Cyflwynwyd gan:Cyng. Nia Jeffreys
Penderfyniad:
Derbyniwyd a nodwyd y wybodaeth
yn yr adroddiad.
Cofnod:
Cyflwynwyd yr
adroddiad gan Bennaeth Adran Economi a Chymuned
PENDERFYNIAD
Derbyniwyd a nodwyd y wybodaeth
yn yr adroddiad.
TRAFODAETH
Cyflwynwyd yr adroddiad gan atgoffa bod yr Adran yn
gyfrifol am dri chynllun o fewn Cynllun y Cyngor. Adroddwyd bod risg cyffredin
i’w weld ym mhob un o’r cynlluniau hynny, sef bod eu prif ffynhonnell ariannu
yn dod i ben ar ddiwedd Mawrth 2025.
Eglurwyd bod diweddariadau wedi cael eu cadarnhau ers
cyflwyno’r adroddiad ysgrifenedig hwn i’r Cabinet. Diweddarwyd cyllid cynllun ‘Levelling up’ y Llywodraeth wedi
cael ei ymestyn hyd at Fawrth 2027. Ymhelaethwyd bod yr Adran yn disgwyl
cadarnhad bydd cyllid SPF (Cronfa Ffyniant Gyffredin) yn cael ei ymestyn am
flwyddyn ychwanegol, gyda chadarnhad swyddogol ar ei ffordd yn fuan.
Cydnabuwyd bod ansicrwydd cyllidol yn parhau gyda
rhai cronfeydd megis cronfa ARFOR. Nodwyd y disgwylir derbyn mwy o wybodaeth am
y gyllideb hon yn dilyn cyhoeddiad cyllideb Llywodraeth Cymru o fewn yr
wythnosau nesaf.
Manylwyd ar brosiect Adfywio Cymunedau a Chanol Trefi
gan nodi bod cynnydd i ddatblygiad y prosiect yn dilyn cyllideb SPF. Eglurwyd
bod 22 o brosiectau mentrau a sefydliadau lleol yn cael eu gweithredu o fewn y
prosiect. Cadarnhaodd bod cyllideb o £1.8miliwn yn cael ei ddefnyddio ar hyn o
bryd er mwyn datblygu’r prosiectau hyn hyd at Fawrth 2025. Adroddwyd bod
Cynllun Creu Lleoedd wedi cael ei ddatblygu ar gyfer Pwllheli, Porthmadog a’r
Bala, gyda chynllun yn cael ei baratoi ar gyfer Dolgellau. Ymhelaethwyd bod
arian cynllun Traws Newid Trefi ychwanegol wedi cael ei gadarnhau ar gyfer
gwella Canolfan Bro Tegid, Y Bala a Chynllun y Tŵr, Pwllheli.
Cadarnhawyd bod Achos Amlinellol Strategol Cynllun
Hwb Iechyd a Lles Bangor wedi ei gymeradwyo gan Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr
gan nodi bod cais am gyfraniad ariannol Llywodraeth Cymru eisoes wedi ei
gyflwyno.
Tynnwyd sylw at brosiect ‘Creu’r amgylchiadau gorau
posib yng Ngwynedd i fusnesau a mentrau cymunedol ffynnu, a chefnogi pobl
Gwynedd mewn i waith’. Eglurwyd bod cyllideb o £1.4 miliwn a ariannwyd gan SPF
wedi cael ei ddyrannu i Gronfeydd Datblygu Busnes, gyda 45 o fusnesau Gwynedd
wedi derbyn cynigion o gymorth hyd yma.
Diolchwyd i’r Cynghorydd Dyfrig Siencyn am ei waith
blaengar er mwyn sicrhau cyllideb ARFOR i Awdurdodau gorllewinol Cymru, gyda’r
gobaith bydd yr arian yn parhau ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf.
Ymhelaethwyd ei fod hefyd wedi bod yn gwneud gwaith arweiniol o fewn cynllun
Cais Twf Gogledd Cymru, gan roi sylw arbennig i gynlluniau Rhaglen Ddigidol,
Ynni, Twristiaeth, Bwyd-Amaeth a Thir ac Eiddo.
Cyfeiriwyd at ‘Wythnos Busnes Gwynedd’ a gynhaliwyd ym
mis Hydref. Eglurwyd ei fod yn wythnos lwyddiannus iawn gyda nifer o fusnesau
yn cymryd rhan mewn digwyddiadau yn Nolgellau, Bangor a Phwllheli.
Cadarnhawyd bydd newyddlen benodol yn cael ei rannu gyda holl Gynghorwyr
Gwynedd gyda manylion pellach am y digwyddiadau a’r adborth a dderbyniwyd gan
fusnesau Gwynedd.
Diolchwyd i wasanaeth Gwaith Gwynedd am eu
cefnogaeth eleni, gan eu bod wedi sicrhau swydd ar gyfer 203 o drigolion
Gwynedd yn ystod 2024/25 hyd yma. Ymhelaethwyd bod 8 o ffeiriau swyddi hefyd
wedi cael eu cynnal er mwyn helpu trigolion i ganfod gwaith a helpu cyflogwyr i
lenwi swyddi gwag. Cadarnhawyd bod dros 130 o gyflogwyr wedi mynychu’r ffeiriau
hyn gyda dros 750 o unigolion yn bresennol.
Nodwyd
bod strwythur rheoli newydd ar gyfer y Cynllun Economi Ymweld Cynaliadwy
bellach yn weithredol ac yn arwain ar ddatblygiad Cynllun Gweithredu ar gyfer
2024/25. Ychwanegwyd bod trefniadau yn llwyddiannus gan ddiolch i’r holl
bartneriaid.
Cyfeiriwyd
at raglen Llewyrch o’r Llechi sydd yn creu budd lleol i ddynodiad Safle
Treftadaeth y Byd Tirwedd Llechi Cymru. Tynnwyd sylw at waith uwchraddio sydd
wedi bod yn Neuadd Ogwen, Bethesda yn ddiweddar gan nodi ei fod bron a chwblhau
erbyn hyn. Nodwyd bod nifer o fuddsoddiadau yn cael eu datblygu ar hyn o bryd
megis Parc Padarn, Amgueddfa Llechi Llanberis llwybr cyswllt Blaenau Ffestiniog
ac Aelwyd yr Urdd Blaenau Ffestiniog. Mynegwyd balchder bod £2m wedi cael ei
gadarnhau gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol er mwyn ymestyn
cefnogaeth i’r cymunedau llechi am gyfnod o 5 mlynedd.
Mynegwyd balchder bod cwmni Byw’n Iach wedi llwyddo i
adfer y gwasanaeth yn dilyn blynyddoedd heriol iawn yn sgil y pandemig.
Cadarnhawyd bod lefelau perfformiad wedi cynyddu i’r un lefelau a chyfnod cyn Covid-19. Cyfeiriwyd hefyd at
nifer o welliannau a gwaith uwchraddio sydd ar y gweill ym Mharc Padarn a Pharc
Glynllifon. Eglurwyd bod y Parciau Gwledig hyn yn defnyddio system adrodd
boddhad cwsmer newydd ac mae cynnydd i weld yn y canlyniadau o’i gymharu â
2023/24 ble defnyddiwyd y system am y tro cyntaf.
Cydnabuwyd
bod tywydd newidiol tymor yr haf eleni wedi cael effaith ar wasanaethau morwrol
yr Adran. Eglurwyd bod hyn i’w weld yn bennaf mewn diffyg incwm mewn meysydd
parcio traethau’r sir. Er hyn, nodwyd bod y tywydd newidiol wedi bod o fantais
i rai gwasanaethau megis Neuadd Dwyfor.
Eglurwyd
bod Amgueddfa Lloyd George wedi cau ar gyfer cwblhau buddsoddiadau adnewyddu ar
hyn o bryd. Gobeithiwyd bydd yr amgueddfa yn ail agor erbyn Pasg 2025 wedi i’r
gwaith gael ei gwblhau.
Adroddwyd bod y patrwm o ostyngiad yn nifer o
ddefnyddwyr llyfrau llyfrgelloedd. Er hyn, pwysleisiwyd bod cynnydd i’w weld
mewn niferoedd o ddefnydd gwasanaethau digidol yn ogystal â’r gwasanaethau a
ddarperir mewn llyfrgelloedd i gefnogi pobl. Cadarnhawyd bod ymateb cadarnhaol
iawn wedi cael ei dderbyn gan ddefnyddwyr gwasanaeth. Diolchwyd i Nia Gruffydd
(Rheolwr Strategol Gwasanaeth Llyfrgelloedd) am ei gwaith arweiniol o ddatblygu
newidiadau i system rheoli llyfrgelloedd (LMS) er budd llyfrgelloedd drwy Gymru
gyfan. Cadarnhawyd bydd ei gwaith yn sicrhau gwasanaeth mwy cost effeithiol yn
genedlaethol.
Nodwyd
bod yr Adran yn gweithio i wireddu cynlluniau arbedion ar hyn o bryd.
Cydnabuwyd bod gwaith pellach yn cael ei wneud er mwyn gwirio lefelau incwm
Neuadd Dwyfor fel rhan o’r gwaith hwnnw. Rhagwelwyd bydd yr Adran yn gorwario
oddeutu £127,000 erbyn diwedd y flwyddyn ariannol hon. Er hyn, pwysleisiwyd bod
camau wedi cael eu hadnabod er mwyn ceisio rheoli a lleihau’r diffyg hwn dros y
misoedd nesaf.
Sylwadau’n codi o’r drafodaeth:
· Ategwyd diolchiadau
i’r Cynghorydd Dyfrig Siencyn am ei waith o fewn y maes Economi a Chymuned yn
lleol, rhanbarthol a chenedlaethol. Tynnwyd sylw penodol am ei waith ar
Strategaeth Economi Ymweld Cynaliadwy, ARFOR a’r Fforwm Wledig.
· Canmolwyd cwmni Byw’n Iach am sicrhau cynnydd mewn defnydd ac incwm yn
dilyn y pandemig. Tynnwyd sylw at ganlyniadau boddhad cwsmeriaid Byw’n Iach gan
holi’r Adran os oes bwriad i uwchraddio ystafelloedd ffitrwydd ac adrannau
eraill y canolfannau hamdden.
o
Cadarnhawyd bod bwriad i uwchraddio’r canolfannau.
Pwysleisiwyd bod bid ariannol wedi cael ei gyflwyno i’r Cyngor eleni. Eglurwyd
hefyd bod cronfa ar gael i’r perwyl hwn ond y byddai’n cael ei ddefnyddio yn ôl
yr angen yn hytrach na chwblhau’r gwaith ar draws y Sir gyda’i gilydd. Nodwyd
bydd hyn hefyd yn caniatáu’r cyfle i’r Adran asesu os yw’r gwaith uwchraddio yn
arwain at gynnydd mewn defnyddwyr ac incwm.
· Diolchwyd i’r Adran am eu gwaith. Anogwyd y staff a chynghorwyr i rannu
gwybodaeth am lwyddiannau’r economi gyda thrigolion y Sir.
Awdur:Sioned E. Williams, Pennaeth Economi a Chymuned
Dogfennau ategol: