Agenda item

Diwygio amod 2 o ganiatâd cynllunio C20/0485/18/AC (diwygiad i ganiatâd cynllunio rhif C17/0438/18/LL ar gyfer datblygiad preswyl) er caniatáu tair blynedd arall ar gyfer cymeradwyo materion a gadwyd yn ôl.  

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Elfed Williams

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD: Caniatáu’r cais yn ddarostyngedig i’r amodau canlynol :-

1.         Cyfnod dechrau’r gwaith.

2.         Cyflwyno materion a gadwyd yn ôl.

3.         Deunyddiau a gorffeniadau (gan gynnwys llechi naturiol i’r toeau).

4.         Mynediad a pharcio.

5.         Tirweddu a thirlunio.

6.         Tynnu hawliau a ganiateir oddi ar y tai fforddiadwy.

7.         Amodau Dwr Cymru sy’n ymwneud a diogelu’r carthffosydd.

8.         Amodau Cyfoeth Naturiol Cymru parthed draenio tir a dŵr wyneb.

9.         Diweddaru’r amodau parthed mesuriadau lliniaru'r asesiad ecolegol.

10.       Cytuno manylion enwau Cymraeg ar gyfer y datblygiad ynghyd ac arwyddion sy'n hysbysu ac yn hyrwyddo 'r datblygiad

11.       Cyfyngu’r defnydd i anheddau o fewn dosbarth defnydd C3

 

Nodiadau: Angen cyflwyno cais system ddraenio gynaliadwy i’w gytuno gyda’r Cyngor.

 

Cofnod:

Diwygio amod 2 o ganiatâd cynllunio C20/0485/18/AC (diwygiad i ganiatâd  cynllunio rhif C17/0438/18/LL ar gyfer datblygiad preswyl) er caniatáu tair blynedd arall ar gyfer cymeradwyo materion a gadwyd yn ôl.

 

a)    Amlygodd yr Arweinydd Tim Rheolaeth Datblygol mai cais llawn ydoedd ar gyfer diwygio amod 2 o ganiatâd cynllunio blaenorol er mwyn ymestyn yr amser a roddwyd i gyflwyno cais materion a gadwyd yn ôl ar y caniatâd amlinellol gwreiddiol yn 2009. Eglurwyd nad oedd y cais yn ymdrin gyda’r materion a gadwyd yn ôl.

 

Adroddwyd bod y bwriad yn parhau i olygu datblygu’r safle ar gyfer 27 o dai sy’n cynnwys 5 tŷ fforddiadwy ar gyfer angen lleol cyffredinol (cymysg o dai cymdeithasol a chanolradd), creu mynedfa newydd ynghyd a darparu llecyn amwynder. Ategwyd bod y cais gwreiddiol yn destun cytundeb cyfreithiol 106 er mwyn darparu’r elfen o dai fforddiadwy ac na fydd angen diweddaru’r agwedd yma gan fod ei gynnwys yn parhau i fod yn ddilys. Ategwyd bod egwyddor o ddatblygu’r safle ar gyfer datblygiad preswyl eisoes wedi ei dderbyn o dan y cais amlinellol gwreiddiol yn 2009 ynghyd a cheisiadau dilynol a ganiatawyd i ymestyn eu cyfnod o 3 mlynedd pob tro ac mae’r caniatâd diweddaraf yn parhau ar y safle ac yn sefydlu egwyddor y cais diweddaraf hwn. Amlinellwyd bwysigrwydd ystyried, os oedd yr  amgylchiadau neu’r sefyllfa gynllunio wedi newid ers caniatáu’r ceisiadau blaenorol. 

 

Yng nghyd-destun safle’r cais, eglurwyd bod y cae yn gae amaethyddol 0.8 hectar sy’n cael ei wasanaethu gan fynedfa amaethyddol oddi ar ffordd sirol dosbarth 3, ac ers y caniatâd cynllunio diwethaf, y cais wedi ei gynnwys yn ffurfiol o fewn Safle Treftadaeth y Byd. Nodwyd bod y safle yn parhau i fod o fewn ffin datblygu Deiniolen ac wedi ei ddynodi ar gyfer tai; yn cyfrannu tuag at lefel cyflenwad dangosol ar gyfer y pentref a’r wybodaeth wedi ei gyflwyno fel rhan o’r cais. Cyflwynwyd Datganiad Cymysgedd Tai yn cadarnhau bod y cymysgedd o dai a gynhigir yn cyfarch yr angen a adnabyddir o fewn Asesiad Angen Tai Gwynedd ynghyd ag asesiad ar gyfer pentref Deiniolen. Eglurwyd y bydd rhan orllewinol y safle wedi ei glustnodi ar gyfer llecyn gwella bioamrywiaeth ac er mwyn lleihau rhediad dŵr wyneb er mwyn cyfiawnhau dwysedd is na’r arferol ar gyfer y safle yma.

 

Tynnwyd sylw at y ffaith bod yr ymgeisydd wedi nodi nad oedd yn bosib datblygu’r safle o fewn cyfnod y caniatâd presennol a hynny o ganlyniad i  Covid a’r hinsawdd economaidd. Amlygwyd nad oedd rhwystr hirdymor fyddai’n atal y datblygiad rhag mynd yn ei flaen, ac felly byddai derbyn y cais yn ymestyn y caniatâd cynllunio llai na blwyddyn heibio dyddiad terfynol y CDLl ac felly bod ymestyn y cyfnod yn rhesymol.

 

Atgoffwyd yr Aelodau mai bras gynllun o’r safle bwriedig oedd wedi ei gynnwys gyda’r cais ac y bydd dyluniad a gosodiad y tai yn derbyn sylw manwl yn ystod cais ar gyfer materion a gadwyd yn ôl.

 

Adroddwyd nad oedd gan yr Uned Drafnidiaeth, Cyfoeth Naturiol Cymru, Dwr Cymru nac Uned Dwr ac Amgylchedd y Cyngor unrhyw wrthwynebiad i’r bwriad yn ddarostyngedig i amodau priodol a thynnwyd sylw at y wybodaeth ychwanegol a gyflwynwyd fel rhan o’r cais ar faterion bioamrywiaeth yn cynnig  mesurau lliniaru a gwelliannau eraill derbyniol.

 

Yng nghyd-destun materion yr  Iaith Gymraeg ystyriwyd y posibilrwydd y byddai canran fechan o ddarpar ddeiliaid y tai farchnad agored yn siaradwyr di-Gymraeg, ond byddai’r bwriad yn destun amod i sicrhau bod y tai yn cael eu defnyddio fel unig breswylfa ac na fydd posib eu defnyddio fel ail dŷ neu uned wyliau heb ganiatâd cynllunio pellach. Yn ychwanegol, nodwyd y gellid codi ymwybyddiaeth o’r iaith drwy ymgymryd â mesurau lliniaru, a rhagwelwyd y byddai rhan helaeth o’r plant a fyddai’n deillio o’r datblygiad yn mynd i ysgolion lleol ble rhoddir pwyslais ar ddysgu drwy’r iaith Gymraeg.

 

Ystyriwyd bod y bwriad  yn dderbyniol ac yn parhau i gydymffurfio gyda gofynion y polisïau lleol a chenedlaethol perthnasol. Roedd y swyddogion yn argymell  caniatáu’r cais gyda’r amodau perthnasol.

 

b)   Yn manteisio ar yr hawl i siarad, nododd yr Aelod Lleol y sylwadau canlynol;

·       94 o bobl ar y rhestr cymdeithasol. Pwy ydynt? Faint mor lleol ydynt?

·       Bod bwriad adeiladu 27 o dai yma. Faint fydd ar gyfer pobl leol?

·       Y cais yn mynd yn ôl dros 10 mlynedd - dim byd wedi digwydd.

·       Y farn lleol heb newid. Gwrthwynebu.

·       Cyd-destun Dŵr ac Amgylchedd - oherwydd maint a natur y datblygiad, bydd angen cyflwyno cais i’r SAB i’w gymeradwyo. Pwy ydi SAB?

·       Pwy fydd yn monitro y gwaith, pwy fydd yn sicrhau bydd y mesurau cywir yn cael eu dilyn?

 

c)   Mewn ymateb i’r sylwadau nodd y Rheolwr Cynllunio mai ‘Sustainable Drainage Body’ oedd SAB - proses sydd yn broses ar wahân ond yn debyg i drefniant rheolaeth adeiladu. Ategodd bydd y gwaith monitro yn cael ei wneud gan swyddogion yn Adran Cynllunio, ac er bod adnoddau yn brin, bydd staff gorfodaeth yn gallu monitro'r safleoedd.

 

d)   Cynigiwyd ac eiliwyd caniatáu y cais

 

e)   Yn ystod y drafodaeth ddilynol, nodwyd y sylwadau canlynol gan yr aelodau:

 

·       Bod y cynnig o fewn y ffin datblygu – cais am estyniad amser sydd yma

·       Hen bryd dechrau adeiladu

 

·       Yn orddatblygiad o dai cymdeithasol

 

PENDERFYNWYD: Caniatáu’r cais yn ddarostyngedig i’r amodau canlynol :-

1.            Cyfnod dechrau’r gwaith.

2.            Cyflwyno materion a gadwyd yn ôl.

3.            Deunyddiau a gorffeniadau (gan gynnwys llechi naturiol i’r toeau).

4.            Mynediad a pharcio.

5.            Tirweddu a thirlunio.

6.            Tynnu hawliau a ganiateir oddi ar y tai fforddiadwy.

7.            Amodau Dwr Cymru sy’n ymwneud a diogelu’r carthffosydd.

8.            Amodau Cyfoeth Naturiol Cymru parthed draenio tir a dŵr wyneb.

9.            Diweddaru’r amodau parthed mesuriadau lliniaru'r asesiad ecolegol.

10.          Cytuno manylion enwau Cymraeg ar gyfer y datblygiad ynghyd ac arwyddion sy'n hysbysu ac yn hyrwyddo 'r datblygiad

11.         Cyfyngu’r defnydd i anheddau o fewn dosbarth defnydd C3

 

Nodiadau: Angen cyflwyno cais system ddraenio gynaliadwy i’w gytuno gyda’r Cyngor.

 

Dogfennau ategol: