Agenda item

I derbyn diweddariad llafar gan Miriam Amlyn (NAS/UWT) ar y cynnig drafft.

Cofnod:

Cyflwynwyd diweddariad ar y drafft gan Miriam A. Amlyn (NAS/UWT) gan dynnu sylw at y prif bwyntiau canlynol:

 

Pryderwyd nad oedd y gwerslyfrau’n cael eu rhyddhau’n brydlon ac nad oeddynt yn ddwyieithog. Nodwyd y byddai rhwng 120 a 140 awr o ddysgu dan arweiniad yn angenrheidiol i’w cyflwyno, ond dim ond dwy awr yr wythnos, sef 76 awr y flwyddyn, a ddarperir. Mynegwyd pryder y byddai hyn yn arwain at anfantais i ddisgyblion wrth baratoi ar gyfer yr arholiad.

 

Nodwyd y byddai dau ddarn o waith cwrs yn cael eu cyflwyno ynghyd â’r ddau arholiad presennol. Pwysleisiwyd na fyddai’n bosibl newid yr amseroedd sydd wedi’u neilltuo ar gyfer cwblhau gwaith cwrs, a fyddai’n lleihau’r amser a roddir i addysgu’r pwnc a pharatoi ar gyfer yr arholiad.

 

O ran y cynnwys, nodwyd bod yr ymdriniaeth â’r crefyddau yn eithaf tebyg i fel yr oedd o’r blaen, ond gyda mwy o fanylder mewn rhai meysydd. Cynhwyswyd mwy o gynnwys ar gredoau anghrefyddol, hawliau dynol, a chynnwys newydd, nad oedd yn yr hen werslyfrau. Er gwaethaf hyn, nodwyd bod y cynnwys yn dda, ond efallai ei fod yn eithaf trwm o ran y manylder ychwanegol mewn rhai meysydd. Pwysleisiwyd hefyd bwysigrwydd rhyddhau’r gwerslyfr yn Gymraeg a Saesneg ar yr un pryd.

 

Mynegwyd pryder pellach ynghylch cyflwyno gwaith cwrs, yn enwedig mewn cysylltiad â AI a’i ddefnydd posibl gan ddisgyblion i dwyllo. Nodwyd bod y cyfrifoldeb dros atal twyll o’r fath yn disgyn ar yr athro, ond er hynny, mae’n anodd rheoli gweithgareddau’r dosbarth i atal twyll o’r fath.

 

Yn ystod y drafodaeth, codwyd y materion a ganlyn:

 

Nodwyd bod yr amser a neilltuwyd i bynciau dewis yn amrywio o ysgol i ysgol, fel yn Ysgol y Moelwyn, lle ceir tair awr yr wythnos. Esboniwyd bod y neilltuad amser yn cael ei benderfynu gan y pennaeth. Nodwyd hefyd y bu’r ysgol hon yn dechrau dysgu’r pynciau dewisol ym mis Chwefror yn y gorffennol, gan ganiatáu mwy o amser i ddysgu a lleihau’r problemau sy’n gysylltiedig ag ymddygiad. Fodd bynnag, nodwyd bod Llywodraeth Cymru wedi gwahardd trefniant o’r fath eleni, sydd yn peri pryder o ran cynnal ymddygiad a diddordeb, ynghyd â cholled tymor o gyswllt.

 

Mynegwyd bod y gwaith cwrs yn cael ei groesawu gan yr athrawes yn Ysgol y Moelwyn, gan ei bod yn teimlo bod y pwnc wedi bod dan anfantais yn y gorffennol mewn cymhariaeth â phynciau eraill sydd ag elfen gwaith cwrs.

 

Mewn perthynas â’r pryder o ddefnyddio AI i dwyllo, awgrymwyd y gallai fod yn ddefnyddiol holi’r disgyblion i weld a ydyn nhw’n deall yr hyn maent wedi’i ysgrifennu er mwyn cadarnhau mai eu heiddo nhw eu hunain yw’r gwaith mewn gwrionedd. Fodd bynnag, esboniwyd y byddai hyn yn cymryd amser i’w wneud ac efallai y byddai’n creu anghydfod rhwng y disgybl a’r staff.

 

Holwyd sut y mae’r ymrwymiad amser o’r cynllun cyfredol a’r cynllun blaenorol yn cymharu. Mewn ymateb, esboniwyd nad oedd yr ateb wrth law, ond roedd yn sicr y byddai’n fwy ymarferol gyda chyflwyno gwaith cwrs.

 

PENDERFYNWYD:

• I’r Cadeirydd anfon llythyr at gynhyrchydd y llyfr Cyfnod Allweddol 3 ynghylch yr adnoddau newydd.

• I’r Cadeirydd gysylltu â Myrddin ap Dafydd (Gwasg Carreg Gwalch) o ran y syniad o gynhyrchu gwerslyfr ar gyfer Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg.

 

Dogfennau ategol: