Cyflwynwyd gan:Cyng. Menna Trenholme
Penderfyniad:
Derbyniwyd a nodwyd y wybodaeth yn yr adroddiad.
Cofnod:
Cyflwynwyd yr
adroddiad gan Cyng. Menna Trenholme.
PENDERFYNIAD
Derbyniwyd a nodwyd y wybodaeth
yn yr adroddiad.
TRAFODAETH
Cyflwynwyd yr adroddiad ar yr Adran Gwasanaethau
Corfforaethol gan dynnu sylw at y prif bwyntiau canlynol:
Cadarnhawyd bod yr Adran yn arwain ar 6 o brosiectau
o fewn gwahanol feysydd blaenoriaeth Cynllun y Cyngor 2023-28.
Adroddwyd bod pumed gyfres o raglen ddatblygol
‘Merched Mewn Arweinyddiaeth’ ar y gweill ar hyn o bryd. Ymfalchïwyd bod
diddordeb gan ferched o bob adran i gymryd rhan yn y rhaglen. Mynegwyd balchder
bod y ffigwr o ferched mewn swyddi rheolaethol yn 41%, sydd yn gynnydd o 11%
ers sefydlu’r prosiect. Cadarnhawyd bod data ar gynnydd ac mae effaith y
prosiect yn cael ei ddiweddaru yn gyson.
Cynhaliwyd peilot cyflwyno ffurflenni cais swyddi yn
ddienw eleni. Nodwyd i fabwysiadu’r peilot yn hir dymor ar gyfer swyddi o ricyn
‘Arweinydd Tîm’ ac uwch, yn dilyn adborth cadarnhaol gan reolwyr sydd wedi
penodi staff yn ystod cyfnod y cynllun. Eglurwyd ei fod yn ddull safonol o
ystyried ceisiadau a chadarnhawyd bydd y trefniadau yn cael eu hadolygu pob 6
mis.
Atgoffwyd bod Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2024-28
wedi cael ei fabwysiadu fel rhan o brosiect ‘Sicrhau Tegwch i Bawb’. Eglurwyd
bod gwahanol wasanaethau o fewn y Cyngor yn cydweithio er mwyn rheoli amrywiol
agweddau o’r cynllun. Mynegwyd balchder bod gwaith wedi ei wneud er mwyn
datblygu cerrig milltir fanwl ar gyfer yr holl feysydd, gyda phob un ar draw
i’w cwblhau’n amserol eleni. Ymhellach, nodwyd bod hyfforddiant ar
ddyletswyddau rheolwyr yn y maes cydraddoldeb yn y broses o gael ei greu, gyda
gwybodaeth benodol ar sut i gynnal asesiadau effaith cydraddoldeb. Pwysleisiwyd
bod gan benaethiaid fynediad at wybodaeth sydd yn rhoi darlun byw o niferoedd
staff sydd wedi cwblhau’r hyfforddiant craidd ar gydraddoldeb.
Mynegwyd balchder bod dros 300 o geisiadau ymysg y
cynllun prentisiaid eleni, gan nodi fod hyn oddeutu dwywaith nifer yr ymgeiswyr
o’r llynedd. Cadarnhawyd bod 15 prentis newydd a 5 hyfforddai proffesiynol
newydd wedi eu penodi. Eglurwyd y golyga hyn bod y Cyngor yn cyflogi 51 o
brentisiaid a hyfforddeion proffesiynol ar gytundebau llawn amser ar hyn o bryd
Ymfalchïwyd bod 8 prentis a 2 hyfforddai proffesiynol wedi cwblhau eu
cymwysterau ac wedi derbyn swyddi llawn amser gyda’r Cyngor yn ddiweddar. Tynnwyd
sylw hefyd at 4 person ychwanegol sydd wedi cael eu cyflogi drwy’r Pŵl
Talent.
Tynnwyd sylw penodol at y Gwasanaeth Ymchwil a Gwybodaeth
gan ddiolch iddynt am eu gwaith manwl i asesu effaith Premiwm Treth Cyngor yn
ddiweddar. Ymhelaethwyd eu bod hefyd wedi derbyn cydnabyddiaeth yn ddiweddar am
eu hadolygiad o wasanaethau gofal pobl hŷn i’r dyfodol yng Ngwynedd drwy
gynllun Llechen Lân, gan fod y gwaith wedi cyrraedd rhestr fer mewn digwyddiad
cenedlaethol ym maes ymchwil, gyda’r canlyniad i’w gyhoeddi yn fuan.
Sylwadau’n codi o’r drafodaeth:
·
Llongyfarchwyd yr adran ar
lwyddiant cynllun ‘Merched Mewn Arweinyddiaeth’ a phrentisiaid.
·
Cyfeiriwyd at gynllun
‘Cadw’r Budd yn Lleol’ gan ofyn am wybodaeth bellach ar ddatblygiad y cynllun.
o Eglurwyd bod y cynllun yn ymdrechu i sicrhau bod busnesau lleol yn gallu
cystadlu ac ennill cytundebau caffael gyda’r Cyngor er mwyn sicrhau bod cymaint
o wariant y Cyngor ag sy’n bosib yn aros yn lleol. Nodwyd bod hyn yn arwain at
fuddion cymdeithasol i Wynedd. Adroddwyd y bwriedir adeiladu ar y buddion i’r
dyfodol
Cyflwynwyd yr adroddiad ar yr Adran Gwasanaethau Cyfreithiol gan dynnu
sylw at y prif bwyntiau canlynol:
Eglurwyd bod
perfformiad y Gwasanaeth Cyfreithiol yn cael ei fonitro drwy dderbyn adborth yr
Adrannau sydd yn gwneud defnydd ohono. Ymhelaethwyd bod yr adborth a
dderbyniwyd o fewn y flwyddyn ariannol bresennol yn cadarnhau bod 100% o
ddefnyddwyr y Gwasanaeth Cyfreithiol yn fodlon iawn gyda’r gwasanaeth a
ddarparwyd.
Mynegwyd balchder bod
y Gwasanaeth wedi elwa o fod yn rhan o Gynllun Yfory ers rhai blynyddoedd, a
nodwyd bod y Gwasanaeth wedi llwyddo i ennyn diddordeb unigolion sydd yn
cyflawni eu cymwysterau ac yn derbyn swyddi o fewn y Gwasanaeth. Ymhelaethwyd
bod y Gwasanaeth hefyd wedi elwa o gynllun Prentisiaid gan nodi bod prentis
para gyfreithiol cyntaf y Gwasanaeth wedi cael ei benodi’n ddiweddar.
Cadarnhawyd bod prentis hefyd wedi cael ei benodi o fewn y Tîm Etholiadol.
Sicrhawyd bod y
trafferthion recriwtio o fewn y Gwasanaeth Cyfreithiol bellach wedi cael ei
ddatrys gan nodi bod modd i’r Gwasanaeth gynllunio ar gyfer cyfarch gofynion
rhanbarthol. Eglurwyd y gwelir cynnydd yn y galw am adnoddau wrth i
Gyd-bwyllgor Corfforedig Rhanbarth y Gogledd baratoi i fod yn weithredol.
Cadarnhawyd bod dau etholiad wedi cael eu cynnal
yn ddiweddar. Eglurwyd bod yr Etholiad Cyffredinol yn her newydd i’r gwasanaeth
Etholiadau gan ei fod yn etholiad trawsffiniol, gan alw am gydweithio
effeithiol gydag awdurdodau Conwy a Dinbych.
Diolchwyd i holl staff
Gwasanaethau Corfforaethol a Gwasanaethau Cyfreithiol am eu gwaith dros y
flwyddyn ddiwethaf.
Sylwadau’n codi o’r drafodaeth:
·
Tynnwyd sylw at gynllun
peilot Llywodraeth Cymru er mwyn sefydlu’r ffordd fwyaf cywir ac effeithiol o
gofrestru etholwyr heb iddynt orfod gwneud cais.
o Eglurwyd bod y Cyngor wedi ymrwymo i’r peilot i gofrestru trigolion yn
awtomatig i etholiadau Llywodraethol, gan ddefnyddio data sydd ar gael i’r
Cyngor Gobeithir bydd hyn yn cynyddu niferoedd pleidleiswyr mewn etholiadau’r
Deyrnas Unedig a’r Senedd yng Nghymru. Nodwyd bod y peilot yn cael ei weithredu
o 2025 ymlaen ac felly mae’r tîm Etholiadol yn gweithio ar systemau er mwyn
datrys unrhyw ddiffygion.
Awdur:Ian Jones, Pennaeth Gwasanaethau Corfforaethol a Iwan Evans, Pennaeth Gwasanaeth Cyfreithiol
Dogfennau ategol: