Newid defnydd tir a datblygu llety gwyliau newydd ar ffurf a)
2 pod glampio parhaol a parcio cysylltiedig; b) 33 llain ar gyfer
carafanau teithiol a parcio cysylltiedig; c) cyfleusterau lles yn cynnwys bloc
toiledau, bloc cawod a storfa; a d) trefniadau mynediad cysylltiedig,
cysylltiad llwybr cerdded i Ffordd Abererch, draenio a tirlunio.
AELOD
LLEOL: Cynghorydd Elin Hywel
Penderfyniad:
PENDERFYNIAD: Dirprwyo’r hawl i’r Uwch Reolwr Cynllunio i
ganiatáu’r cais yn ddarostyngedig i’r amodau canlynol:
1.
Amser
2.
Yn unol â’r cynlluniau diwygiedig.
3.
Cyfyngu nifer o unedau teithiol i 33 carafán a 2 pod yn
unig.
4.
Defnydd gwyliau yn unig a chadw cofrestr.
5.
Tymor gwyliau'r unedau teithiol - 1af Mawrth i 31
Hydref
6.
Dim storio carafanau teithiol ar y safle.
7.
Cwblhau’r cynllun tirweddu yn y tymor plannu cyntaf yn
dilyn derbyn caniatâd.
8.
Rhaid cadw coed a gwrychoedd ar hyd terfynau’r safle.
9.
Cyfyngir unrhyw loriau caled i leiniau carafanau yn
unig.
10. Cytuno
llwybr gwasanaethau trydan a dŵr
11. Cyflwyno
Cynllun Rheoli Eurinllyn Collddail
12. Cwblhau
gwelliannau Bioamrywiaeth yn unol â’r wybodaeth sydd wedi ei gyflwyno
13. Amodau
Priffyrdd
14. Oriau
gwaith adeiladu
15. Enw
Cymraeg
16. Hysbysiadau
dwyieithog
17. Gwybodaeth
hysbysu prif fynediad safle oddi ar y A499
18. Gosod
ffens o amgylch y safle
Nodiadau:
Nodyn Gwarchod y Cyhoedd
Nodiadau Priffyrdd
Nodyn llythyr CNC
Nodyn llythyr Dwr Cymru
Nodyn SUDS
Nodyn Trwyddedu
Cofnod:
Newid defnydd tir a
datblygu llety gwyliau newydd ar ffurf a) 2 pod glampio parhaol a pharcio
cysylltiedig; b) 33 llain ar gyfer carafanau teithiol a pharcio cysylltiedig;
c) cyfleusterau lles yn cynnwys bloc toiledau, bloc cawod a storfa; a d)
trefniadau mynediad cysylltiedig, cysylltiad llwybr cerdded i Ffordd Abererch,
draenio a thirlunio
a) Amlygodd yr Arweinydd
Tim Rheolaeth Datblygol bod y safle
wedi ei leoli ar fryncyn yng nghefn gwlad agored ar gyrion Tref Pwllheli gyda
thai preswyl wedi eu lleoli ar waelod y bryncyn; y safle wedi ei leoli o fewn Ardal o
Ddiddordeb Hanesyddol, ac ar gyrion Safle Bywyd Gwyllt a gwaelod y bryncyn wedi
ei ddynodi yn ardal llifogydd C2/ Parth 2 a 3.
Yng nghyd-destun egwyddor y datblygiad, a’r
bwriad yn cynnwys unedau teithiol a pharhaol, eglurwyd mai polisïau perthnasol
oedd TWR 3 a TWR 5 a’u meini prawf yn canolbwyntio ar effaith weledol a
mynediad derbyniol i’r safle. Adroddwyd bod Arfarniad Tirwedd a Gweledol wedi
ei gyflwyno fel rhan o’r cais oedd yn cynnwys safbwyntiau o’r safle o’r ardal
gyfagos ac o bellter. Ategwyd bod yr Arfarniad yn un o safon ac yn cadarnhau na
fyddai’r datblygiad yn weladwy o’r rhan fwyaf o’r safbwyntiau, a thra byddai’r
datblygiad yn weladwy o rai safbwyntiau uchel neu o bellter, dim ond rhan o’r
safle a fyddai’n weladwy neu byddai yn weladwy mewn cyd-destun golygfa ehangach
o Bwllheli hefyd. Nodwyd bod bwriad tirweddu’r safle ymhellach ac felly
ystyriwyd na fydd y bwriad yn cael effaith weledol annerbyniol.
Yng nghyd-destun trafnidiaeth a mynediad,
adroddwyd bod bwriad gwella mynediad presennol i mewn i’r safle a’i ddefnyddio
fel prif fynediad ar gyfer y datblygiad. Ategwyd bod Datganiad Trafnidiaeth
wedi ei gyflwyno gyda’r cais ac er y cydnabuwyd bod Lôn Nant Stigallt yn
gyffredinol yn gul gyda rhai darnau serth, bod mynedfa'r safle ger y gyffordd
gyda'r A499. Disgrifiwyd lled y lôn yn y fan yma yn fwy na'r cyfartaledd ar
gyfer y ffordd, a’r Datganiad yn cadarnhau bod modd cyflawni traffig dwy ffordd
ar gyfer y rhan yma. O ganlyniad, gyda’r bwriad i un ai darparu mannau pasio,
neu gyflawni system unffordd ar hyd gweddill y ffordd roedd yr Uned
Drafnidiaeth yn ystyried fod y defnydd o’r ffordd yn dderbyniol.
Yng nghyd-destun gosodiadau'r ddau pod parhaol
sy’n cael ei gynnig, nodwyd nad oedd y safle wedi ei leoli o fewn yr AHNE nac
Ardal Tirwedd Arbennig, ac yn unol â’r
Astudiaeth Sensitifrwydd a Chapasiti y Dirwedd roedd y nifer unedau a gynigiwyd yn cael ei ddiffinio fel
datblygiad bach iawn ac felly ni ellid ei ystyried fel gormodedd. Yng
nghyd-destun yr unedau teithiol, eglurwyd bod posib sicrhau lleiniau caled,
defnydd unedau teithiol yn unig a defnydd gwyliau drwy osod amodau cynllunio.
Ystyriwyd bod yr adeilad cyfleusterau yn addas ac yn briodol ac yn parchu
cyd-destun y safle a’i le yn y dirwedd.
Tynnwyd sylw at bryderon a gyflwynwyd ar yr
effaith ar fwynderau trigolion cyfagos, ond ystyriwyd, ar sail y pellter a
natur guddiedig y safle, ni fyddai’r bwriad yn cael effaith andwyol sylweddol
ar unrhyw drigolion cyfagos. Nodwyd bod ystyriaeth wedi ei roi i bryderon
ynglŷn â’r effaith ar wreiddiau coed gan amlygu bod rhai bellach wedi eu
datrys gan gynlluniau a gyflwynwyd gan yr Uned Bioamrywiaeth fyddai’n golygu
symud un o’r lleini teithiol, gwybodaeth bellach gan yr ymgeisydd ac amodau
cynllunio. Ategwyd bod materion archeolegol, llifogydd ac ieithyddol wedi
derbyn sylw a’r bwriad yn dderbyniol o ran y materion hynny.
Ystyriwyd fod y bwriad yn dderbyniol ac roedd y
swyddogion yn argymell caniatáu’r cais gydag amodau perthnasol.
b)
Yn manteisio ar yr hawl i siarad, nododd yr
ymgeisydd y sylwadau canlynol:
·
Mai ef oedd perchennog y safle. Wedi ymddeol o’r
Heddlu ac yn gobeithio sefydlu menter newydd i gefnogi ei deulu
·
Bod y lleoliad wedi ei guddio gyda nodweddion
tirweddol naturiol
·
Ei
fod yn croesawu bod rhai o’r aelodau wedi ymweld â’r safle a’u bod o ganlyniad
yn rhannu ei weledigaeth
·
Ei fod wedi derbyn cyngor cyn ymgeisio ac wedi
cydweithio gyda’r swyddogion
·
Bod y cais yn cefnogi’r ymgais i leihau’r galw am
ddefnydd Air B&B fel bod modd rhyddhau tai i bobl lleol
·
Nad oedd safleoedd teithiol yn yr ardal leol gyfagos
·
Bod bwriad ganddo reoli’r tir yn effeithiol – wedi
cysylltu gyda CNC i drafod planhigion prin
·
Y byddai’n cyflogi busnesau lleol
·
Bod y cais a gyflwynwyd yn cydymffurfio a pholisïau
lleol
c)
Yn manteisio ar yr hawl i siarad, nododd yr Aelod
Lleol y sylwadau canlynol:
·
Bod y cais yn un cymhleth gyda theimladau cryf yn
lleol
·
Pobl
gyfagos i’r safle wedi cysylltu yn mynegi pryder am ddefnydd y lon gysylltiedig
sydd yn gul a throellog, defnydd o’r lon wedi cynyddu yn sylweddol yn ddiweddar
a cheg y lon yn beryg i garafanau teithiol
·
Pryder
gan drigolion sydd yn byw ar waelod y clogwyn ynglŷn â diogelwch /
symudedd ar y bryncyn. Profiadau o ddefaid yn syrthio; y datblygiad yn debygol
o gario sŵn fydd yn tarfu
·
Bod
yr ymgeisydd yn ddyn lleol sydd â bwriad creu datblygiad fydd yn cynnal ei
deulu, gweithwyr lleol a busnesau lleol. Yn ystyried y busnes yn fusnes caredig
sydd yn parchu nodweddion twristiaeth gynaliadwy ac yn parchu’r Gymraeg
·
Y
safle yn un hardd - gwaith tirweddu wedi ei gwblhau i wneud y gorau o’r safle
d)
Mewn
ymateb i’r sylwadau traffig, nododd y Rheolwr Cynllunio nad oedd y traffig
presennol ar y lon yn cael eu hachosi gan fenter yr ymgeisydd. Ategodd bod
cynlluniau gwelliannau i’r ffordd i’w gweithredu yn y dyfodol agos fydd yn
cynnwys cynllun gyda chyfyngiadau unffordd neu osod llefydd pasio. Nododd bod
modd gosod amod fyddai yn gofyn i’r ymgeisydd wrth hysbysebu’r safle, i annog
defnyddwyr i ddefnyddio’r fynedfa o’r A499.
Yng
nghyd-destun diogelwch y bryncyn, nodwyd na fyddai’n afresymol gosod amod i
ffensio’r safle. Ategwyd bod yr Uned Bioamrywiaeth wedi awgrymu hyn i warchod y
safle.
e)
Yn ystod y drafodaeth ddilynol, nodwyd y sylwadau
canlynol gan yr aelodau:
·
Bod y safle yn guddiedig
·
Angen cefnogi pobl lleol sydd eisiau aros yn lleol
·
Os caniatáu, angen sicrwydd bydd y gwaith yn cael ei
weithredu yn unol a’r gofynion
Mewn
ymateb i sylw bod gwaith clirio’r safle wedi ei wneud cyn i’r cais gael ei
ganiatáu, nododd y Rheolwr Cynllunio mai’r ymgeisydd oedd perchennog y safle a
bod hawl, o dan reoliadau taliad fferm iddo weithredu gwaith clirio heb
ganiatâd. Ategodd bod cwynion i’r gwaith clirio wedi eu hymchwilio.
f) Cynigiwyd ac eiliwyd
caniatáu y cais
PENDERFYNWYD: Dirprwyo’r hawl i’r
Uwch Reolwr Cynllunio i ganiatáu’r cais yn ddarostyngedig i’r amodau canlynol:
1.
Amser
2.
Yn unol â’r cynlluniau diwygiedig.
3.
Cyfyngu nifer o unedau teithiol i 33 carafán a 2 pod yn
unig.
4.
Defnydd gwyliau yn unig a chadw cofrestr.
5.
Tymor gwyliau'r unedau teithiol - 1af Mawrth i 31 Hydref
6.
Dim storio carafanau teithiol ar y safle.
7.
Cwblhau’r cynllun tirweddu yn y tymor plannu cyntaf yn
dilyn derbyn caniatâd.
8.
Rhaid cadw coed a gwrychoedd ar hyd terfynau’r safle.
9.
Cyfyngir unrhyw loriau caled i leiniau carafanau yn unig.
10. Cytuno
llwybr gwasanaethau trydan a dŵr
11. Cyflwyno
Cynllun Rheoli Eurinllyn Collddail
12. Cwblhau
gwelliannau Bioamrywiaeth yn unol â’r wybodaeth sydd wedi ei gyflwyno
13. Amodau
Priffyrdd
14. Oriau
gwaith adeiladu
15. Enw
Cymraeg
16. Hysbysiadau
dwyieithog
17. Gwybodaeth
hysbysu prif fynediad safle oddi ar y A499
18. Gosod ffens o amgylch y safle i sicrhau
diogelwch defnyddwyr
Nodiadau:
Nodyn Gwarchod y Cyhoedd
Nodiadau Priffyrdd
Nodyn llythyr CNC
Nodyn llythyr Dwr Cymru
Nodyn SUDS
Nodyn Trwyddedu
Dogfennau ategol: