I dderbyn a nodi’r wybodaeth
Penderfyniad:
PENDERFYNIAD:
Derbyn a nodi’r wybodaeth
Cofnod:
Amlygodd y Rheolwr
Buddsoddi bod yr adroddiad bellach yn un rheolaidd sy’n nodi’r wybodaeth
ddiweddaraf ar waith PPC. Tynnwyd sylw at drafodaethau cyfarfod Medi 2024 o’r
Cydbwyllgor oedd yn cynnwys gwybodaeth am y cronfeydd sydd wedi eu pwlio
(Gwynedd yr ail uchaf gyda 85%), y cynllun busnes safonol a’r gofrestr risg.
Cyfeiriwyd at
ddiweddariad y Gweithredwr dros y cyfnod ac amodau’r farchnad maent yn monitro.
Adroddwyd bod perfformiad y cronfeydd wedi bod yn amrywiol gyda’r cronfeydd
ecwiti yn perfformio yn gryf tra bod cronfeydd incwm sefydlog wedi llusgo dros
y chwarter dan sylw. Nodwyd mai buddsoddiadau tymor hir yw’r cronfeydd ac y
bydd y swyddogion, ar y cyd gyda’r ymgynghorwyr Hymans Robertson, yn asesu’r
perfformiadau dros gyfnodau o 3 mis, 12 mis a 3 blynedd.
Ategwyd bod
Russell Investments, y Rheolwr buddsoddi hefyd yn asesu’r rheolwyr yn barhaus a
byddant yn lleihau, cynyddu neu’n dileu taliadau i geisio gwella perfformiad
hir dymor yr is- gronfeydd - cyfeiriwyd at enghraifft o waith sy’n cael ei
wneud ar hyn o bryd gydag is gronfa Global Growth, sydd wedi bod yn tanwario yn
hanesyddol. Adroddwyd bod Russell Investments wedi rhoi diweddariad ar gronfa
newydd Credit Preifat gyda Chronfa Pensiwn Gwynedd wedi buddsoddi £29m yn y
gronfa gyda bwriad o gynyddu’r swm yn sylweddol dros amser.
Tynnwyd sylw at
ddau ymarfer caffael oedd wedi digwydd yn ddiweddar (ar gyfer Ymgynghorydd
Goruchwylio a Darparwr Gwasanaeth Pleidleisio ac Ymgysylltu). Nodwyd bod
cyfweliadau wedi eu cynnal gyda bwriad cyflwyno argymhelliad i’r cydbwyllgor
nesaf.
Yng nghyd-destun
yr ymgynghoriad ‘Galw am Dystiolaeth’ lle mae Llywodraeth San Steffan yn
adolygu cynlluniau pensiwn yr LGPS, tynnwyd sylw at ymateb Cronfa Bensiwn
Gwynedd. Adroddwyd bod y sefyllfa bellach wedi newid gydag ymgynghoriad
pellach, yn dilyn araith “Mansion House” Canghellor y Trysorlys, wedi ei
gyhoeddi yn galw am dystiolaeth sy’n awgrymu’n fras y trywydd mae Llywodraeth
San Steffan yn disgwyl i’r LGPS ei ddilyn. Adroddwyd bod yr ymgynghoriad newydd
yn edrych ar feysydd megis pwlio asedau, buddsoddi yn lleol ac yn y Deyrnas
Unedig, a Llywodraethu gyda 30 cwestiwn i ymateb iddynt erbyn 16eg o Ionawr
2025.
Prif negeseuon yr
ymgynghoriad oedd nad oedd newid i gronfeydd lleol, fel Cronfa Bensiwn Gwynedd,
ond bod angen ystyried uno cronfeydd, er nad yn fandadol. Nodwyd y bydd
newidiadau disgwyliedig i’r pwls, megis Partneriaeth Pensiwn Cymru yng
nghyd-destun Gwynedd, gyda gofyn iddynt fod wedi cofrestru gyda’r FCA
(Financial Conduct Authority), fod yn gallu rhoi cyngor i’r cronfeydd lleol,
fod y dyraniad ased strategol yn eistedd gyda’r pŵl yn hytrach nac ar
lefel lleol fel y mae ar hyn o bryd, bod 100% o asedau yn cael eu pwlio, ac
adrodd yn barhaus yn yr Adroddiad Blynyddol ar gynlluniau lleol.
Ategwyd bod y
gofyniad i fod wedi cofrestru gyda’r FCA yn un sylweddol fydd yn golygu newid
yn strwythur presennol PPC gan greu strwythur rheolaethol newydd gyda phrif
swyddog a phrif swyddog buddsoddi gofynion llywodraethu. Nodwyd y byddai angen
cynllunio a gweithredu hyn erbyn Mawrth 2025. Yn ychwanegol, bydd gofynion
llywodraethu newydd yn galw am benodi swyddog uwch i fod yn gyfrifol am y
Gronfa gan sicrhau bod polisïau penodol mewn lle a phroses gadarn i fonitro
hyn.
Yn sgil newidiadau
sylweddol posib i’r pŵl, adroddwyd y bydd swyddogion Gwynedd yn cydweithio
gyda’r awdurdod lletyol i ddarparu ymateb teg i’r ymgynghoriad; bydd unrhyw
wybodaeth / ymateb yn cael ei rannu gyda'r Aelodau
Diolchwyd am yr
adroddiad
Yn ystod y
drafodaeth ddilynol, nodwyd y sylwadau canlynol gan Aelodau;
·
Dylai Cymru aros fel un pŵl - dyma beth fyddai
cryfder pŵl Cymru. Petai Cymru yn gorfod ymuno gydag eraill - materion
gwleidyddol yn deillio o hyn
Mewn ymateb,
nodwyd bod yr ymgynghoriad yn awgrymu bod posibilrwydd i Gymru aros fel
pŵl cyn belled a bod eglurhad / cynllun busnes cryf a hyfyw yn cael ei
gyflwyno yn cefnogi hyn.
·
Bwriad Llywodraeth San Steffan yw’r pwlio. Angen
cadw pŵl Cymru yn annibynnol - datblygiad y pŵl yng Nghymru wedi bod
yn llyfn a naturiol ac wedi datblygu yn llwyddiannus ac ar y blaen i eraill. Os
gorfod uno gydag eraill, posib colli rheolaeth a’r cyfleoedd buddsoddi yn
lleol.
·
Cyfleoedd buddsoddi yn lleol - angen mwy o fanylion
am y broses o gyflwyno prosiectau - awgrym rhannu gwybodaeth am y broses gyda
Chynghorau Conwy a Môn
·
Awgrym cynnal sesiwn wyneb yn wyneb fel bod modd
i’r aelodau gael cyfle i rannu syniadau / ystyried posibiliadau / trefniadau
buddsoddiadau lleol, i’w rhoi ymlaen yn y cynllun busnes. Bydd rhaid cael
cynllun strategol, manwl
·
Bwrdd Pensiwn yn pryderu am y sefyllfa pwlio -
pŵl Cymru yn un bach - efallai bydd hyn yn wendid ac y byddai risg o
ddisgyn i gategori ‘lleiaf’
·
Angen pwysleisio bod pŵl Cymru yn gwasanaethu
aelodau drwy’r Gymraeg - risg o golli hyn os bydd rhaid ymuno ag eraill - angen
pwysleisio hyn yn yr ymateb
·
Bod Cadeirydd y Pwyllgor yn rhannu pryderon y
Pwyllgor gyda’r Cydbwyllgor
Mewn ymateb i
gwestiwn ynglŷn â chronfeydd yn yr Alban a Gogledd Iwerddon ac os fel
Cymru mewn sefyllfa o orfod cyflwyno achos busnes, nodwyd bod y gwledydd hyn
gyda rheoliadau gwahanol ac nad oeddynt wedi datganoli yn yr un modd a Chymru.
PENDERFYNWYD
Derbyn
a nodi’r wybodaeth
Dogfennau ategol: