Agenda item

Cais llawn i godi eiddo preswyl 3 ystafell wely deulawr (defnydd C3) ynghyd a chreu mynedfa gerbydol newydd  . 

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Gareth Tudor Jones

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD: Dirprwyo’r hawl i’r Uwch Reolwr Cynllunio i ganiatáu’r cais yn ddarostyngedig i amodau:

 

1.         Amser

2.         Cydymffurfio gyda cynlluniau

3.         Deunyddiau/gorffeniadau allanol

4.         Angen sicrhau fod sgrin o wydr afloyw 1.8 medr o uchel yn cael ei osod ar ochr de orllewin y balconi ar bob adeg.

5.         Wal derfyn ger y fynedfa dim uwch na 1 medr.

6.         Llefydd parcio a throi i fod yn weithredol yn unol gyda’r cynllun cyn i’r eiddo gael ei feddiannu am y tro cyntaf.

7.         Dim clirio gwrychoedd a thyfiant rhwng 1 Mawrth a 31 Awst.

8.         Codi’r clawdd pridd cyn i’r eiddo gael ei feddiannu am y tro cyntaf.

9.         Cytuno cynllun tirlunio.

10.       Gweithredu’r cynllun tirlunio.

11.       Cyfyngu meddiannaeth yr eiddo i dŷ preswyl parhaol

12.       Tynnu hawliau PD

13.       Datganiad Seilwaith Gwyrdd

14.       Cytuno ar gynllun rheoli adeiladu

15.       Enw Cymraeg

16.       Gwarchod a chadw’r gwrych ar y ffin

 

Cofnod:

Cais llawn i godi eiddo preswyl 3 ystafell wely deulawr (defnydd C3) ynghyd a chreu mynedfa gerbydol newydd

 

Gohiriwyd penderfyniad ar y cais yng nghyfarfod pwyllgor mis Hydref fel bod modd cynnal ymweliad safle. Roedd rhai o’r Aelodau wedi ymweld â’r safle 8fed Tachwedd 2024

 

a)    Amlygodd y Rheolwr Cynllunio mai cais llawn ydoedd ar gyfer codi eiddo preswyl deulawr o fewn rhan o ardd tŷ presennol ym mhentref Edern; y safle wedi ei leoli oddi fewn i ffin datblygu Edern a’r pentref wedi ei adnabod fel Pentref Gwledig yn y CDLl. Polisi TAI 4 oedd felly’n berthnasol. Adroddwyd mai'r lefel cyflenwad dangosol o dai i Edern oedd 12 uned gyda chyfanswm o 3 uned wedi eu cwblhau a 4 uned yn y banc tir ar hap. Ar sail y wybodaeth yma, byddai caniatáu datblygiad ar y raddfa yma yn gwbl dderbyniol ar sail lefel twf dangosol i’r Pentref a gan mai 1 tŷ a fwriedir, nid yw’n cyrraedd y trothwy o fod angen cyfraniad tŷ fforddiadwy.

 

Eglurwyd bod caniatâd cynllunio yn bodoli am yr un datblygiad ar y safle hyd ddiwedd Ionawr 2024 a bod y caniatâd hwnnw wedi ei benderfynu o dan y CDLl presennol ac felly’r un ystyriaethau polisi yn parhau. Gan nad oedd newid yn nhermau polisi, nac yn ddaearol wrth ymweld â’r safle, nodwyd y byddai gwrthod y cais  yn gwbl afresymol ac yn debygol o fod yn destun costau apêl petai’r cais yn cael ei wrthod. Tynnwyd sylw at hanes cynllunio hynach yng nghyd-destun y safle ble gwrthodwyd ceisiadau yn y gorffennol a hynny oherwydd bod y polisïau yn wahanol ac ar y sail y byddai’r bwriad yn ychwanegu at y nifer o ail gartrefi. Yn y penderfyniadau hynny roedd pryder am faint y safle a’r gallu i ddarparu mynediad a pharcio, ac nad oedd gwybodaeth i’r Cyngor i’r gwrthwyneb (yn y gorffennol byddai ceisiadau cynllunio amlinellol yn gorfod amlinellu’r safle mewn coch yn unig ac nid oedd unrhyw angen i ddangos gosodiad dangosol). Yn y cais dan sylw, amlygwyd y byddai modd darparu mynedfa i safon gyda digon o le troi a pharcio o fewn y cwrtil. Nid oedd gwrthwynebiad gan yr Uned Trafnidiaeth.

 

Nodwyd bod yr ymgeisydd wedi cadarnhau fod y bwriad ar gyfer tŷ parhaol dosbarth C3. Byddai hyn yn golygu bod modd rheoli defnydd y safle drwy amod – hyn yn sicrhau mai defnydd preswyl parhaol a wneir o’r eiddo ac nid defnydd gwyliau na defnydd fel ail gartref.

 

Yng nghyd-destun effaith gweledol, eglurwyd bod amrywiaeth i faint a dyluniad tai cyfagos

ac er bod peth pryder wedi ei fynegi am effaith y tŷ ar gymdogion, ystyriwyd bod yr  annedd wedi cael ei ddylunio’n ofalus er mwyn gwarchod mwynderau. Adroddwyd nad oedd bwriad gosod ffenestr llawr cyntaf ar ochr dde orllewinol o’r eiddo fyddai’n wynebu’r gerddi gerllaw ond bod bwriad gosod balconi gyda sgrin wydr afloyw ar uchder o 1.8 medr ar ochr de gorllewinol y balconi. Ni ystyriwyd bod unrhyw sail i wrthod y cais ar sail effaith mwynderol - y cais yn unol gyda pholisi PCYFF 2.

 

Mynegwyd nad oedd rheswm cynllunio dilys i wrthod y cais. Roedd y swyddogion yn argymell caniatáu yn unol â’r amodau.

 

b)    Er bod yr Aelod Lleol wedi ymddiheuro, cyflwynwyd y sylwadau canlynol mewn e-bost ganddo:

·       Er yn gyfarwydd â'r safle yn Edern roedd cael mynd i mewn i'r ardd a gweld yr union leoliad a derbyn gwybodaeth gan Keira Sweenie am y cais yn help garw. Mi welais pam ei fod yn gais am dŷ deulawr gan nad oes digon o le i adeiladu byngalo yno.

·       Rwy'n parhau i wrthwynebu y cais hwn ar gyfri 1- Mynedfa anaddas  i'r maes parcio ger y tŷ i lôn di balmant eithriadol o gul ac eithriadol o beryglus.

·       Tŷ rhy fawr a rhy amlwg. Nid yw'n gweddu'r ardal ar ben rhes o dai teras bychan twt.

·       Byddai'r tŷ oherwydd mai ar y llawr uchaf y mae'r ystafelloedd byw, y gegin a'r balconi yn goredrych dros dai cymdogion. Pe bai amod clir gyda'r cais i sicrhau cadw'r coed presennol ar y ffin byddai hynny yn rhwystro gor edrych ac yn llai o fygythiad i breifatrwydd a mwynderau preswylwyr sy'n byw yn barhaol yn y tai cyfagos.

 

c)      Cynigiwyd ac eiliwyd caniatáu y cais

 

       ch)   Yn ystod y drafodaeth ddilynol, nodwyd y sylwadau canlynol gan yr aelodau:

·     Defnydd C3 yn unig

·     Afresymol fyddai gwrthod

·     Bod y cais wedi ei ganiatáu yn 2019 – yr unig newid ers hynny yw bod lleihad mewn cyfyngiad cyflymder (o 30mya i  20mya) wedi ei osod ar y ffordd fydd yn ei gwneud yn fwy diogel

·     Cynnwys amod ynglŷn â gwarchod a chadw'r coed / gwrych ar y ffin i osgoi goredrych

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn ag adolygiad o’r Cynllun Datblygu Lleol a’r amod amser 5 mlynedd, nodwyd na fydd caniatau plot un tŷ yn debygol o gael effaith ar ffigyrau tai Edern i’r dyfodol, pan fydd y cynllun newydd yn cael ei gyflwyno (2027)

 

PENDERFYNWYD: Dirprwyo’r hawl i’r Uwch Reolwr Cynllunio i ganiatáu’r cais yn ddarostyngedig i amodau:

 

1.         Amser

2.         Cydymffurfio gyda chynlluniau

3.         Deunyddiau/gorffeniadau allanol

4.         Angen sicrhau fod sgrin o wydr afloyw 1.8 medr o uchel yn cael ei osod ar ochr de orllewin y balconi ar bob adeg.

5.         Wal derfyn ger y fynedfa dim uwch na 1 medr.

6.         Llefydd parcio a throi i fod yn weithredol yn unol gyda’r cynllun cyn i’r eiddo gael ei feddiannu am y tro cyntaf.

7.         Dim clirio gwrychoedd a thyfiant rhwng 1 Mawrth a 31 Awst.

8.         Codi’r clawdd pridd cyn i’r eiddo gael ei feddiannu am y tro cyntaf.

9.         Cytuno cynllun tirlunio.

10.       Gweithredu’r cynllun tirlunio.

11.       Cyfyngu meddiannaeth yr eiddo i dŷ preswyl parhaol

12.       Tynnu hawliau PD

13.       Datganiad Seilwaith Gwyrdd

14.       Cytuno ar gynllun rheoli adeiladu

15.       Enw Cymraeg

16.       Gwarchod a chadw’r gwrych ar y ffin

 

Dogfennau ategol: