Agenda item

I dderbyn Adroddiad Blynyddol Cronfa Bensiwn Gwynedd 2023 / 2024

Cofnod:

Croesawyd pawb i gyfarfod blynyddol y Gronfa Bensiwn.

 

Cyflwynodd y Pennaeth Cyllid Swyddogion y Gronfa ynghyd ag Aelodau’r Pwyllgor Pensiynau ac Aelodau’r Bwrdd Pensiynau i bawb. Cyfeiriwyd yn gryno at brif gyfrifoldebau’r Pwyllgor oedd yn cynnwys eu rôl fel ‘lled ymddiriedolwyr’ i’r Gronfa, yn penderfynu ar amcanion polisi cyffredinol, strategaeth a gweithrediad y Gronfa yn unol â’r ddeddfwriaeth berthnasol. Ategwyd eu bod hefyd yn penderfynu ar y strategaeth ar gyfer buddsoddi arian y Gronfa Bensiwn ac yn monitro ac adolygu trefniadau buddsoddi. Cyfeiriwyd at waith y Pwyllgor yn ystod 2023/24 a nodwyd bod adroddiadau a chofnodion cyfarfodydd y Pwyllgor i’w gweld ar wefan y Cyngor.

 

Wrth gyfeirio at waith y Bwrdd Pensiwn (aelodaeth yn cynnwys tri cynrychiolydd o’r aelodau a thri cynrychiolydd cyflogwyr), nodwyd mai corff goruchwylio oedd y Bwrdd ac er nad oedd gan y Bwrdd hawliau gwneud penderfyniadau byddai’n goruchwylio gweithrediad y Gronfa gan sicrhau ei bod yn bodloni’r gofynion cyfreithiol a gweinyddol. Cyfeiriwyd at waith y Bwrdd yn ystod 2023/24 a nodwyd bod adroddiadau a chofnodion cyfarfodydd y Bwrdd Pensiwn i’w gweld ar wefan y Cyngor.

 

Diolchwyd i gyn Aelod o’r Bwrdd, y Cynghorydd Beca Roberts am ei chyfraniad yn ystod y flwyddyn.

 

Gweinyddiaeth Pensiynau:

Cyfeiriodd y Rheolwr Pensiynau  at brif ddyletswyddau’r Uned Weinyddol gan gyflwyno ystadegau'r Gronfa ar gyfer 2023/24 a pherfformiad yr Uned.

Wrth adrodd ar ‘Fy Mhensiwn Ar-lein’ nodwyd bod dros chwe mil wedi cofrestru gyda’r safle newydd a bod yr ymateb wedi bod yn un positif iawn. Ategwyd bod Gwynedd wedi chwarae rhan flaenllaw wrth sefydlu’r Gymraeg ar y system a’r gobaith yw y bydd o ddefnydd i gronfeydd eraill Cymru. Tynnwyd sylw at Arolwg Boddhad Aelodau sydd yn cael ei anfon at aelodau’r Gronfa ar ddiwedd pob proses, e.e. ymddeoliadau a thalu ad-daliadau, i’r aelodau roi eu barn ar ansawdd y gwasanaeth a dderbyniwyd ac am y gwasanaeth a ddarperir gan staff yr adran.

Adroddwyd bod dros 99% o aelodau unai yn cytuno’n gryf neu’n cytuno bod ansawdd y gwasanaeth o safon uchel, a bod 99% o’r defnyddwyr yn cytuno’n gryf neu’n cytuno bod ansawdd y gwasanaeth a ddarperir gan y staff o safon uchel. Er mwyn cyflawni’r sgoriau uchel hyn, nodwyd bod cydweithrediad y cyflogwyr yn hanfodol, a diolchwyd i’r cyflogwyr am eu parodrwydd i ddarparu’r wybodaeth yn brydlon ac am eu hymroddiad i ddefnyddio’r system i-connect sydd yn cysoni’r data.

 

Tynnwyd sylw at y gwaith  / prosiectau newydd fydd yn parhau i flwyddyn 2024/25 gan nodi achos McCloud, y Dashfwrdd Pensiynau, sefydlu prosesau gweinyddu newydd a chwblhau gwaith ar fuddion CGY Cost a Rhennir fel enghreifftiau.

 

Perfformiad Buddsoddi

Cyflwynodd y Rheolwr Buddsoddi fanylion am werth y Gronfa gan nodi bod y gwerth wedi cynyddu yn raddol (ar wahân i effaith covid yn 2020) dros y 10 mlynedd ddiwethaf a bellach yn 2024 wedi croesi'r lefel o £3 biliwn am y tro cyntaf. Adroddwyd bod y flwyddyn wedi bod yn flwyddyn gyfnewidiol, gyda pherfformiad yn is na’r meincnod mewn dau o’r chwarteri, ac yn uwch na’r meincnod mewn dau arall. Ategwyd bod perfformiad y Gronfa yn dilyn trefn gylchol ac yn dilyn perfformiad y farchnad sydd hefyd i fyny ac i lawr. Nodwyd bod y Gronfa wedi cynhyrchu dychweliadau o 11.2% (tu ôl i’r meincnod o 11.4%) a bod y tanberfformiad yma yn gyffredin i holl gronfeydd LGPS gyda'r enillion cyfartalog yn 9.2% - dim amheuaeth bod y meincnod a osodir yn heriol.

Eglurwyd mai un o’r rhesymau dros hyn oedd bod cronfeydd fel Gwynedd yn buddsoddi'n helaeth mewn ecwiti a chronfeydd eiddo, a bod y rheiny wedi tanberfformio yn ddiweddar, Er hynny, nodwyd nad oedd yn destun pryder gan mai buddsoddi tymor hir oedd tuedd y Gronfa. Cyfeiriwyd at siartiau oedd yn amlygu perfformiad y Gronfa dros gyfnod o 30 mlynedd a’i pherfformiad yn erbyn holl gronfeydd llywodraeth leol (86 i gyd), gan amlygu bod dychweliadau Cronfa Gwynedd wedi bod yn unol â’r cyfartaledd dros y tymor hir ac ymhell dros gyfartaledd y tymor byr a’r tymor canolig. O ran safle, amlygwyd bod Cronfa Gwynedd o fewn y chwartel uchaf yn y cyfnod 2,5 a 10 mlynedd.

Cyd-weithio yng Nghymru

Wrth drafod Partneriaeth Pensiwn Cymru (PPC), adroddwyd bod y cydweithio yn parhau i fynd o nerth i nerth nid yn unig o ran cyfleoedd buddsoddi ehangach ac arbed ffioedd, ond hefyd drwy alluogi rhannu ymarfer da, gwella dogfennau llywodraethu i sicrhau llywodraethu corfforaethol cadarn ac ymateb i geisiadau ar y cyd.  Bellach mae 85% o Gronfa Bensiwn Gwynedd wedi ei bwlio gyda’r Bartneriaeth gyda buddsoddiadau mewn wyth is gronfa. Lansiwyd cronfeydd pwlio mewn Is-adeiladed, Ecwiti Preifat a Dyled Preifat yn 2023/24 gyda bwriad o lansio cronfeydd eiddo yn 2024/25 fydd yn arwain at opsiwn o fuddsoddi mewn eiddo rhyngwladol ac eiddo sydd yn gwneud gwahaniaeth e.e. tai cymdeithasol - hyn yn argoeli yn gyfnod cyffrous i’r Bartneriaeth.

 

Buddsoddi Cyfrifol

 

Nodwyd bod Cronfa Bensiwn Gwynedd wedi cymeradwyo polisi buddsoddi cyfrifol ym Mawrth 2022, oedd yn ystyried ffactorau megis  canllawiau cyfreithiol, credoau buddsoddi, ymgysylltu, datgelu ac adrodd. Nodwyd bod bwriad adolygu’r polisi yn ystod y flwyddyn ariannol nesaf gan fod nifer o ddatblygiadau wedi digwydd yn ystod 2023/24 oedd yn cynnwys ymrwymiadau’r Gronfa i fuddsoddiadau, megis, £10m i brosiect melinau gwynt yng Nghymru; £34.5m i gronfa isadeiledd cynaliadwy; £270m i gronfa ecwiti cynaliadwy (dyraniad Cronfa Bensiwn Gwynedd yn cyfateb i 10% o’r gronfa). Eglurwyd bod gan y Gronfa ofyniad aliniad allweddol ym Mharis, eithriadau diffiniedig o danwydd ffosil, ac yn targedu’n benodol y cyhoeddwyr sy’n cynnig atebion cynaliadwy i heriau amgylcheddol a chymdeithasol.

 

Eglurwyd bod PPC wedi chwarae rhan allweddol yn atgyfnerthu buddsoddi cyfrifol fel blaenoriaeth i holl gronfeydd Cymru. Nodwyd bod y Bartneriaeth yn llofnodwr o'r Côd Stiwardiaeth, sy’n gwirio bod prosesau, polisïau a gweithgareddau'r Bartneriaeth yn dryloyw. Bydd adroddiad hinsawdd yn adrodd yn glir ôl troed carbon y cronfeydd y mae'r Bartneriaeth yn buddsoddi ynddynt, a'r Bartneriaeth hefyd yn comisiynu Robeco fel darparwr pleidleisio ac ymgysylltu i gynorthwyo’r Bartneriaeth gyda threfniadau gweithredu o fewn y cwmnïau mawr. Ategwyd bod y Bartneriaeth, drwy'r cronfeydd isadeiledd yn gallu asesu opsiynau buddsoddi lleol i Wynedd, ac felly yn fforwm pwysig i geisio gwneud y buddsoddiadau a chadw at y dyletswydd ymddiriedol.

 

Diolchwyd am yr adroddiad. Nododd y Cadeirydd bod y perfformiad yn un positif ac yn adlewyrchu gwaith a chyngor y swyddogion.

PENDERFYNWYD DERBYN ADRODDIAD BLYNYDDOL Y GRONFA BENSIWN AM 2023/24

 

Dogfennau ategol: