a) I ystyried yr adroddiad ar y Maes
Tai Cymdeithasol
b) Cwestiynau i’w gofyn i’r
Cymdeithasau Tai (Adra, Clwyd Alyn, Grŵp Cynefin a Thai Gogledd Cymru)
Penderfyniad:
1. Derbyn yr adroddiad gan
nodi’r wybodaeth a diolch i’r Adran Dai ac Eiddo am y wybodaeth gynhwysfawr a
gyflwynwyd.
2.
Gofoyn am wybodaeth
ychwanegol gan yr Adran Dai ac Eiddo am:
-
Y
niferoedd oedd ar y rhestr aros ar gyfer byngalos yng Ngwynedd ac yn ardal
Meirionnydd.
-
Y
niferoedd Digartrefedd a faint o’r niferoedd hyn sydd ddim o Wynedd yn
wreiddiol.
-
Linc i’r
dudalen ar y Fewnrwyd Aelodau sy’n darparu data am y Gofrestr Dai fesul
wardiau.
-
Ddata ar y
niferoedd sy’n cyfnewid Tai (cydgyfnewid).
-
Ddata am y
gofrestr Tai Teg a’i niferoedd.
-
Y ffigyrau
Tanfeddiannu.
-
Yr
eithriadau i’r Polisi Gosod dros y 5 mlynedd ddiwethaf gan nodi’r rheswm.
3.
Datgan
pryder am:
-
Y diffyg
mewnbwn gan y Cyngor pan fo cyfnewidiadau Tai yn digwydd.
-
Oblygiadau
posib y Papur Gwyn i Bolisi Gosod Tai Gwynedd yn y dyfodol.
-
Y diffyg
gostyngiad yn niferoedd y Gofrestr Dai Gyffredin dros y deg mlynedd diwethaf.
-
Y
niferoedd digartref yn y Sir.
-
Gyfathrebu
efo’r Cymdeithasau Tai gan awgrymu i’r Adran Dai ddarparu ffurflen safonol i
Aelodau ei gwblhau ar ran tenantiaid pan fo angen gwaith cynnal a chadw gan
gynnwys darparu pwyntiau cyswllt gwahanol Adrannau’r cymdeithasau Tai.
4.
Derbyn y wybodaeth a dderbyniwyd gan y Cymdeithasau Tai a’u hymatebion i
gwestiynau’r aelodau fydd wedi eu crynhoi yng nghofnodion y Pwyllgor.
Cofnod:
(a) I
Ystyried yr adroddiad ar y Maes Tai Cymdeithaol
Cyflwynwyd adroddiad gan
Bennaeth Adran Tai ac Eiddo. Eglurwyd bod gwahoddiad wedi ei estyn i’r
cymdeithasau tai sy’n weithredol yng Ngwynedd sef Adra, Clwyd Alyn, Grŵp
Cynefin a Thai Gogledd Cymru i ymuno â’r cyfarfod i ateb cwestiynau’r Aelodau
ynglŷn â gweithrediad y Polisi Gosod Tai. Nodwyd fod y Polisi Gosod wedi
ei graffu ddwywaith dros y ddwy flynedd ddiwethaf.
Cychwynnwyd y drafodaeth gan
ofyn a yw’n bosib derbyn canran o’r holl osodiadau tai o’r sampl o 200 o
geisiadau oedd wedi ei gymryd gan yr Adran Dai. Cadarnhawyd fod y ganran
oddeutu rhwng 15-20%. Nodwyd fod y ceisiadau wedi eu dewis ar hap a bod gwaith manwl
wedi dilyn i weld beth oedd cysylltiad lleol unigolion a'u cysylltiad efo’r
gymuned ble cawsant yr eiddo cymdeithasol. Credwyd fod y ffigyrau a dynnwyd o’r
sampl yn dangos patrwm clir ac yn rhoid sicrwydd a hygrededd i’r gwaith a
gwblhawyd. Ychwanegwyd bod 95% sy’n gymwys yn y categori Cysylltiad Gwynedd yno
oherwydd preswyliad ac mai nifer fach ydi’r gweddill e.e. i ddarparu neu
dderbyn cymorth gan berson neu ddarpariaeth yng Ngwynedd a gofynnir i hyn gael
ei dystiolaethu. Ychwanegwyd y gall yr Adran Dai ddarparu’r union ffigwr i’r
Aelodau.
Gofynnwyd beth yw’r amser
disgwyl ar gyfer byngalos yn ardal Gwynedd a Meirionydd gan bwysleisio eu
pwysigrwydd wrth ryddhau tai i deuluoedd sydd wir eu hangen.
-
Nodwyd
nad oedd y ffigyrau galw ar gyfer byngalos ar gael heddiw ond y byddai’r Adran
Dai yn casglu’r wybodaeth yma a’n ei ddarparu i’r Aelodau, yn ogystal â rhestr
o niferoedd y byngalos sydd gan y cymdeithasau tai fel bod cymhariaeth rhwng y
galw a’r cyflenwad.
Nodwyd fod rhestr aros tai
cymdeithasol Gwynedd yn faith a gofynnwyd pam nad yw rhagor o dai cymdeithasol
yn cael eu hadeiladu.
-
Mewn ymateb
i’r cwestiwn, esboniwyd fod gan Wynedd gynlluniau datblygu tai cymdeithasol ar
y cyd sydd yn lewyrchus ac sy’n cael ei gydnabod fel cynllun llwyddiannus.
Nodwyd fod £50 miliwn yn cael ei wario pob blwyddyn ar adeiladu tai
cymdeithasol yng Ngwynedd. Cydnabuwyd fod y nifer o dai sydd yn bosib i’w
adeiladu yn ddibynnol ar gyllid ac argaeledd tiroedd. Gobeithiwyd y bydd y
Polisi Datblygu Lleol yn mynd i’r afael a’r cyfyngiadau yma ac y bydd rhagor o
gyllideb ar gael gan y Llywodraeth.
O ran digartrefedd yng
Ngwynedd, nodwyd fod y Cynllun Gweithredu Tai werth £180 miliwn a bod canran
sylweddol o’r arian yma wedi’i neilltuo ar gyfer adeiladu ac ail bwrpasu tai ar
gyfer anghenion digartrefedd. Ar ben hynny, nodwyd fod oddeutu 88 o unedau
cefnogol yn cael ei adeiladu yng Ngwynedd ar hyn o bryd gyda’r gobaith o allu
tynnu pobl allan o lety argyfwng anaddas. Cydnabuwyd bod yr argyfwng tai yn
parhau a bod yr Adran Dai yn ceisio cyfarch yr holl anghenion tai.
Mewn ymateb i gwestiwn am
faint sydd ar y rhestr aros am dai cymdeithasol ar hyn o bryd, nodwyd bod o
gwmpas 2,000-2,500 o geisiadau ar y gofrestr. Ychwanegwyd fod y rhestr aros
wedi bod yn sefydlog efo’r niferoedd yma ers y degawd diwethaf felly nid oes
pwysau cynyddol diweddar wedi bod. Pwysleisiwyd mai nid unigolion yw'r rhain
ond ceisiadau am uned. Adroddwyd ei bod yn bosib derbyn y ffigwr o ran
unigolion os yw’r Aelodau yn dymuno ei dderbyn. Ychwanegwyd er bod y ffigyrau
yn sefydlog bod yr anghenion yn uwch ac yn fwy cymhleth a bod cynlluniau ar y
gweill er mwyn ymateb i’r anghenion.
O ran ardaloedd penodol a’r
anghenion tai ar lefel lleol, nodwyd ei bod yn bosib darganfod y ffigyrau ar
gyfer y wardiau yng Ngwynedd ar wefan Cyngor Gwynedd. Cynigiwyd darparu linc i
ran berthnasol o’r wefan. Nodwyd bod y data yn cael ei dynnu allan o’r system
yn gyfnodol felly ei fod yn gyfoes a dibynadwy.
-
Gofynnwyd
i’r Adran Dai wirio’r linc hwn sydd i’w weld ar y Fewnrwyd Aelodau i wneud yn
siŵr ei fod yn gweithio gan fod problem wedi bod efo’r linc.
Mewn ymateb i gwestiwn am y
niferoedd sy’n ddigartref yng Ngwynedd, nodwyd bod y ffigyrau o gwmpas 500-600
ar hyn o bryd. Ychwanegwyd bod y cyswllt lleol i Wynedd hefyd yn berthnasol ar
gyfer cyflwyno’n ddigartref a bod rhaid cydnabod y cyswllt lleol â’r ardal cyn
derbyn person yn ddigartref yn y Sir. Ychwanegwyd bod rhai eithriadau yn bodoli
e.e. unigolion sydd yn ffoi trais. Nodwyd gall yr Adran Dai ddarparu’r union
ffigwr am y niferoedd sy’n ddigartref a’r cysylltiad i Wynedd i’r Aelodau;
mynegwyd awydd i dderbyn y wybodaeth yma. Pwysleisiwyd bod y term digartref yn
golygu pobl sy’n cysgu ar soffa ffrindiau neu deuluoedd neu’n aros mewn llety
gwely a brecwast ac nid yn cysgu ar y strydoedd.
Mynegwyd pryder bod
Llywodraeth Cymru ddim yn hoffi’r pwyslais ar gysylltiad lleol sydd ym Mholisi
Gosod Gwynedd a gofynnwyd pa reolaeth sydd gan y Llywodraeth dros Bolisi Gosod
Gwynedd.
-
Mewn
ymateb cytunwyd bod Gwynedd yn blaenoriaethu pobl leol o fewn y Polisi Gosod.
Nodwyd ei bod yn fwriad gan Lywodraeth Cymru i gyflwyno papur gwyn ar
ddigartrefedd ac fe all hynny gal effaith ar bwy all gyflwyno yn ddigartref yng
Ngwynedd ac o ganlyniad gall effeithio ar y Polisi Gosod. Nodwyd y bydd yn
rhaid aros i weld beth fydd yr effaith gan fod y gofynion newydd heb eu
cadarnhau eto a gobeithir gwybod mwy dros y 12 mis nesaf. Atgoffwyd yr Aelodau
o’r bwriad i ddod 'nôl i’r Pwyllgor Craffu Gofal i graffu’r Polisi Gosod bryd
hynny.
Mewn ymateb i gwestiwn am y
broses o geisio am eiddo cymdeithasol, eglurwyd mai un ffurflen gais ac un
Polisi Gosod sydd yn bodoli ers 2012 pan sefydlwyd y Tîm Opsiynau Tai.
Esboniwyd yn dilyn hynny fod y broses o ymgeisio wedi ei chanoli. Nodwyd nad
oes bellach cyfyngiad ar niferoedd yr ardaloedd gall ymgeiswyr eu dewis i fod
yn gymwys am eiddo; gall ymgeiswyr nodi 1 ardal yn unig os mai hynny yw eu
dymuniad neu gallent nodi 20 o ardaloedd. Pwysleisiwyd bod gofyn i unigolion
flaenoriaethu a bod risg i unigolion gael eu cosbi os ydynt yn gwrthod cynnig o
eiddo mewn ardal oedd yn un o’u dewisiadau.
Gofynnwyd cwestiwn
ynglŷn â’r weithdrefn ar ôl i bobl gael eu cynnwys ar y rhestr aros am dai
cymdeithasol yng Ngwynedd. Amlygwyd fod y ceisiadau unigol sydd ar y rhestr yn
cael ei blaenoriaethu yn unol â’r Polisi Gosod. Eglurwyd nad rôl y Cyngor yw
archwilio cefndir tenantiaid ond i asesu eu hanghenion. Nodwyd bod y Tîm
Opsiynau Tai yn creu rhestr aros yn unol â blaenoriaethau’r Polisi. Esboniwyd
mai’r cymdeithasau tai sydd yn gwneud y gwaith dilynol o arwyddo’r denantiaeth
ar ôl i unigolyn dderbyn cynnig ac yn gwneud y gwaith fforddiadwyedd a
sefydlu’r berthynas efo’r tenant newydd.
Gofynnwyd a yw’n bosib cael
sicrwydd fod cymorth a chefnogaeth ddilynol ar gael i unigolion sydd wedi
cyflwyno’n ddigartref tra maent yn aros mewn llety gwely a brecwast, yn benodol
am unrhyw bryderon sydd ganddynt ynglŷn ag iechyd meddwl.
-
Mewn
ymateb, nodwyd fod cefnogaeth lawn yn cael ei rhoi i unigolion sydd yn cyflwyno
yn ddigartref os ydynt angen y gefnogaeth. Cyfeirwyd at y swyddogion penodol o
fewn y tîm digartrefedd sydd yn ymdrin â materion iechyd meddwl gan nodi fod y
gefnogaeth yn parhau drwy’r arhosiad yn y llety argyfwng.
O ran Tai Teg, holwyd pwy
yw’r landlord a pwy sy’n cynnal a chadw’r tai yma. Holwyd hefyd am y tai mae’r
Cyngor yn eu prynnu fel tai rhent ac am fwy o esboniad am y tai hyn. Yn
ychwanegol gofynnwyd beth yw barn yr Adran Dai ar gyfnewid tai.
-
Mewn
ymateb nodwyd fod y cymdeithasau tai a’r Cyngor yn defnyddio Tai Teg a'i fod yn
system sydd yn cael ei redeg i osod tai canolraddol ar ran y cymdeithasau tai
ac yn eistedd dan Grŵp Cynefin.
-
Amlygwyd
bod y Cyngor hefyd yn prynnu tai canolraddol a bod Adra fel un o bartneriaid y
Cyngor yn rheoli’r adeilad a’r denantiaeth ond fod y Cyngor yn derbyn elfen o’r
rhent. Ymhelaethwyd mai Cyngor Gwynedd ydi perchnogion y tai yma ond bod
rheolaeth o’r tai wedi eu trosglwyddo i Adra am gyfnod penodol. Cadarnhawyd bod
dwy restr sef rhestr tai cymdeithasol a rhestr Tai Canolraddol (Tai Teg).
-
O
ran barn yr Adran Dai ar gyfnewid tai cymdeithasol, adroddwyd nad oes gan yr
Adran farn am gyfnewid tai gan ei fod yn gyfraith ac felly does dim dewis. Mae
deddf statudol yn caniatáu'r hawl i denantiaid gyfnewid efo unrhyw denant eiddo
cymdeithasaol arall yng Nghymru neu Lloegr ac nid oes hawl gwrthod y cyfnewid
heb reswm da.
Gofynnwyd faint sydd ar y
rhestr Tai Teg. Nododd y Pennaeth Tai ac Eiddo y byddai modd anfon y wybodaeth
yno i’r Aelodau. Ategwyd y pwysigrwydd o godi
ymwybyddiaeth am y rhestr Tai Teg a’r tai canolraddol.
Mewn ymateb i gwestiwn ar bwy oedd yn
gwneud y penderfyniad terfynol o bwy fyddai yn derbyn eiddo, eglurwyd mai
pwrpas y Polisi Gosod yw osgoi penderfyniad terfynol gan swyddog. Ymhelaethwyd
trwy ddilyn y Polisi bod rhestr yn cael ei greu ar sail blaenroliaethau a’r
disgwyliad yw yn y cytundeb ffurfiol rhwng y Cyngor a’r cymdeithasau tai yw bod
y rhestr hwnnw yn cael ei didlyn. Eglurwyd weithiau bydd eithriadau prin pan fo
tenant sydd ar dop y rhestr ddim yn gwbl addas ar gyfer eiddo penodol; bryd
hynny fydd sgyrsiau yn cael eu cynnal rhwng y Cyngor a’r cymdeithasau tai.
-
Gofynnwyd
a oes proses fonitro i weld pa mor fychain yw’r eithriadau hyn. Adroddwyd bod y
data yno ar gael a bod cyfarfodydd parhaus ar lefel gweithredol a strategol ble
bydd yr eithriadau hyn yn cael eu trafod. Cytunwyd i’r Adran Dai wneud darn o
waith a rhannu’r wybodaeth yma am yr eithriadau (‘by-passes’) efo’r Aelodau.
(b) Cwestiynau i’w gofyn i’r
Cymdeithasau Tai (Adra, Clwyd Alyn, Grŵp Cynefin a Thai Gogledd Cymru)
Croesawyd cynrychiolwyr y
cymdeithasau tai i’r cyfarfod. Rhedwyd drwy’r cwestiynau oedd wedi eu gofyn i’r
cymdeithasau tai yn y drefn sy’n ymddangos ar Raglen y Pwyllgor gan roi cyfle i
gynrychiolwyr y cymdeithasau tai ymateb a’r Aelodau i holi cwestiynau pellach.
Gweithredu’r Polisi Gosod
Tai
Esboniwyd bod y cymdeithasau
tai yn gweithio mewn partneriaeth efo Cyngor Gwynedd a bod y cymdeithasau tai
wedi bod yn rhan o lunio’r Polisi Gosod Tai cyfredol nol yn 2019 efo’r Cyngor
ac yn cyd-ariannu’r gwasanaeth Opsiynau Tai. Nodwyd bod cymdeithas dai Adra yn
gosod 95% o’u heiddo drwy’r Polisi Gosod a bod y 5% arall yn cael eu gosod drwy
drosglwyddiadau rheoli mewnol oherwydd rhesymau megis
tan-feddiannu neu’r angen am addasiadau. Ategwyd hefyd
bod canran fach o denantiaethau yn cychwyn oherwydd hawl olyniaeth, sy’n hawl
cyfreithiol.
Ychwanegodd
Tai Gogledd Cymru eu bod nhw efo unedau Tai Cefnogol yng Ngwynedd ac yn
achlysurol byddent yn gwneud trosglwyddiad rheoli mewnol i symud tenant o’r Tai
Cefnogol i eiddo cymdeithasol heb fynd drwy’r gofrestr tai. Nodwyd fod hyn yn
digwydd pan mae tenant yn barod i symud ymlaen o’r eiddo Cefnogol ac o
ganlyniad yn rhyddhau lle yn yr eiddo Cefnogol i rywun sydd angen y
ddarpariaeth yma. Soniwyd am eithriadau eraill ble
bydd gosodiadau yn cael eu gwneud tu allan i’r Polisi e.e. risg i fywyd
oherwydd trais domestig.
Ategwyd y sylwadau gan yr
holl gymdeithasau tai bod y Polisi Gosod yn cael ei weithredu’n llawn a bod yna
berthynas weithio gonest a tryloyw rhwng y Cyngor a’r cymdeithasau tai.
Rhestr Aros
Mynegwyd mai eithriadau prin yw’r ceisiadau i wahardd rhai pobl
oddi ar y rhestr aros. Tynnwyd sylw at ran 3.47 o’r Polisi Gosod sy’n adnabod
pam y byddai person yn cael ei wahardd o’r gofrestr e.e. ymddygiad troseddol
hanesyddol neu wedi ymosod ar aelod o staff y gymdeithas dai, yn ogystal ag
ymddygiad gwrthgymdeithasol dwys a cham drin yr eiddo. Eglurwyd bod modd hefyd
atal ymgeiswyr ar sail dros dro o’r gofrestr dai ac mai hyn yw mwyafrif yr
achosion o gymharu â’r niferoedd sy’n cael eu gwahardd yn barhaol.
Adroddwyd bod y cymdeithasau
tai fel arfer yn cynnig eiddo i enwebiad cyntaf yr Awdurdod Lleol; ond os yn
methu oherwydd rheswm dilys e.e. mater lleol yn ymwneud â gosodiad penodol,
bydd y rheswm yma yn cael ei gyfleu i’r Awdurdod Lleol a bydd trafodaethau yn
digwydd cyn dod i gytundeb. Pwysleiswiyd bod achosion fel hyn yn brin iawn.
Ategwyd y sylw gan ychwanegu rhai rhesymau dros beidio a cynnig i’r ymgeisydd
cyntaf ar y rhestr (‘by-pass’) er enghraifft
y gefnogaeth anghenrheidiol ddim yno ar gyfer tenant a’r gymdogaeth ehangach
ddim am weithio. Nodwyd bod asesiad risg o’r denantiaeth yn cael ei chynnal a
bydd y cymdeithasau tai yn gwneud gwaith cefndirol. Ychwanegwyd bod y
cymdeithasau tai yn ceisio sicrhau tenantiaethau cynlialadwy fyddai’n
galluogi’r tenantiaid i setlo yn y gymuned.
Mewn ymateb i sylw bod y Cymdeithasau
Tai yn tanseilio gwaith da drwy newid y rhestr, pwysleisiwyd bod hyn yn
eithriadau sy’n cael ei gwneud am y rhesymau iawn e.e. rhesymau fforddiadwyedd
yn ogystal â’r rai a nodwyd uchod, er mwyn sicrhau bod y tenant yn cael eiddo
sy’n addas ar eu cyfer.
Ychwanegodd yr Arweinydd Tîm Comisiynu
nad oedd y ‘by-passes’ i fod i ddigwydd ond cydnabuwyd ei fod yn anorfod ar rai
achlysuron pan fo rhesymau dilys. Nododd fod y rhestr sy’n cael ei gynhyrchu
gan y Tîm Opsiynau Tai yn adlewyrchu blaenoriaethau’r Polisi Gosod ond fod
trafodaethau a sgyrsiau adeiladol yn digwydd pe bai anghytundeb a bod hyn yn
adlewyrchiad o’r berthynas agos rhwng y Cyngor a’r cymdeithasau tai. Cydnabuwyd
bod pryder ar adegau oherwydd disgwyliad fod y Polisi’n cael ei ddilyn ond fod
angen cydnabod bod gwahaniaethau rhwng sefydliadau gwahanol a bod anghytuno yn
mynd i ddigwydd yn achlysurol. Adroddwyd bod y Tîm Opsiynau Tai yn monitro pan
fo hyn yn digwydd. Nodwyd y gall yr Aelodau weld maint y problem pan fyddent
wedi derbyn y data gan yr Adran Dai.
Gofynnwyd am farn y cymdeithasau tai ar
y Papur Gwyn gan y Llywodraeth gan fynegi pryder y bydd y Papur Gwyn yn cael
effaith ar osodiadau lleol a’r flaenoriaeth sy’n cael ei roi yng Ngwynedd i
gysylltiadau lleol.
-
Mewn
ymateb nid oedd y cymdeithasau tai yn poeni’n ormodol oherwydd bod y Polisi
Gosod lleol mewn lle sy’n sicrhau bod pobl Gwynedd yn cael blaenoriaeth.
Ychwanegwyd pan ddaw'r Papur Gwyn terfynol a pan fydd hi’n amserol i adolygu,
bydd y cymdeithasau tai yn gwneud hynny ar y cyd ac mewn partneriaeth efo’r
Cyngor.
Mynegwyd
awydd i’r cymdeithasau tai fod yn trafod gosodiadau, yn enwedig safleoedd
newydd, efo’r Aelodau lleol fel eu bod yr Aelodau yn gallu annog i bobl
gofrestru a rhoi eu henwau ymlaen o fewn eu wardiau. Credwyd y bydd
trafodaethau o’r fath yn osgoi drwg deimlad o fewn y gymuned.
Cyfnewid Tai
Nodwyd bod tenantiaid y cymdeithasau
tai efo Cytundeb Meddiannaeth Ddiogel sy’n golygu bod ganddynt yr hawl i
gyfnewid eiddo. Ymhelaethwyd bod gan y cymdeithasau tai hawl i wrthod mewn rhai
achosion e.e. ymddygiad gwrthgymdeithasol, eiddo wedi ei addasu neu'r
cyfnewidiad yn mynd i achosi tan-feddiannu. Esboniwyd y broses ble bydd cais yn
cael ei dderbyn yna’r gwiriadau priodol yn cael eu cwblhau. Darparwyr ystadegau
megis bod 50 o gyfnewidiadau wedi digwydd yng
nghymdeithas Dai Adra yn flwyddyn ddiwethaf, sef 25
achos o gyd-gyfnewid. Nodwyd bod 46 o’r rhain wedi bod o fewn stoc Adra ac yng
Ngwynedd. Nodwyd bod 1 achos yng Nghonwy a 3 achos yn bellach i ffwrdd.
Eglurwyd bod gan denantiaid y cymdeithasau tai hawl cyfreithiol i wneud hyn.
Adroddwyd patrwm tebyg gan
Grŵp Cynefin efo 20 o gyfnewidiadau wedi cymryd lle dros y 3 mlynedd
ddiwethaf gyda’r mwyafrif o fewn y Sir a 2 o’r tu allan. Cadarnhawyd mai 2 oedd
niferoedd cyfnewidiadau Tai Goledd Cymru o few Gwynedd. Nodwyd gall y cymdeithasau
tai wrthod pan fo cytundeb lleol (s106) ar yr eiddo sy’n golygu blaenoriaeth i
bobl leol am yr eiddo; gallant wrthod dan Ddeddf
Rhentu Cartrefi a gweithio oddi fewn y fframwaith cyfreithiol hwn.
Gofynnwyd am eglurhad
pellach ar ddata Adra. Mynegwyd bod ffigwr y cyfnewidiadau yn 135 am y dair
mlynedd ddiwethaf yn Adra ac yn 50 ers mis Tachwedd 2023. Gnwethwpyd sylw bod
cyfnewidiadau yn gweithio’n dda i lawer o denantiaid ac yn gallu bod o fudd.
Mynegwyd pryder gan yr
Aelodau am gyfnewidiadau tu allan i Gymru a gofynnwyd a oes modd rhoi stop ar y
cyfnewidiadau hyn. Ategwyd mai penderfyniad y Llywodraeth ydyw ac nad oes gan y
cymdeithasau tai hawl i wrthod heb reswm dilys. Awgrymwyd cynnwys cymal yn y
Polisi Gosod yn nodi’r angen i denantiaid gyfathrebu efo’r cymdeithasau tai fel
cam cychwynnol a cheisio cyfnewid yn lleol. Credwyd bod lle i annog tenantiaid
i symud o fewn eu cymunedau.
Cymorth i denantiaid, tan
feddiannu a digartrefedd
Cydnabuwyd bod tan-feddiannu
yn broblem gan na ellir gorfodi tenantiaid i adael eu cartrefi ond eglurwyd bod
gan y cymdeithasau tai gymhellion i geisio annog tenantiaid i symud i eiddo
llai e.e. help efo costau symud. Esboniwyd yr heriau megis tenantiaid ddim
eisiau gadael, ac os yw’r tenantiaid yn gallu ymdopi a fforddio eu cartref
presennol ni all y cymdeithasau tai eu gorfodi i symud. Eglurwyd bod Grŵp
Cynefin yn edrych ar greu Polisi er mwyn cyfarch yr heriau sydd o gwmpas
tan-feddiannu.
Esboniwyd mai 13 mlynedd yw
hyd cyfartalog tenantiaeth gan gymdeithas tai Adra a bod yr eiddo yn gartref i
unigolion felly gellir deall pam fod llawer yn amharod i symud. Adroddwyd bod y
cymdeithasau tai yn ceisio gwireddu cynlluniau sydd yn annog tenantiaid i symud
megis Stad Frondeg, Pwllheli neu Blas Penrhos, Penrhosgarnedd. Adroddwyd bod yr
adeiladau newydd hyn yn rhoi cymhelliant i denantiaid symud ac yn targedu
tan-feddiannu mewn ardaloedd penodol sy’n help i ryddhau eiddo. Amlygwyd nad
yw’r dreth llofft sbâr yn effeithio ar bensiynwyr yng Nghymru.
Ychwanegwyd bod cefnogeth yn
cael ei ddarparu gan y cymdeithasau tai er mwyn atal digartrefedd gan y
Swyddogion Cefnogi Tenantiaid neu Swyddogion Lles sydd yn aml yn ymweld â
thenantiaid bregus ac yn asesu pa mor gynialadwy ydi’r denantiaeth. Eglurwyd bod
cynogr ariannol yn cael ei ddarparu a chymorth i denantiaid gynnal eu
tenantiaethau. Eglurwyd bod cyd-weithio agos efo’r Cyngor yn enwedig y
gwasanaeth Tai a Gwasanaethau Cymdeithasol yn hanfodol er mwyn cefnogi
tenantiaid, yn ogystal a gwasanaethau uniongyrchol gan y cymdeithasau tai megis
y gwasanaeth Gorwel gan Grŵp Cynefin. Cydnabuwyd efallai bod lle i allu
gwneud mwy ond bod y trefniadau presennol yn gweithio’n dda ar hyn o bryd a
credwyd bod y cymdeithasau tai yn llwyddo i gyfarch anghenion tenantiethau.
Ymhelaethwyd am y gwasanaeth
cymorth costau ynni a gwresogi sy’n cael ei ddarparu ar y cyd rhwng rhai o’r
cymdeithasau tai er mwyn cyfarch yr heriau sy’n wynebu eu tenantiaid. Mynegwyd
bod gan y cymdeithasau tai gronfa sylweddol i helpu tenantiaid efo costau byw.
Ychwanegwyd mai dadfeddiant
yw’r opsiwn olaf a bod cymorth a chyngor wastad yn cael ei gynnig cyn cyrraedd
y cam yno. Pwysleisiwyd bod amser ac ymdrech yn cael ei roi i gydweithio efo
tenantiaid er mwyn sicrhau eu bod nhw’n gallu aros yn eu tenantiaethau.
Gofynnwyd i’r Adran Dai
ddarparu ffigurau tan-feddiannu i’r Aelodau.
-
Mynegodd
yr Arweinydd Tîm Comisiynu bod tan-feddiannu o fewn y stoc tai cymdeithasol yn
flaenoriaeth o fewn y Polisi Gosod Tai ac yn un o’r anghenion Tai brys os yn
peryglu’r denantiaeth yn ariannol felly mae achosion o dan-feddiannu yn dod ag
ymgeiswyr yn agos i dop y rhestr.
Gofynnwyd faint o dai sydd
gan y cymdeithasau tai yng Ngwynedd.
-
Mewn ymateb nodwyd bod gan Adra 7,300 o stoc Tai a bod 90% o’r
stoc yno yng Ngwynedd. Nodwyd fod Tai Gogledd Cymru efo 900 o stoc yng
Ngwynedd, sy’n cynnwys eiddo Tai Gofal Ychwanegol a Thai Cefnogol yn ogystal ag
eiddo cymdeithasol. Adroddwyd bod Grŵp Cynefin efo 1,900 o eiddo yng
Ngwynedd sy’n gymysgedd o dai rent cymdeithasol, tai a chefnogaeth, cynlluniau
Gofal Ychwanegol ac eiddo rhan berchnogaeth a thai canolraddol. Nododd Clwyd
Alun mai dim ond y stoc ym Mhenrhos Pwllheli sydd ganddynt yng Ngwynedd ar hyn
o bryd.
Gofynnwyd faint o arian sydd gan y cymdeithasau tai yn y gronfa i helpu
atal digartrefedd ac o ble daeth yr arian yno.
-
Mewn ymateb nodwyd bod y cronfeydd yn cael eu creu yn fewnol a bod
swm o arian yn cael ei ddynodi yn fewnol i’r cronfeydd tlodi neu’r cronfeydd
tan-feddiannu sy’n dod o arian sy’n cael ei greu gan incwm y gymdeithas tai.
-
Ychwanegwyd bod y Cyngor yn derbyn Grant Cymorth Tai gan y
Llywodraeth bob blwyddyn sydd yn grant sylweddol, a bod y Cyngor yn comisiynu
gwasanaethau gan y cymdeithasau tai sy’n rhoi cymorth i unigolion ac osgoi
digartrefedd. Mynegwyd bod cyd-weithio agos iawn efo partneriaid i sicrhau
bodolaeth prosiectau sy’n cyfrannu at yr amcanion hyn.
Gofynnwyd faint o wahaniaeth mae adeiladau newydd e.e. y 28 o
fflatiau newydd ym Mron Deg Pwllheli yn ei wneud i’r rhestr aros.
-
Mewn ymateb nodwyd bod 8 wedi cael eu trosglwyddo i’r fflatiau ym
Mron Deg Pwllheli fel trosglwyddiadau rheoli mewnol oherwydd eu bod yn
tan-feddiannu ac yn byw mewn tai 2-3 llofft. Nodwyd bod hyn wedi rhyddhau
rywfaint o bwysau ond heb wneud gwahaniaeth mawr i’r ffigwr o 2,000-2,500
sydd ar y rhestr aros, ond fod pob cynllun yn
help.
Awgrymwyd i’r cymdeithasau tai gyd-weithio ar ymgyrch yn y
flwyddyn newydd er mwyn codi ymwybyddiaeth ar y cymhellion i denantiaid symud i
eiddo llai. Awgrymwyd hefyd os oes lle i fod yn greadigol ac ystyried gwahanol
gynlluniau fel y cynllun rhannu cartref sy’n cael ei ddefnyddio gan y Cyngor i
helpu digartrefedd. Diolchodd y cymdeithasau tai am y syniad gan fynegi y
byddai’n bosib iddynt gyd-weithio ar ymgyrch o amgylch lleihau maint eiddo.
Ansawdd tai a gwaith cynnal a chadw
Adroddwyd bod ôl-groniad o waith cynnal a chadw yn parhau ymysg y
cymdeithasau tai ers y cyfnod Cofid. Cyfeiriwyd at y safonau WHQS
(Safon Ansawdd Tai Cymru) newydd sy’n rhestru’r hyn
sy’n orfodol i’r cymdeithasau tai ei wneud a sy’n ofynnol gan Lywodraeth
Cymru ers flwyddyn yma. Nodwyd bod safonau newydd
mae’n rhaid i’r cymdeithasau tai gydymffurfio a hwy ac eraill ble bydd angen
cynllunio ar eu cyfer. Mynegwyd yn gyffredinol bod proffil stoc y cymdrithasau
tai yn hen.
Cyfeiriodd y Adra at y buddsoddiad y maent wedi ei wneud i’w eiddo
gan adrodd eu bod wedi gwneud 60 miliwn o fuddsoddiad i’w stoc yn ystod y dair
mlynedd ddiwethaf. Roedd y buddsoddiadau yma yn cynnwys adeiladu tai newydd,
buddsoddi yn y tai presennol a gwella’r gwasanaeth gofal cwsmer. Nodwyd ei bod
yn costio £12,000 ar hyn o bryd ar gyfartaledd i ddod ag eiddo sy’n dod yn wag
nol i safon cyn i denant newydd symud fewn.
Amlygwyd fod rhaid i bob eiddo cymdeithasol gael ei garpedu cyn
cael ei ail osod a bod rhaid i’r gegin a’r toiled gyrraedd safon ansawdd Tai
Cymru e.e. socedi mewn llefydd penodol ayyb. Nodwyd ei bod yn hanfodol i
eiddo’r cymdeithasau tai fod wedi eu safoni er mwyn hwyluso trefniadau pe bai
gwaith trwsio rheolaidd neu frys yn codi yn yr eiddo.
Mewn ymateb i gwestiwn am ba mor hawdd ydi i’r Aelodau gysylltu
efo’r cymdeithasau tai, nododd Tai Gogledd Cymru eu bod efo gwefan a bod rhif
ffôn ac e-bost ar y wefan. Ychwanegwyd eu bod yn hapus i drafod efo aelodau
lleol ac yn agored i awgrymiadau ar sut i wella’r cyswllt. Nododd Clwyd Alyn eu
bod efo rhif cyswllt penodol ar gyfer Aelodau yn ogystal â chanolfan gyswllt a
proses gwyno clir. Cyfeiriwyd at yr e-bost penodol i Gynghorwyr sydd gan Adra
gyda amryw yn ei ddefnyddio.
-
Gwnaethpwyd awgrym i’r Cyngor ddarparu ffurflen bwrpasol pan fo
problem mewn eiddo i’r Cynghorwyr allu ei gwblhau. Gofynnwyd hefyd i’r Aelodau
dderbyn taflen gyswllt sy’n cynnwys rhifau ffôn ag e-bost gwahanol Adrannau o
fewn y Cymdeithasau Tai fel eu bod yn gallu mynd yn uniongyrchol at y person
fwyaf addas.
Mewn ymateb i gwestiwn am werthu stoc, adroddodd Adra eu bod wedi
gwerthu 7 o’u heiddo ers 1 Ionawr 2020 ac yn yr un cyfnod wedi adeiladu
cannoedd o dai newydd. Amlygwyd fod yr arian sy’n cael ei dderbyn o werthu
eiddo yn mynd at adeiladu Tai newydd yn y Sir. Manylwyd bod yr eiddo yma yn
mynd ar y farchnad efo cytundeb 106 (s.106) er mwyn annog prynwyr lleol.
Ychwanegwyd nad yw’r cymdeithasau tai yn gwerthu eiddo ar chwarae bach a dim
ond yn ystyried hyn fel yr opsiwn olaf.
Mewn ymateb i gwestiwn am yr amser aros i waith atgyweirio gael ei
gwblhau a chwynion gan rai o drigolion y Sir am y broses, nododd Adra bod
amserlen benodol yn bodoli o fewn y gymdeithas dai i gwblhau gwaith cynnal a
chadw. Ymhelaethwyd os yw’r tenant yn fregus bod hyblygrwydd o fewn yr
amserlen. Nodwyd eu bod yn delio efo 20,000 o geisiadau atgyweirio yn flynyddol
a bod bodlonrwydd eu tenantiaid yn 90% efo’r gwasanaeth trwsio. Er mwyn
gwella’r ffigwr hwn a’r cyfathrebu o fewn Adra, adroddwyd bod prosiect corfforaethol
trawsadrannol ar y gweill o ran y gwasanaeth cynnal a chadw a bydd pob elfen o
gyfathrebu o fewn y broses yn derbyn sylw dros y flwyddyn nesaf.
Ymhelaethodd Tai Gogledd Cymru ar eu targedau i gwblhau gwaith
atgyweirio gan adrodd ar rai o’r heriau sy’n bodoli e.e. tenantiaid ddim yn eu
gadael i mewn i’r eiddo neu oedi i dderbyn rhannau neu ddeunydd sy’n hanfodol i
gwblhau’r atgyweiriad a ffactorau eraill all arwain at oedi. Ychwanegwyd eu bod
efo tîm atgyweirio mewnol a bod y tenantiaid yn gwerthfawrogi’r gwasanaeth hwn.
Cyfeiriwyd at ddisgwyliad y Llywodraeth i bob eiddo cymdeithasol
fod yn gyfradd EPC A erbyn 2035 gan nodi y bydd rhaglen o welliant parhaus gan y
cymdeithasau tai ond ni fydd yn digwydd ar y raddfa gyflym. Adroddwyd bod elfen
o hyblygrwydd i gyrraedd y targed yma felly nad oes pwysau mawr ar y
cymdeithasau tai ar hyn o bryd ond cydnabuwyd nad oes llawer o amser i gyrraedd
y targedau. Nodwyd y bydd y cymdeithasau tai yn gweithio drwy eu cynlluniau cyn
eu cyflwyno i Lywodraeth Cymru ym mis Mawrth 2025 a gweld beth fydd y ffordd
ymlaen yn dilyn hynny.
Cwestiynwyd os yw’r ffordd mae rhai o’r tenantiaid yn byw yn
gwneud drwg i’r eiddo e.e. sychu dillad yn y tŷ, peidio gadael i’r tŷ
anadlu sy’n arwain at leithder a llwydni. Mewn ymateb credwyd bod gwaith rendro
ac insiwleiddio yn gwella EPC yr eiddo ond credwyd bod lle i sicrhau bod elfen
o addysgu yn digwydd i gyd-fynd efo’r gwaith sef i wneud y gorau o’r eiddo o
ran ei berfformiad ac er mwyn atal lleithder a llwydni.
Gofynnwyd am ddata gan gymdeithas dai Adra am faint o eiddo sydd
efo lleithder a llwydni. Mewn ymateb adroddodd cynrychiolydd Adra bod y data
yma yn cael ei adrodd i’r Llywodraeth yn chwarterol a buasent yn darparu’r data
yno i’r Aelodau. Gofynnwyd i Aelodau gyfeirio achosion penodol ymlaen i’r
cymdeithasu tai y tu allan i’r Pwyllgor hwn gan sicrhau y bydd eu hymholiadau
yn derbyn sylw.
Tai gwag a phrynu Tai
Adroddwyd bod un eiddo gwag hir dymor ar hyn o bryd gan Dai
Gogledd Cymru gyda 31 eiddo yn wag o fewn y cyfnod gwag gweithredol; 13 o’r
rheini yng Ngwynedd. Nodwyd ar hyn o bryd bod eiddo yn wag am gyfnod cyfartalog
o 25 diwrnod a bod hyn yn bennaf oherwydd y safonau WHQS
(Safon Ansawdd Tai Cymru) y mae’n rhaid cydymffurfio â hwy cyn i denant newydd
symud fewn. Adroddodd Clwyd Alyn ffigyrau tebyg gan nodi eu bod yn cymryd 28
diwrnod ar gyfartaledd i ddod a thŷ gwag yn ôl i ddefnydd. Ychwanegwyd y
gall anghenion penodol er enghraifft yr angen i garpedu neu loriau newydd i
eiddo adio amser i’r broses neu os yw’r eiddo angen cegin neu ystafell ymolchi
newydd gall hyn olygu bod yr eiddo yn wag am fwy o amser cyn iddo fod yn barod
i’r tenant newydd. Nodwyd pob eiddo yn cael ei asesu’n unigol a bod y gwaith yn
cael ei gwblhau mor gyflun â phosib.
Adroddwyd
y ffigyrau cyfartalog cenedlaethol o stoc tai cymdeithasol yng Nghymru sydd yn
wag ar unrhyw adeg, sef 2%. Nodwyd mai’r cyfartaledd ar gyfer Gwynedd ydi 1.6%.
Ychwanegwyd bod 1.7% o stoc Tai Adra yn wag ar hyn o bryd sy’ gyfystyr a
100-120 o dai gwag, sy’n llai na’r cyfartaledd cenedlaethol. Nodwyd ei bod yn
cymryd 2 fis ar gyfartaledd i gael eiddo yn barod i’w ail osod am fod gwaith
sylweddol yn cael ei wneud i wella’r eiddo fel arfer. Nodwyd bod 96% o’r
tenantiaid sy’n derbyn eiddo yn fodlon efo cyflwr yr eiddo.
Mewn
ymateb i’r cwestiwn os yw’r cymdeithasau tai wedi prynu hen dai Cyngor yn y 3
mlynedd ddiwethaf, roedd consensws ymysg y cymdeithasau tai eu bod yn dueddol o
fuddsoddi arian cyfalaf mewn tai newydd ac mai dyma yw eu ffocws. Nododd Adra
eu bod wedi prynu 3-4 eiddo Cyngor yn ystod y 3 mlynedd ddiwethaf oherwydd yr
heriau o brynu hen dai a’u dod a nhw i safon WHQS.
Cyfathrebu
a chwynion
Adroddwyd
bod y cymdeithasau tai efo Polisïau Cwynion ond yn ceisio delio a materion cyn
iddynt fynd yn gwynion ffurfiol. Nodwyd bod y cymdeithasau tai yn anelu i
ymateb i denantiaid o fewn 10 diwrnod gwaith o dderbyn cwyn. Nododd Clwyd Alyn
eu bod efo Panel Cwynion sydd yn gymysgedd o staff y gymdeithas dai a
phreswylwyr a bod y Panel Cwynion yma yn cyfarfod yn chwarterol er mwyn edrych
am welliannau posib o fewn y gyfundrefn gwyno.
Nododd
Tai Gogledd Cymru bod eu ffigyrau cwynion nhw yn isel iawn felly maent yn
gwneud gwaith ar hyn o bryd i sicrhau fod cwynion yn cael eu recordio’n gywir a
hyrwyddo’r broses gwynion. Nodwyd bod cwynion yn gallu bod yn bositif er mwyn
gallu gwella ac adlewyrchu ar y gwasanaeth sy’n cael ei ddarparu. Nododd Adra
eu bod nhw efo un swyddog sy’n bwynt cyswllt ar gyfer y cwynion.
Gofynnwyd
a ydi’n bosib i’r Aelodau dderbyn copi o gytundeb tenantiaeth cyffredinol y
cymdeithasau tai er mwyn eu cynorthwyo pan maent yn derbyn cwynion gan y
cyhoedd am denantiaid tai cymdeithasol.
- Mewn ymateb cynigiwyd i’r cymdeithasau
tai rannu copi o’r Polisi Ymddygiad Gwrthgymdeithasol efo’r Aelodau. Nodwyd os
yw’r Aelodau yn derbyn cwynion am achosion o dor-cyfraith mai’r Heddlu yw’r
pwynt cyswllt cyntaf. Nodwyd os yw’r aelodau yn derbyn unrhyw gwynion fel arall
iddyn nhw gysylltu drwy’r pwynt cyswllt arferol a fydd y cwynion yn cael eu
pasio ymlaen i’r Tîm Bro sy’n delio efo achosion o ymddygiad gwrthgymdeithasol.
Cyfeiriwyd
at enghraifft o ymarfer da gan Grŵp Cynefin yn ddiweddar ble bu i Aelod
dderbyn e-bost yn rhestr pa dai fydd yn dod yn wag yn y ward dros yr wythnosau
nesaf ac yn gofyn i’r Cynghorydd annog y trigolion i gysylltu. Anogwyd yr holl
gymdeithasau tai i ddilyn yr esiampl hon. Cefnogwyd y sylw hwn gan yr Aelodau
gan nodi y byddai’n dda i’r Cynghorwyr wybod pryd fydd yna dai yn dod yn wag yn
eu ward a neges bellach yn nodi pryd mae’r tai hynny wedi eu gosod.
Gwnaethpwyd
apêl i Adra i lacio rhwfaint ar eu polisi Aelodau. Cydnabuddwyd eu bod yn grêt
cael un pwynt cyswllt rhan fwyaf o’r amser ond teimlai’r Aelodau y buasai’n
werthfawf cael sgwrs efo Arweinydd Tîm neu Bennaeth Adran o fewn Adra ar rai
achlysuron yn hytrach na’r un swyddog sy’n bwynt cyswllt i’r Aelodau. Credwyd y
byddai hyn yn werthfawr er mwyn gallu adeiladu perthynas ac addysgu Aelodau am
y rhesymau tu ôl i bethau fwy technegol eu natur.
- Mewn ymateb nododd Adra bod yr un pwynt
cyswllt yn gweithio’n dda a’u bod nhw’n awyddus i hyn barhau yn enwedig efo
ymholiadau cychwynnol neu ymholiadau llai cymhleth. Nodwyd bod Catrin Thomas
wedi ei phenodi i arwain y tîm yno yn ddiweddar a bydd yr adborth hwn gan
Aelodau yn cael ei fwydo nôl i’r cwmni er mwyn gweld os oes modd adolygu’r
broses. Ychwanegwyd y bydd Adra yn mynychu’r pedwar Fforwm Ardal yn fuan yn
2025 a bod y trefniadau mewn lle er mwyn rhoi cyfle i’r Aelodau dderbyn
gwybodaeth ar lefel fwy lleol.
Diolchwyd
i’r cymdeithasau tai gan nodi bod y drafodaeth heddiw wedi bod yn agoriad
llygaid a bod yr Aelodau wedi dysgu llawer am y drefn. Diolchwyd i’r cymdeithasau
tai am eu gonestrwydd gan adrodd fod y cyfarfod wedi bod yn addysgiadol iawn.
Gobeithiwyd y bydd y cymdeithasu tai yn derbyn rhagor o arian gan Lywodraeth
Cymru dros y blynyddoedd nesaf er mwyn gallu cynyddu niferoedd yr eiddo
cymdeithasol a gobeithio lleihau’r rhestr aros. Mynegwyd gwerthfawrogiad i’r
cymdeithasau tai am eu sylwadau ac am eu hamser.
Dogfennau ategol: