Agenda item

Yn unol â’r Rhybudd o Gynnig a dderbyniwyd yn unol ag Adran 4.19 y Cyfansoddiad, bydd y Cynghorydd Delyth Lloyd Griffiths yn cynnig fel a ganlyn:-

 

Mae tŷ wedi ei gyfnewid nifer o weithiau mewn un pentref bach mewn ward wledig yng Ngwynedd. Digwyddodd hyn yn ystod cyfnod pan fo 12 o bobl leol (unedau teulu) yn aros am dŷ cymdeithasol yn y pentref. Nid yw deiliaid y cartref yn dod o Gymru nac yn aros am fwy na 12 mis.

 

Mae polisi gosod Cyngor Gwynedd yn cael ei danseilio bob tro mae tŷ yn cael ei gyfnewid tra bod pobl leol yn parhau ar y rhestr aros am gyfnodau hir heb lwyddo i sicrhau cartref.

 

Cred y cyngor hwn y dylai arfer Llywodraeth Cymru o gyfnewid tai cymdeithasol ddod i ben ar unwaith, oni bai bod y tŷ yn cael ei gyfnewid o fewn yr awdurdod lleol. Erfyniaf heddiw am gefnogaeth Cyngor Gwynedd i bwyso ar Lywodraeth Cymru i newid y ddeddf er mwyn digoni’r angen am dai lleol.

 

Penderfyniad:

Er mwyn digoni’r angen am dai lleol, bod y Cyngor yn pwyso ar Lywodraeth Cymru i newid y ddeddf er mwyn dod â’r arfer o gyfnewid tai cymdeithasol i ben ar unwaith, oni bai bod y tŷ yn cael ei gyfnewid o fewn yr awdurdod lleol, neu yn agos iawn at ffin y sir.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd y rhybudd o gynnig a ganlyn gan y Cynghorydd Delyth Lloyd Griffiths o dan Adran 4.19 y Cyfansoddiad, ac fe’i eiliwyd:-

 

Er mwyn digoni’r angen am dai lleol, bod y Cyngor yn pwyso ar Lywodraeth Cymru i newid y ddeddf er mwyn dod â’r arfer o gyfnewid tai cymdeithasol i ben ar unwaith, oni bai bod y tŷ yn cael ei gyfnewid o fewn yr awdurdod lleol, neu yn agos iawn at ffin y sir.

 

https://ssl.gstatic.com/ui/v1/icons/mail/images/cleardot.gifGosododd yr aelod y cyd-destun i’w chynnig, gan nodi:-

 

·         Bod tŷ mewn pentref gwledig yn ei ward wedi’i gyfnewid ddwywaith yn y ddwy flynedd ddiwethaf i bobl o’r tu allan i Gymru, ac wedi’i hysbysebu eto ar-lein yr wythnos hon. 

·         Bod Adra yn adrodd bod 50 o’u tai wedi’u cyfnewid yn y flwyddyn ddiwethaf, gyda 4 yn unig wedi’u cyfnewid i bobl o’r tu allan i Wynedd.  Roedd y cymdeithasau tai eraill yn adrodd bod eu ffigurau hwythau’n isel hefyd.  Fodd bynnag, os oedd hyn yn batrwm cenedlaethol, golygai bod 88 o dai wedi’u trosglwyddo yn y flwyddyn ddiwethaf i denantiaid sydd ddim ar unrhyw restr aros am dŷ yng Nghymru.

·         Bod polisi gosod Cyngor Gwynedd yn cael ei danseilio bob tro mae tŷ yn cael ei gyfnewid tra bod pobl leol yn parhau ar y rhestr aros am gyfnodau hir heb lwyddo i sicrhau cartref.

 

Yn ystod y drafodaeth, cyflwynwyd y sylwadau a ganlyn:-

 

Awgrymwyd bod y gallu i gyfnewid tai cymdeithasol yn fodd o ddatrys problemau neu wella sefyllfa unigolion neu deuluoedd, ac yn galluogi i bobl aros yn eu cymunedau.  Fodd bynnag, roedd angen gwell rheolaeth ar hyn.  Nodwyd bod y cynigydd, wrth gyflwyno ei chynnig, wedi datgan y dylid dod â’r arfer o gyfnewid tai cymdeithasol i ben oni bai bod y tŷ yn cael ei gyfnewid o fewn yr awdurdod lleol, neu yn agos iawn at ffin y sir.  Fodd bynnag, gan nad oedd y cynnig gwreiddiol fel mae’n ymddangos ar raglen y cyfarfod hwn yn cynnwys y geiriau ‘neu yn agos iawn at ffin y sir’, y dymunid cynnig gwelliant ffurfiol i’r perwyl hynny.  Mynegwyd pryder ynglŷn â chyfyngu cyfnewidiadau i Wynedd yn unig gan fod gan rai cymunedau sy’n agos at ffin y sir gysylltiad clos â chymunedau mewn sir gyfagos.

 

Nododd y Swyddog Monitro, gan fod y cynigydd wedi adrodd y geiriau ‘neu yn agos iawn at ffin y sir’, y gallai, gyda chydsyniad y cyfarfod, addasu’r cynnig heb fynd ymlaen i gael gwelliant ffurfiol.

 

Cytunodd y cynigydd i addasu ei chynnig a chafwyd cydsyniad y cyfarfod i hynny.

 

Holwyd beth oedd ‘yn agos iawn’ yn ei olygu.  Mewn ymateb, nododd y Swyddog Monitro nad oedd yna derm cyfreithiol am ‘agos’ ac na fyddai’n briodol i’r Cyngor geisio llunio diffiniad manwl o hynny.  Roedd y cynnig yn gofyn i’r Cyngor ysgrifennu at Lywodraeth Cymru gyda chais i newid y ddeddf a dyna’r lle i gael y drafodaeth fanwl honno.

 

Awgrymwyd bod y cynnig yn amherthnasol bron gan fod y niferoedd o gyfnewidiadau dan sylw yn fychan iawn a bod amgylchiadau pawb yn wahanol.  Hefyd, roedd gan y cymdeithasau tai weithdrefnau tynn o ran caniatáu cyfnewidiadau, gan gynnwys gwiriadau ynglŷn â dyledion, ayb.  Nodwyd hefyd na ddeellid pam ein bod yn ceisio cyfyngu ar symudiadau pobl os oes ganddynt reswm da dros symud i ran arall o’r wlad.

 

Nodwyd nad oedd rhai ardaloedd yn boblogaidd, a phe na chaniateid cyfnewid tai, gallem gael ein gadael gyda tai gweigion.  Nodwyd y gallai rhai pobl fod yn dymuno symud o’r ardal oherwydd ymrwymiadau teuluol neu gyfleoedd gwaith, a mater i’r cymdeithasau tai oedd penderfynu a ddylid caniatáu iddynt gyfnewid eu tai ai peidio.  Awgrymwyd hefyd y dylai’r cynnig fod wedi’i anelu at y cymdeithasau tai, yn hytrach na’r Llywodraeth, ac y dylai’r Cyngor fod yn cynnal trafodaeth gyda’r cymdeithasau tai er mwyn ceisio darganfod datrysiad i hyn.  Mewn ymateb, nododd y Prif Weithredwr fod y sgyrsiau hyn yn digwydd yn rheolaidd gyda’r cymdeithasau tai drwy’r Bartneriaeth Tai, ond yn yr achos penodol hwn, bod hyn yn hawl deddfwriaethol sydd yn gyfangwbl y tu hwnt i rymoedd y cymdeithasau tai.

 

Nodwyd bod y cynnig yn ymwneud â mater ymylol, ac awgrymwyd bod yna faterion mwy canolog o ran tai cymdeithasol, e.e. cymdeithasau tai yn apelio yn erbyn penderfyniadau i wrthod caniatâd cynllunio i godi stadau mewn llefydd fel Botwnnog.  Er hynny, nodwyd y dylid cefnogi’r cynnig gan dderbyn bod hyn yn un agwedd ar broblem llawer mwy. 

 

Nodwyd na chredid bod y Cyngor yn monitro’n effeithiol yr effaith ieithyddol mae symudiadau yn neiliadaeth tai cymdeithasol yn ei gael, a’i bod yn anorfod bod y cyfnewidiadau tai yn mynd i gael effaith ieithyddol niweidiol.

 

Nodwyd bod angen rheoli’r system gyfnewid, a bod y cymdeithasau tai eu hunain yn gofyn am fwy o reolaeth hefyd.  Awgrymwyd y dylai Opsiynau Tai Cymdeithasol Gwynedd, Adran Tai’r Cyngor a’r cymdeithasau tai lobïo’r Llywodraeth i newid y rheolau fel nad yw pobl leol yn dioddef ar chwant pobl sydd eisiau symud yma ac acw.  Nodwyd y gellid rhoi ystyriaeth lawn i geisiadau teilwng i gyfnewid, gan sicrhau nad ydym yn colli siaradwyr Cymraeg.   Fodd bynnag, roedd y drefn yn ad-hoc ar hyn o bryd ac yn tanseilio’r ymdrechion caled i gael tai i deuluoedd Gwynedd.

 

Awgrymwyd y dylai’r cynghorwyr lleol gael mewnbwn i bwy sy’n symud i mewn i dai cymdeithasol yn eu hardal.

 

Yn ei sylwadau cloi, nododd y cynigydd:-

·         Nad oedd gan y cymdeithasau tai na swyddogion tai'r Cyngor unrhyw reolaeth dros y sefyllfa o gwbl.

·         Yn wahanol i’r trefi, bod nifer isel o gyfnewidiadau tai yn cael ardrawiad mawr mewn ardaloedd gwledig.

·         Y dylai holl dai cymdeithasol y sir fod ar gyfer pobl sydd ar y rhestr tai yng Ngwynedd.

 

PENDERFYNWYD mabwysiadu’r cynnig, sef:-

 

Er mwyn digoni’r angen am dai lleol, bod y Cyngor yn pwyso ar Lywodraeth Cymru i newid y ddeddf er mwyn dod â’r arfer o gyfnewid tai cymdeithasol i ben ar unwaith, oni bai bod y tŷ yn cael ei gyfnewid o fewn yr awdurdod lleol, neu yn agos iawn at ffin y sir.