaen y tŷ a’u bod yn methu cael y car allan, lefelau sŵn ymwelwyr a cheir yn refio yn y maes parcio

-        Yng nghyd-destun digwyddiadau dros dro ar ffaith na fu cwynion swyddogol, nodwyd nad oedd y digwyddiadau hynny wedi mynd yn hwyr, ond pryder, gyda thrwydded hyd 23:00 y gall digwyddiadau fynd ymlaen yn hwyrach ac felly’n cyflwyno ffactorau megis sŵn a niwsans cyhoeddus. Pryder y bydd digwyddiadau megis gwylio gemau rhyngwladol yn y Clwb hefyd yn mynd i greu problemau.

-        Cadarnhawyd safle'r tŷ a’i agosatrwydd at y Clwb

 

Cydnabuwyd yr holl sylwadau a dderbyniwyd a diolchwyd i bawb am y sylwadau hynny

 

dd)          Ymneilltuodd yr ymatebwyr a’r Rheolwr Trwyddedu o’r cyfarfod tra bu i aelodau’r Is-bwyllgor drafod y cais.

Wrth gyrraedd y penderfyniad ystyriodd yr Is-bwyllgor ffurflen gais yr ymgeisydd, sylwadau ysgrifenedig a gyflwynwyd gan y partïon â diddordeb, adroddiad y Swyddog Trwyddedu ynghyd â sylwadau llafar pob parti yn bresennol yn y gwrandawiad.  Ystyriwyd  Polisi Trwyddedu’r Cyngor a chanllawiau’r Swyddfa Gartref. Rhoddodd yr Is-bwyllgor ystyriaeth briodol i’r holl sylwadau gan eu pwyso a’u mesur yn erbyn yr  amcanion trwyddedu o dan y Ddeddf Trwyddedu 2003, sef:

 

                          i.        Atal trosedd ac anhrefn

                         ii.        Atal niwsans cyhoeddus

                        iii.        Sicrhau diogelwch cyhoeddus

                       iv.        Gwarchod plant rhag niwed

 

Diystyrwyd y sylwadau a ddaeth i law i’r graddau eu bod yn amherthnasol i’r amcanion uchod.

PENDERFYNWYD: Caniatáu

 

Oriau agor

Dydd Sul: 09:00 - 23:30

Dydd Llun: 09:00 – 23:30

Dydd Mawrth: 09:00 – 23:30

Dydd Mercher: 09:00 – 23:30

Dydd Iau: 09:00 – 23:30

Dydd Gwener: 09:00 – 23:30

Dydd Sadwrn: 09:00 – 23:30

 

Cyflenwi Alcohol Ar yr Eiddo

Dydd Sul: 09:00 - 23:00

Dydd Llun: 09:00 – 23:00

Dydd Mawrth: 09:00 – 23:00

Dydd Mercher: 09:00 – 23:00

Dydd Iau: 09:00 – 23:00

Dydd Gwener: 09:00 – 23:00

Dydd Sadwrn: 09:00 – 23:00

 

Cynnwys y mesurau ychwanegol a gyflwynwyd yn rhan M o’r cais, fel amodau i’r drwydded.

 

Nodyn:

Derbyn cyngor ar fesurau lliniaru sŵn

Rhoddwyd ystyriaeth arbennig i’r canlynol.

 

Yng nghyd-destun Trosedd ac Anrhefn, ni chyflwynodd yr Heddlu unrhyw wrthwynebiad mewn ymateb i'r cais ac ni chyflwynwyd unrhyw dystiolaeth bellach oedd yn berthnasol i'r egwyddor hon. Nododd yr Heddlu hefyd nad oedd unrhyw fater troseddol nac anrhefn wedi codi tra bu'r safle yma yn gweithredu gwerthu alcohol drwy ddefnyddio Rhybudd Digwyddiad Dros Dro ar sawl achlysur

 

Yng nghyd-destun materion Diogelwch Cyhoeddus ni chyflwynwyd sylwadau na thystiolaeth oedd yn berthnasol i'r egwyddor hon.

 

Yng nghyd-destun Atal niwsans cyhoeddus, derbyniwyd nifer o sylwadau gan gymdogion y Clwb oedd yn mynegi pryder ynglŷn ar posibilrwydd o ymddygiadau gwrthgymdeithasol a lefelau sŵn. Serch hynny, nid oedd sylwadau na gwrthwynebiad gan Gwasanaeth Gwarchod y Cyhoedd ac ni chyflwynwyd unrhyw dystiolaeth o ymddygiad gwrthgymdeithasol na phroblemau sŵn. Eglurodd Cadeirydd y Clwb eu bod wrthi'n cynllunio polisi Iliniaru sŵn a chredai'r Is-bwyllgor y byddai o fudd mawr i'r cymdogion os gall y Clwb edrych am gyngor a gweithdrefnau a fyddai’n eu cynorthwyo i liniaru unrhyw sŵn o'r Clwb. Nid oedd unrhyw sylwadau eraill wedi eu cyflwyno mewn cysylltiad å'r egwyddor hon felly roedd yr Is-bwyllgor yn fodlon caniatáu yn ddarostyngedig i'r amodau.

 

Wrth werthfawrogi'r pryderon a fynegwyd gan y trigolion a'r cymdogion Ileol nid oedd yr Is-bwyllgor o'r farn fod tystiolaeth i awgrymu y byddai caniatáu’r cais yn arwain at broblemau o dan y pennawd hwn. Roedd yr oriau agor yn fater cynllunio busnes y Clwb Rygbi a mynegodd yr ymgeisydd mai annhebygol iawn fyddai i'r Clwb fod yn weithredol bob dydd, drwy'r dydd. Bydd y Clwb gan fwyaf ar agor yn ystod tymor Ile chwaraeir rygbi gyda'r defnydd mwyaf wedi ei gyfyngu i'r penwythnosau. Petai unrhyw broblemau yn codi mewn cysylltiad å'r egwyddorion trwyddedu, byddai’r Ddeddf yn caniatáu cyfeirio trwydded i'w hadolygu gan yr Awdurdod.

 

Yng nghyd-destun Gwarchod Plant Rhag Niwed ni chyflwynwyd sylwadau na thystiolaeth oedd yn berthnasol i'r egwyddor hon.

Adroddodd y Cyfreithiwr y byddai’r penderfyniad yn cael ei gadarnhau yn ffurfiol drwy lythyr i bawb oedd wedi cyflwyno sylwadau ysgrifenedig. Ategwyd bod gan bob parti i’r cais yr hawl i gyflwyno apêl yn Llys Ynadon Caernarfon yn erbyn penderfyniad yr Is-bwyllgor. Dylid cyfeirio unrhyw apêl o’r fath drwy roi rhybudd o apêl i’r Prif Weithredwr, Llys Ynadon Llandudno, Llandudno, o fewn cyfnod o 21 diwrnod gan gychwyn â’r dyddiad y bydd yr apelydd yn derbyn llythyr (neu gopi ohono) yn cadarnhau’r penderfyniad.

 

Dogfennau ategol: