Agenda item

Cyflwynwyd gan:Cyng. Paul Rowlinson

Penderfyniad:

Argymell i’r Cyngor Llawn, mai’r canlynol yw’r opsiwn a ffafrir o safbwynt lefel y Premiwm ar Dreth Cyngor Ail Gartrefi ac Anheddau Gwag Hirdymor ar gyfer blwyddyn ariannol 2025/26:

 

·       Bod Cyngor Gwynedd yn caniatáu dim disgownt ar ail gartrefi dosbarth A, yn unol ag Adran 12 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 (hy. Dim newid).

·       Bod Cyngor Gwynedd yn caniatáu dim disgownt ac yn codi premiwm o 150% ar ail gartrefi dosbarth B, yn unol ag Adran 12B o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 (h.y. dim newid).

·       Bod Cyngor Gwynedd, yn caniatáu dim disgownt i gartrefi sydd wedi bod yn wag am 6 mis neu fwy ac yn codi premiwm o 100% ar gartrefi sydd wedi bod yn wag am 12 mis neu fwy, yn unol ag Adran 12A o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 (h.y. dim newid).

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Paul Rowlinson.

 

PENDERFYNIAD

 

Argymell i’r Cyngor Llawn, mai’r canlynol yw’r opsiwn a ffafrir o safbwynt lefel y Premiwm ar Dreth Cyngor Ail Gartrefi ac Anheddau Gwag Hirdymor ar gyfer blwyddyn ariannol 2025/26:

 

·       Bod Cyngor Gwynedd yn caniatáu dim disgownt ar ail gartrefi dosbarth A, yn unol ag Adran 12 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 (hy. Dim newid).

·       Bod Cyngor Gwynedd yn caniatáu dim disgownt ac yn codi premiwm o 150% ar ail gartrefi dosbarth B, yn unol ag Adran 12B o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 (h.y. dim newid).

·       Bod Cyngor Gwynedd, yn caniatáu dim disgownt i gartrefi sydd wedi bod yn wag am 6 mis neu fwy ac yn codi premiwm o 100% ar gartrefi sydd wedi bod yn wag am 12 mis neu fwy, yn unol ag Adran 12A o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 (h.y. dim newid).

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan gadarnhau bod angen gwneud penderfyniad ar lefelau premiwm Treth Cyngor ar gyfer ail gartrefi ac anheddau gwag yn flynyddol mewn cyfarfod o’r Cyngor Llawn. Atgoffwyd bod y lefelau Premiwm ar hyn o bryd yn 150% ar gyfer ail gartrefi ac yn 100% ar gyfer anheddau sy’n wag ers 6 mis neu fwy (hirdymor). Eglurwyd bod lefelau’r premiwm yn cynyddu’n awtomatig os oes cynnydd i osodiad Treth Cyngor.

 

Cynigwyd argymell i’r lefelau premiwm ar gyfer ail gartrefi ac anheddau gwag barhau ar yr un lefelau ar gyfer y flwyddyn nesaf.

 

Eglurwyd yr angen i ddilyn canllawiau a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru, gan gadarnhau bod canllawiau newydd wedi cael eu cyflwyno ers i lefelau’r premiwm gael ei benderfynu gan y Cyngor Llawn y llynedd. Manylwyd bod y canllawiau diweddaraf yn nodi bod gan Awdurdodau Lleol bŵer i gynyddu premiwm anheddau gwag er mwyn annog perchnogion i ddod a’r anheddau hyn yn ôl i ddefnydd yn ogystal â chynyddu’r cyflenwad o dai fforddiadwy sydd ar gael a gwneud cymunedau yn fwy cynaliadwy.

 

Adroddwyd bod y canllawiau diweddaraf a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru yn nodi dylid ystyried nifer o ffactorau wrth benderfynu ar lefelau premiwm Treth Cyngor ar gyfer ail gartrefi ac anheddau gwag. Manylwyd bod y rhain yn cynnwys:

 

·       Nifer a chanrannau’r eiddo gwag hirdymor  ac ail gartrefi yn yr ardal leol.

·       Lleoliadau’r adeiladau

·       Effaith ar brisiau tai a fforddiadwyedd

·       Yr economi leol

·       Diwydiant twristiaeth

·       Gwasanaethau cyhoeddus

·       Y gymuned leol

·       Yr iaith Gymraeg

 

Adroddwyd bod y Cyngor yn ystyried nifer o fesurau eraill er mwyn sicrhau bod mwy o dai ar gael i drigolion a dod ag eiddo gwag yn ôl i ddefnydd.

 

Cadarnhawyd y cynhaliwyd ymgynghoriad cyhoeddus cyn cyflwyno premiwm Treth Cyngor ar ail gartrefi ac anheddau gwag am y tro cyntaf, ac hefyd cyn i’r premiwm cael ei godi dros 100%. Sicrhawyd bod y Cyngor wedi gweithredu ar y gofyniad hwn gan atgoffa y bu i’r ymgynghoriad diweddaraf gael ei gynnal wrth godi premiwm Treth Cyngor ail gartrefi i 150%, nol yn 2022. Nodwyd bod y canllawiau diweddaraf yn nodi nad oes angen cynnal ymgynghoriad pellach os yw’r Cyngor yn dymuno cynyddu lefelau’r premiwm eto, ond byddai angen cyflwyno tystiolaeth i ddangos bod prosesau manwl wedi cael eu dilyn er mwyn cyfiawnhau cyrraedd y penderfyniad hwnnw.

 

Ymhelaethwyd bod gwasanaeth Ymchwil a Gwybodaeth y Cyngor wedi bod yn gwneud gwaith ymchwil ar effaith premiwm Treth Cyngor ail gartrefi ac anheddau gwag yn ddiweddar gan nodi nad oes newid mawr i’r sefyllfa. Gellir casglu o ganlyniadau’r gwaith nad oes angen addasu lefelau’r premiwm eleni. Adroddwyd nad oedd canlyniadau’r ymchwiliad yn dangos bod lefelau cyfredol y premiwm yn anaddas. Ymddangoswyd bod y tuedd hanesyddol o brif anheddle yn cael eu trosi yn ail gartrefi wedi newid o ganlyniad i’r premiwm, gan gadarnhau bod mwy o ail gartrefi yn cael eu trosi yn ôl i fod yn brif gartrefle. Awgrymwyd bod y polisi premiwm Treth Cyngor yn gweithio.

 

Pwysleisiwyd bod Cyfarwyddyd Erthygl 4 hefyd yn arf ddefnyddiol i’r Cyngor gan fod angen cais cynllunio er mwyn trosi prif anheddle yn ail gartref neu lety gwyliau tymor byr, ers iddo ddod yn weithredol ym mis Medi 2024. Eglurwyd bod modd i’r ceisiadau cynllunio hyn cael eu gwrthod os yw’r adeilad mewn ardal ble mae trigolion yn profi anawsterau i ddod o hyd i gartref oherwydd pwysau ail gartrefi ar y gymuned. Pwysleisiwyd y pwysigrwydd o fonitro’r Cyfarwyddyd gan sicrhau’r angen iddo fod yn weithredol am fwy o amser cyn asesu ei effaith yn llawn.

 

Tynnwyd sylw bod Llywodraeth Cymru wedi ehangu trothwyon gosod o fewn Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Diwygio’r Diffiniad o Eiddo Domestig) (Cymru) 2022, er mwyn caniatáu i lety hunan-ddarpar dalu treth annomestig yn hytrach na Threth Cyngor, os nad yw’n cyrraedd trothwyon diffiniad y Gorchymyn.. Eglurwyd bod angen i’r eiddo talu Premiwm ail gartref yn ogystal â Threth Cyngor os nad yw’n cyfarch trothwyon perthnasol. Cadarnhawyd bod gan y Cyngor bŵer dewisol i beidio codi’r premiwm mewn sefyllfaoedd o’r fath gan nodi bydd ystyriaeth yn cael ei roi i ddefnyddio’r pwerau hyn yn y dyfodol, gan ategu’r angen i ddatblygu polisi clir o’r eithriadau perthnasol. Ymhelaethwyd bod y mathau perthnasol o ddatblygiadau yn cynnwys ysguboriau wedi eu trosi yn llety gwyliau, anecsau, carafanau a chabanau gwyliau.

 

Eglurwyd bod canllawiau diweddaraf Llywodraeth Cymru yn nodi bod modd pennu lefel premiwm addasedig ar gyfer aneddleoedd sydd yn wag yn am gyfnodau hir. Cadarnhawyd bod hyn yn rhoi caniatâd i Awdurdodau Lleol gynyddu lefelau premiwm Treth Cyngor cynyddol ar aneddleoedd gwag wrth iddynt fod yn wag am gyfnodau cynyddol o amser. Adroddwyd bod rhai Awdurdodau Lleol yn cynyddu lefelau’r premiwm yn ôl y trefniant hwn a nodwyd bydd hyn yn cael ystyriaeth gan Gyngor Gwynedd i’r dyfodol.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth:

·       Tynnwyd sylw Cynllun 3E y Cynllun Gweithredu Tai sydd yn manylu ar eithriadau Treth Cyngor ar dai gwag, mewn sefyllfaoedd pan mae trigolion yn prynu tai ond nad oes modd iddynt fyw ynddynt nes mae gwaith wedi cael ei gwblhau.

·       Cadarnhawyd bod bwriad gwneud ymchwil pellach i mewn i effaith y premiwm ar y stoc dai yng Ngwynedd er mwyn sicrhau bod y wybodaeth ddiweddaraf ar gael i’r Cyngor wrth geisio penderfynu ar lefelau premiwm Treth Cyngor yn flynyddol.

o   Mewn ymateb i ymholiad ar gapasiti ac adnoddau i gasglu’r data angenrheidiol, cydnabuwyd nad yw’r Gwasanaeth Ymchwil a Gwybodaeth wedi cael ei leoli o fewn yr Adran Gyllid ond mae swyddogion wedi sicrhau eu brwdfrydedd i barhau i gasglu’r data hyn i’r dyfodol.

·       Gofynnwyd a oes amserlen wedi cael ei gysidro er mwyn ystyried codi lefelau premiwm cynyddol ar anheddau sydd yn hir am gyfnodau estynedig.

o   Mewn ymateb, cadarnhawyd nad oes amserlen wedi cael ei bennu ar hyn o bryd ond pwysleisiwyd yr angen i ymgysylltu gydag Awdurdodau eraill er mwyn cael gwell dealltwriaeth o’u trefniadau a’r effaith mae’n ei gael i sicrhau bod anheddau gwag yn cael defnydd unwaith eto.

o   Sicrhawyd bod cynnal y gwaith ymchwil hwn yn flaenoriaeth i’r Cyngor gan gadarnhau bydd adnoddau yn cael ei ryddhau i’w gwblhau.

·       Eglurwyd bod posibilrwydd o gynnal ymgynghoriad cyhoeddus yn dilyn y gwaith ymchwil angenrheidiol hwn ar lefelau premiwm cynyddol i anheddau gwag. Cadarnhawyd bod rhai Awdurdodau yn cynyddu’r lefel premiwm i uchafswm o 300% ar gyfer eiddo sydd yn wag am gyfnod o 5 mlynedd neu fwy a byddai cynnal ymgynghoriad yn angenrheidiol er mwyn sicrhau bod trefniant o’r fath yn addas i’r ardal hon.

 

Awdur:Dewi Aeron Morgan, Pennaeth Cyllid

Dogfennau ategol: